Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y ODAEARCRYP.

News
Cite
Share

Y ODAEARCRYP. Y MAE'R Daeargrynfeydd a fu, bvthefnos yn ol, vn ysgytio rhai o Ynysoedd yr India Orllewinol, ac yn ysgubo oddiar eu g wyneb y nifer luosocaf o'u trigol- ion, wedi taro yr hil ddynol t braw a dychryn mawr. Teimla athronwyr a dysged;gion eu bod wyneb yn wyneb ag un o nerthoedd natur na wyddant ond y nesaf i ddim am ei achos, y deddfau sydd yn ei lywodraethu, na pha fodd i'w ochelyd. Fel barn y cyfeirir at yr arddangosion ofnadwy hyn yn yr Ys- grythyr a llenyddiaeth henafol, a barn yn ddiau ydynt ar y trueiniaid o ddyn ac anifail fyddo yn eu cyrhaedd, er y myn rhai athronwyr nad yw'r llosg fynydd, a agorwyd gan y Ddaeargryn ar y cyntaf, ond moddion o ddyogelwch i'r hen ddaear yma, yn union fel y mae'r safety valve i'r berwedydd. Nid yn ddirybudd y daeth y galanas hwn ar Ynyswyr St Pierre a St Vincent, -y naill vn perthyn i Ffrainc a'r Hall i Loegr. Yr oedd rhuadau anarferol yn nghrombil y ddaear odditanynt er's dyddiau ac yn yr ynys Ffrengig yn enwedig, cynullai y bobl i'w heglwysi wrth y miloedd i weddio am eu gwaredu rhag y difiod a'u bygythiai. Ond rhaid oedd i'r deddfau ufuddhau, ac heb hyny nid oes wybod na fuasai'r blaned ei hun yn ffrwydro yn friwsion a phob bywyd ar ei gwyneb yn trengu ac o flaen gweith- redoedd neithol o'r fath yma, ni fedr y meddwl cryfaf ond gostwng pen a gwyl- eiddio. Ar y dydd cyntaf o Dachwedd, 1755, y bu Daeargryn yn Lisbon a wnaeth brif-ddinas Portugal yn annghy- fanedd ac a laddodd y nifer fwyaf o'i thrigolion a chan i hyn ddigwydd ar Wylyr Holl Saint, rhwng naw a deg yn y bore, pan oedd y lluaws yn yr eglwysi, y rhai a gwympasanl ar yr addolwyr, yr oedd y dinystr yn fwy. Ond yn lie ymostwng o dan y Llaw alluog, a chyd- nabod mor feidrol ydyw dyn, aeth mil- oedd o breswylwyr Ewrob, a'r Ffrancod yn arbenig, i wadu bodolaeth yr An- feidrol. Dichon na phar yr amgylch- iad presenol gynydd ar anffyddiaeth yn Ngwledydd Cred, ond dengys mor wyr- gam ydyw barn dyn gerbron ymweliad- au o'r fath yma. Beth oedd nifer y trueiniaid a gollas- ant eu bywydau yn nhrychineb yr India Orllewinol, Mai 3, a'r dyddiau dilynol, nid oes genym ond yr amcan- gyfrif eu bod yn rhywle rhwng deugain a haner can' mil. Y mae'r daeargryn a llosglif y mynydd tanllyd yn claddu eu meirwon, gan mwyaf, tan yr adfeilion eraill a wnant. Rhydd y rhai oeddynt yn llygad-dystion o'r galanasdra ddes- grifiadau sydd yn clafeiddio dyn wrth eu darllen. Cynullid y gweddillion afluniaidd a adawyd heb eu claddu gan y lafa a'r cawodydd o Iudw a phentewyn ion, a llosgwyd hwynt rhag ofn iddynt fagu pla. Cafodd lluaws ddiangfa megys o safn marwolaeth, Ffodd tua pum' mil i fryniau Carbet, lie y llechent yn newynog a sychedig, ac y gwaredid hwy gynted ag y medrai yr awdurdodau. Cyrhaeddodd yr agerlong Roddam i St Pierre am wyth o'r gloch fore yr 8fed o Fai, ac angorodd oddiallan i'r porthladd ond canfu Capten Freeman yn ebrwydd y perygl ar lun cwmwi o dan yn cyf eirio at y fan yr oedd a chan fod yr agerdd i fynu, llithrodd yr angor a throdd y llestr i'r mor agored. Modd by nag, goddiwedd wyd y Hong gan aden o'r cwmwl, a disgynodd cawod danllyd arni nes oedd y fflamiau megys yn ei lleibio, a'r lludw tanllyd yn fodfeddi o drwch ar ei bwrdd. Am chwe milltir y parhawyd i ffoi, ac y dilynid hwy gan eu dinystrydd ac yna caed fod deg o'r dwylaw wedi eu Ilosgi yn golsyn meirwon, ac nad oedd undyn ar y bwrdd heb ei niweidio yn dost-y capten ei hun yn Ilosgiadau tros ei holl gorph. Dyma yr unig long a achubwyd o'r harbwr, gan fod y mor fel pe buasai ar dân. Rhydd trychinebau o'r fath gyfleus- dra i ddyngarwch ddangos fel y gall euro ymylon y cwmwl du. Y mae llywodraethau yr Unol Daleithiau a Ffrainc, a deiliaid Lloegr, eisoes wedi danfon mitoedd o bunau i gynorthwyo y gwaredigion nid yw Llywodraeth Lloegr hyd yn hyn wedi gallu hebgor dim o ganol ei hafradlonedd Y mae gan Brvdain a'i Rhagynysoedd ei pheryglon'a'i gofidiau, ond nid yw y Ddaeargryn, o drugaredd, yn un ohon- ynt. Ambell dro, daw ar ei rawd, gan roi hergwd bychan ini, megys i'n hadgoffa o'i fodolaeth, ond y mae ei losg-fynydd au wedi diffodd er's hwyrach filoedd o flynyddau. Gwelir eu holion ar benau rhai o'n moelydd, fel adfeilion hen odyn galch wedi myn'd a'i phen iddi. Dyna ydyw gwely ein llyncedd bron i gyd, a dylasai fod genvm ddiareb ddiolchgar yn dweyd mai Gwell llvn na llosgfynydd." --o

CWRS Y BYD

-----"-'0'--lo I--Nosweithiau…