Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD:

FFRAINC FYTH i N Y PAIR.

News
Cite
Share

FFRAINC FYTH i N Y PAIR. DAL yn y pair fyth y mae Ffrainc, a'r dyfr' oedd o'i hamgylch yn poethi, poethi beu. nydd. Os gall hi orfyw twymyn Dreyfus, y mae un arall lawn cyn dosted ar ymosod ami, sef Marchand. Cyfeiriwyd yn y golofn hon dair wythnos yn ol at achos Dreyfus, yr Iuddew a'r milwr anffodus a gyhuddwyd o fradychu rhai o ddirgelion milwrol Ffrainc i rhyw allu estronol ac wedi prawf maith gan awdurdodau y fyddin, a gon- demniwyd i farw-dedfryd a gyfnewidiwyd drachefn i alltudiaeth ag y buasai marw yn drugaredd o'i chyferbynu a. hi. Nid oedi Iluaws a adwaenent y truan alltadiedig yn gallu credu yn ei euogrwydd, a lledodd y gred hono yn raddol, gan gynwys rhai o brif newyddiaduron Paris. Fel y treiglai amser yn mlaen, daeth ofn ar ycyhuddwyr, llosgasant y tystiolaethau, rhoddodd un neu ddau ohonynt derfyn ar ei fywyd, a cheis. iodd rhagor wneud hyny, tra y diangodd amryw o'r wlad. 0 ddydd i ddydd er's misoedd, deuai rhyw ffaith newydd i'r golwg yn profi erchylldod a hyfdra y gydfradwr- iaeth ysgeler a gymerodd le i gosbi dyn di- niwed a dyfetha milwr dewr a swyddog medrus nad oedd gan ei elynion ddim yn ei erbyn ond casineb personol yn codi oddiar eiddigedd o'i allu a'i ddyrchafiadau cyflym. A dydd Sadwrn daeth y llys a fu'n ystyried prawf cyntaf Dreyfus, arol eisteddiad maith, i'r penderfyniad y rhaid cael prawf new- ydd. Hawdd dirnad mai nid o'i fodd y daeth y llys hwnw i'r dyfarniad, a than orfod yn hytrach yn ngwyneb y ffeithiau diamheuol a osodwyd ger ei bron. Yr oedd y gallu milwrol fel un gwr yn erbyn adolygu y prawf cyntaf ac y mae gan Allu Gwladol Ffrainc y dyddiau hyn gy- maint o ofn digio y Gallu Milwrol fel mai cynil iawn fu ei gymhorth i ategu cyfeill- ion y carcharor yn eu hymdrech i gael prawf newydd. Felly, wrth ystyried pob- peth, y mae'n syndod fod rhagolygon dy- fodol carcharor truenus Ynys y Diafol yn ymddangos cystal. Ystyr ei brawf new- ydd ydyw ei ryddhad ond erys ei brawf cyntaf yn ysmotyn du ar gymeriad y wlad fawr a diwylliedig, ac yn dystiolaeth o rhyw gamdrefn echrydus yn ngweinyddiad ei chyfreithiau. Ond da pe na fuasai gan garwyr Ffrainc a'i Gweriniaeth ddim i bryderu yn ei gylch yn bresenol heblaw Dreyfus a'i helynt, er mor ofidus ydyw hwnw. Pa le bynag yr edrychir ceir arwyddion o wendid yn y Llywodraeth, ac o anfoddogrwydd yn y deiliaid. Bu prawt tra hynod arall yn Paris yr wythnos ddiweddaf, a pharhaodd am dri diwrnod. Deroulede, aelod o'r Senedd, a phen rhyw blaid fach ddibwys o wrthwynebwyr y Weriniaeth, a gyhudd- wyd o geisio enyn gwrthryfel yn mysg y milwyr. Addefai iddo geisio perswadio y Cadfridog Roget i ymosod ar swyddfeydd y Llywodraeth a thraddododd y dadleu- ydd a'i hamddiffynai araith yn cynwys ymosodiadau hyf a difoes ar y Weriniaeth, a barasai yn y wlad hon iddo gael ei hwtio o'r Ilys, ac mewn gwledydd eraill ei daflu i garchar, eto prin y gellid cadw'r bobl yn y Ilys heb dori allan mewn cymeradwyaeth. Meddai Erlynir y carcharor am y ceisia newid ffurf a phuro y Weriniaeth. Er's ugain mlynedd, buoch chwi yn ymgais at hyny, yn Radicaliaid a Chymedrolwyr, gan honni mai eich plaid chwi yn unig all gael mwyafrif r a pha beth a wnaet hoch i Ffrainc ? A ydyw hi awr yn nes i'w gwaredigaeth nelo yrrhyn wnaethoch chwi drosti ? Pe tarawai yr awr hono heddyw, dywedwch yn mba gvflwr y b.yddai'r wlad? Aim wneid ni yn agored unwaith eto i rhyw Fashoda arall yn rhyw gwr o'r byd, i rhyw gywilydd newydd? O arbeded Duw ni rhag y prawf hwnw mwy. Yr ydych chwi yn ymresymu, pan y dylem weithredu. Gydag ymadroddion penboeth, politic- aidd, fel y geiriau uchod yr amddiffynai un o brif ddadleuwyr Ffrainc un o'i seneddwyr yn ngwyneb y cyhuddiad o enyn milwyr i wrthryfel. Er hyny, wedi chwarter awr o ystyriaeth, gollyngodd y rheithwyr y car- charor yn rhydd. Anhawdd gwybod maint canlyniadau y ddedfryd ar wlad sydd mor gynhyrfus a phoethlyd ag ydyw Ffrainc yn bresenol. Nid yw yn y dymher i ysmalio a gwamalu hefo dynan mor benchwiban ac oediog hyd yn nod ag yw Deroulede. Y mae'r Ffrancod yn awr mor ddifrifol ac amddifad o humour, fel y soniai Iluaws ohonynt am wneud Marchand, arwr Fashoda, yn fath o unbenaeth arnynt. Dy- chwelodd yr arwr hwnw i'w wlad yr wyth. nos ddiweddaf, gan lanio yn Toulon, a derbyniodd groesawiad tywysogaidd. y "I Buasant wedi eu gario ar eu hysgwyddau o'r porthladd ar lan Mor y Canoldir yr holl ffordd i Paris, onibai i'r dosbarth synwyrol o'i bobl fygwth dangos eu hannghymerad. wyaeth cyhoeddus, ac i'r arwr ei hun, chwareu teg iddo, ddatgan ei anfoddlon- rwvdd. Ond tuhwnt i amheuaeth, pe cai rhyw ddosbarth yn Ffrainc eu ffordd, hwy a ddyrchafent Marchand neu rywun arall i safle gyfuwch a'r un a lanwyd gan Louis Napoleon. Y maent mor wrthnysig fel y rhoddent eu hunain tan iau unrhyw or- thrymwr. Er pan ysgrifenwyd yr uchod, cymerodd amryw ddadblygiadau le sydd yn taflu gol- euni newydd ar yr helynt. Ofnid unwaith y buasai'r ddedfryd o blaid rhoddi prawf newydd ar Dreyfus yn peri cyffro mawr yn y wlad ond ofn diachos ydoedd. Y mae'r truan erbyn hyn ar ei fordaith tuag adref, i ail wynebu ei elynion-yr ychydig ohon- ynt sydd wedi eu gadael, a'r gwrthryfel bygythiedig hyd yn hyn heb dori allan. Bu ychydig gynhwrf, mae'n wir, ddydd Sul. Ceisiodd Breninolwr o'r enw Barwn Christiani daro yr Arlywydd Loubet hefo cansen lwythedig ond ni fu'n Itivyddiaiius, a daliwyd ef ac amryw o'i gyfeillion teyrn- garol, gan eu dodi yn ngharchar i ateb i'r cyhuddiad difrifol a ddygir i'w herbyn. Ac er i'r amgylchiad beri ychydig gyffro yn y fan a'r lie, darfyddodd yn ebrwydd, yr hyn a brawf nad yw'r elfenau hyd yn hyn, beth bynag, yn ddigon parod i ffrwydro. --0--

CWRS Y BYD.