Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

.' Prestatyn a'r Bwrdd Ysgol.

News
Cite
Share

Prestatyn a'r Bwrdd Ysgol. BIT cryn ddadleu yn ddiweddar yn Mhrestatyn, yn jiglyn a. sefydlu Bwrdd Ysgol yn y lie, a gwrthwyn ,ebwyd hyny yn gryf gan bleidwyr yr ysgolion gwir- foddol. Y diwedd fu i'r trethdalwyr benderfynu setlo'r mater trwy'r tugel, a phenodwyd dydd Sadwrn diweddaf yn ddydd yr etholiad. Nos Wener cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus tan lywyddiaeth Mr J Jones, (Sefton), i bleidio y Bwrdd Ysgol, ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parchn J Jewel,a R Rowlands, a'r Mri S. Smith, A.S., a D. Lloyd George, A.S. Dywedodd Mr Smith fod y cwestiwn hwn yn un ag y rhaid i'r holl wlad ei ymladd yn y man. New- iiliodd Eglwys Loegr lawer yn ystod y 30 mlynedd diweddaf, ac y mae anfon plant i'r Ysgol Eglwysig yn tybied hau hadau Pabyddol yn eu meddyliau. Taflodd Un mawr o'r clerigwyr y Diwygiad Protest 1tnaidd o'rneilldu, ni safant mwy wrth y Beibl, ond ,cofleidiasaut athrawiaethau Eglwys Rhufain. Def- jivddiant yr ysgolion elfenol hefyd i Babeiddio'r plant, ac y mae'n llawn bryd rhoddi atalfa arnynt. Collodd ef bob ymddiriedaeth yn uurhyw ysgol sydd yn nwylaw'r clerigwyr. Ni wyddai ychwaith am iklim mwy gorthrymus nag ymddygiad y Bwrdd Addysg presenol tuag at yr ysgolion lleol. Yn bres- eool, ymddengys fod y Bwrdd Addysg yn bodoli i'r unig bwrpas o foycottio Ymneillduwyr. Nid oedd gobaith iddynt gael chwareu teg o gwbl oddiar ei ddwylaw, gan ei fod yn gyfangwbl dan ddylanwad, uid y Blaid Eglwysig, ond y Blaid Babyddol. Cafodd Mr Lloyd George dderbyniad brwdfrydig. Sylwodd nad cwestiwn lleol ydoedd hwn, ond cwestiwn o. egwyddor o'r radd flaenaf. Ymladdent nid yn unig dros Ymneilldnaeth a rhyddid crefyddol yn Mhrestatyn, ond dros ryddid i Gymru. Mentrai ddweyd fod sir Fflint ganrif ar ol y gweddill o (lymru yn y cyfeiriad hwn. Y mae cynllun y Bwrdd Ysgol yn gynllun o ryddid. Ymffrpstia sir Ytlint yn ei heglwysi rhydd ac efengylaidd, a thyb- ient eu bod yn rhydd, tra mewn gwirionedd yr oedd- yut yn gaeth i'r Eglwys Sefydledig. Ynyr ysgolion jhyddiou yr oedd ganddynt 2,289 o blant, tra yn yr ysgolion eglwysig ceid ),616, bron gymaint bum' gwaith ag oedd yn yr ysgolion rhydd. Yn sicr, nid oedd Ymneillduwr yn Mhrestatyn a ymladdai dros bar had y cynllun hwn. Os felly, fe ddylent gywilyddio ohonynt eu hunain. Derbynia ysgolion gwirfoddol y sir 4,291p oddiwrth danysgrifiadau a gwaddoliadau, a 16,000p o'r trethi, ac eto y mae'r cyfan bron yn nwylaw gwyr eglwysig. Dywedant wrthym mai hwy biau'r ysgolion. O'r goreu, rhodd- wn iddynt gymaint o hawl a rheolaeth ag a gyfran- ant hwy mewn tanysgrifiadau. Yn sir Fflint, enilla pob plentyn grant o 183 yn unig am bresenoldeb a yhagoriaeth. Yn Ffestiniog, enilla plant y chwarel- wn°20s yr un, ac eto edrychwch ar y gwahaniaeth mawr yn eu hamgylchiadau. Unwaith y sylweddola pobl sir Fflint eu safle, hwy a daflant eu rhesymau a'u dadleuon dwy adimai or iieilldti. Wrth gymeryd golwg eang ar y mater, canfyddant y byddai'r sir yn fawr ar ei henill o gael byrddau ysgolion. Dyma gymhariaeth darawiadol arall: Holl grants sir Fflint i gyd yn nghangbenau Celf a Gwyddor ydoedd 222p. Yn Ffestiniog, enillent 60p mewn un plwyf yn unig. Aeth yn ei flaen i feirniadu yr ysgolion eglwysig yn Hym, gan apelio yn daer ar y trethdalwyr i roddi eu pleidleisiau tranoeth tros y Bwrdd Ysgol. Y PLEIDLEISIO. Dydd Sadwrn, cymerodd y pleidleisio le. Gwcaed n ymdrech egniol o'r ddeutu, a disgwylid canlyniad y tngel gyda phryder gan y ddwyblaid. Wedi cyfrif y pleidleisiau, hysbyswyd fod 138 o blaid y Bwrdd Ysgol, a 127 yn erbyn. Derbyniwyd yr hysbysiad gyda brwdfrydedd gan y blaid fuddugol, a chynal- iwyd cyfarfod mawr J.'yn yr awyr-agored i ddathlu'r fuddugoliaeth. o!

TABERNACL, NETHERFIELD ROAD.

CAPEL (A) GREAT MERSEY STREET.

PWLPUDAU CYMREIG, Mehefin,…

Newyddion Cymreig.

PWY SYDD YN FFOL?

| fiodion o Faelor,

__________ _______________J…

Cohebiaethau.

Advertising