Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y ODAEARCRYP.

CWRS Y BYD

News
Cite
Share

CWRS Y BYD Beirdd alu Mamau. LLINELL bur adnabyddus ydyw, "O'r un waed a'r awen wir, er nad yw yn hawdd ei deongli ond fod yr awen i'w chael trwy gaffaeliad ac nid trwy yr hyn a adwaenir wrth "y gwaed.' Bll rhai 0 brif feddygou Ffrainc yn ddiweddar yn dadleu y pWllC, ac y maent wedi dyfod i'r penderfynthdau can lynul YN nghyntaf, fod athrylithiau o'r radd uchaf yn unigol ac eitbriadol; yn ail, fod mam y gwir fardd yn wraig o ddealltwriaeth a grymusder meddwl llawer uwch na'r cyffredin, tra y mae mamau plant dwl yn ferched dwl ac yn drydydd, fod y dalent farddonol yn etife idol, ac yn dyfod bob amser i'r plentyn oddiwrth ei fam. Nid yw y ddysgeidiaeth hon o eiddo dysg- edigion Ffrainc yn newydd mewn un modd. Yn wir y mae o leiaf cyn hyned a'r rhan hono 0 "Cilhwch ac Olwen," yn y Mabin ogion, lie y dywedir yr un peth ar ddamheg pan ymhola Eryr Gwernabwy am oedran Dallhuan Cwmcawlyd, rhag y digwydd iddi ddirywio ei blant. Priodolai Goethe ei duedd ef at farddoni i hoffder ei fam o farddoniaeth. Clywir yn fynych yn yr oes hon mai ychydig o feirdd gwir fawr sydd yn codi; ac os gwir y dyb- iaeth, prinder mamau awengar ydyw'r achos. Pa nifer o'n darllenwyr gafodd y fraint o wrando pregeth y Parch Robert Thomas (Ap Fychan) ar Ddylanwad Mam ar ei Phlant," ar nad yw yn cotio y modd nerthol y dango&ai y pregethwr grymus na fuasai Samuel yn Samuel onibae fod iddo fam ardderchog ? Athrylith. Y SYNIAD cyffredinol yw mai y ddau mwyaf doniol sydd yrt cynysgaeddu y newyddiaduron Saesneg a'u galluoedd y dyddiau hyn ydyw Gould, arlunydd (cartoonist) y Westminster Gazette, a S. L. ff. y Morning Leader. Anrhydeddwyd y blaenaf yr wythnos ddi- weddaf trwy ei wahodd i wledd yn y National Liberal Club a dywedai un o'r siaradwyr yn y wledd, yr hyn sydd yn hollol wir, mai efe ydyw gwawd arluniwr goreu a mwyaf diwenwyn yr oes hon. Am y doniol- ddyn arall, S.L.H., sydd yn ysgrifenu bob dydd dan y penawd Sub Rosa i'r Leader, Cymro glan gloyw ydyw, yn ol a glywais, o sir Gaerfyrddin, o'r enw Hughes, a mab i weinidog Wesleyaidd. Y syndod i bawb yw sut yn y byd mawr yma y maent yn gallu tywallt eu donioldeb mor ddibaid a dihys- bydd. Ond y mae athrylith yn beth mor ddyeithr y blynyddau hyn fel mai ychydig sydd yn ei hadnabod pan ei gwelant. Dathlu y Coroniad. NID oes dadl fod y Brenin yn boblogaidd, er gwaethaf ei dueddiad at rasys ceffylau ac y mae gwlad a thref er's misoedd yn corddi eu hymenyddiau ar ba fodd oreu i ddathlu ei goroniad. Digrif ydyw'r ymgais mewn llawer man. Y plwyfi Seisnig hyd yn hyn sydd ar y blaen o ran gwreiddioldeb. Mewn plwyf orenw Tetbury, penderfynwyd arloesi a thwtio mynwent yr eglwys a byddai llawer i'w ddweyd tros gynygiad cyffelyb mewn ami i blwyf gwledig yn Nghymru, lie y mae trigfa y meirw yn dir annghof mewn mwy nag un ystyr. Er enghraiffb, dyna fy 11 went Llan-, ond gwell peidio ei enwi; hwyrach mai dyna blan y plwyfolion yno hefyd, a hyddai awrgrym trwy y wasg yn sicr o'u tarfu rhag gwneud cymwynas mor angen- rheidiol. Bu plwyf Seisnig arall, sef Great Huckham, yn Norfolk, yn ferw o ben bwy- gilydd, ar y cwestiwn pa un a ddathlent yr amgylchiad trwy wneud pwmp ar y lawnt yn nghanol y Llan, neu a brynent elorgerbyd i gludo eu meirw i dy eu hir gartref, ond y pwmp aeth a hi, gyda math o ddealltwriaeth y daw tro yr hers y Coroniad nesaf. Pobol Farus. LLE arswydus o fwyteig ydyw Denby Dale, gellid meddwl, canys y mae'r trigolion yn ol a ddywed eu newyddiadur, yr Ossett Observer, wedi penderfynu dangos eu teyrngarwch trwy ddarpar pastai anferth gymaint bron a Phastai Fawr Llangollen y soniai Ceiriog am dani. Mae'n ymddangos mai dyma ddull cyffredin y cwm hwn o gyd- lawenhau. I ddangos eu diolchgarwch am yr heddwch yn 1815, gwnaethant bastai oedd yn cynwys haner dafad, ugain o gywion ieir, a thua pheciad o flawd. Ac er fod hon yn bryd go helaeth, nid oedd ond cyw pastai wrth yr un a bobwyd ar gyfer Jubili Victoria, yr hon a wnaed mewn dysgl oedd yn pwyso 15 canpwys, yn 8 troedfedd ar ei throws, yn 2 droedfedd o ddyfnder, a'r holl bwysau yn 2 dynell. Costiodd JE250, a thynid hi gan ddeg ceffyl, Efallai nad oedd wedi crasu digon, ac mai dyna'r achos ei bod mor drom. Adwaenwn hen wr er's talm, coeglyd a edliwiai i'w gym- bar pan na fyddai'r dorth heb godi, sawl ceffyl fu'n dy helpio di i ddwad a'r dorth yma adre' ?" Bu clwy til yn cyfranogi o'r bastai hono ac ni ddywedir faint o wlyb a gymer- wyd i'w golchi i ]awr, na pha faint a dalwyd i feddygon am iachau y bobl sal. Chwedl uu o'u hawduron hwy eu hunain, "The English take their pleasure sadly." Proph-wyd Newydd. GWELAIS mewn amryw bapyrau yn ddiwedd- ar y paragraph rhybuddiol a ganlyn :— AR neu oddeuta ddydl LIun nesaf (y LluDsrwyn), Mai 19, 1912, fe dyrr tymhestl ofnad vy ar Lerpwl a'r ardal, gan beri dinyaor mawr ar adeiladaa a llongau, yn nghyda difrod gahrus ar fywydau. Yr oedd hi n arferiad gynt yn Israel, lle yr oedd prophwydi o bob math cyn amled ag ydyw beirdd yn Nghymru y ddyddiau hyn" pan godai prophwyd newydd yn mysg y bobl ei roi yn ngharchar hyd nes cyllawnid dydd- iau ei brophwydoliaeth ef ond bu y gwel- edydd newydd hwn mor ddoeth a rhoi dydd cyfiawniad ei brophwydoliaeth yn ddigon agos, fel na fyddai ei gaethiwed yn hir. Mesur Dewisiad Lleol i Gymru. PAN oedd Mr Herbert Roberts yn dadleu teilyngdod ei gynygiad ar y cwcstiwn uchod nos Wener, cyfrifwyd y Ty a chafwyd nad oedd ond 38 a aelodau yn bresenol; yr hyn, wrth gwrs, a roddodd derfyn ar y ddadl am y tymhor hwn. Dywedir mae rhai o'r aelod- au dros Gymru oedd yn gyfrifol am hyn, a diau y ca y cyfryw air yn mhellach gan eu hetholwyr. Yr oedd Syr Wm Harcourt yn un o'r 38, daethai Mr Lloyd George i fynu yn unswydd o Giernarfon, a thrwy ddamwain yr oedd y cab a ddygai Mr. Ellis J. Griffith oddiwrth ei waith yn y Law Coxwts fynyd yn hwyr. Gwaith da i'r Sir-grnghorau. Y MAE siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, trwy eu Cynghorau, wedi cychwyn symudiad a efelychir gan bob cynghor sir arall, gobeithio, yn Nghymru sef cyflwyno zC25 yn y flwyddyn ar lun ysgoloriaeth yn un o'r colegau i r cerddor ieuanc mwyaf addawol naill ai ar lais neu gerdd-otferyn. Enillwyd ysgoloriaeth sir Gaerfyrddin, allan o 19, gan rian ieuanc 13 oed o'r enw Winifred Owen, am chwareu ar y crwth. Y mae i'r ymgeis- ydd llwyddianus ei ddewis o fyned am dair blynedd naill ai i'r R. A.M., Llundain, neu i un o Golegau Prifysgolion Oymru. Nid yw swm y wobr yn agos i ddigon, ond y mae yn ddechreuad iawn ac yn yr iawn gyfeiriad. Cyfiwynir symiau o arian, fel y gwyddis, gan y Cynghorau hyn eisoes trwy addysg gretftol (technical); ac y mae Cymru yn y blynyddau a fu wedi dangos mor gyfoethog ydyw o gantorion uchelryw, fel y dylid ar bob cyfrif symbylu a chefnogi pob talent gudd yn y ganghen yma. Lie y mae'r sir yn fechan, gallai dwy sir ymuno &'u gilydd, a gwneud y swm yn fwy na zC25 a hyderwn y bydd i siroedd y Gogledd efelychu esiampl Morgan- wg a Chaerfyrddin gydag amcan mor deilwncr.

-----"-'0'--lo I--Nosweithiau…