Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

A ydyw Cymanfa'r Sulgwyn yn…

Use!

I Marwolaeth y Parch Elias…

Gyrddau'r Sulgwyn.

[No title]

Y Blaid Cymreig.

News
Cite
Share

Y Blaid Cymreig. CYFARFIT y Blaid Gymreig nos Iau dan lywydd- iaeth Mr Alfred Thomas i ystyried mater o bwys. Hysbysodd y cadeirydd am ganlyniad ymddyddan gymerodd le mewn perthynas i'r blaid gael ei chyn- rychioli yn swyddfa'r chwip. Gwrthwynebai Mr Bryn Roberts i'r aelodau Cymreig gael eu hystyried fel plaid wahanol; ac ar hyny cynygiodd Mr Lloyd George benderfyniad ffurfiol yn datgan fod yr ael- odau Cymreig yn blaid wahanol, er nad yn blaid annibynol-rhywbeth yn debyg i blaid y Rhydd- frydwyr Undebol yn ei pherthynas a'r blaid Geid- wadol. Eiliwyd y cynygiad gan Mr W. Jones. Cynygiwyd gwelliant gan Mr Bryn Roberts i'r perwyl nad oedd yr aelodau Cymreig i ffurfio eu hunain yn blaid wahanol neu annibynol. Siaradodd Mri Abel Thomas, Spicer, M'Kenna, W Abraham, a Pritchard Morgan yn erbyn y gwelliant. Dywedodd Mr Herbert Lewis fod yr adeg yn bwysig, ac yn galw arnynt i weithredu'n unol. Mr E. J. Griffith a ddywedodd fod y cynygiad yn un afresymol, gan nad oedd bwriad o gwbl i ffurfio plaid annibynol, a mynai mai dyledswydd yr aelod- au Cymreig ydoedd, nid ffurfio cymdeithas wahanol ond cadw llygaid agored ar yr arweinwyr Rhydd- frydol, a gofalu am fuddianau Cymru. Ar ol cryn yindrafpdaeth, penderfynwyd gohirio'r mater.

--0--Ein Cenedl yn Manceinion.

Marchnadoedd.i

Advertising

Cyrddau y Dyfodol, &o.

Dyffryn Clwyd.

Family Notices

Advertising