Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

."GYMRY CELWYDDOC."

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Oedi 7 Ddadl ar y yIlideb.. Y MAE'R Llywodraeth yn yr un sefyllfa a'r dyn hwnw oedd yn gwylied i ba gyfeiriad y neidiai'r gath. Heno, nos Fercher, y bwr- iadent drafod yn mhellach y Gyllideb, yn cynwys codi treth yr incwm a rhoi'r hen dreth newydd ar yd ond cyhoeddasant yn niwedd yr wythnos eu bod yn oedi y ddadl hyd nos Wener. A dyma Mr Balfour nos Fawrth drachefn yn hysbysu y Senedd, y gohirid y mater eto i rhyw amser anmhenodol. Cymerir yn ganiataol oddiwrth hyn oil mai bwriad y Llywodraeth ydyw gadael Treth yr Yd, beth bynag am y Hall, yn llonydd eleni a llechian oddiwrthynt mor ddystaw ag y bo modd. ag A Oes Heddwoh ?" Os nad oes eisoes, y mae yn ymyl. Yn ddigon naturiol, cyndyn iawn ydyw'r Boer- iaid i ymadael â'u hannibyniaeth. Bu eu tadau yn ymladd yn galed am dano gyda'r llwythau anwar ar ei ddechreu, ac aberth- asant, y ddwy flynedd a haner ddiweddaf, er ceisio ei gadw, fywydau lawer a phobpeth a feddent ond eu geirda fel cenedl o ddewrion sydd yn sicr o gael eu rhestru yn mysg gwr- oniaid y byd ar faes y gwaed. Ni° fydd rhestr arwyr rhyfel o hyn allan yn gyflawn heb ynddi enwau Botha a De Wet. Cyll y Boeriaid, mae'n wir, eu hannibyniaeth fel cenedl, tan hen ddeddf annhyblyg rhyfel, sef y Trecha, treisied-; gwana, gwaedded," fel y collodd llu o genedloedd byehaiii. a dewr eraill-ein cenedl fach ninau yn eu mysg ond cedwir eu gwrhydri yn fywmewn hanes am gan r if oedd. A chan mai i lawr y rhaid iddynt fyn'd, bydd..yn gysur i'w holafiaid gofio i'w tadau syrthio yn anrhydeddus wedi ymdrech deg yn erbyn gallu cryfach, a gallu nad oes ond ychydig o alluoedd y ddaear allasai wrth- sefyll ei ymosodiadau cyhyd. Am y modd- ion a ddefnyddiwyd i'w darostwng, yn filwrol ac fel arall, bydd gan haneswyr y dyfodol lawer iawn i'w ddweyd heb fod yn ffafriol i r gorchfygwyr. Ar "WiMaith, Y MAE Gogledd Cymru ar y Cost yn dad- blygu yn gyflym iawn, a digon prin y buasai ymwelydd a'r parthau hyn ohoni oedd yn gydnabyddus k hwy ugain mlynedd yn ol yn eu hadnabod yn awr. Yr holl ffordd, gan ddechreu yn Queen's Ferry, a Wepre (hen gartref Dafydd ap Edmwnd), ardal a allwaen ir yn awr wrth yr enwau Shotton a Connah's Quay, ar fin y Ddyfrdwy hyd i Fachynlleth yn y pen arall ar fin y Ddyfi y mae'r hen drefydd wedi eu diwygio bron i gyd allan o adnabyddiaeth, a threfydd newyddion af- rifed yn sefyll ar lanerchau lie porai y ddafad a'r fuwch, ac yr yswatiai bythyhod pysgot- wyr ddwy neu dair cenedlaeth yn ol. Engraifft o'r ddau gyfnewidiad hyn ydyw Colwyn Bay a Phwllheli. Nid yw r Parch Thomas Parry, Colwyn Bay, ond gwr canol oed ond efe adeiladodd y ty cyntaf ar gyfer llettya ymwelwyr a thref hardd a ffushiynoJ Colwyn Bay, cystal a'r capel cyntaf ar gyfer ei haddolwyr. Cyn hyny, nid oedd yno ond y brif ffordd sydd yn arwain rhwng Abergele a Chonwy, ac ambell fwthyn ar ei min; yn nghyda hen balas urddasol Pwll- crochan, a i goedwig am ei gefn ar y llech- wedd uwchlaw, a'r reilffordd ar y llaw arall, ,heb yr un station, lie y mae'n awr un oV gorsafoedd prysuraf ar y llinell rhwng Caer a Chaergybi. Acyr oedd hen fwrdeisdref Pwllheli lonydd, gysglyd, fel pe buasai yr Hunllef yn gorwedd ar ei bymysgaroedd, a hithau'n marw tano o dipyn i beth. Ewch yno yn awr. a chewch bob gewyn o'i mewn yn fywyd, a thref hardd wedi codi fel cynyrch swynlath rhyngddi a'r mor yn yatod yr ugain mlynedd. Un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, cefais olwg ar y neuadd newydd gyhoeddus ardderchog sydd bron wedi ei gorphen yn nghanol y dref a phan ei gorphenir, diau y bydd yr hull odidocaf yn Nghymru—yn abl i gynwys tros ddwy fil, a'i threfniadau a'i chyfleusderau bron yn berffaith. 0 tani y mae'r farchnad gyhoeddus, rhenti yr hon fydd yn help i daluam dani ac ar y to uwchben, yr hwn sydd yn wastad, ceir man dymunol i gyrchu iddo er gweled rhai o'r golygfeydd ardderchocaf yn Ynys Prydain, yn cynwys rhanau helaeth o Leyn ac Eifionydd, mynyddoedd Arfon a'u brenhines y Wyddfa yn eu canol, cyrau a Ddyffryn Maentwrog, a Chastell Harlech ar draws bau y Traeth Mawr, lie mae'r weilgf, yn ol traddodmd, yn gorchuddiaw ceinder Cantre'r Gwaelod, ac yn dynwared byth ar dymhestl drallod tywysog y rhandir deg :— Uchenaid Gwyddno Garanbir Pan droes y don dros ei dir. Pa fodd bynag, y tu draw i fangre y dinystr, erys Cantref Ardudwy a'i lechweddau coed- iog gleision—gwlad y Bardd Cwsg cyn hardded ag erioed. Y mae clod mawr yn ddyledus i Gynghor ac Ysgrifenydd medrus Pwllheli, ac i gynllunydd y Neuadd, am eu gwaith. Gwelir fod y gwaelod wedi ei gyflwyno i fasnach, y canol i adeiladaeth, a'r to i fvvyn- iant braf. Bydd y draul tua deuddeng mil o bunau, ond beth yw hyny i dref sydd ar gynydd fel Pwllheli? Nid y trefydd arforawl ychwaith yn iiiiio, sydd wedi cynyddu yn ddirfawr yn ystod y cyfnod a nodwyd. Noder Ffestiniog, prif- ddinas y chwarelau, dyna i chwi y dref y dylem fel cenedl deimlo'n falch o'i phobl a i chynydd. Gweithwyr ydyw naw o bob deg, hwyrach 19 o bob ugain o'i thrigolion, a'r lleill bron i gyd yn Gymry gwladgar, llengar, a meddylgar. Nid wyf yn gwybodam yr uri dyn cyflawnach na Dr Roberts (Isallt), yr hwn a berchir gan bawb ar gyfrif ei fedr fel meddyg, ei wybodaeth eang, a'i amgyffred- ion naturiol cryfion ac y mae amryw evaill yn Ffestiniog heb fod yn nihell ar ol iddo o ran gallu meddwl a hynawsedd yspryd. Ond er mor oleuedig Ffestiniog ar un ystyr, teimlid y buasai mwy o oleuni celf- yddydol a gwell yn chwanegiad at gysur y trigolion. Felly, penderfynwyd cynull a chyneu y trydan yn y lie, a pha le hawddach oherwydd yr afonydd chwim a grymus sydd yn rhede trwy yr arda!. Nos Iau, cynal- iwyd gwledd i ddathlu'r amgylchiad yn y Queen's, Arglwydd Newborough yn y gadair, a llu mawr o oreugwyr yr ardal oddeutu'r byrddau ac ar yr amser gosodedig, cododd ei arglwyddiaeth y gliced, ac yr oedd y llanerch fel dydd, a chododd un floedd fawr oddiwrth y miloedd yn yr heol nes oedd y creigiau yn diaspedain o glogwyn i glogwyh am filldiroedd Parhaodd y siarad, canu, &c., ar ol y wledd hyd foreu ddydd Gwener. Can ddigri ofnadwy ac o'i waith ei hun oedd gan Mr Humphrey Roberts, ar diwn Mynyddog er's talwm. Rywsut fel hyn rhedai y corws Ond rwan wrth fyn'd adre Bydd pobpeth yn ol reit, Raid i undyn syrthio i'r gwter Rol cael Relectric leit. Roeddwn i'n meddwl mai'r Alltwen, y Town, Clerk a'r Engineer, mewn flit o ddigrifwch oedd wedi gwneud y g&n fel y mae'r hen gyfaill amryddawn yn cael y gair o wneud pobpeth doniol yn Ffestiniog neu efallai y brawd doniol arall Bryfdir; ond fe'm sicr- hawyd mai y gwir awdwr yw Mr Roberts ei hun. Nid oedd yr areithiau cystal ag y buasid yn disgwyl, digon o sens ynddynt, ond yn cael eu meddwl yn Gymraeg a'u siarad yn Saesneg. Mr Richards, y Person, oedd yr unig un a siaradai fel Person. — o

Y Parch J J Jones, Bangor.

[No title]