Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Telephone, 67 Anfield. ESTABLISHED 1853. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, IJas Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuation made. G. H. EDWARDS, CO., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS. Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 9/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT- HAS large and small Houses to Let in various parts of the — city &nd suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &c. -+- JOHN WILLIAMS. -ESTATE AGENT,- LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRK DALE RD- All classes of House and Shop property carefully and econo- mically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected. Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 yeara Leasehold Lind, in lots to suit purchasers, in Garston, Kirkdale. Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the looalities.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22 LORD STREET. TELEPHONE No. 1779. HENRY JONES, ESTATE AGENT, VALUER, & PROPERTY AUCTIONEER, 117 EVE RTON ROAD, LIVERPOOL- Rents collected. Valuations made. Property Sold by Public Auction or Private Contract. O. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights l'ULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c, METAL AND HARDWARE lIfERCHANTS. Works-TAYLOR STREET, OfEce and ihow Boomr-402 & 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c. Bakers Oven Stocks, Confectioners Oven, Chaffers, Boxes. Tire Bars, &c.; all sizes pi Gate Runners,, ke. J. LLOYD JONES & CO, Accountants & Estate Agents, ö,LORD STREET, LIVERPOOL. Telephone No. 2212. Properties carefully managed. Purcha and Sales negotiated and Mortgages arranged. BUILDING SOCIETIES' OFFICES. Money lent on Security of Freehold and Leasehold Properties at moderate Rates and without Premium ELIAS & OWEN, faint Manufaoturers & Oil Merchantll Office and Works-COCKSPUR STREET. LIVERPOOL Telegrams—Car adog, Liverpool. Telephone, 5970 R. WHIT TINGTON Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experienoe 45, BYROM STREET LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymry! dewch at Gymro. W. GRIFFITHS, I ailor, 29, SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL. Pob math o'r defnyddiau goreu at wisgoedd tymhor preaenol ar law. 1899 MODEL "EDGE" CYCLE. LADY'S OR GENT.'S Dunlop Tyres, Westwood Rims, Brake and Mud.guards. Highly PUted and Enamelled. Complete. Fully guaranteed. Price, 48 cash or 17s per m8hbb. Write for particulars to- WILLIAMS & COMPANY, 37 A ED GE LANB, LIVERPOOL. I GRIFFITHS & DAVIES, 398 Scotland Road, ARE SOW DISPLAYING TflEIR SPRING &,LSUMMER GOODS. Iress Materials include a most varied assortment, and the Millinery combines all the latest styles for the coming season. Mantles, Capes, & Jackets, in all the latest novelties. Other Depart- ments,- viz. Household Drapery, Hosiery. Trimmings, Laces, Baby Linen. Underclothing, &c., &c., con- tain Excellent Stocks. We have a large Staff of Dress and Mantle Makers and Milliners on the premises, which are thoroughly experienced. Fit and Style guarranteed. Our price* will compare favourably with any house in the City TELEPHONE 2387 Griffiths & Davies, 3PB COTLAND ROAD PAPAYANNI STEAMSHIP COMP* NY LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS. aIGERIA, MALTA, and otner Mediterranean Ports, taking the following two routes alternately:- (1) MALTA, SYRIA, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece and ALGIERS, MALTA. ALEXANDRIA, CYPRUS, BEYROUT. and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No overcrowding. Superior accommodation. Lofty well- ventilated Saloons and State rooms. Stewardess carried. Safety Home comforts. Good and liberal table. Moderate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during sbips' stay at Ports- Toucists and pleasure-seekers taking atrip by this Line wil and it most enjoyable and interesting. For further patlcu- lars, apPp^pAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpool. LLINELL Y WHITE STAR. ROYAL MAIL STEAMERS, r.ERPWL I NEW YORK via QUEENSTOWH. CYMRIC Meh 23 TEUTONIC Meh 28 Teithwyr Ail Ddosbarth efo r Majestic a'r Teutooic yn utug. Pr; s cludiad yw L7 10s ac uchod yn ol y Tymhor a'r lie i deifch- wyr. Y mate y Llongau rhagot ol hyn i gy d or dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynliun Trefniadau, ac yn ofligyffelyb msfsn mcrdeithiatt. Nt chelr gwell cyfiensdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner a R Owen, bhip and In- surance Broker, a W J Williams, Heol y Farchnad, Caernarfon; neu a H J Williams, 6 Douglas Terrace, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, Dol- wyddelen; David Rowlands, Penygraig; W D Jones, Old Bank, Caergybi; Edward Evans, 2 Pen- rallt Terrace, Llangefni; R G Roberts, Rock Cottage, Creigiaa Mawr, Talysarn Hugh Hoghea, 8 Market Street, Amlwch W 0 Williams, Globe Shoe Ware- house, Llanrwst; Matthew Goldie, 217 High Street, Bangor R C Evans, Caxton House, Dolgelly nei, ag ISMAY bIRIE & Co., Lerpwl, a 34 Leadenhatl Street, Llnndain, E.C. "CARTREF ODDI CARTREF." GWALIA HOTEL, 8 & 9, Upper Woburn Place, LONDON, W.C. SAIF mewn man oano'og ac iachus nid yw ond gwaith 5 munyd o gerdded o orsafoedd Euston, King's Cross, a'r Midland, ac 20 munyd o Paddington (G.W.R.). Erys" Y Gwalia" o hyd yn lletty cysurua, teilwng o'r arwyddair H Cartref oddi Cartref." Telerau rhesymol. Parha i fod dan yr ua arolyg:aeth a GWALIA LLANDRINDOD. Am bob hyabysrwydd chwanegol, anfoner at Mr. EDWARD JENKINS, GWALIA HOTEL, Upper Woburn Place, LONDON. Telegraphic Address, Gwynfa London." IIIENSON -FV,&NS' GASTROCYNE Ydyw yr unig Feddyginiaeth effeithiol at glirio y DIFFYG TREULIAD POEN AR OL BWYTA PENYSGAFNDER DWFR POETH CURIAD Y GALON GWYNT, &c., &c. Miloedd o Dystiolaethau o bob rhan o Brydain Fawr. r w gael mewn potelau, Is. lic. a 2s. Oc yr un. Gwerthir hwynt yn Liverpoo gan Mr. Richard Simon, CHEMIST, 57, BROWNLOW HILL, & tMUCDDnni 154, HIGH PARK STREET, UVtHrUU L- JOSEPH OLIVER, TAILOR & HABIT MAKER 128, UPPER HILL STREET, Princes Road, LIVERPOOL. Large Stock. Latest Designs, and Beat Mater a
CHWEDLAU ELIAN.
CHWEDLAU ELIAN. I.—CHWEDL MAI A MEDI (Purhad). "WEL, y mae brad, a hwuw yn frad mawr hefyd." Yr oedd yr hen foneddwr yn methu gwybod beth oedd ganddi mewn golwg meddyliai weithiau mai rhywbeth yn nghylch y Ffrancod, oedd newydd dreio glanio yn Abergwaen y pryd hwnw, neu y gallasai fod ganddi rywbeth yn nghylch y vestry oedd i fod yn y plwyf yr wythnos hono, lie yr oedd rhyw achos pwysig i ddyfod gerbron. Tra yr oedd yr hen wr yn pensynu gan gydgerdded a hi yn araf. Brad," meddai o'r diwedd, 'pa frad ydych yn ei feddwl ? Wei, brad yn eirh ty etch liuii!" "Brad yn fy nhy i?—brad am beth? brad gan bwy ? Nag oes, nag oes, yn enw dyn, ddim peth felly acw camgymeryd yr ydych. Pa frad a all fod, gan bwy, ac i bwy ?—camgymeryd yr ydych yn siwr." .Nage, y mae brad, a hwnw yn frad mawr. Chwi synweh, mi wn, pan ddeudaf mi welais y'ch wyllus da lawer gwaith ond dyma ydi y brad-bi-(td gan (/wraiy yn eich arbyn r/nvi ydyw Tybed? Digon gwir; ac y mae yn ofnadwy o beth i feddwl am beth fel yna. Mi faswn i a pliawb arall yn meddwl yn siwr y dylasai hogen fel yua, wedi cael lie mor dda, fod yn falch ohono, a bod yn bur barchus ohonoch chi, syr, beth bynag. Mi glywais lawer o gwyno i chwi lawer gwaith, a llawer o son, ond choeliais i ddim tan heddyw." Coelio beth? beth ydych yn ei feddwl ? Wel, a deyd i chwi ar unwaith, ydych chi yn nabod y teiliwr, syr? "Ydw, ydw, siwr, beth sydd am hwnw? Ond ie, syr, ydych chwi yn cofio fod rhyw son fod Mrs ac yntau yn caru a'u gilydd cyn i chwi, syr, feddwl gwneud y drugaredd a wnaethoch fi hi?" "Nag ydw i yn cofio dim am beth felly." Ond yr oedd son, ac yr oedd y son yn ddigon gwir; ac y mae nhw yn cyfeillachu o hyd hefyd, syr a mwy nahyny, y mae y ddau wedi cyd-bender- fynu gwneud rhywbeth i chwi i'ch symud oddiar y ffordd." J Beth, tvbed, ydyw hyny ? Wel, y mae eich gwraig yn penderfynu y'ch rhoi chi yn Ffynon Elian." r/'Fy rhoi i yn Ffynon Elian! I beth? I fy lladdi?" Nage, tydi hi ddim yn leicio'ch lladd chwi o achos bod yr eiddo,'ddyliwn, yn myn'd i'ch teulu chwi wedi i chwi farw, ac y cai hi felly ei liamddi- fadu o'i chartre, onide hyny fuasai'ch r'hanyn ol pob golwg. Ond am eich rhoi chwi yn Ffynon Elian i'ch gneud yn ddall; dyna y mae hi am neud, ac y mae hi yn sicr o neyd hefyd os y medr hi; y mae hi am fyn'd yno i dreio beth bynag." 0, felly wir, pa fodd y mae hi am fyn'd, tybed?" Wel, mi ddeyda i chi; y mae hi am gwyno fod rhyw ddrwg yn ei chlun, fel y soniais yn nghlyw y Ilanciau, ac y mae am dreio myn'd i Ffynon Tre- ffynon i wella, cogio, ond i Ffynon Elian yr aiff hi, ac os y llvyydda, bydd diwedd arnochar unwaith, fel yr ydw i yn deyd." Wei wir, stori ryfedd ydi'ch stori chi, ond choelia i mo hyny am fy ngwraig." Gwr call oedd yr hen wr, feddylhvn, beth bynag oedd yn ei feddwl; ond peth hwyrfrydig iawn i goelio drwg ydyw cariad y mae cariad yn credu pob dim a fo da, ac yn gobeithio nad gwir pob dim a fo drwg ond ymddengys fod hyn wedi glynu tipyn yn ix^ejldwl yr hen wr, nes iddo benderfynu cadw llygaid i edrych ar y symudiadau i weled a oedd y pethau hyn felly. Aeth y wraig yn ei blaen rhyngddi a'i chartref, wedi ei siomi dipyn yn ymddygiad yr hen wr, gan ei bod yn disgwyl cael rhywbeth ganddo, ac aeth yr hen wr rbyngddo a'r ty tan bensynu. Ond wedi cyrhaedd yno, ymddangosodd mor siriol ag erioed, fel pe na buasai yn amheu dim drwg nac yn ofni unrhyw brofedigaeth. Yr oedd y pryd hyn tua phedwar o'r gloch y te ar y bwrdd yn disgwyl am dano, a phob peth yn edrych yn hynod gysurus. Aeth pobpeth yn mlaen fel arferol; nid oedd dim tebyg i ystorm ar un cwr o'r awyrgylch; yr oedd yr haul a'r lleuad yn edrych ar eu gilydd yn ddigwmwl, a phawb yn siriol o dan eu llevvyrch. Tua naw o'r gloch, yr oedd yr hen wr a'r wraig ieuanc yn y par- lwr bach cefn fel arfer yn bwyta eu swper gvda'u gilydd, ac wedi iddynt gael tipyn o'r hen ddyfervn, ac i'r hen wr gael ei fygyn, a chloi y drysau, cych- wynwyd am y gwely; ond wrth fyned i fynu'r gris- iau, yr oedd y wraig yn hobian cryn dipyn, ac yn edrych wrth ddringo fel pe buasai rhyw gloffni ami. Bet," meddai yr hen wr, beth ydi'r mater ? beth ydi'r cloffni yna sydd arnoch chwi, a oes rhyw gorn ar eich troed neu rywbeth ?" "Na," meddai hithau, "nid corn arfy nhroed sydd mi fasa'n bur dda gen i tasa dim mwy na i hyny." Wel, beth ydi'r mater ? Y mae rhywbeth yn fy nghlun i, ac mae arna i fwy o boen na wyr neb oes, oes, a tasallawer fel fi, fasa nhw ddim yn codi o'u gwely yr wythnos yma." Oes yna ryw nafyd neu rywbeth-oes yna ryw- beth i wel'd ?" "Nag oes, dim: ond rhyw boen marw ydi o, ac mi rydw i'n dyodde llawer, ond mod i ddim yn leicio cwyno i neud poen i chwi." Diar mi, Bet, beth ydach chi'n dyodde felly heb son; pam na basach chi'n ceisio'r doctor ? "Doctor, yn wir; 'does yr un ohonyn nhw neiff ddim lies i mi, mi wn. Ffynon Treffynon ydw i'n feddwl ydi y lie goreu i beth fel hyn yr ydw i wedi clywed lawer gwaith am rai yn mendio yn hono, ac yr ydw i yn meddwl wir y mendiwn ina yno, ond 'toes dim modd i mi gael myn'd yno. Taswn i fel yr oeddwn, mi gawswn fyn'd i'r lie a fynwn heb ofyn cenad neb-mi fydda'n dda gen i tawn i vn cael myn'd yno i dreio, beth bynag." Wel, Bet bach, ond ellwch chwi fyn'd—myn'd fory newch chi, a chymeryd Derby o danoch. Dydi o ddim dyben i chi ddiodde fel hyn os oes modd i chi gael mendio, a hyny mor agos." Wel, y mae'n gas gen i'ch gadael chi'ch hun yn y fan yma-mae hvny'n Ilawer o boen ar fy ffordd i." "0, peidiwch a meddwl dim am hyny, Bet, mi wna i y tro yn eitha; deydwch y'ch meddwl; ni hwyliwn Derby i chwi bore foru, os bydd hi'n dywydd, gael i chwi gael myn'd." Ychydig a gysgodd yr hen wr boneddig y noson hono, er ei fod yn treio cadw hyny yn gwbl iddo ei hun. Yr oedd ganddo yntau ffydd yn ngallu Ffynon Elian, ac yr oedd ei drallod yn fawr iawn yr oedd yn credu y gallai y ffynon wneud y peth a fynai i ddyn ac anifail, ac y gwneid ond cael digon o arian. Llawer teimlad a aeth trwy ei feddwl y noson hono. Yr oedd y pryd hwn tua chanol yr haf a'r wawr yn tori yn lied foreu, ac yr oedd yn bur dda gan yr hen wr feddwl hyny. Tua phedwar, cod odd yr hen I wr, edrychodd trwy y ffenestr, a gwelodd ei bod yn 1 braf iawn. Bet, sut Jr ydach chi heddyw? y mae hi yrt dywydd biaf iawu yr ydw i yn meddwl y galwa i y inorwynion gael i chwi hwylio'ch hun i Dreffynon. Fe allai pe baech yn aros tan ryw dro eto mai myn'd yn waeth wnai'ch clun, ac mai gwaeth fydd y tyw- ydd. Gwell i chwi fyn'd heddyw, yr wyf yn meddwl." Wei, wir, da iawn gen i gael myn'd, ac yr ydw i yn gobeithio y gwella i, er fod yn bur ga3 gen i gychvvyn. Mi goda i yu union. Deudwch wrth y merched am hwylio godro, mi goda ina erbyn y byddan nhw wedi darfod, gael i mi gychwyn gan fod yn rhaid myn'd." Aeth yr hen wr a chododd y merched a'r llanciau hefyd. Aeth y merched i odro, ac aeth Owen y gwas i geisio yr hen gaseg, ac wrth iddo fyn'd gwaeddodd yr hen wr ar ei ol, O wen, tyr'd a Jack at y ty hefyd." "O'r gore, syr." Tua phump o'r gloch, dyma hithau i lawr, gau gwyno cryn dipyn, ac yn gloffach hefyd o lawer na'l" noson o'r blaen. Hwyliodd ei hun, ac erbyn tua chvvech yr oedd pobpeth yn barod. Yr oedd vr hen gaseg wrth y drws yn disgwyl. Tra Yi- oedd hi yn gorchymyn i'r merched pa fodd i fyned yn mlaen yn ei habsenoldeb, yr oedd Mr wedi myned i'rheu ddesg i geisio ychydig o arian. Pan ddaeth yn 01, dywedodd: Bet, ydi pobpeth yn barod-oes geii- ych rywbeth ar ol—faint o arian sydd genych chwi? Gofalwch am ddigon, beth bynag gwen ydi gormod na bychan wedi myu'd i le felly. Hwyrach y bydd raid i cliwi aros yno yn hwy na'ch meddwl—cymwch y tri gini yma gen i at y peth sydd genych." Y mae liynyna yn wir; ond 'rosa i ddim yno yn hir er i mi orfod myn'd yno eto, rhag ofu bydd yma rywbeth oile. Da chwi, ferched, eoliweh edrych ar ol y gwartheg a'r lloiau, a gofalwch am y'ch Mis- tar beth bynag. Wel, Mistar, dyma fi yn myn'd peidiwch a bod yn ddigalon mi ddo i yn ol yu bur fuan, ac ,rwyn credu wedi mendio hefyd." Ymaith yr aeth Yn mhen tipyn yr oedd brec- wast ar y bwrdd gan y merched, a'r grogan yn canu. Daeth y dynion i'r ty, a phob peth fel arferol, neb yn amheu nac yn deall dim, ond yr hen wr bonedd- ig ei hun. Wedi i'r dynion orphen eu boreufwyd, aeth yr heu wr allan ar ol Owen Jones yr Hwsmon. "Owen" meddai, y mae yn rhaid i mi fyn'd oddicartref heddyw: hwyrach y byddai yn well peidio cario y gwair nes y dOf yn fy ol feallaiy dof gartre yfoty. Hwylia y llanciau i ddechreu lladd y AN'-auti, a Shoil I)af N.dd i barotoi stol y dâs Dyro gyfrwy ar gefn Jack, a thyr'd a fo at y drws yn mhen tua haner awr. Yn mhen haner awr, yr oedd yr anifail wrth y drws, a'r gwr ar ei gefn ac yn cychvvyn. Hen gaseg lonydd, led araf, oedd gan y wraig, ond yr oedd Jack, oedd o dau yr hen wr, yn un o'r anif- eiliaid goreu yn y wlad, a meddwl yr hen wr oedd, os oedd modd, cyrhaedd Ffynon Elian o tiaell v wraig, a'i rhwystro, os gallai, i gael ei bwriad i bell, Yr oedd hi am gymeryd y ffordd rwyddaf, am ei bod yn ddyeithr, trwy Fangor, a thros y Sychnant, a thrwy Gonwy, Ond aeth yr hen wr trwy Llan- ddeiniolen, Llarilleellid, Aber, Bwlchyddeufaen, a Thalycafn; a chyrhaeddodd yno o flaen y wraig. Mawr oedd ei lawenydd pan welodd mai efe oedd y C) ntaf yno. Cymerodd ei anadl ato wedi cyrhaedd yno feLhyn, a theimlai ei feddwl am dipyn yn lied dawel. Mrs H- gwraig pur barchus, yn byw mewnlle mawr oedd Offeiriadyddes y Ffynon y pryd hwn, fel y crybwyllwyd o'r blaen. Cafodd yr hen wr dder- byniad boneddigaidd ganddi, oblegyd yr oedd ei olwg foneddigaiddyn hawlio parch; a cliymerodd ef i eistedd gyda hi yn mharlvvr mawr y ffrynt. Wedi bod yno dipyn, er mor gas oedd ganddo, dechreuodd ddweyd ei hanes a'r neges ryfedd oedd ganddo yno. "Ond," meddai, beth bynag a wuewch, ma'm, peidiwch a gwrando ami, a dwyn fy ngolwg! Gell- wch gymeryd arian ganddi, a rhof iinau arian i chwi hefyd, os gwna hyny y tro; gwell genyf dalu am gael fy ngolwg na thalu am ei golli. Y mae hi yn ddynes pur ddoniol a detigar, ond er mWJn pobpeth peidiwch a gwrando ami a dwyn fy ngolwg." "Peidiweh a chrynu, yr hen wr, a plieidiwch a chrio raid i chwi ddim gofalu y gwna i ddim niwed i chwi—gellwch fod yn berffaith dawel." Pan oedd yr hen wr yn nghanol ei gyffro, beth a welai trwy y ffenestr yn dyfod at y ty, ond ei wraig, a Derby ar dith odditani. Yn y cyffro mwyaf, gwaeddodd, Diar anwyl, ma'm, dyma hi yn dyfod! beth wnaf ? Os aiff y ddau anifail at eu gilydd, bydd Jack yn sicr o weryru a bydd hithau yn siwr o wybod fy mod ina yma." "Peidiwch a chynhyrfu dim," meddai hithau. Canodd y gloch, a daeth y forwyn i mewn. Ewch," meddai, i gyfarfod y wraig acw sydd yn dyfod ar hyd y ffordd yma, a pherwch i'r llancia gymeryd ei cheffyl i ystabl y ceffylau gwedd, a pherwch iddi hithau ddyfod at y ty i ddrws y ffrynt. "Ond, bobl anwyl, i b'le yr a i ? meddai yr heu wr, bydd yn siwr o ddod o hyd i mi. Mi fase yn well gen i golli ngolwg na gwneud cynhwrf yn eich ty chwi, ma'm. A gaf fi fyn'd i un o'r llofftydd neu rywle? "Na," meddai hithau, "arhoswch." Agorodd drws rhyw gwpbwrdd mawr oedd ganddi yn mhared y lie, aeth yr hen wr yno, a chauwyd arno. Erbyn hyn. yr oedd y wraig wrth y drws yn cnocio. Aeth yr Offeiriadyddes i'r drws; dyna gyrtsi iddi hyd lawr, a gofyn iddi ai hi oedd yn edrych ar ol Ffynon Elian? "Ie, beth sydd? Dowch yn mlaen y ffordd yma." Ymaflodd mewn cadair, a rhoes hi ar y cwpbwrdd yr oedd yr hen wr ynddo. Eisteddwch i lawr yn y fan yma." Tanci, ma'm." Wel, beth sydd eisiau? Dydw i ddimyn clywed yn bur dda, rhaid i chwi siarad yn o uchel." "Ai chwi, ma'm, sydd yn edrych ar ol Ffynon Elian ? Bydda, weithia beth sydd? "Vel, clywed ddaru mi y'ch bod chi yn edrach ar ol y Ffynon, ac y medrwch chwi- Ie, mi wn beth yr ydychyn ei feddwl." "0, gwyddoch, ma'm, gwyddoch fy neges; gwyddoch bob peth; mi glywais i hyuy lawer gwaith." Wel, hwyrach y gwn i. 0 tua Caernarfou yr ydych yn dyfod ? "Ie, ma'm." "Ddarfu i chwi briodi rhyw hen wr bonheddig ? "Do, ma'm." Oeddych chwi yn caru rhyw deiliwr cyn i chwi ei briodi o? "Oeddwn, ma'm." Yr ydych yn earn hwnw eto, onid ydych? "Wei yn wir, ydw; wyddoch chwi y cwbl." "Yr ydych yn cyfeillachu cryn dipyn gyda'ch gilydd, onid ydych? "Wei ydan wir, ma'm, waeth heb wadu wrthoch chi."