Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
GWRO v BYD.
GWRO v BYD. Yr Haf -gDl Mai 6er siomedig, dyma ni eisoes yn nghanol ei oiynydd Mehefi.mis y blodeu, fel y dywedai Dafydd ap GWllym :— Yn wir, nos Wener nesaf Yw nos Wener haner haf. Haner haf eisoes-y cynhauaf gwair ar ein aefnau, a'r gdg wedi tewi, canys mi a welaia wair yn ei gociau ddjdd LIun ar Forfa Caer, a'r meusydd gweuith yn gwisgo eu rybanau. Y mae'r ddol yn frith o flodau, a'r berllan yn eu colli i roi lie i ffrwyth. Fendigaid Haf ac fel y dywed y "O na byddai'n haf o hyd." •' Pwy na chwardd pan fo hardd Haf ?" Llawer tro y clywais Ifan Thomas, an o'r hen Buritan- iaid nobl hyny syd 1 bron, bron, diflanu o'r tir, yn rhoi'r pemll bwnw allan i'w ganu :— Yr ochr draw i angau a'r bedd Mae meusydd gwynion hardd eu gwedd Mae hi yno yn dragwyddol haf— Ni wywa byth mo'i blodeu braf. Ond bob amser yn yr Haf, pin fyddai can ryr yr adar eddiallan, a pberarogl y blodeu yn dyfod 1'r addoldy, trwy y ffenestri agored, gan gyrays- gu §b r mawi.
Dafydd ap Gwilym a'r Haf,
Dafydd ap Gwilym a'r Haf, YN ei gywydd i.1 Yru'r ELaf i Anerch Morgan- 0 wg," dywed prif fardd mawr y bedwaredd gan- rif ar ddeg beth a wnai af &'r Hif. Fe ddodai ei holl geinion a'i brydferthwch yn golofn o jinwyldeb ar fedd ei noddwr Ifor Hael:— Ac yn nghyfnod dy flodau, A'r miail frig tewddail tau, Casglaf y rhos o'r closydd. Gwull dolau a gemau gwýdd Hoyw feillion-dillynion llawr, A glwysbert fflur y glasbawr: I'w rhoi'n gôf-aur-enwog ior, Ufydd wyf, ar Fedd IvoR. sSoa am gofgo'ofnau wir Dyma i chwi golofn o waith ffansi bardd, sydd weji sefyll am bum can mlynedd, a pha gybyd eto nid os un a'i gwyr.
Trefn j r Addoliad Cyhoeddus-
Trefn j r Addoliad Cyhoeddus- MAE cryn dwrw y dyddiau hyn, yn rhai o'r pap- ,yrau Saisnig p'run fwyaf gweldus a'i ''gweddi olyfr"neu "o'r gilon," mewn addoliad Cf- hoeddis. Hen dd-all sydd yn codi beunydd pan fyddo hi'n ffl t ar grefydd. CLwareu t g i bleidwyr y waddi o )yfr," deg i un y clywsaut trioed rai o hen wedi i vyr Cymru ar eu gliniau, pan fyddai'r gwersyll yn fyw o drydan, ac y tystiai gwrandawyr ctlyd y byddain well gau- ddynt wrando ar ambell hen Gristion ffyddiog yn gweddio, ua chlywed John Elias yn pre- gethu. Peth truenus o fflit a diafael ydyw gweddi wneud o lyfr neu galon ond os rhaid ei chael waeth ei chael o waith dyn miwr nag o waith dyn llai. Mi fu'm yn synu ganwaitb, gan fod Ymneill- dll wyr yn canu emynau 0 waith dynion da, na fuasent yn canu'n fynych, fynych, y Te Deum, y fawl-gan haner ysprydoledig hono sydd yn pereiddio cymaint ar wisinasth yr Eglwys Sefydledig. Pain y rhaid i Eglwyswyr gael yr holl hyfrydwch oddiwrthi ? Pabydd, fel awdwr yr emyn Oleuni mwyn," a'i cyfausoddodd, a defnyddir hono mewn ugeiniau o gynulleidfa- oedd Cymreig, tra nad yw ond megys man us wrth y gweuith o'i chydmaru a'r Ti, Dduw a folwn/' Onid gweddus iawn hefyd fyddai dech- reu ami i oedfa trwy i'r gynulleidfa gydganu yr aralleiiiad prydferth hwnw o'r Litani, gyda'r byrdwn, H 0 Ddnw na wrthod fi," gwaith Ieuan Gian Geirionydd ? Mae genym ddigonedd o donau cymbwys iawn i'r gairiau, yn arbenig Abergele Ambrose Lloyd, er peri amrywiaeth yn y cann.
Dewi Arfon.
Dewi Arfon. UN o anwyliaid y ddaear oedd Dewi. Adwaen- wn ef yn dda, pan yn feistr yr Ysgol Frytanaidd yn Llanrwst, ac wed'yn pan yn athraw Ysgol Meib y Prophwydi Methodililtaidd ya Nghlynog. Tra yn dal y swydd olaf, goddiweddwyd ef gan y darfodedigaetb, a syrthiodd i'r bedd yn awr anterth ei gyneddfau disglaer. Dyn difrifddwys ydoedd ond fel y digwydd yn fynych, rhy- feddol o ysmala. Ni chwrddais erioed un allai fwynhau, cystal a dweyd, banesyn neu sylw .digrif, a'r f anyd nesaf allal eich sobreiddio ac enyn eich edmygeddgydadrychfeddwltarawiadol a mawreddog. Dyma engraipht ohono'n ddifrif- 01. Yn ei awdl ar Y Pentecost," yr hon a safai yn ail ar y gadair yn Eisteddfod Dinbych 1860, ceir y syniad hwn Ofn penaf y diafol-am ei ddeiliad Yw ofn dyferiad un dafn edifeiriol. A'r wythnos ddiweddaf yn Ffestiniog, clywais un o'i hen gyfeillion yn adrodd yr hanesyn ndynol am dano, syn dangos fel y gallai fwyn- hau y digrifol, Yr osddrhyw froliwr digydwybod a adwaenai yn arfer son llawer wrtho am y gwledydd y bu yn teithio ynddynt—Awstralia, New Zealand, India, Califforriia,&c.; a phan ar ganol ei druth un tro, gofynodd Dewi yn sydyn iddo, Deudwch, Moses Thomas (neu both bynag oedd ei enw), fuo chi rioed trwy Euclid ?" Naddo wir," ebe'r gwyneb galed, fum i rioed ddim pellach na Llanystumdwy ffordd hono." Adgyfododd yr hanesyn y dyn mwyn, caredig, Dewi Arfon, o flaen fy meddwl, fel y gwelais ef ddiweddaf yn Nghlynog fwy na 34iin mlynedd yn ol.
Llanelwy.
Llanelwy. UN o'r manau harddaf ynNgogleid Cymru ydyw hwn. Saif ar gefnen sydd yn cadw Clwyd ac Elwy rhag ymuno â'u gilydd rhyw ddwy filldir yn uwch i fynu. Lie bychan iawn ydyw i gael ei alw'n ddinas; ond nid yw mor eglwysaidd ag ,;7 buaaai dyn yn tybied. Mae gaa Ymneillda- wyr amryw addoldai yn y Llan, ac yn yrayl y Brifeglwys y mae'r eglwys gryfaf sydd gan y Pabyddion yn y dyffryn. Oud efallai hefyd mai damwain a digwyddiad ydyw y ffaith olaf.
It ithydd Mwr.
It ithydd Mwr. Y MAB bedi Richard R Jones (Die Aberclaron) yn mynwent yr Eglwys Is if, Llanelwy, a chareg fawr drwchus wadi ei dodi arno fe! pe buasli rhyw berygl iddo godi o tan un gyffrodin. Ac ar y gareg ceir engiyn o waith Eilis Owen o Gefn- ymeusydd, ac un arallgau Talbaiarn a'r c)fnoct fod yr ymadawedig wedi mirw Rhagfyr 21, 1843, yn63oed. Dymaenglyii Ellis Owati:- Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith—gwir yd.edd, Geiriadur pob talaith; Aeth angau a'i bymthengiaith- Obry'n awr mae heb 'run iaith. MATH o ynfyttyn dysaedig oedd D:c, druan, a I' dynodd fordaitb bywyd heb lyw nac angot, gan grwydro yma ac acw, a byw yn benaf ar elusen, I ac yr oedd yn fwy o destyn tosturi nag edmyg- t edd ar lawer ystyr. Ond ni ba erioed greadur diniweittiach, er y taflai ambell dro ateb pur hengras i'w boenydwyr. Ar un o'i bererindodau o LeI pwl i Leyn yr oedd pin y ba farw yn Van- elwy. Byddai Roscoe yn Lerpwl, teulu Madryn yn Lleyn, a'r Esgob Short yn Hanelwy, rhyng- ddynt yn haner ei gadw. Esoobbaelio,usoedA Short, a galwai*" ieithydd uwch ieithwyr gydag ef am ei ged bab amser, ac wedi tipyn o ymgom rhoddai ei arglwyddiaetb s)fren i D.c, yr hwn a'i derbyniai yn ddigon diddiolch. Yn ebrwydd, elai i rhyw siop i newid y penadur am ariin gwynion, cymerai swllt ohonyut, neu ei werth, bob dydd, a phaihad y sofren gyda'r siopwr fyddai hyd ei arosiad yn y Llan. Rhyw wybodaeth ryfedd ydyw'r ua ieithydd- ol. Fel rheol, nid yw ieithwyr yn nodedig am galliueb. Yr wyf yn meddwl pa daallwn haner dwsin o ieithoedd y ceisiwn guddio'r fliith oddi- wrth y cyhoedd.
Emrys ap Iwan.
Emrys ap Iwan. AR yr un gefnen, tua thair milldir yn nghyfeir- iad Dinbych, y mae llan tlws Trefnant, yn wyn- ebu ar godiad haul. Golwg uewydd a bywiog sydd arno o'i gymharu a Llanelwy. Mae'r eg- lwys a'r addoldai eraill hefyd yn newydd. Mewn hen ffermdy tawel, tua harjer milldir o Dcefnant, y preswyliar Parch Ambrose Jones (Emrys (tp Iwan), y Oymro gwladgar, dihocad, a boneddig- aidd, a wyr fwy am gyniieddfau'r Gymraeg nag odid neb ara l sy'n fyw. Treulia fywyd defnydd iol rhwng ei fyfyrgeU a bugeilio'n rhagorol i eglwys y Methodistiiid Oalfiaaidd yn Nbrefaant. Hawdd fuasai nodi ei luaws rhagoriaethau fel dyt), a lienor, a phreethwr, ond rhaid ymatal gwn yn burion ua dda gan Mr Jones mo'i gan- mol. Nae yn wir mo'i goademaio ycu waith ar gam, canys cafudd yr ychydig anturiodd i faes ymryson llenyddol ag ef deimlo ei fod yn cadw z, arfau miniog. Nid oes yr un lienor yn y cylchoedd hyn ag iddo gynifer o ddysgyblion llenyddol, ac y maent I oil yn ei gtru ac yn ei fawrygu fel y dylent.
Priodas Gwyn ap Iwan.
Priodas Gwyn ap Iwan. UN o'r dysgyblion hyny, mbwn modd arbenig, ydyw Mr Gwyn Jones, awdwr y nofel lwyddian- us Gwedi Brad a Gofid. Brodor o Abergele ydyw Emrys ap Iwan, ac un o'r ardal hono hefyd ydyw Gwyn—mib Tyddyn Morgan. Ond tuag wyth mlynedd yn ol, gadaw >dd y fferm am swyddfa'r Faner, oddiyno daeth i swyddfa'r Oymro, dy chwelodd yn maen rbyw flwyddyn i'r Faner, ac oddiyno drachefn i swyddfa'r Herald, Caernar- fon, lie y mae'n breaenol. Dydd Iau diweddaf, cymerodd y Gwyn un o rianoi glan Dinbych yn briod ei fynwes. Yn y Capel -MAwr y cyfiawn wyd y ddefod, a'r Parch Ambrose Jones a rwymai'r cwlwm. Mwynder a phob bdndith fyddo ar yrundeb.
Mabon yti Rhasllanerchrugog.
Mabon yti Rhasllanerchrugog. Nos Sadwrn bu Mabon ym anerch glowyr Maelor yn Neuadd Gyhoeddus Rhos, adaeth tyrfayn nghyd. Ar ol eu llongyfarch ar eu buddugoliaeth yn yr Hafod, dywedodd mai trwy ddadleu a rhesymu yn deg y mae enill, a chynghorai hwynt, pryd bynag y cyfyd unrhyw achos o annghydwelediad rhyngddynt a'u meistri, am iddynt ymddwyn fel dynion ac yn deg. Mewn trefn i gyrhaedd eu hamcanion, yr oedd angen am dair gradd mewn trefniant, acyr oedd arno eisiau i fwnwyr Gogledd Cymru ddysgu'r wers. Y cam cyntaf ydoedd y cymdeithasau lleol; yr ail, y Cynghrair Cenedlaethol; a'r trydydd, y Cyngres Lafur Gydgenedlaethol yr hon oedd yn ben ar y cyfan. Rhaid i holl fwnwyr Gogledd Cymru gael en trefnu cyn y ceir fawr o les o'r undeb. Rhaid wedi hyny, gwblhau trefniadau yr holl wlad, a da ganddo ydoedd gallu dweyd fod Deheudir Cymru wedi ym- uno law yn Haw ag undeb wyr Gogledd Cymru. Yn y gorphenol ymddibynent hwy yn y Deheudir ar y ilithrfa, yr hyn a dybiai fod pris gwerthiant y glo yn rheoli y cyflog. Dysgasant fod hyny yn anddarbod- aeth, oblegyd gwnai hyd yn nod eu bodolaeth yn is-wasanaethgar i bris y glo yn lie hyny, dylasai pris y glo ymddibynu ar werth eu llafur-mewn geiriau ereill, dyn yn gyntaf, glo wed'yn. Dwy flynedd yn ol, yr oedd yn anmhosibl trefnu glowyr Deheudir Cymru yn iawn; Daeth yn bosibl wedi hyny, diolch i'r meistri, y rhai, trwy eu hym- ddygiad, a wnaethant i'r dynion weled drostynt eu hunain, y safle oeddynt ynddo trwy fod y tuallan i'r Cyngrhair. Y mis diweddaf yr oedd ganddynt yn Nghwm Rhondda 26,000, o gyflawn aelodau. Nid y rhanbarth yna yn unig a ddysgodd y wers, oblegfd cofrestrwyd ddim llai na 92,000, o gyflawn aelodan I yn Neheudir Cymru. Yr hyn sydd arnynt eisiau yn awr, ydyw i Ogledd Cymru wneud yr un peth. Allan o 10,000 o lowyr yn Ngogledd Cymru, nid oedd ond 4,500 yn aelodau o'r Cyngrhair. Eu ham- can cyntaf, efallai nad y goreu, ydoedd cael cyflogau cyfartal i'r cyflogau a delir yn y rhanau goreu o Brydain. Hefyd, trwy weithgarweh g wahanol Undeb au Llafur y wlad y llwyddwyd i gael y Compensatinn Act. Pob parch i'r blaid Geidwadol am ei phasio mewn atebiad i hawliau cyfiawn y wlad. Rhoddas- ant iddynt freinlen ag oedd yn fwy nadimaroddwyd iddynt gan. unrhyw Weinyddiaeth flaeuorol. Er mai Radical ydoedd, yr oedd yn barod i addef hyny, a pha blaid bynag a ddygo fesur yn mlaen, a'i amcan i wella amgylchiadau ac i ddyrchafu y dos- barth gweithiol, bydd iddo bleidleisio drosto, er dal o hyd yn Rhyddfrydwr.
Cynadledd Athrawon Goglecfd…
Cynadledd Athrawon Goglecfd Cymru. YN Ngwrecsam, ddydd Sadwrn, cynaliodd Canghen Gogledd Cymru o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon eu cyfarfod blynyddol, Mr T Hurrell Criccieth, y llywydd, yny gadair. Treuliwyd y boreu mewn cynadledd, pryd y dar- llenwyd yr adroddiad gan yr ysgrifenydd, Mr W Tegarty, Bangor, yn daugos rhif yr aelodau yn 405, ar gyfer 477 y flwyddyn flaenorol. Bu ymdrafodaeth ar yr adroddiad ac ar amryw fan faterion, a chwyn- wyd nad oeddynt yn cael eu cynrychioli yn Llys Llywodraethwyr Coleg Deheudir Cymru. Ar derfyn y gynadledd, croesawyd hwy ar ran y dref gau y Maer, y Cierc Trefol, a'r Cynghorwr E Hughes, a chyda hwy yr oedd Mr W J Russell, prifathraw yr Ysgol Ganolradd. Yn y prydnawn, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth Syr R E Egerton, cadeirydd Bwrdd Ysgol Gwrecsam. Yn ei anerchiad, dadleuai y cad- eirydd na ddylid cyflogi dim oud athrawon cymhwys yn yr ysgolion elfenol, a gwneud i ffwrdd a threfn y dysgybl-athrawon. Ar gynygiad Mr Allen Croft, yn cael ei eilio gan Mr TiLby, pasiwyd penderfyniad fod y cyfarfod o'r farn fod yr amser wedi dyfod pryd y dylai y byrddau a llywodraethwyr ysgolion weithreduar yr egwyddor o gynydd blynyddol yn y cyflogau. "to. Cynygiodd Mr Tegarty, eiliwyd gan Mr R Ltoyd, 11 a mabwysiadwyd, benderfyni id o olid am i'r L! v w- odraeth dynu allan o'r Code Aidysg ertiiyglau oedd- ynt yn darparu na ellid cadw dysgybl-athraw mewn I ysgol oni fyddai yno o leiat ddau athraw cyflawn, Wedi hyny, caed anerchiadgan Mr E G-ray, A.S., ac yn nghwrs ei araith beirniadodd sefyllfaaddysg yn I Nghymru yn bur lym. Beiai Gymru oherwydd ab- senoldeb cynifer o'r ysgolion elfenol. Yn Mharis,, ceid 03 y cauto'r bechgyn a 92 y cant o'r genethod yn bresenol ar hyd y flwyddyn. Cyfartaledd y presen- oldeb yn Ysgotland ydyw 84 y cant Lloegr, 82 Cymru, 7G sir Ddiubych, 72, a phi wyf Rhiwabou, 69. Cymharai Gymru felly yn auffafriol iawn a rhanau eraill y deyruas, ac yr oedd yn bryd iddi I ddeffro i sylweddoli hyn a myau diwygiad. Wrth gwrs, yr un rhai oedd yn absenol broil bob amser, a'r mwyafrif yn mynychu yr ysgol yn gyson. Dywedai nad oedd yr awdurdodau lleol yn gwneud eu dvled- swydd yn y cyfeiriad hwn. Ni wnant ddefuydd o'r gallu sydd yn eu dwylaw, naill ai rhag ofn tram- a 11 gwyddo cyfeillion personol neu rhag ofn colli en sedd yn yr etholiad canlynol. Yr oedd gwedd res- ynus ar bethau. Carai ef weled y gailu i orfodi plant i roddi eu presenoldeb yn yr ysgolion yn cael ei gymeryd o law yr awdurdodau lleol a'i osod yn uniongyrcliol yn llaw yr awdurdodau yn Whitehall. Y mae gwir angen am dynhau rhwymau'r gyfraith gvda hyn o beth. a gorfodi pob plentyn ifynychu yr ysgol yn gyson. Os y ceir gwell presenoldeb ceir i'w evnorthvvyo i gael gwell athrawon. Gorfodir plentyn" i fyn'd i'r ysgol hyd nes y byddo vn 14eg oed. Ond y munvd y gwelid y giir pedwar- ar-ddeo- ar v Llyfr Ystatud, dacw lu o eithriadau" yn dilyn, a"cheir llawer o blaut yn gadael yr ysgol vn lie- oed. Y mae miloedd o blaut dan 13ecr oed yn gadael yr ysgol bob blwyddyu ac y mae yn hen bryd i'r Llywodraeth ddeddfu ar gyfer hyn. Galwodd sylw yn mliellach at y dull diofal yr oedd Cvmru'yn dewis athrawon ar ei hysgolion. Byddai"i blant a ddysgir gau athrawon anghymwys ddioddef oddiwrth hyny ar hyd eu hoes. Yn yr Almaen a Switzerland ni cheid athraw mewn ysgol heb feddn tystysgrif. Y mae Lloegr yn mhell ar 01 hyn, a Chymru yn waeth fyth. Allan o bob cant o a athrawon yn ysgolion elfenol Cymru, y mae un rhan o dair N-it athrawon heb dystysgrifau, un rhan o dair yn rhai me-,vii oed ond annghymwys, a'r drydedd ran arall vn blant." Brolia Cymru ei bod yn codi adeilad t hardd o addysg gauolraddol ac athrofaol, a hyny ar sylfaen bwdr fel hon. Yn ol fel y dealla ef, y mae'r ysgolion canolraddol yn mhell o gyrhaeddyd dyheadau y Cymry. Gwari-.vyd gormod ar bridd- feini a mortar. Yr oedd gwla-igarwch»yn myn'd yn bentrefgarweh. Rhaid oedd cael Ysgol Gauolraddol yn mhob llan a phentref. Yna rhaid oedd cael plant i'w Ileawi-a llusgwyd hwy yn anaddfed o'r ysgolion elfetiot. Liaciiiwyd llawer o arian i C!1 ffwrdd ar ysgoloriaethau, i beth ? I wthio plant deg oed iddynt. Ddaw addysg ganolraddol byth yn ei blaen fel hyn. Rhaid cael rhieni i weled gwerth addysg elfenol. Os na byddis ofalus fe ladd cyfun- drefn addysg Cymru ei hun, ac ynIle bod yn esiampl i Loegr bydd yn destyn gwawd iddi. Cyn byth y llwyddir i wneud y gvfundrefn yn Ilwyddiant, ac o unrhyw werth, rhaid ail osod y sylfaen, a gofalu fod yr ysgolion elfenol yn gyfryw ag a fyddant yn cyf- ranu yr addysg oreu ac iachaf i'r plant, a hyny yn y modd goreu. Heb hyny, gwaeth nag ofer, y gwerir ar'an ar yr Ysgolion Canoiradd. Mr L J Roberts, wrth gynyg dioich-arweh i'r cadeirydd a'r siaradwyr, a ddywedai fod yn dda ganddo glywed sylwadau Mr Gray, gan obeithio y byddai iddynt ddwyn ffrwyth. Ni chyd-olygai a'i sylwadau ar yr Ysgolion Canoiradd. Gwir fod llawer o blant anaddfed yn myned iddynt, ond gwyddent hwy o'r ochr arall am blant o Ysgol Can- oiradd Wrecsam a wnaethant enw iddynt eu hunain, ac y mae ereill yn dilyn yn yr un cyfeiriad. Credai fod dyfodol gwych i addysg Cymru. Eiliwyd gan Mr W J Russell. Carai wneyd syl- wadau ond nid oedd amser yr adeg hono i feirniad u sylwadau Mr Gray. Ar ol pasio pleidlais o ddiolchgarwch; terfynwyd y cyfarfod. -0-
Marwolaeth Maer Dinbych.
Marwolaeth Maer Dinbych. DDYDD Ian, yn hollol- sydyn, bu farw Mr Edward A. Tumour, Maer Dinbych. Oddeutu 11 o'r gloch gwelwyd ef yn marchogaeth trwy y dref yn ei iech- yd da arferol; cyfarfyddodd ag amryw gyfeillion, y rhai a sylwent wrtho ei fod yn edrych mor dda, ac yn ddarlun o iechyd. Aeth i gyfeiriad Henllan i weled Mr W. F. Hughes, ffarier, yr hwn a ddywed- wyd wrtho oedd wedi myned i'r cyfeiriad hwnw. Yn ymyl Llys Meirchion, preswylfod Capt Cole, gwelodd was Mr Hughes, yr hwn a ddywedodd wrtho fod ei feistr mewn cae cyfagos yn tria ceffyl. Disgynodd a gadawodd ei geffyl yn ngofal y dyn, ac aeth i'r cae yn union wedi i'r ymdriuiaeth ddechreu. Yr oedd y ceffyl wedi ei gylymu ar lawr. Wedi cvfarch gwell i Mr Hughes, gofynodd a oedd arno eisiau cyuorthwy, gan fod yr anifail yn cicio. Ym- aflodd Mr Turnour mewn rhaff oedd yn ei ddal, ac aeth y ffarier yn ei flaen gyda'i waith. Yr oedd yi haul yn hynod boeth ar y pryd, ac yn rahen rhyw ddeng munyd canfyddwyd y Maer yn gwegian, ac yn y man syrthiodd i lawr. Neidiodd Mr Hughes ato, ond anadlai yn drwm. Anfonwyd y gwas ar gefn ceffyl am feddyg, ond cyn i Dr James Hughes gyr- haedd yr oedd Mr Turnour wedi tynu ei anadl olaf. Credai y meddyg mai wedi cael sanalrokt yr ydoedd, ac am hyny ni chynaliwyd treugholiad. Aeth y newydd fel cwmwl dros y dref, a fnawr oedd y galar ar ol y boneddwr parchus a chared ig. Nid oedd Mr Turnour oud M mlwydd oed, ac er yn Geidwadwr ac Eglwyswr gofalai yn mhob ym- drafodaeth beidio clwyfo teimladau Ymneilldu wyr. Mab ieuengaf ydoedd y trancedig i'r diweddar Ddr A. E. Turnour, Dinbych, wedi ei fagu yn Ninbrch, a chymerai ddyddordeb mawr yn amry wiol sefydl iadau yr ardal, ac fe deimlir colled fawr ar ei ol. Boreu Llun aed a'i gorph o'r Grove House i Eg- hvys St. Dewi, ac ymwelodd amryw a'r lie yn ystod y boreu. Oddeutu dau o'r gloch dechreuwyd y gwasanaeth claddu gan y Parchn Dan Davies ac E. J. Davies. Wedi hyny cychwynodd yr orymdaith, gan gynwys y meddyg, yr arch, ei,r i-r Eglwys, heddgeidwaid, tan frigad, llythyrgludwyr, Cvnghor y dref, Maer Rhuthin a'r ysgrifenydd trefol, plant Ysgol y Sir a'u meistriaid, ynadon hedd, y clybiau claf, perthynasau. oddeutu HO o gerbvdau, a lluaws mawr ardraed. Wedi cyrhaedd yr Eglwys Wen, cynaliwyd gwasanaeth wrth y bedd vn iinig. Fe*i claddwyd yn yr un bedd a'i frawd, yr hwn, fel yn- tau, a aeth yn anterth ei nerth ychydig flvnyddau yn ol. -0
Cymanfa Ysgolion M.G. Gwrecsam…
Cymanfa Ysgolion M.G. Gwrecsam aRhos CYNALIWYJI y Gymanfa flynyddol hon yn Seion, Gwrecsam, ddydd Llun, y 5ed cyfisol. dan yr am- gylchiadau mwyaf ffafriol. fran fod y tywydd mor brclf. eafwyd cytirychiolaeth gref o ysgolion Capel Mawr, Moriah, l'oi(,i- Johnstown, Seion, Pentre- felin, Rhosddu a Rhosrobin. Yn y bore am 10, cynaliwyd Cynadledd Athrawon dan lywyddiaeth Mr Robert Jones (Poncie). Agor- wyd ymdrafodaeth ar "Waith yr Ysgol Sul" yn gyffredinol gau Mr Henry Joiies. y cyn-lywydd. Cymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan nifer 0 gy- feillion parod, a gwnaed rhai sylwadau ac awgrym- iadau rhagorol. Am ddau o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod y plant, ac yr oedd caaoedd iaiver ohonynt wedi ymgynull, tie-, yr oedd y capel eang yn rhy fychan a'r gwres yu fnvr, Holwyd y plant yn y binned beanod o'r lihodd Mam gan y Parch R E Morrn. ac er y gwres caed cyfarfod pur fywiog. Dall arweinia l" Mr W Hughes, Seion, caaodd y plant y tonatl-Maidstone, Cart ref dedwydd fry, Hyfryd Wlad, a Molwn Ef; cyfeiliwyd gau Mr Joseph Dodd, Rhos. Yn ystod y cyfarfod. cyflwynwyd tystysgrifau yr Arholiad Sirol i'r rhai oedd wedi en henill, gan y Parch E Is- fryn Williams. Aeth 37 i"r Capel Mawr: Poncie, 17: Moriah. 2; Johnstown, 21; Seion, 22; Rhos- ddu, 12. Cadeirydd y e\ hrfotl ydoedd Mr E llooson. Am 6 yr hwyr, cymeiwyd v gadair gan Mr R T Davies, Rhosddu. Holwyd y dosbarth canol gan y Parch G Owen, Rhosddu. yn Marc i., ond diprn vii hwyrfrydig oedd yr atebion yu dyfod. Y gwres gai y bai. Holwyd y rhai mewn oed wedi hyny mewn rhan o'r burned bennod o'r Hyftorddwr gan y Parch Robert Given, Tydraw. Wyddgrug, a chaed cryn dipyn o hwyl. Canwyd y tOe¡a,n catJlynol dan arweiniad Mr T Rees Evans. Iolit-istowti:-St Catherine, San Ramo, Grasmere. Arabia, a'r an- them, "Coron Cyliawnder" (D Jenkins). Cvfeil- iwyd gan Miss Sissie Hughes, Inter. Mus. Bac., Gwrecsam. Pasiwyd diolchgarwch i'r rhai oeddynt wedi cymeryd rhan a thrafferthu gyJ.¡Ù' gniianfa ar gynygiad Mr J Tysilio Jones yn cael ei eilio gau Mr Benj. Williams. Heblaw tystysgrifau, cyflwynwyd gwobrwyon i'r rhai uchaf. yn y dosbarth nad oeddynt wedi enill gwobrwyon sirol, fel y canlyn :Johnstown, 14 Seion, 4 Capel Mawr, 1. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr W Edwards, Rhos, a gwnaeth ei waith yn rhagorol. -,}-
Daui Ta (fin a Xewydd).
Daui Ta (fin a Xewydd). AETU dyn yn Abertawe i dalu bil y Doctor a chwynai ei fod yn uebel, gan ofyn ai ni fyddai mo id iddo yntau gael rhyw job gan y meddys- L dynu tipyn ar y cyfrif i lawr. Wel, bedi'ch gwaith chi? ebe'r doctor. •' Biwglar. syr," meidai'r ud. ganydd. Wyddoch chi be, blant, 'rydach chi'n haeddu'eh chwipio, mi rydach chi hefyd," ebe tad wrth ei dri bachgen, a'u hoedran yn rhywle rhwng chwech a deg, "yn grwmblo yn erbyn ych swper, un isio mcl a'r Hall isio triog ar i frachdan pan oeddwn i'n hogyn mi fyddwn yn bur ddiolchgar am damad o fara sych." "Tada," ebe un o'r crits, mi ddylech deimlo'n ddiolchgar am gael dwad i fyw i deulu mor spectable a ni." Ysprigyn ieuanc o glerigwr defodol yn aufon ei gais i mewn i lanw curadiaeth wag, a ddyddiodd ei lythyr Gwyl St. Anthony." Atebwyd ef gan yr hen fleer efengvlaidd, gan ddyddio'r atebiad Gwyl D c." (I harhau).
--;0:--Myfyrwyr y Bala.
0: Myfyrwyr y Bala. DDYDD Iau diweddaf, mwynhawyd gwledd odidog gan athrawon a myfyrwyr y Bala—trwy garedig- rwydd yr hen lane dyddan o Rydymain a'r Yswain Edwards o'r Blaenau, Dolgellau, gwr na raid dim dweyd wrthych chwi, bobl Lerpwl, pwy yw. Gwa- hoddiad oedd y wledd i ben Aran Fawddwy o gyf- eiriad Drws y Nant, ac fe gafwyd diwrnod ardderch- og i ddringo ei llethrau. Buasai yn dda genym i roddi i chwi fraslun o'r daith o'r boreu hyd yr hwyr, ond digon yw dweyd fod yr arlwy a barotoisid ar gyfer y gwahoddedigion wrth fyn'd ac wrth ddod i lawr yn flasusfwyd o'r fath a garent," ac am y tA cyllell a fforc oedd yn ein disg vyl yn Nrwsynant— wel, yr oedd tuhwut i ddisgwyliad y mwyaf ffyddiog. Ideal y brawd o Rydymain ydoedd yr outing hwn, ac fe roddodd Mr Edwards wisg i'r ideal; ac fe aliaf dystio nad oedd y diolchgarwch a roddwyd yn y cyfarfod bychan hwyliog gafwyd ar ddiwedd y dydd ond cysgod egwan o'r hyn a deimlai pob un o'r gwahoddedigion, ac nid oes ball ar y canmol ar ol dod adref. Diolch am ambell i foneddwr fel Mr Edwards sydd yn cofio fod i fyfyriwr ddwy ran fel pob un arall, sef corph ac enaid, ac fod mor angen- rheidiol gofalu am y naill a'r Hall. -:0:-
O'r America i Paris mawn 30ain…
O'r America i Paris mawn 30ain awr. DYWEDIRISfOcl cynllan ar droad yn yr Qijol Dalaethau sy id yn tynu cryn lawer o sylw, sef teithio trwy'r awyr mewn Uongau ac adenydd. | Aerial Navigation Company," ydyw enw'r I cwmni aoturiasthus ac y maent wedi agor swyddfeydd mawrion yn San Francisso, Hys- bysebant y byddant yn cario taithwyr o'r America i Arddangosfa Paris y fiwyddyn nrsaf mewn 30 awr. Gwneir hyn trwy gyfrwng tair o awyr-longau anferth, 425 troedfedd o hyd, y rhai sydd yn bresenol yn c el eu hadeiladu.