Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Boddiadau.

News
Cite
Share

Boddiadau. Y MAE tri thymor ar y fi wyddyn ag y maè llawer o farwolaethau yn cymeryd lie trwy foddi, neu y mae'r dwfr yn cymeryd rhan helaeth i roddi terfyn ar fywydau. Y cyntaf yn y ganaf adeg y rhew, pan y bydd pobl yn sglefrio ar y llynau, a'r rhew yn tori danynt. Yr ail yn hin gynes yr haf, pan y byddant yn ymdrocbi yn y dyfroedd oerion, ar olaf yn Nhachwedd cyn gwynebu caledi y gauaf, a bywyd wedi myned yn facib, yr adeg yna cymer fwyaf o hunanladdiadau le. Heddyw y mae genvm y gorchwyl pruddaidd o gofnodi deuddeg o foddiadau, a gymerasant le o fewn deuddydd i'w gilydd, a dylai rhiem ofalu am eu plant os digwydd dwfr fod yn ymyl, a cbylai yr ymdrochwyr fod yn hynod ofalus. Nos Fawrth cvffrowyd ardal Abergele gan y newydd fod milwr wedi boddi yn y mor. Ymddengvs i William Lloyd perthynol i'r Cartreflu sydd ar hyn o bryd yn gwersyllu yn y Foryd, fyned i ymdrochi, ac ar ol bod yn y dwfr am ychydig, suddodd yn ngwydd ei gym- deithion. Nid ydynt wedi cael hyd i'w gorph. Llanc oddeutu ugain oed ydoedd, a brodor o Abercant, Daheudir Cymru. Boddodd dyn ieuanc yn y Tafwys, ddydd Mawrth tra yu ymdrochi yn ymyl Kingston-on- Thames Boddodd dau b:entyn yn Lerpwl y babboth, y naili yn blentyn tair oed a foddodd rywsut yn yn nghamlaa Leeds a Lerpwl, tra allan yn cbwareu a'r Hall yn y gamlas yn Bankhall, yn blentyn saith oed. Yn Peterborough boddodd geneth fechan tra ya chwareu yn yr afon, a dyn tra yn ymdrochi mewn hen bwll clai. Bu llanc 14 oei foddi yn Litt'eborough nos Lnn, wrth ymdrochi. Yn Lowerhouse Lodge, Burnley, bu g^r ienaoc foddi wrth ymdrochi, ac nid ydynt wedi cael hyd i'w gorph. Flentyn pedair oed a gollodd ei fywyd yn y gamlas yn Leigh ddydd Sadwrn, trwy syrthio yn ddamweiniol tra yn chwareu ar ei glan. Yn Blackburn nos Lun, bu fo ldi. bachgen deg oed, wrtb chwareu ayda phrenau ar ben Jyn. Yn Thackley, n s Lun, aetb til dyn i ym- drochi mewn camlas, suddodd J. W. Green- wood o dan y dwfr, ac er pob ymdrech o du ei gyfeillion, methwyd ag achub ei fywyd.- Yr o-,dd yn 24 oed, ac yn briod er's blwyddyn. Cafodd badwr hy i i gorph marw yn yr afon Aire, yn ymyl Siitaire ddydd Llun, ac wedi ei gael i'r lan a'i arcbwilio, adnabyddwyd ef M corpb Margaret Jaques, 27 oed, priod Mr P. B. J&ques- --0--

Marwoiaeth sydyn Aelod Seneddol.

Caernarfon a'i Henwogion.

Helynt y Transvaal.J

Merched a Byrddau Cyhoeddus.

IPriodas Miss Katie W. Jones,…

Lleol

Teithio heb Oocyn.

--Cyrddau y Dyfodol, &o.

Priodas y Parch S. Roberts,…

Advertising

Family Notices

Advertising