Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
I Harwolaeth y Parch S Lloyd…
Harwolaeth y Parch S Lloyd Jones, Edge Lane. •GYDA bod y bedd yn cau ar yr hyn oedd farwol o'r hyfwyn Barch H P Thomas, dyma <Cymry Lerpwl eto yn cael eu taflu i drist- "Wch dwys, gan y newydd galarus ac an- nisgwyliadwy am farwolaeth y Parch S Lloyd Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Edge Lane. Ni fu ond prin bythefnos yn wael. Pregethai y Sul diweddaf ond un cyn <ei farwolaeth. Cwynai y dydd Llun can lynol, ac erbyn dydd Mawrth gwelwyd fod y pneumonia wedi dangos ei hun, ac er gwaethaf ymdrechion goreu y meddygon, cyfeillion a pherthynasau hoff, suddodd yn xaddol, ac am haner awr wedi unarddeg nos Fercher, yr 21ain, hunodd yn dawel yn yr Iesu, ac efe ond 25ain oed. Gwyliwyd ef yn .ei gystudd gyda'r gofal a'r tynerwch mwyaf gan ei anwyl fam, a chan Mrs Pi itch- Ard, Portwood Street, lie y llettyai. U r ig fab ydoedd Mr Jones i Mr Edmund a Mrs Mary Jones, Maeshyfryd Road, Caergybi, ,ac yno y trigiana ei rieni, a i chwiorydd, a llu o gyfeillion anwyl mewn galar ar ei ol. Cymhellwyd ef i ddechreu pregethu gan ei fam eglwys yn Bethel. Derbyniwyd ef yn r, y fyfyriwr i Athrofa Bangor yn mis Medi, 1896. Yn haf 1900 derbyniodd alwad unfrydol i fugeilio eglwys Edge Lane, lie yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weini- dogaeth yn mis Hydref o'r liwyddyn hono. Dechreuodd ei weinidogaeth o dan amgylch- iadau cysurus ac addawol—ond ni fu ei yrfa "Weinidogaethol ond ber-tua blwyddyn a haner. Machludodd ei haul, a hi eto yn ddydd." Nid oedd ond megis wedi gafael yn y cryman, i waith y cynhauaf mawr, cyn i'w Arglwydd ei alw odd'wrth ei waith i dderbyn ei wobr. Yr oedd ei gysylltiad a'r eglwys yn un dedwydd. Edrychid yn mlaen gyda disgwyliad am dymhor Ilwyddianus. Yr oedd yn frawd hynaws, a hawdd ei garu, a pherchid ef fel brawd djdwyll a christion cywir. Nid oedd wedi cael ond ychydig o amser i ddadblygu fel pregethwr, ond pe cawsai fywyd a iechyd, diau y buasai yn bregethwrda a chymeradwy, ac yn frawd gwerthfawr yn y weinidogaeth. Cydym- deimlir yn fawr a'i rieni a'i berthynasau hoff yn eu galar, ac hefyd &'r eglwys yn Edge Lane yn ei thristwch a'i cholled. Bydded i ddiddanwch yr Arglwydd fod yn gynaliaeth iddynt oil. Cymerwyd y corph i Gaergybi ddydd Sadwrn, gyda'r tren 1.40 o Edge Hill. Cyn cychwyn o'r ty, cymerwyd rhan mewn gwasanaeth byr gan y Parchn D Powell, Everton Village, a J Da vies, Birkenhead. Yr oedd torf fawr wedi ymgynull i hebrwng y corph i'r tren. Yr oedd y frawdoliaeth o Edge Lane yno yn gryno, a nifer dda o wahanol eglwysi y cylch. Yn mhlith eraill gwelsom y Parchn W Samuel, D Adams, B. A., D Jones, Edge Lane (M.C) W Owen, Webster Road J Frimston, Talysarn; H H Williams, Cefnbychan, &e. Pan symudodd y tren allan o'r orsaf, yr oedd arwyddion amI wg o alar dwys i'w gweled yn mhlith y dorf. Ei angladd. Cymerodd yr angladd le prydnawn Llun, Mai 26, am ddau o'r gloch yn Nghaergybi. Darllenwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch D Lloyd, Hebron, Caergybi, a gweddiwyd gan y Parch Peter Jones, Bous- field Street, Lerpwl. Yn nghapel y gladdfa ;gyhoeddus, darllenwyd gan y Parch E Jones, "Y Caerwys, a gweddiwyd gan y Parch J Grif- fiths, Llanfairfechan. Yna darllenwyd llyth- yrau a phellebrau oddiwrth nifer o weinidog- ion a lleygwyr yn datgan eu gofid o fethu bod yn bresenol, yn nghyda'u cydymdeimlad -dwfn a'r teulu ac a'r eglwys yn eu galar. Hefyd derbyniwyd pleidleisiau o gydym- deimlad gan gyfarfod gweinidogion Caergybi a chan fyfyrwyr coleg Bangor. Wedi hyny siaradwyd yn bwrpasol a thoddediggan y Parchn H H Williams, .Rhiwabon; W Samuel, Windsor Street, Lerpwl Prifathraw S Morris, Athrofa y Bedyddwyr, Bangor, a J W Williams, gweinidog Bethel—mam-eglwys Mr Jones, Caergybi, a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch E Evans, Bangor. Yn mhlith eraill gwelwyd y rhai canlynol yn bresenol :-Parchn D Powell, Lerpwl W Price, Gomer Evans. E B Jones (A), J Evans (M.C.), Caergybi J Griffiths, Bod- edern E Pritchard, Caergybi; C Roberts, Pontripont; D Hopkins, Llanerchymedd Mri J J Jones, Morris Owen, N W Hopkins —myfyrwyr o Goleg Bangor hefyd, Mri "0 Owens, Cemaes, cadeirydd Cymanfa Mon B Rowlands, Llanfachraeth E Jones, Bod edern; J Lewis, Y H., Llanllibio Dur parwyd lluniaeth i'r dyeithriaid yn Vestr i Bethel. Cafodd Mr Jones angladd anrhydeddus. Bendith Ner fo ar y teulu trallodus a'r eglwys. o I
Marwolaethau
Marwolaethau Mr Owen Williams. DYDD Mercher diweddaf, wedi bod yn gwaelu er's peth amser, bu farw Mr Owen Williams, Plas Lodwig, Bangor, yn ei bres wylfod, yn yr 87 mlwydd o'i oed. Bu Mr Williams am lawer o flynyddoedd, yn byw yn Lerpwl, ac yn dilyn yr alwedigaeth fel archadeiladydd a thir-fesurydd, a chedwir ei enw'n fyw fel un fu a chanddo ran flaenllaw mewn troi Llandudno o glwstwr o fythynod pysgotwyr i'r dref brydferth bresenol. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn yn Nghladdfa Glanadda Bangor. Gadawodd yr orymdaith Bias Lodwig, Upper Bangor, am un o'r gloch. Y prif alarwyr oeddynt y Parch D Lloyd Jones, Mr Lloyd Jones, a Mr D Lloyd Jones, ieu., Llandinam; Mr Sutcliffe, Lerpwl (partner y trancedig); Mr Lloyd; Caergybi; Mri 1J Owen a J Da vies. Claddwyd ef yn medd ei ail wraig, yr hon a fu farw yn sydyn yn 1893 pan yn trafaelio rhwng Conwy a Phenmaenmawr. Y gweinidogion a weinyddent oeddynt y Parchn E P Jones, Eglwys Bresbyteraidd Bangor, lie yr oedd y trancedig yn aelod Griffith Ellis, Bootle a T J Wheldon. Yn mysg eraill yn bresenol yr oedd Maer Bangor (Henadur Henry Lewis),' Prif- athraw John Price; Cyrnol H Savage, Cyng- horwyr W Bayne, T J' Williams, Owen Owen, Parch J Eiddon Jones, Mri G Johnson, Wm Thomas, Metropolitan Bank; G Percival Mason, Lerpwl; J G Hughes, Edward Owen, William Jones, Balliol Road; a William J. nes. Breeze Hill, B.otle; T Hughes, North and South Wales Bank, Caernarfon J Humphreys, W Roberts, Llandudno W Jones, Marian T Jones, Cefnmysoglog 0 H Foulkes, Bodwyr Robert Lloyd, Henblas a John Williams, Lodwig Villa. Mr William Richards. An y 18fed cyfisol, bu farw Mr W Richards (Afotiwyson) yn nhy ei ferch yn Wimbledon, Surrey, yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yn adnabyddus yn Ne a Gogledd Cymru, gan iddo gynrychioli y Gymdeithas Annibynol Eglwysig yn Nghymru am rai blynyddoedd. f Mr H B Griffiths, Bangor. BYDO yn cliwith gan drafaelwyr yn Ngogledd Cymru yn gystal a phreswylwyr Bangor ddeall am farwolaeth Mr H H Griffiths, dal- iedydd y Northwestern Station Hotel, yrhyn a gymerodd le foreu Sabboth diweddaf, wedi dim ond pum' niwrnod o gystudd. Nid oedd Mr Griffith ond 44 mlwydd oed, perthynai i r Seiri Rhyddion. Treuliodd, rai blynydd- oedd yn Neheu Affrica, ac yr oedd yn ddyn a fawr hoffid gan bawb. Gedy weddw a thri o blant. Priod Glaslyn. Nos Sadwrn, y ]7eg, aeth Mrs Owens i Feddgelert fel arfer i gyrchu angenrheidiau teuluaidd, lie y cafodd ergyd drom o'r parlys, yn siop y Fron Deg. Aed a hi mewn cyflwr anymwybodol i Westty y Tywysog Llewelyn, lie y gwnaed pob ymdrech er ei hadfer gan gwmni dieithr oedd ar ym weliad a'r lie yn ogystal a chan Dr William Jones Morris, Porthmadog a chyfeillion eraill. Cyrchwyd hi adref i Nanmor yn ngherbyd Dr Jones-Morris, ac ehedodd ei hyspryd ymaith yn mhen ychydig wedi cyrhaedd Pen y Groes. Yr oedd Mrs Ellen Owen yn wraig syn- wyrol a deallus, yn anterth ei dyddiau hi a ofalai am y siop lyfrau a gadwai Glaslyn yn y Colwyn, Beddgelert, am tua ugain mlynedd, a. thra yno wrth roddi llyfrau allan, cafodd gymdeithas bersonol a llawer o enwogion. Yn moreu ei hoes, meddai ar lais son- iarus, a hi oedd prif gantores y plwyf. --101--
Marwalaeth Resynus Ffermwr.
Marwalaeth Resynus Ffermwr. CYNALIODD Dr Hughes, crwner, drengholiad ddydd Gwener ar gorph John Williams, Penllynbach, amaethwr adnabyddus o ymyl Llanrwst. Ymddengys fod Mr Williams er's peth amser yn dyoddef oddiwrth iselder yspryd, a bu dan ofal Dr Evans, Llanrwst. Y dydd Sadwrn blaenorol rhoddodd ei oriawr i'w wraig gan ddweyd ei fod yn myn'd 1 wfIed cymydog o ffermwr. Gofynodd Mrs Willums iddo paham y rhoddai yr oriawr iddi, pryd yr atebodd yntau nad oedd arno ei heisiau. Yna gadawodd ef y ty. Yn gweled fod ei gwr yn hwyr yn dychwelvd aeth Mrs Williams i gyfeiriad y fferm a in- wasai y trancedig, ond nid aethai bellder can Hath o'r ty cyn y brawychwyd hi o'i weled wedi ymdagu a rhaff rwymedig wrth bawl yn y clawdd. Dychwelwyd rheithfarn o hun- anladdiad tra mewn cyflwr o orphwyJledd. | o | Crstadleuaeth boblogaidd yn Eisteddfod
[No title]
Goronog MOD a gynaliwyd yn Beaumaris y d ydd or blaen oedd yr unmewnysgrifenvddiaeth Gof ynid i'r eysta-, leuw-vr ysgrifena y frawddeg, Corooiad Edward VII, 1902," ar un tu i gerdyn post, 4t wrth 3;t modfedd, gynifer o weithiau air y s?allent. Llwyddodd Mr John Williams, LUndegfan, i ysgrifenu y frawdde" yn y gofod gosodedi^ 1,062 o weithiau. Datganodd y Parch LI M Williams, rheithor Dowlais mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Merthyr, nos Fawrth, ei farn yn ddibetrus ar y Mesur Addysg, ac nad oedd yn ei ystyried ya un da, gan ei fod yn gwneud i ffwrdd a'r byrddau ysgolion. J
Y Mesur Addysg
Y Mesur Addysg DYMJ. ychydig ddyfyniadau o sylwadau a wnaeth Mr Lloyd George ar y Mesur Addysg Yr oedd gan Eglwys Loegr—yr eglwys gyf- oethocaf yo y byd Cristiono,501-31 o golegau, a 11 thalai un rhan 0 ugain o'r treuliau i'w cidw. Yr oedd 20 000 o ysgolion yn agored i athraw- 1 11 on eglwysig, tra nid odd dim ond 6,000 ya agored i Ymneillduwyr. O'r colegau cyhoeddas, yr oedd saith o bob wyth yn agored i Eglwyswyr, ond dim mwy nag un o bob wyth i Ymneillduwyr, Dyma'r genedl na. fedrai oddef gronyn o an- ngbyfiawnder mewn estron wlad ac a ruthrodd i un o'r brwydrau mwyaf fu erioed oherwydd hyny; ond cynghorai ef y Ilywodraethwyr i edrych yn gyntaf ar y trawst yn en llygad eu hunain cyn bwrw y bryeheuyn allan o lygad canedl fechan bell oddiwrthym. Rhwydwaith gwifc-bigog i ddal plaat yn ngwersyll-garcharau yr Ysgolion Cenedlaethol oedd y Bil. Bil i barhau gallu y clerigwyr ydoedd.. Mewn 8,000 o bentrefi Cymreig, gwihanglwyf oedd Ymneilldoaeth i'w feddyginiaethu drwy Gonffirmasiwn-yn syniad yr offeiriad, wrth gwrs. Hyd yn bresenol Chamberlain oedd wedi gwneud yr amddiffyniad cyflawnaf dros y Bil. Chamberlain y Radical I Dyn mawr 1870 Dyn mawr y National Education League! Cwynai Chamberlain fod yn ormod disgwyl iddynt wario ..e250,000 i unioni y cam. Ac eto, dyma'r dyn oedd wedi gwario 9250,000,000 ac 20,000 o fywydau gwyr gwrol a gwladgarol. Ac i ba beth ? I unioni cam tybiedig percbenog'on yr aur mewn gwlad 6,000 o filldiroedd oddiwrthym. Ond dyma'r dyn sydd ya grwgoach gwario un rhan o ddeg o'r arian-heblgolli dyferyn 0 waed diniwed yn ychwanegol—i uuioni cam ac an- ughyfartaledd ddyoddefirjgan filiynau o rtnneill- duwyr y wlad hou I Mae cyfnoi ar wawrio-eyf no(I llais rbydd, bara rhydd, masuach rydd, a chydwybod r, dd. -0--
Cyfrlfoldab Ceidwaict Cwasttai
Cyfrlfoldab Ceidwaict Cwasttai YN Llys Sirol Bangor, ddydd Llun, o flaen Syr Horatio Lloyd, gwrandawyd ach s yn mha un y ceisiai D Pryssor Jones, Llanfair- fechan, adferiad o Gladstone Bag, neu yn ei le 2p 17s 9c oddiwrth Samuel Lloyd, dalied- ydd y Railway Hotel, Bangor. Dywedai yr achwynydd, dros yr hwn yr ymddangosai Mr H C Vincent, iddo ar Ebrill 2, gymeryd gwely yn y Railway Hotel, gan hysbysu y byddai iddo ddychwelyd rhwng deuddeg ac un y nos. Addawodd y diffynydd aros am dano, ond pan gyrhaeddodd yr achwynydd y gwestty tua chwarter i un gwelai drafaeliwr yn ceisio mynediad i fewn. Gwnaeth yr achwynydd hefyd ymdrech i'r un perwyl drwy canu cloch y nos a churo y drws, ond yn aflwyddianus, ac o'r diwedd aeth ef a'r trafaeliwr arall i westty arall oedd gerllaw. Gwelodd yr achwynydd y diffynydd y boreu canlynol, ond gwrthododd roi i fynu iddo y Gladstone Bag hyd nes y telid haner coron am y gwely, yr hyn a wrthododd yntau. Y diffynydd, yn nghwrs ei dystiolaeth, a ddy- wedodd iddo aros i fynu y noson hono hyd chwarter i dri, ac na chlywodd swn cloch o gwbl, yr hyn hefyd a gadarnhawyd gan y bwts. Dyfarnodd y barnwr i'r achwynydd y swm o 2p 17s 9c a'r costau. Pe rhoadid y Gladstone Bag a'i gynwys i fynu ar unwaith gostyngid y 2p 17s 9c i gini. --0--
Syr Wilfrid Lawson a'r Mesur…
Syr Wilfrid Lawson a'r Mesur Addysg- LLYWYDDAI Syr Wilfrid Lawson nos Fawrth mewn cyfarfod mawr a gynelid yn v Drill Hall, Carlisle, i wrthwynebu Mesur Addysg y Llywodraeth. Dywedodd pe galwesid y cyfarfod i'r amcan o ddyrchafu un enwad uwchlaw enwad arall ni ddaethai efe iddo. Diamheu fod a wnelo y cwestiwn & phob enwad, ac yr oedd arno eisiau cyfiawnder i'r oll. Yr oedd yn amlwg fod y mesur yn annghyfiawn oherwydd taflai ysgolion en- wadol ar y trethi heb ddarbod rheolaeth drwy y bobl. Dywedodd Arglwydd Rose- bery, prophwyd gorchuddiedig gwleidydd- iaeth, y dyn cyfrin, y dyn o bersonoliaeth swynol, a nawddsant y dyn yn yr heol, fod y mesur wedi ei gyfaddasu i'n hamddifadu o addysg wirioneddol ac effeithiol ac i ddi- ffrwytho addysg genedlaethol am genedl- aethau i ddyfod. Os nad oedd y fath fesur yn ddrwg nis gallai efe feddwl am unrhyw fesur yn ddrwg. Priodolasai yr anhawsder crefyddol heddyw i'r cytundeb marwol yn 1870. Credai Mr Chamberlain yn y dyddiau hyny yn egwyddorion Cynghrair Birming- ham. Ysgrifenodd i ddweyd ei fod eto yn credu ynddynt, ond deallai nad oedd pobl y wlad hon yn eu hoffi. Yr oedd Mr Chamberlain fel y gwleidyddwyr American- aidd, a ddywedodd, wedi gwneud araith, Dyna fy syniadau i, ond os nad ydych yn eu hoffi, fe'u newidiaf." Ni fu i neb erioed dyngu yn fwy diamwys i'r jumping-cat Inag y gwnaethai Mr Chamberlain yn y llythyr hwnw. Amddiffynodd Arglwydd Hugh Cecil y mesur drwy ddweyd fod ysgol- on enwadol yn troi allan Gristionogion da. Ni chredai Syr Wilfrid mewn Cristionogion a wneid hefo peirianau. Mewn gwirionedd, yr oedd y mesur wedi ei osod ar sylfaen bwdr.
Advertising
__a 4t RAWFORDS ■ SEAM msACKeas ASK1 N'S Grocery & Provision Stores, 1, St. Paul's Square, 101, Breck Road, Anfield. 474 & 476, Precot Road, Old Swan. 44, Kiikdale Road.
Marwolaeth dyn dysgedig mewn1…
Marwolaeth dyn dysgedig mewn 1 tlotty. Y DYDD o'r blaen bu farw Mr J Sandford Dyason, arlunydd, awdwr, a gwyddonydd, I yn yspytty tlotty Marylebone, a chladdwyd ef ardrauly plwyf, gan na wyddai ei gyf- eilJion yn mh le yr ydoedd, oherwydd ei fod yn ymguddio oddiwrthynt. Yr oedd yn ddyn adnabyddus iawn ynj ei flynyddoedd boreuaf fel athraw o wybodaeth a gallu eithriadol, a than ei addysg ef y dygwyd i fynu nifer o ddynion ydynt yn awr yn adnabyddus mewn bywyd cyhoeddus, yn cynwys yr Ardalydd Bute presenol. Yr oedd hefyd yn awdwr cyfrolau ar arlun- iaeth, ac yn arlunydd medrus fel y denoys amryw o i ddarluniau sydd yn Amgueddfa South Kensington. Heblaw hyny, gwasan- aethodd Mr Dyaoon y cyhoedd yn Maryle- bone fel gwarcheidwad y tlodion. Yr oedd yn Gymrawd o amryw gymdeithasau dysg- edig yn cynwys y Gymdeithas Ddaearyddol Fienhinol, ac hefyd yn aelod o Gvmdeithas Archadeiladwyr, a chanddo lu o "gyfeillion drwy y Deyrnas Gyfunol, y rhai, fel y dy- wedwyd, nas gwyddent ddim am ei angenion. I o
Syr H Campbell Bannerman a…
Syr H Campbell Bannerman a Mr Chamberlain. Be Syr Henry Campbell-Bannerman nos Sadwrn, yn anerch cyfarfod yn Darlington, pryd y dywedodd, wrth gyfeirio at ymdra- fodaeth heddwch, y dylent oil ymgadw mewn pwyH yn ngwyneb y sefyllfa dynghedfawr bresenol. Ond yr oedd un eithriad i r agwedd hon, sef yr Ysgrifenydd Trefedig- aethol, yr hwn a ail-adroddodd ei enllib ddar fod iddo ef (Syr Henry) ddirmygu y milwr Prydeinig a chefnogi y Boeriaid. Heriai ef Mr Chamberlain i broti ei gyliuddiadau, a phriodolai iddo nid yn unig y rhyfel ond hefyd ei pharhad. Yr oeddynt oil yn dis- gwyl yn bryderus am heddwch. Llawenha- ent at gytundeb parhaol, a gobeithient y cyflawnid y canlyniadau da a addewid,— undeb, cadermd, nerth. Condemniai Syr Henry y dreth yd, a datganodd benderfyniad- y Rhyddffydwyr i barhau eu gwrthwynebiad i Fesur Addysg y Llywodraetil. --101--
Y Cymraeg a'r Tafarnwr.
Y Cymraeg a'r Tafarnwr. YN Llys Ynadon Ruthin, ddydd Llun, apel- iai Mr A 0 Evans am drosglwyddiad am dymhor drwydded y Star Inn, Ruthin, cddiwrth Joseph Davies i W H Moore, Lerpwl. Dygid tystlythyrau yn mlaen, a datganai yr heddgeidwaid eu boddhad yn yr apelydd. Mr Lumley a ddywedai fod y dafarn yn cael ei mynychu gan amaethwyr Cymreig, a gofynai a oedd arolygydd yr heddgeidwaid, dan yr amgylchiadau, yn foddlon i Saiii un- iaith fod yn denant. Yr Arolygydd a ddywedai fod Moore yn meddu cymeriad rhagorol. Efallai mai gwell faasai Cymro, oni yr oedd yn gwbl foddhaol ar yr apelydd. ¡ 0 ——
Streio Clowyr yr America.
Streio Clowyr yr America. DDYDD Gwener penderfynodd y glowyr gyflwyno y pwnc o sefyll allan i gynadledd gyffredinol, ac mewn cylchlythyr hysbyswyd y penderfyniad. Yn y cylehlythyr cyfar- wyddyd yr holl rai weithient mewn glofa ac yn nglyn 4 hwy i ymgadw rhag gweithio gan ddechreu Mai 12, 1902, a pharhau i sefyll allan hyd benderfyniad terfynol cynadledd gyffredinol i gyfarfod yn Hazleton, Pa., ddydd Mercher, y 14eg. Cyfarwyddyd pob cyfrinfa leol i gyfarfod ddydd Llun, gyda r amcan o ddewis cynrychiolwyr i gymeryd rhan yn y gynadledd. Prif bynciau yr annghydwelediad rhwng y perchenogion a'r gweithwyr yw wyth awr a rhagorach ffordd i bwyso y glo. Y mae yr olaf yn hen gwyn o du y glowr, ac ni roddir boddlonrwydd hyd nes y mabwysiadir cyn- Ilun pwyso cyfiawnach. Y mae glowyr Prydain wedi cael hyn, a phaham lai yn y wlad hon ? Yn ol y cyfarwyddyd yn nghylchlythyr y Llywydd Mitchell, safodd yr holl lofeydd foreu Llun. Nid oes un o'r 357 yn gweithio, a chyfrifir fod 145,000 allan yn aros am ben- derfyniad y gynadledd a gyferfydd yn Hazleton. Ychydig o obaith sydd y pender- fyna y gynadledd yn ffafr heddw. h. Y dis- ft gwyliad hefyd yw y bydd yr ymdrech yn chwerwach na'r un yn 1900. -0 Gwnaeth y Parch Charles Davies, gweinidog e?lwys y TabernacI (B), Hayes, Caerdydd, yn hysbys ei benderfyniad i beidio cydsynio & galwad a dderbyniodd 0 eglwys Jerusalem (B), Llwynpia. Mewn cynadledd unedig o gynghorau Eglwysi Rhyddion Conwy, Colwyn Bay, Llandudno, a Llanrwst, nos Lan, penderfynwvd cynal cyfar- fod mawr yn y Pier Pavilion, Llandudno, Me hefin 14, i wrthdystio yn erbyn y Mesur Addysg, ac yn mysg eraill i wahodd larll Car- rington, Syr W Haicourfc, a Mr Asquith i gym- eryd rhan ynddo. Ddydd Llun, dirwyodd ynadoa Caernarfon I deoant y Garnons Arms Inn i 2p am werthu diodydd ar y Sul, gan orchymyn i'w drwydded gael ei nodi. I
Helynt y Penrhyn.
Helynt y Penrhyn. LLYWYDDWYD y cyfarfod wythnosol nor Sadwrn gan Mr Henry Jones. Ar ol canu ton gyffredinol, sylwodd y cadeirydd y buasai yo dymuno galw eu sylw at y eyfar fod bythgofiadwy hwnw a gynaliwyd Tach- wedd 20fed, 1900. Yr oeddynt yn cofio y pwys mawr roddwyd arnynt o'r llwyfan i fyned at eu gwaith y diwrnod canlynol, a'r pryder oeddynt ynddo. Fe ddarfu iddynt benderfynu myned i'r chwarel, a hyny ar urt amod, sef fod i bawb oeddynt wedi ea gwrthod yn flaenorol gael eu gosodiadau. Yr oeddynt yu cofio fod yn y cyfarfod rai dynion yn arbenig yn fwy eu swn na neb, ac yn gwaeddi, 44 Beth a ddaw ohonom ni ?" Dyma'r dynion oedd yn gwaeddi fwyaf o neb, ond erbyn hyn gwyddent oil lie yr oeddynt. Yr oedd ef yn credu fod y poenau dir- dynol yn llawer mwy y tu fewn i'r dyn- ionach hyn na'r rhai oeddynt yn parhau y frwydr, a'r peth diogelaf iddynt hwy oll.i'w wn-ud oedd gwylio rhag syrthio i'r un cyflwr. Mr John Williams, Caewern, a sylwodd fod y tfaith eu bod yn parhau y frwydr mor hir yn brawf aiiilwlg fod ganddynt sylfaea dda i'w hachos, ac yr oedd yn falch o crael dweyd mai nid hwy yn unig oedd yn credu hyny, ond hefyd holl weithwyr y deyrnas. Yr oedd ganddynt egwyddor o'u plaid a rhoddir y gair iddynt eu bod yn ymladd fel dynion. Bu ef am rai wvthnosau yu y Deheudir, a deallodd yn fuan fod y gIowyr yno yn cydymdeimlo a hwy i'r byw, ac yn hollol barod i e-ityn cymhorth iddynt nei enill y frwydr. Pe byddai i'r chwarelwvr roddi i fynu y frwydr ar hyn o bryd, buasai raid iddynt fradychu eu cydvveithwyr yn mhobman. Yr oedd meddwl am iddynt fyned yn ol i'r chwarel yn golygu y buasai yn rhaid iddynt gau allan luaws o'u cydweithwyr» "Ir thrwy hyny eu haberthli ar allor hunanles. Hyderai yn fawr y buasent yn parhau yr., ffyddlon yn eu ffyddlondeb yn unig yr oedd eu dyogelwch. Dywedodd Mr O J Owen, Mynydd, fxfe y cyfeillion ar y llwyfan wedi gofyn iddo ddweyd ychydig o'i brofiad. Yr oedd yn cofio yn dda y diwrnod yr anfonwyd Richard Hughes, contractor, o'r chwarel. Yr oedd ef, fel Iluaws eraill, heb adael y pwll, gyda'r canlyniad iddynt gael eu hwtio, eu lluchio a cheryg, eu galw yn fradwyr, &c. Ond erbyn hyn, yn mha le yr oedd y dynion hyny oeddynt yn gwaeddi fwyaf ? Yn y chwarel. Pwy oedd yn grwgnach fwyaf yn erbyn swyddogion y chwarel na'r rhai sydd yno yn awr ? Onid hwy oedd yn cwyno fwyaf a neb? Bydded iddynt gofio mai grwgnachc a chwyno oedd y cam cyntaf tuag at fradwr- iaeth. Yr oedd y rhai a weithient yn y chwarel yn waeth na J udas-ar ol cytiawni y fradwriaeth, fe aeth hwnw i w le ei hun, ond wele fradwyr Bethesda wedi myned i leoedd dynion eraill. Mr Thomas Hughes, Caell wyngrydd, a. ddywedodd fod llawer o wahanol farnau yn eu plith yn nglyn a dygiad yr helynt flin yma i ben. Ofnai ef eu bod ar adegau yn annghofio eu Creawdwr, ac fod awenau pob llywodraeth yn ei law Ef. Ond iddynt gredu hyn, ymddiried ynddo, a gweddio arno Ef, credai y deuai pethau i drefn yn bur fuan. Mr William Oliver, Mynydd, a ddywelocU: iddo am rai wythnosau wasanaethu fel cenad. yn Neheudir Cymru, ac yn ystod ei arhosiatl daeth i gyfarfyddiad a, lluaws o fechgya Bethesda. Yr oedd yn dda ganddo gael dweyd eu bod oil yn edrych yn siriol a phen- derfynol. Rhoddid y gair goreu iddynt gan y Deheuwyr, ac yr oedd eu liymddygiau let corph o weithwyr yn anrhydedd ac yn oloct i enw Bethesda, Yr oeddynt wedi derbytv y caredigrwydd mwyaf ar law y glowyr, ac yr, oedd y rhai hyn yn addaw gwneud eu i estyn cymhorth i'r rhai oeddynt yn parliau y frwydr. Yr hyn a i tarawodd ef (y siaratl- wr) yn neillduol yno oedd amlder y screics a'r rhai hyny yn streics byrion. Pan oedd- gan y glowyr gwynion, cyfarfyddent ar hn y pwll, a rhoddid y cwbl yn nwylaw y miner's agent. Yn mhen diwrnod neu ddau clyweii* y cnwr yn myned o amgylch ac yn hyabysu tod pobpeth wedi ei setlo. Yr oedd yr holl feistri yn cydnabod cynrychiolwyr swyddog- ol y dynion, a thrwy hyny yr oeddynt ya, gallu setlo bob annghydfod mewn byr amser. Gresyn, onide, na fuasai yr un peth yn bodoli yn Chwarel y Penrhyn. Pekfe arall a nodweddai y glowyr oedd yr uudek a fodolai yn eu plith yr oedd hwn gymamfc fel nad oedd yr ymgais leiaf yn caet ei wneud i geisio eu rhanu. Gwyddai pawby-m ddijon da mai methiant truenus fuasai un- rhyw ymgais o'r fath. Ni fuasent yn gwrandaw am foment unrhyw chwedlau oedd a u hamcan i w rhanu fel gweithwyr, a beithiai fod chwarel wyr y Penrhyn wedir dysgu digon erbyn hyn i ochelyd y straeoa hyny oedd yn ceisio eu denu a gadael en ay dweithwyr. 101 Dyn adnabyddus a hoft i gyich eang oedd »
[No title]
diweddar Heddgeidwad W Thomas, Trvrtv a^ ac a fu cyu byny yn Rhyl, yr hwn a fu futw y Sabboth diweddaf wedi tri diwrnod o gefj-dyr ysgyfaint. ° J s