Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

DILYN Y MEISTR.

News
Cite
Share

DILYN Y MEISTR. Un o Aofelau Itynotal yr oes. PEN NOD IX. ('Parhad,) Dowch, Felicia, onid ydych yn dod adref ?" eo- fynai Ros. Yr oedd y chwareu drosodd, y lien i lawr, a'r bobl yn trystio wrth fyu'd allan, yn ehwerrh- in ac ymgomio fel pe bua-ai Cysgodau Llundain yn ddim oDd rhith drwyddo draw, wedi ei gyfleu o'u blaeu er difyrweh iddyiifc. Cododd Felicia ac aeth allan yn ddystaw gyda'r lleill, ac yn y myfyrdod a'i meddianasai tra'n eistedd i wyiio'r chwareuad trwyddi. Ni fyddai byth yn ab- senol ei meddwl, ond byddai'n ami yn meddwl ei hun i ystad a'i cauai iddi ei hun oddiwrth eraill. Wel, beth oeddycli yn feddwl ohouo?" gofynai Ros pan gyrhaeddodd y chwiorydd adref ac eistedd yn eu hystafell. Yn wir, yr oedd gan Ros yn y gwaelod syniad uchel atnfaru Feliciaar chwareuawd. Tybiwn ei bod yn ddarlun pur deg o'r bywyd gwirioneddol." Yr oeddwn yn meddwl yr actio," ebai ROH. yn flin. Cafodd golygfa y bout ei h,,ictio'ti bur dda, yn enwedig rban y wraig. Tybiwn fod y dyn yn gorwneud ychydig." Dy biech chwi ? Mwynheais i hyny. Ac on id oedd yr olygfa rhwng y ddau gefnder yn ddigrif pan welsant eu bod yn berthynasau ? Ond yr oedd go- lygfa yr heol isel hono yn erchyll. Credaf na ddy- lasent ddangos y fath beth mewn chwareuawd. Y maent yn rhy boenus." Rhaid eu bod yn boenus mewn bywyd gwirion- eddol hefyd," ebai Felicia. Rhaid ond ni raid i ni edrych ar y fath beth mewn bywyd. Mae'n ddigon drwg yn y chwarendy lle yr ydym yn talu am dano." Estynodd Ros ffrwythau a theisenau oddiar y bwrdd gerllaw, a dechreuodd fwyta ohonynt. A ydych yn myn'd i fynu i wel'd main?" gofyn- ai Felicia yn y man. Na," atebai R03. "Nid afionyddaf hi heno. Os ewch chwi i'w gweled, dywedwch fy mod yn rhy flinedig i fod yn ddim cysur iddi." Felly aeth Felicia i ystafell ei mam. Tra'n esgyn y grisiau, gwelai'r forwyn yn nodio ami ddod i fewn. Dywedwch wrth Clara am fyn'd allan," ebe Mrs Sterling, fel y delai Felicia i benlinio at y gwely. Synai Felicia, ond gwnaeth fel y dywedodd ei mam, ac yna gofynodd sut y teimlai. Felicia," ebe'i mham, allwch chwi weddio ?" Yr oedd y cwestiwn mor wahanol i'r un a ofynasai ei mam erioed o'r blaen fel y rhyfeddai Felicia, bad atebodd, Gallaf, mam. Beth wnaeth i chwi ofyn y fath beth ?" "Felicia. Mae arnaf ofn. Eich tad-ces rhrw ofnau rhyfedd yn ei gylch trwy'r dyd. Mae rhiw- beth o'i le gydag ef. Mae arnaf eisiau i chwi weddio." Yn awr ? Yn y fan yma, mam ? Ie, gweddiwch, Felicia." Estynodd Felicia ei Haw a gafaelodd yn llawgryn- edig ei mam. Ni ddangosasai Mrs Steiling erioed fawr o dynerweh at ei merch ieuengaf, a'i chais dy- eithr presenol oedd ei harwydd cyntaf 0 ymddiried- aeth yn nghymeriad Felicia. Yr oedd yr eneth eto ar ei gliniau. Amheuai a weddiasai hi'n uchel o'r blaen. Rhaid ei bod wedi dweyd ar ei gweddi y geiriau oedd ei main eisiau, oblegyd pan ddaeth yr ystafell yn ddystaw yr oedd y ly gystuddicdig yn wylo'n dyner a'i meddwl gwyllt wedi llonyddu. Arosodd Felicia beth amser. Pan sicrhawyd nad oedd ar ei mam angen am dani'n hwy, cododd i fyn'd ymaith. "Nos dda, mam. Rhaid i chwi wneud i Clara alw arnaf os teimlwch yn wael yn y nos." Yr wyf yn teimlo'n well yn awr." Yna, fel y symudai Felicia i iiwrdd, dywedai Mrs Sterling, Oni wnewch fy nghusanu, Felicia ?" ° Aeth Felicia yn ol, a phlygodd dros ei mam. Yr oedd y gusan iddi hi agos mor ddyeithr a'r weddi. Pan aeth Felicia allan yr oedd ei gruddiau yn wlyb o ddagrau. Ni wylasai er pan yn eneth fach. Byddai boreu Sul yn nheulu Mr Sterling fel rheol yn dawel iawn. Arferai y genethod fynychu y gwasanaeth am unarddeg. Nid oedd Mr Sterling yn aelod, ond cyfranai'n drwm, ac elai yntau yn gyff- redin i oedfa'r boreu. Ni ddaethai i lawr i'w foreu- fwyd y tro hwn, ac o'r diwedd anfonodd air i lawr gyda'r gwas i ddweyd na theimlai'n ddigon da i fyn'd allan. Aeth Ros a Felicia yn eu cerbyd i Eglwys Nazareth, a chymerasant eu lie arferol yn sedd y teulu, wrthynt eu hunaiu. Pan ddaeth Dr Bruce allan o'i ystafell, ac y dring- odd i'r pwlpud i agor ei Feibl, ni sylwodd y rhai a'i hadwaenent oreu fod dim neillduol yn ei ymddang- osiad. Aeth yn mlaen gyda'r gwasanaeth fel arfer. Yr oedd yn hunanfeddianol a'i lais yn glir a sefydl- og. Ei weddi amlygodd gyntaf i'r bobl fod dim dy- eithr yn y gwasanaeth. Gellir dweyd yn ddibetrus na chlybuwyd Dr Bruce yn gweddio yn Eglwys Na- zareth yn gyffelyb i'r tro hwn. Sut yr oedd pre- gethwr oedd newydd fyn'd trwy chwyldroad yn ei deimlad Cristionogol a'i syniad am ddilyn Iesu yn debyg o weddio ? Nid oedd gan neb yn Eglwys Nazareth unrhyw syniad fod y Parch Calvin Bruce, D.D.—y doethawr urddasol a diwylliedig—wedi bod yn ddiweddar yn wylo fel plentyn, ar ei liniau yn gofyn am nerth a gwroldeb i gyhoeddi ei genadwri y Sabboth hwn ac eto yr oedd y bregeth yn ddadlen- iad anymwybodol o brofiad enaid na chawsai pobl Nazareth ei gyffelyb o'r blaen. Yn y dystawrwydd a ddilynodd y weddi symudodd ten amlwg o nerth ysprydol dros y gynulleidfa. Teimlodd y rhai mwyaf difater yn y gynulleidfa ef. Yr oedd Felicia, yr hon yr oedd ei natur grefyddol fyw yn ateb i bob cyffyrddiad o deimlad, yn crynu dan y dylanwad ysprydol; a phan gododd ei phen gan edrych i wyneb y pregethwr, gwelid yn ei gwynebpryd yr edrychiad angerddol a ddisgwyliai yr olygfa ddilynol. Ac nid oedd wrthi ei hun yn y disgwyliad. Yr j oedd rhywbeth yn y weddi a'i heffeithiau a gyffrodd lawer dysgybl yn Eglwys Nazareth. Yr oedd gwyr a gwragedd trwy'r holl addoldy yn plygu'n mlaen a phan ddechreuodd Dr Bruce, yn ei frawddegau agoriadol, son am ei ymweliad a. Rhydwilim, deuai atebiad nerthol yn ol ato fel y llefarai, gan ei dry danu a'r gobaith o fedydd ysprydol y fath nas prof- asai yn ystod ei holl weinidogaeth. Yr wyf newydd ddychwelyd o Rydwilim," ebai Dr Bruce, "ac mae arnaf eisiau dweyd wrthych rywbeth am yr argraphiadau a wnaed arnaf gan y symudiad sydd yno." Ymbwyllodd, ac aeth ei edrychiad hiraethus dros ei bobl, ac eto gyda llawer o ansicrwydd beth a ddi- lynai. Sawl un o'i aelodaa cyfoethog, ffasiynol, di- wylliedig, moethus, allent ddeall natur yr apel oedd ar fedr wneud atynt ? Yr oedd mewn tywyllwch I hollol gyda golwg ar hyny. Ac eto, yr oedd wedi dewis ei lwybr ac yn cychwyn iddo yn barod i ddy_ oddef. Aeth yn mlaeu yn awr ac adroddodd hanea ei arosiad yn Rhydwilim. Gwyddai'r bobl eisoes rywbeth am y symudiad yn yr Eglwys Hynaf. Gwyl- iasai yr holl wlad hynt yr ymrwymiad fel y deuai'r haues yn inywydau cynifer o bersonau. Penderfyn- asai Richard Baxter fod vr amser wedi dod i geisio cymundeb yr egiwysi trwy'r holl wlad. Profasai y safon newydd o ddilyn Iesu mor werth- fawr ei effeithiau fel yr awyddai Richard Baxter i eglvvysi eiaill gael cytrauogi a'r dysgyblion yn Rhyd- wilim. Dechreuasai y symudiad eisoes wneud ei flordd i lawer o eglwysi trwy'r wlad, gan weithredu ar eu hawyddfryd eu hunain i ddilyn lesu'n agosach. Cymerasai Cymdeithasau Ymdrech Gristionogol yr ymrwymiad i wneud fel y gwnai Iesu gyda brwd- frydedd, a gwelid y caulyniadau eisoes mewn bywyd ysprydol dyfnach, a nertli mewn dylanwad eglwysig, oedd fel geni o'r newydd i lawer o'r aelodau. Dywedodd Dr Bruce liyu oil wrtli ei bobl gyda'r fath hunanfeddiant a symledd ac argvhoeddiad a barotodd y ffordd i'r hyn oedd gauddo i chwanegu. Gwrandawsai Felicia ar bob gair yn awchus. Eis- teddai yno wrth ochr Ros, a'r gwrthgyferbyniad rhyngddynt fel rliwng tan ac eira, er fod Ros hefyd yn ddigon cvfirous a sylwgar yu ei ffordd. "Anwyl gyfeillion," ebai ef, ac am y tro cyntaf wedi'r weddi datguddiwyd ei deimlad yn ei lais a'i ystum, yr wyf am- ofyn a gymer Eglwys Nazareth yr un ymrwymiad ag a wnaeth Eglwys Iiynaf Rhyd- wilim. Gwn beth olyga hyu i mi a chwithan. Go- lyga gyfnewidiad trwyadl llawer o arferiou. Golyga feallai lawer o golled gyindeithasol. Golyga d"dy- oddefaint. Golyga'r hyn oedd dilyn Iesu yn y gan- rif gyntaf, a'r pryd hwnw cynwysai ddyoddef, coll- ed, caledi, ac ymadawiad a phobpeth an-Nghristion- ogol. Ond beth a feddylia dilyn Iesu ? Mae prawf dysgybl yr un peth yn awr. Y rhai hyny ohonoch yn Eglwys Nazareth sy'n ewyllysgar i wneud fel y gwnaethai Iesu, addawch yn syml ddilyn ei ol Ef." Eto ymbwyllodd y Parch Calvin Bruce, gweinidog Eglwys Nazareth, ac erbvn hyn yr oedd effaith ei z3 ddatganiad yu amlwg yn y cytfro elai trwy'r gynull- eidfa. Chwanegodd mewn llais tawel ar i bawb.ew- yllysient gymeryd yr ymrwymiad i wneud fel y gwnaethai Iesti aros yn ol wedi gwasanaeth y bore. Yna aeth yn mlaen gyda'i bregeth. Ei destyn oedd Matt. viii. 19, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych." Yr oedd yn bregeth a gyffyrddai ffynonellau dyfn- ion ymddygiad yr oedd yn ddatguddiad i'r bobl o'r golygiad y daetliai'r pregethwr iddo am Ddilyn y iVleistr cymerai hWY'll ol i ganrif cyntaf Cristionog- aeth uwchlaw pobpeth, ysgydwai hwy o'u hen syn- iad arwynebol am aelodaeth eglwysig. Yr oedd y cyfryw bregeth ag y gall dyn ei phregethu unwaith yn ei oe-s, a digon ynddi i ddynion fyw am eu hoes. Diweddodd y gwasanaeth mewu dystawrwydd, ond torvvyd ef yn fllan. Cododd pobl yma ac acw, ych- ydig ar y tro. Yr oedd rhyw oediad tarawgar yn symudiadau'r bobl. Fodd bynag, cerddodd Ros yn syth o'i set, a nod- iai ar Felicia- Oud y pryd hwnw codai'r gynulleid- fa yn gyffredinol. Atebodd Felicia nodiad Ros yn y fan. )-"r wyf li au-i aros," ebai hi. Clywsui Ros hi'n siarad felly droion eraill, a gwyddai mai nid hawdd oedd ei throi. Beth bynag, troes yn ol ati, gan ed- rych yn ei gwyneb. Felicia," sibrydai, ac yr oedd gwrid digofus ar ei gruddiau, "dyma fiolineb. Beth ellwch chwi wneud ? Tynwch warth ar y teulu. Beth ddywed tada? Dowch." Edrychodd Felicia arni, ond ni atebodd hi ar un- waith. Symudai ei gwefusau gydag erfyuiad ddeuai o ddytuder teimlad a fesurai fy wyd. newydd iddi hi. Ysgydwodd ei phen. I Na, yr wyf am aros' Cymeraf yr ymrwymiad. Yr wyf yn barod i ufuddhau iddo. Ni wyddoch chwi paham y gwnaf hyn." Rhoes Ros un edrychiad arall arni, ac aeth tuag allan. Ni arosodd gymaint ag i siarad a'i chydna- bod. Olld cymerai Mrs Delano y drws pan aeth Ros ati. Felly, nid ydych am uno a chwmni'rDr?" Go- fynodd Mrs Delano hyn gyda'r fath don ryfedd fel y gwridodd Ros. Nac ydwyf, ydych chwi ? Mae'r peth yn wrth- UD. Yr wyf bob amser wedi ystyried mudiad Rhyd- wilim fel. penboethni. Gwyddoch fod ein cyfnither Gwen yn ysgrifenu atom o hyd yn ei gylch." Gwn, a deallaf fod y peth yu achosi llawer iawn o galedi mewn llawer amgylchiad. O'm rhan i, credaf fod Dr Bruce wedi codi cynhwrf diachos yma. Arweinia i ymraniad yn Eglwys Nazareth, gewch chwi wel'd. Mae llawer o bobl yr eglwys na allant wneud yr hyn a ofynir. Yr wyf ti'n un ohonynt," chwanegai Mrs Delano fel yr elai allan gyda RGs. Pan gyrhaeddodd Ros adref, safai ei thad fel arfer o flaen y tan yn ysmygu sigar. I Lie mae Felicia?" gofynai, fel y deuai Ros i mewn ei hun. Arosodd yn y cyfarfod ar ol," atebai 116s yn fyr- bwyll. Taflodd ymaith ei chochl, a chychwynai i fynu'r grisiau pan alwodd Mr Sterling arni- Cyfarfod ar ol ? Beth ydych yn feddwl ?" Gofynodd Dr Bruce i'r eglwys gymeryd ym- rwymiad Rhydwilim." Tynodd Mr Sterling y sigar o'i enau a throes hi'n gyffrous rhwng ei fysedd. Ddisgwyliais i mo hynytia gan Dr Bruce. Aros- odd llawer o'r aelodau ar ol ?" Wn i ddim. Wnes i ddim," atebai Ros, ac aeth i fynu'r grisiau gan adael ei thad wrth y tan. Yn mhen ychydig fynydau aeth at y ffenestr i ed- rych ar y bobl elent heibio yn eu cerbydau. Yna troes, gan gerdded ol a blaen hyd yr ystafell. Galw- odd morwyn fod y ciuio'n barod, a dywedodd yntau am iddi aros Felicia. Daeth Ros i lawr ac aeth i'r llyfrgell. A pharhai Mr Sterling i gerdded yn fy- fyriol ac aflonydd. O'r diwedd, ymddangosai wedi blino cerdded, ac ymollyngodd i'w gadair. Yr oedd mewn myfyr dwys am rywbeth pan ddaeth Felicia i mewn. Cododd a gwynebodd hi. Yr oedd yn amlwg fod Felicia wedi ei chyffroin fawr yn y cyfarfod y bu yn- ddo. Yr un pryd ni ddymunai siarad gormod yn ei gylch. Fel yr elai i'r parlwr, daeth Ros i'w chyfar- fod o'r llyfrgell. Sawl un arosodd ?" gofynai. Yr oedd Ros yn gywrain iawn. Yr un pryd yr oedd hi yn amheus o'r symudiad yn Rhydwilim. Tua chant," atebai Felicia, yn ddifrif. Edrych- ai Mr Sterling yn syn. Yr oedd Felicia yn myned allan o'r ystafell. Galwodd yntau arni. A ydych chwi'n meddwl cadw'r ymrwymiad mewn gwirionedd ?" gofynai. Gwridodd Felicia. Crynai wrth ddweyd, "Ni fuasech yn gofyn y fath gwestiwn, tada, pe buasech yn y cyfarfod." Oedodd ychydig yn yr ystafell, yna gofynodd am gael ei hesgusodi oddiwrth ginio am ychydig, ac aeth i fynu at ei mam. Ni wybuodd neb beth fu yr ymgom y tro hwa rhwng Felicia a'i mham. Rhaid ei bod wedi dweyd