Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Chwarel y Penrhyn.

News
Cite
Share

Chwarel y Penrhyn. Akwyddion YSTOITM, jBrawychwyd y miloedd gweithwyr yn chwareli JBethesda gan ddigwyddiadau y pythefnts di- weddaf. Dydd Mawrth, Melefin 6ed, pan aeth Mr Robert Davies un o arweinwyr y dynion, at y bargeiniwr i gymeryd bargen am fis arall, hys- b) awyd ef nas gallai roddi gwaith iddo y mis hwnw. Yn uaturiol iawn, gofynodd am eglur- had ar paham na chawsai weithio fel arfer, ond yr unig atebiad a gafodd ydoedd fod y sawl a'i hjsbysodd yn cario allan ei ddyledswydd, ac na wyddai yn beraonol beth oedd yr achos. Dyn gofalus, diwyd a rriedri s ydyw Mr Davies, ac o gymeriad da ac nis gall neb weled dinrhyw reswm dros ei droi o'i waith oddigeith ei gysylitiad &g Undeb y Obwarelwyr ac a Streic 189G. Cryfheir y dybiaeth hon pan gofir fod M r Davies yn un o'r tri a gynrychiolent y tair mil chwarelwyr yn y gynadledd fa rhyngddynt ag Arglwydd Penrhyn yn Mawrth, 1897; ac befyd mai yr un tri oedd a'u henwau cyn hyny wrth yr ohebiaeth fu rbyngddynt a i arglwydd- iaeth, a bod yr atebion yn cael eu cyfeirio i "Mr Robert Davies ac eraill." Etr, er pan y gwnaed y eytandeb rhwng y gweithwyr a'i ar- glwyddiaetb, gwrthodwyd gwaith i Mr Peter Roberts, un o'r 71 dynion a drowyd o'u gwaith ar ol yr Wyl Lafur, mewn canlyniad i'r hyn y cymerodd y streic le. Hefyd cafodd Mr W R Evans. cadeirydd y Pwyllgor Gweitbiol, ei droi 0 i waith. Yn cl bysbysiad a roddwyd i Ar- glwydd Penrhyn yr adeg y trowyd Mr Evans o'i waith, ymddengys iddo ofyn i Mr David Prit- .chard, y goruchwyliwr, am bedwar diwrnod o wyliau. Ni chaniatai iddo ond dan ddiwrnod, gan ddweyd wrtbo nas gallasai roddi ychwaneg =1 i un oedd wedi gwneud ei oreu yn ei erbyn ef trwy weithredu fel cadeirydd y pwyllgor oedd wedi haeru wrth Arglwydd Penrhyn ei fod ef, Mr Pritchard, yn dyfetha y chwarel. Atebodd Evans iddo weithio haner can' mlynedd yn y chwarel, ac iddo bob amser gyflawni ei ddyled- swydd yn ol ei allu. Dywedodd Mr Evans wrth rywrai wedi hyny fod yn ymddangos fod Mr Pritchard am ddial arnynt. Daeth hyny i glyw Mr Pritchard, a hawliodd ymddiheuriad ysgrif- enedig oddiwrth Mr Evans, end ni welai yntau achos iddo wneud byny, gyda'r canlyniad iddo gael ei droi o'i waith, gyda'r awgrymiad mai • oddiwrth Mr Young, yr arolygydd, y daethai y gorchymyn. Aeth Mr Evans at hwnw, ond atebwyd ef fod ganddo hawl i droi unrhyw ddyn i ffwrdd heb roddi ei resymau dros hyny. Yn ol telerau y cytundeb, y mae hawl gan unrbyw chwarelwr i apelio at Arglwydd Penrhyn mewn achos o gwyn. Gwnaeth Evans felly y tro hwn, a derbyniodd atebiad trwy Mr Young nas gellid cyfnewid yr hyn a wnaed gan Mr Young, Ys- grifenodd lythyr drachefn i Gastell Penrhyn, ond ni dderbyniodd unrhyw atebiad. Os cynllun y meistriaid ydyw ymyraeth &'r dynion trwy dynu i lawr golofnau ea Hundeb, rhaid iddo yn fuan nen yn hwyr arwain i ddrwg. Un o'i effdthiau fydd peri i'r dynion mwyaf gofalns a chyfrifol wrthod cymsryd swyud, ac i'r Undeb syrthio i ddwylaw dynion a osodant nwydau a rhagfarnau yn wecfflam, y rhai y tybid oeddynt yn marw yn raddol ond sicr. Hefyd rhaid i'r arweinwyr gymeryd cwrs dirgel, yr hwn a ddwg lawer o ddrygioni gydag ef. -Gobeithiem fod yr egwyddor wedi ei chydnabod trwy holl fyd llafur, gan fod Undebau tlafur mor gyfFredin ac mor bwysig, mai annoeth ydyw ymosod ar yr arweinwyr, hyd yn nodo safbwynt meistriaid. Erbyn hyn, deallir fod Mr Pritchard, y gor- uchwyliwr yn bwriadu ymddiswyddo oherwydd anechyd, ac hefyd un Mr Parry, swyddog o dan Mr Pritchard. Anbawdd deall sut mae'r gwynt yn troi, ond tybia rhai mai arwyddion ydyntfod Argl. Penrhyn a Mr Young yn bwriadu gwneud cyfnewidiadau yn nygiad yn mlaen y chwarel, ac y bydd y berthynas rhwng y dynion a'r meistri yn fwy boddhaol yn y dyfodol. Cred rhai o'r ochr arall mai ymosodiad sydd ar gael ei wnend ar Undeb y Chwarelwyr, ac nad yw Mr Pritchard yn teimJo'i iechyd yn ddigon cryf i ddal y gwaith. Dywedir mai brawd i Mr Young gaiff ei le. Cydnabyddir fod yr Undeb yn wan, ac nad gwaith anhawdd fydd ei ddryllio ar hyn o bryd. Hwyrach fod Arglwydd Pen- rhyn wedi deall byn, ac mai dyna'r rheawm am yr holl gynhwrf. Teimia'r arweinwyr fod perygl yn bod a bu Mr D R Daniel a Mr W H Williams wrthi yn brysur yr wythnosau diweddaf yma yn ceisio sryfhau y rhengau tswy gynal cyfarfodydd gyda'r amcan o gael gan yr holl chwarelwyr i ymuno a'r undeb. Ofna'r gangen leol yn Meth- esda, o'r Undeb, gymeryd aches Mr Robert Davies yn uniongyrchol i fynu, rhag y bydd iddo eu dwyn i wrthdarawiad eto a'r meistri, a bwytbau yn anmharod i'r ymdrechfa Geilw hyn mewn modd arbenig ar fwy o gydweithred- iad a mwy teyrngar i'r Undeb heb hyny nid oes obaith y gellir byth hawlio eu hiawnderau. CYFARFOD O'R CHWARELWYR. Nos Wener cynaliwyd cyfarfod yn BetbesJa dan lywyddiaetti Mr W R Evans, Bont Uchaf, a daeth cynulliad da yn nghyd. Eglurodd y cadeirydd mai un o gyfres o gyfarfodydd ydoedd hwnw, a gynelid yn ardaloedd y chwareli, i hyrwyddo gwaith yr Undeb gobeithiai y byddai'r genbadaeth yn llwyddianus Yn eu plith, ac y penderfynent oil i ymuno a'r ,Undeb, beth bynag fyddo'r canlyniadau. Mr W H Williams, ysgrifenydd arianol yr ^ndeb, mewn anerchiad cynes, a wasgai arnynt y pwysigrwydd o ymuno a'r Undeb, ac i gario *llan ei egwyddorion. Ar ol ymladd yn galed a }Twyddianas dros yr egwyddor o ymnno mewn Qdebau Llafur, nid oedd y chwarelwyr eto wedi dysgu rhoddi i fynu eu hopiniynau personol a chael eu Uywodraethu gan lais y mwyafrif. _ymunai argrapbu ar feddyliau aelodau ieuainc y gynulleidfa y ffaith eu bod hwy yn lla wer rgweH allan nag oedd eu tadau ddeng mlynedd ar oagain yn ol. biaradodd Mr D R Daniel, trefnwr yr Undeb, yn helaeth ar y Ddeddf lawn i Weithwyr. I Cymhellai hwynt i wneud eu dyledswyddau pan y codai achos, a chymeryd mantais ar ddarpar- iadan y mesur, ac i gymeryd yr holl fater i'w hystyriaeth mwyaf difrifol. Yr oeddyut yn ddyledus yn benaf i Undebau Llafur Prydain am y mesur hwn. Cyfeiriodd yn mhellach at yr angenrheidrwydd am ymuno ag Undeb y I chwarelwyr, a pheidio boddloni ar gael eu codi i frwdfrydedd ar adegau neillduol. Ar ddiwedd y cyfarfod darllenodd y cadeir- ydd lythyr oddiwrth Mr Robert Davies, yr hwn a ddywedai nad oedd ef mwy i'w gyfrif yn mhlith chwarelwyr y Penrhyn. Yn berso-ol gwell fuasai ganddo ddiiyn ei alwedigaeth mewn rhyw ardal arall, ond yr oedd auigylchiadau neillduol ar ffordd hyny. Felly byddai raid iddo gychwyn rhyw fusnes yn yr ardal. I'r amcan hwnw, apeliai am gymhorth arianol oddiwith y chwarelwyr, yn unigol nou gyda'u gilydd. Heb hyny yr oedd ei ragolygon yn dywyll. Dywedodd y cadeirydd y credai y I buasent yn ateb yr apel, a therfynodd y cyfar fod neb unrhyw gyfeiriad at y cyfnewidiadau diweddar yo y chwarel. --0

Marwolaeth y Parch John Thomas,…

Goffadwrlaeth y diweddar Barch…

Ysgol Dr Williams Dolgellau.

[No title]

[No title]

Sefydlu y Parch T. Eli Evans.'

Coiofn Dirwestt

BETH YW CYNILDEB?

Cyffredinol

Advertising