Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

GWRO v BYD.

Dafydd ap Gwilym a'r Haf,

Trefn j r Addoliad Cyhoeddus-

Dewi Arfon.

Llanelwy.

It ithydd Mwr.

Emrys ap Iwan.

Priodas Gwyn ap Iwan.

Mabon yti Rhasllanerchrugog.

Cynadledd Athrawon Goglecfd…

News
Cite
Share

Cynadledd Athrawon Goglecfd Cymru. YN Ngwrecsam, ddydd Sadwrn, cynaliodd Canghen Gogledd Cymru o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon eu cyfarfod blynyddol, Mr T Hurrell Criccieth, y llywydd, yny gadair. Treuliwyd y boreu mewn cynadledd, pryd y dar- llenwyd yr adroddiad gan yr ysgrifenydd, Mr W Tegarty, Bangor, yn daugos rhif yr aelodau yn 405, ar gyfer 477 y flwyddyn flaenorol. Bu ymdrafodaeth ar yr adroddiad ac ar amryw fan faterion, a chwyn- wyd nad oeddynt yn cael eu cynrychioli yn Llys Llywodraethwyr Coleg Deheudir Cymru. Ar derfyn y gynadledd, croesawyd hwy ar ran y dref gau y Maer, y Cierc Trefol, a'r Cynghorwr E Hughes, a chyda hwy yr oedd Mr W J Russell, prifathraw yr Ysgol Ganolradd. Yn y prydnawn, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth Syr R E Egerton, cadeirydd Bwrdd Ysgol Gwrecsam. Yn ei anerchiad, dadleuai y cad- eirydd na ddylid cyflogi dim oud athrawon cymhwys yn yr ysgolion elfenol, a gwneud i ffwrdd a threfn y dysgybl-athrawon. Ar gynygiad Mr Allen Croft, yn cael ei eilio gan Mr TiLby, pasiwyd penderfyniad fod y cyfarfod o'r farn fod yr amser wedi dyfod pryd y dylai y byrddau a llywodraethwyr ysgolion weithreduar yr egwyddor o gynydd blynyddol yn y cyflogau. "to. Cynygiodd Mr Tegarty, eiliwyd gan Mr R Ltoyd, 11 a mabwysiadwyd, benderfyni id o olid am i'r L! v w- odraeth dynu allan o'r Code Aidysg ertiiyglau oedd- ynt yn darparu na ellid cadw dysgybl-athraw mewn I ysgol oni fyddai yno o leiat ddau athraw cyflawn, Wedi hyny, caed anerchiadgan Mr E G-ray, A.S., ac yn nghwrs ei araith beirniadodd sefyllfaaddysg yn I Nghymru yn bur lym. Beiai Gymru oherwydd ab- senoldeb cynifer o'r ysgolion elfenol. Yn Mharis,, ceid 03 y cauto'r bechgyn a 92 y cant o'r genethod yn bresenol ar hyd y flwyddyn. Cyfartaledd y presen- oldeb yn Ysgotland ydyw 84 y cant Lloegr, 82 Cymru, 7G sir Ddiubych, 72, a phi wyf Rhiwabou, 69. Cymharai Gymru felly yn auffafriol iawn a rhanau eraill y deyruas, ac yr oedd yn bryd iddi I ddeffro i sylweddoli hyn a myau diwygiad. Wrth gwrs, yr un rhai oedd yn absenol broil bob amser, a'r mwyafrif yn mynychu yr ysgol yn gyson. Dywedai nad oedd yr awdurdodau lleol yn gwneud eu dvled- swydd yn y cyfeiriad hwn. Ni wnant ddefuydd o'r gallu sydd yn eu dwylaw, naill ai rhag ofn tram- a 11 gwyddo cyfeillion personol neu rhag ofn colli en sedd yn yr etholiad canlynol. Yr oedd gwedd res- ynus ar bethau. Carai ef weled y gailu i orfodi plant i roddi eu presenoldeb yn yr ysgolion yn cael ei gymeryd o law yr awdurdodau lleol a'i osod yn uniongyrcliol yn llaw yr awdurdodau yn Whitehall. Y mae gwir angen am dynhau rhwymau'r gyfraith gvda hyn o beth. a gorfodi pob plentyn ifynychu yr ysgol yn gyson. Os y ceir gwell presenoldeb ceir i'w evnorthvvyo i gael gwell athrawon. Gorfodir plentyn" i fyn'd i'r ysgol hyd nes y byddo vn 14eg oed. Ond y munvd y gwelid y giir pedwar- ar-ddeo- ar v Llyfr Ystatud, dacw lu o eithriadau" yn dilyn, a"cheir llawer o blaut yn gadael yr ysgol vn lie- oed. Y mae miloedd o blaut dan 13ecr oed yn gadael yr ysgol bob blwyddyu ac y mae yn hen bryd i'r Llywodraeth ddeddfu ar gyfer hyn. Galwodd sylw yn mliellach at y dull diofal yr oedd Cvmru'yn dewis athrawon ar ei hysgolion. Byddai"i blant a ddysgir gau athrawon anghymwys ddioddef oddiwrth hyny ar hyd eu hoes. Yn yr Almaen a Switzerland ni cheid athraw mewn ysgol heb feddn tystysgrif. Y mae Lloegr yn mhell ar 01 hyn, a Chymru yn waeth fyth. Allan o bob cant o a athrawon yn ysgolion elfenol Cymru, y mae un rhan o dair N-it athrawon heb dystysgrifau, un rhan o dair yn rhai me-,vii oed ond annghymwys, a'r drydedd ran arall vn blant." Brolia Cymru ei bod yn codi adeilad t hardd o addysg gauolraddol ac athrofaol, a hyny ar sylfaen bwdr fel hon. Yn ol fel y dealla ef, y mae'r ysgolion canolraddol yn mhell o gyrhaeddyd dyheadau y Cymry. Gwari-.vyd gormod ar bridd- feini a mortar. Yr oedd gwla-igarwch»yn myn'd yn bentrefgarweh. Rhaid oedd cael Ysgol Gauolraddol yn mhob llan a phentref. Yna rhaid oedd cael plant i'w Ileawi-a llusgwyd hwy yn anaddfed o'r ysgolion elfetiot. Liaciiiwyd llawer o arian i C!1 ffwrdd ar ysgoloriaethau, i beth ? I wthio plant deg oed iddynt. Ddaw addysg ganolraddol byth yn ei blaen fel hyn. Rhaid cael rhieni i weled gwerth addysg elfenol. Os na byddis ofalus fe ladd cyfun- drefn addysg Cymru ei hun, ac ynIle bod yn esiampl i Loegr bydd yn destyn gwawd iddi. Cyn byth y llwyddir i wneud y gvfundrefn yn Ilwyddiant, ac o unrhyw werth, rhaid ail osod y sylfaen, a gofalu fod yr ysgolion elfenol yn gyfryw ag a fyddant yn cyf- ranu yr addysg oreu ac iachaf i'r plant, a hyny yn y modd goreu. Heb hyny, gwaeth nag ofer, y gwerir ar'an ar yr Ysgolion Canoiradd. Mr L J Roberts, wrth gynyg dioich-arweh i'r cadeirydd a'r siaradwyr, a ddywedai fod yn dda ganddo glywed sylwadau Mr Gray, gan obeithio y byddai iddynt ddwyn ffrwyth. Ni chyd-olygai a'i sylwadau ar yr Ysgolion Canoiradd. Gwir fod llawer o blant anaddfed yn myned iddynt, ond gwyddent hwy o'r ochr arall am blant o Ysgol Can- oiradd Wrecsam a wnaethant enw iddynt eu hunain, ac y mae ereill yn dilyn yn yr un cyfeiriad. Credai fod dyfodol gwych i addysg Cymru. Eiliwyd gan Mr W J Russell. Carai wneyd syl- wadau ond nid oedd amser yr adeg hono i feirniad u sylwadau Mr Gray. Ar ol pasio pleidlais o ddiolchgarwch; terfynwyd y cyfarfod. -0-

Marwolaeth Maer Dinbych.

Cymanfa Ysgolion M.G. Gwrecsam…

Daui Ta (fin a Xewydd).

--;0:--Myfyrwyr y Bala.

O'r America i Paris mawn 30ain…