Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
A ydyw Cymanfa'r Sulgwyn yn…
A ydyw Cymanfa'r Sulgwyn yn myn'd i lawr. Y MAE llawer o ddadleu er's blynyddau ai doeth parhau Cymanfa Fiynyddol y Methodistiaid ar y Sulgwyn, ynte ai Did gwell ei symud i rhyw adeg arall ar y flwyddyn, megis decbreu Hydref neu ddechreu Mawrth. Carlwyd cynygiad i'w symud o'r Sulgwyn un tro rai blynyddau un cl yn y Cyfarfod Misol, ond dilewyd y pender.. fyniad mewn cyfarfod arall. Dcvdleuid mai dyma fel y bu er pan sefydlwyd hi naa gellid ei symnd am o leiaf dair neu bedair blyned ) gan fod cyhoeddiadau gweinidogion i lefaru ynddi wedi eu sicrhau yn mlaen am yr amser hwnw ac yn drydydd, y gillai can, eid ddyfoi i'r jGrymanfa ar y Sulgwyn nas galleot ddyfod ar un adeg arall o'r flwyddyn. O'r ochr arall, dadleuai pleidwyr y cyfnewidiad fod amgylch- iadau wedi newid yn fawr er pan sefyalwyd Sasiwn Lerpwl. Oyfarfodydd cyflelyb wedi amlhau yn y wlad, yr hyn a gadwai y bobl gartref, y Llungwyn yn fwy o wyl ar olsefydliad Gwyl y Banc, a hyny yn gyiu Cymry llwydion Lerpwl i'r wlad am ddeuddydd o seibiant a'r ddau osodiad hyn yn cael eu profi trwy leihad mawr yn y presenoldeb. Er mwyn profi y gosodiad olaf, yr hwn mewn gwirionedd a ddylai benderfynu'r achos, cawsom yr adrodd- iad canlynol o'r presenoldeb eleni Princes -Road.-Tep(-,u iawn oedd y presenoldeb y bore a'r prydnawn, ac er fod llawer o ddyeithriaid yno, nid oedd yn liuosocacb nac ar y Sal cyffredin. Llanwyd y capel yn yr hwyr hyd y drysau. David Street. -Cy;n alliadau gweddol, ddim mor Iluosog ag yn y blynyddau a aeth r<ei>;io. Fitzclarence Street. -Cyffredin oedd y cynulliadau, dim mwy na rhyw Sabboth arall, ac yn llawer gwael- ach nag arfer ar y Sulgwyn. Netherfl,eld Boad,-Y capel yn weddol lawn yn y bore, ond yn llawer teneuach y prydnawn a'r hwyr. Chatham Street. -Rhyw haner llund y capel y bore, a fawr gweU y gweddill o'r dydd. Nifer mawr o'r aelodau yn abseuol. Crosshall Street. Dim cyfnewidiad yma, ond tebyg i ryw Sabboth aral), gyda'r eithriad fod llawer oddi- cartref, a dyenhriaid yn eu lie. Anfield Boad.-Dim aos cymaint o wrandawyr a'r Sul cyffredin, a llawer llai nag arfer ar y Sulgwyn. New sham, Park —Salw yn y bore, ond yn gwella at yr hwyr- LJawer o wynebau newyddion i'w gweled, yn llanw lie yr aelodau absenol. Bootle. -Ni fu y capel yn liawn drwy y dydd, yr hyn a welwyd lawer gwaith cyn hyn, bu yn llawnach ami i Sul yn ystod y flwyddyn. Birkenhead,-Rhywbeth yn debyg iawn i'r llynedd. Seaconibe.-Cynultiadau rhagorol oedd yma, yn well flag arfer, Walton Park. —Gwell cynulliadau yma nag y bu er s blynyddoedd. WCtterloO.-Cynulliadau gwell nag" arfer. Peel Road.-Cyffredin oedd y presenoldeb, rhyw- beth debyg i'r llynedd. Holt Road.— Nid oedd y presenoldeb eleni fawr fwy na haner yr hyn arferai fod, dyweder bum' mlynedd yn ol, ar y Sulgwyn; nac yn wir mor lluosog ag y bydd ar y Sul cyffredin. Webster Road —Rhy wbeth fel arfer oedd y presen- oldeb yma, dim rhyw lawer o gyfnewidiad, er y ba yn well. --0--
Use!
Use! Yn Eisteddfod Llanasa, ddydd Mercher, enillwyd y gadair dderw gerfiedig, gwerth jE4 4s gan 0 Caer- wyn Roberts. Awdl neu bryddest ar y diweddar Barch John Evans (Eglivysbach) oedd y testyn, a'r beirniad oedd y Parch J Cadvan Davies. TRWY farwolaeth Mr Owen Williams, gynt o Vine Street a Hall Lane, y mae Wesleyaid Cylchdaith Shaw Street wedi colli eu blaenor hynaf, a dirwest un o'i chefnogw) r ffyddlonaf. Brodor o Biwmaris oedd yr ymadawedig. Ychyi ig f tasai neb yn feddwl dri mis yn ol wrth ei weled ei fod dros 79 oed. Mae'a debyg i farwolaeth ei feTeh, Mrs Heber Chambers, ychydig wythnosau yn ol effeithio'n ddirfawr ar yr hen dad. Yr oedd y brawd yn nodedig fel gweddiwr yn y moddion crefyd lol, ac fel ymwelydd a'reystudd- iol a'r trallodus. Y mae bwlch mawr wedi pad ei wneud. Ton. y DOSBARTH.—Nos Sadwrn, yn ysgoldy Crosshall Street, cynaliwyd y 27ain gyfarfod blyu- yddol o'r Dosbarth Demi, dan lywyddiaeth y Brawd Llew Wynne, D.B.D. Cytiwynwyd gradd y Dos- bartii Demi i nifer o frodyr a chwiorydd, ac aed yn mlaen i dderbyn adroddiadau y swyddogion. Dang- osai ystadegau yr ysgrifenydd fod dwy deml new- vdd wedi eu ffurfio yn ystod y flwyddyn, a bod yr holi demlau yn rhifo yn bresenol dios fil o aelodau. Cafwyd hefyd fod dwy deml plant, yn rhifo tua 200, wedi eu ffurfio yn ystod y flwyddyn. Dangosai adroddiad y trysorydd fod y derbyniadau yn 75p 2s 4e, a'r taliadau yn 72p 16s 10c. Etholwyd yn swyddogion am y flwyddyn ddyfodol:—D.B.D., Llew Wynne; D.G., John Williams (Taylor Street): D.I.D., E Parry; D.A.E., John Jones (Trevor)- D.A.T.P.. Hettie Harris D.Y., R Vaughan Jones; D.T., 1» T Jones; D.G., John Williams, Bootle; D.R., John Evans; DIR., M E Parry, Birken- head; D.W., Griffith Owen: D.B., John Lewis, Birkenhead; D.Y.C., Edward Davies, Bootle; D.N, M. Lloyd, Birkenhead: D.C.B.D., Lewis Roberts. Hysbyswyd fod y Llawlvfr Dirwestol (buddugol yn Eisteddfod y Temlwyr Da, ac a gy- hoeddwyd gaI1 y Dosbarth) yn cael lledaeniad pur galonogol a chymeradwyaeth uchel y wasg. Go- hiriwyd gorseddu swyddogion hyd y cyfarfod nesaf. (I TYLDESi..EY.-Nos Sadwrn, y 13eg cyfisol, cynaliwyd Eisteddfod lwyddianus yma mewn cysylltiad a'r eglwys Fethodistaidd. Cadeirwyr, Mri J Davies, Salford, a W Ek-rsley, Tyldesley yr arweinydd de heoig oedd Ap Kyffin: heimiad cerddoro), Mr G W Hughes, Cefnmawr. Wele'r buddugwyr:—Arholiad, Larzing ac Astiora Thoma, a M J Jones a Dora Thomas. Rhestr o deitlau lesu. J W Edwards. Unawd i blant, Ann Williams, Ashton. Soprano Miss Bayliss, St Helens. Cyfieithu, R 0 Evans, Ash ton, H, W H Morris. Contralto, M;ss Horrocks, Daubhill. Adroddiad, E T Jones a M Williams, Earlestown. Prif adroddiad. John Williams, Earles- town. Darn goreu o lo, J W Edwards. Araith, Evan Jones, Earlestown. Canu "YGwanwyn," cor St Helens (Mr Berry). Par o ho anau, Miss Roberts, Ashton. Baritone, W Davies, Tyldesley. Englyn a chwe' phenill, Eryddon, Manceinion. Adroddiad Seisnig, J E Ellis. Deuawd, R Roberts a J C Jone?, Manceinion. Tenor, D Davies. Gwaith coed ddlyn, G Green a Gabriel Roberts. Ptdwarawd, partion A Jones a T Weedall, St Helens, yn gyfartal. Traith- awd. J E Jones, Lothair Road, Leipwl. LPan, M Hughes. Tracing, M J Parry. Yn ngbystadlenaeth y corau meibion, en llwyd gan Gor Ashton-in-Maker- fiJd, J Davies yn arwain. Darlon o gapel, Larzing .j'homa. Tylde' ltpite.
I Marwolaeth y Parch Elias…
Marwolaeth y Parch Elias Owen. Nos Wener, bu farw y Parch Elias Owen, Llanyblodwel, ger Croesoswallt. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Caersws, abu yn ysgolfeistr yn Llanllecliid. Aeth oddiyno i'r coleg, a graddiodd yn 1871 yn Dublin. Bu yn gurad yn Llanwnog a Chroesos- wallt, a thra yn y lie olaf penod- wyd ef yn Arolvgydd Ysgolion Elfenol Esgobaeth Llanehvy, yr hon swydd a lanwodd o 1876 hyd 1893. Bu yn rheithor Efenech- tyd o 1881 i 1892, pryd y symudodd i Llanyblodwel. Yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru, a pherchid ef gan bawb. Fel hynafiaethydd yr adwaenid ef oreu, a chydnabyddid ef yn awdurdod ar ami gwestiwn. Cvhoeddodd gyfrol ar The Old Stone Crosses in the Vale of Clwyd (1885); Welsh Folk-lore' (1891), a Glossary of Montgomeryshire i'r Powysland Collection' (1891), heblaw ysgrifenu erthyglau i amryw gyfnodolion Cymraeg a Saesneg.
Gyrddau'r Sulgwyn.
Gyrddau'r Sulgwyn. EISTEDDFOD BROUGHTON. DYDD Llun, cynaliwyd y chweched Eisteddfod yn Ysgoldy y Brake dan arweiniad y Parch T Nicholls Roberts. Enillwyd ar yr unawd ar y berdoneg gan Enilyn Davies, Rhos; tenor, Ap Heli, Lerpwl; contralto, Maggie Hopwood; adrodd, John Price, Bwlchgwyn a Seindorf Oak Alyn. Ymgeisiodd dau gor meibion o Lerpwl ar ganu. Nyni yw'r meibion cerddgar,' set Cor Meibion Eryri a Meibion Gwalia. Yr olaf a farnwyd yn oreu. Y beirniaid cerddorol oeddynt Mri J Henry, Lerpwl, a James Holloway, Stalybridge. EISTEDDFOD Y BALA. DYDD LIun y bu hon—y drydedd a'r fwyaf ei llwydd hyd yma. Ymjynullodd canoedd iddi. a chaed cys- tadleucn campus. Cadeirwyr gwych oedd Mri Tho. JOLes, Y.H., Brynmelyn 0 M Edwards, A.S, a J R Jones, C erdeon; arweiniai Bryfdir yn bert a bywiog beirniad canu pur ddeheuig cedd Mr David Evans, Mus. Bac, Resolven y Par.;h Ben Davies a bwysai'r beirdd a d,u ysgrifenydd diwvd i.wII fn Mn R Eva;s a J T Jones. Pobl bwysig eraill r wyl oeddynt y cantorion Madame Thomas, Llanell, Mal- dwyn Humphreys. Amos Jones, W 0 Jones (Ffestin- iog), a'r eyfeilydid Mr Bryan Warhurst. Dyma'r rhai buddugol Cerdd.-Y brif gystadleuaetb oedd i gorau meibion ar ganu Dewrion Sparta,' a channdd corau y Bala. Llanuwchllyn, Corwen, Oldham, a Poncie y cyntaf dan arweiniad Gwrtheyrn enillodd y 15p a'r tlws aur. -Nil gystidleuaeth i gorau cymysg, 'Ff.rwel iti, Gymru fad," 5p a biton, Adwy'r Clawdd, Glanypwll (Ffestiniog), a Tegid yn ymgais, a'r cyntaf dan ar- weiniad W Crewe yn oreu.—Dau gor plant a ymgeis- iodd am y 6p a'r tlws, sef Ffestioiog a'r Bala, yr olaf yn fudd 1 gol, J B Parry yn arwain, a cbafodd y llall 2p gan Mr 0 M Edwards.—Unawd contralto, Can y Weddw,' Sarah Lloyd, Sarnan, a Lizzie Ann Edwards, Corwen, yn gyfartal.-Unawd tenor, 'Thou shalt break them,' Edward Lloyd. Llanuwchllyn.—Unawd soprano, Yr Ehedydd," Mrs Cadwaladr Lloyd, Bala. -Una-m d i blant, 'Dros y Gareg,' Grace A Pugh. Bala. —Unawd baritone, Why do the nations,' Richard Jones, Llanfrothen, yr hwn a gafodd gymeradwyaeth uchaf y dorf a'r beirniad. Lien.— Cyfieithu i'r Gymraeg, Abon, Cefpmawr.- Eto i'r Saesneff, J E Jones, Lothair Road, Lerpwl.— Un ymgeisiodd ar y traithawd. ac yn annheilwng.— Chwedlonig; J Cusi Jones, Llangower. Awen.-Cynygid cadair dderw hardd a 2p 28 am y bryddest goffa oreii i'r diweddar Bnfathraw Michael D Jones. Ymgeisiodd wyth. ac eiddo'r Parch John Owen (Dyfnallt), Trawsfynydd, yn oreu. Cadeiriwyd ef gyda rhwysg defodol, Gwrtheyrn hirwallt yn g n- rychiolydd teilwng i Hwfa Mon fel Archdderwydd. a chwmwl mawr ofeirdd yn gwlawio englynion ar ben y bardd a wnaed yn ben gan Ben Davies.—Can, 'Rhowch help llaw.' 0 C Roberts, Lerpwl Englyn, "Y W awr," Dr Peters, Bala, allan o 42. Dyma'r englyn Byw oleuni ysblenydd-yn gwrido'n Garedig yw'r wawrddydd; Aur ymylwe i'r moelydd, A dawn Duw i eni dydd. Anryw.-Ptif adroddiad, Griff Davies, Walton. Lerpwl, allan o 25.-Eto i blant, Lizzie Jones, Gwydd- elwern, ac Owen Jones, Ffestiniog, yn gydradd.— Crys gweithiwr, ni atebodd yr oreu 2, Rebecca E Jones, Bala.—Pedolau i farch, T Rowlands. Talsarn- au.—Arwyddair ar gynfas, 1, James Edwards, Bala; 2, Mabel Pugh, Brithdir, Dolgellau.-Hosanau deu- rodwr, Miss Williams, Gwernhefin.-Cynllun o Sel i Gyngbor y dref, 'Cymro.'—Darlun, Katie Hugtes, Frongoch. Caed cyngherdd chwaethus yn yr hwyr, pan y I gweinyddwyd gan y cantorion a nodwyd, y corau a'r unawdwyr buddugol. Er na chaed llawer o haul caed llawer o hwyl dyddorol, a dylai'r trysorydd fod yn gy- foethog oblegyd gorlanwyd y neuadd deirgwaith. -,0;-
[No title]
Bwriada Annibynwyr Penmaenmawr godi capel newydd, ac y maent wedi sicrhau tir mewn man cyfleus a chanolog. Yr oedd Arddangosfa Ceffylau flynyddol Caernar- fon, a gynaliwyd y Llungwyn, yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus a gynaliwyd eto.
Y Blaid Cymreig.
Y Blaid Cymreig. CYFARFIT y Blaid Gymreig nos Iau dan lywydd- iaeth Mr Alfred Thomas i ystyried mater o bwys. Hysbysodd y cadeirydd am ganlyniad ymddyddan gymerodd le mewn perthynas i'r blaid gael ei chyn- rychioli yn swyddfa'r chwip. Gwrthwynebai Mr Bryn Roberts i'r aelodau Cymreig gael eu hystyried fel plaid wahanol; ac ar hyny cynygiodd Mr Lloyd George benderfyniad ffurfiol yn datgan fod yr ael- odau Cymreig yn blaid wahanol, er nad yn blaid annibynol-rhywbeth yn debyg i blaid y Rhydd- frydwyr Undebol yn ei pherthynas a'r blaid Geid- wadol. Eiliwyd y cynygiad gan Mr W. Jones. Cynygiwyd gwelliant gan Mr Bryn Roberts i'r perwyl nad oedd yr aelodau Cymreig i ffurfio eu hunain yn blaid wahanol neu annibynol. Siaradodd Mri Abel Thomas, Spicer, M'Kenna, W Abraham, a Pritchard Morgan yn erbyn y gwelliant. Dywedodd Mr Herbert Lewis fod yr adeg yn bwysig, ac yn galw arnynt i weithredu'n unol. Mr E. J. Griffith a ddywedodd fod y cynygiad yn un afresymol, gan nad oedd bwriad o gwbl i ffurfio plaid annibynol, a mynai mai dyledswydd yr aelod- au Cymreig ydoedd, nid ffurfio cymdeithas wahanol ond cadw llygaid agored ar yr arweinwyr Rhydd- frydol, a gofalu am fuddianau Cymru. Ar ol cryn yindrafpdaeth, penderfynwyd gohirio'r mater.
--0--Ein Cenedl yn Manceinion.
--0-- Ein Cenedl yn Manceinion. TRA y mae cymdeithasau eraill yn dirwyn i fynu, mae Cymdeithas Beirdd Manceinion yn blodeuo fwy-fwy fel mae'r haf yn agoshau. Cynelir y cyf- arfodydd yn ystafelloedd y bardd Gele yn Old Bank Chambers ac fel mae arfer beirdd, nid ydynt yn talu dim rhent nac am danwydd na nwy, er eu bod yn defnyddio peth wmbredd o'r ddau, yn enwedig yr olaf. Mae hon yn un o'r cymdeithasau mwyaf gwreidd- iol a fu erioed. Os chwyth y gwynt yn gryf o'r gogledd, bydd y cyfarfodydd yn ystormus, a'r beirdd yn ymladd a'u gilydd fel ceiliogod; ond yn nghanol yr ystorm cyfansodda rhywun englyn neu benill, a thry y gwynt i'r de ar amrantiad, a'r beirdd megys yn syrthio ar yddfau eu gilydd o lawenydd. 11 Cynaliwyd cyfarfod nos Iau, Ap Cyffin, y prif- fardd, yn llywio. Y gwaith oedd darllen trioedd Cymraeg gan yr aelodau, a chafwyd hwyl dda caed hefyd gystadleuaeth cyfansoddi penill i'r diweddar Mr Tom Ellis, Eryddon yn beirniadu. Daeth llu i law, a chaed beirniadaeth fanwl a meistrolgar. Fel hyn mae'r gymdeithas hon yn gwasanaethu llenyddiaeth Gymreig ac os digwydd i rhyw fardd ddod ar grwydr i Fanceinion, mae aelwyd gynes i'w groesawu. Nos Wener, yn y Y.M.C.A., bu cyfarfod blyn- yddol y Gymdeithas Genedlaethol, Mr David Rees yn y gadair, pryd y darllinwyd y cyfrifon ac yr etholwyd swyddogion. Mae'r gymdeithas mewn sefyllfa lewyrchus o ran cyllid. Etholwyd Dr Em- rys Jones yn llywydd, Mr D. Rees yn is-lywydd, Mr R. Kyffin yn llywydd y Cynghor, Mr E. Ro- berts yn drysorydd, ac Eryddon a Mr G. C. Thomas yn ysgrifenyddion. UNOE&DATT.
Marchnadoedd.i
Marchnadoedd. I. Caer.-Mai 20 Gwenith gwyn, 4s 4c y 75 pwys; coch 'eto, 4s 10 14s 3c; ceirch newydd, 2s 6c i 2s 9c y 64 pwys; hen, Os Oc y 64 pwys haidd at fragu, Os 00 y 60 pwys haidd at falu, 3s 00 y 64 pwys ffa, newydd, 4s 6c i 4s 8c y 80 pwys; hen, Os Oc y 80 pwys, indrawn. newydd, 9s 3c hen eto, 9s 60 i 9s 9c v 240 pwys. Bangor, Mai 19. Ymenyn ffres, Is 2c y pwys; wyau, 16 i 17 am la; biff, 7c i 10c y pwys; molltgig, 80 i llcl cig oen, 10c i Is Oc y pwys cig lloi, 80 i 11c; pore, 60 i 8c; moch tewion, y pwys. Cywion, 4s 0c y y cwpl; ieir, 2s 00 yr un hwyaid, 3s 6c yr un. Amlwch, Mai 20 Ymenyn ffres, Is 00 y pwys; wyau ffres, 18 am Is; biff, 7c i 9c y pwys molltgig, 8c i 9c cig oen, Is y pwys; cig lloi, 7c i 9c: pore, 6c i 8c; cywion, 4s Oc y cwpl; ieir, Is 6c yr un hwy- aid, 2s 3c yr un. Llangefni, Mai 18 Ymenyn ffres, Is Oc y pwys; wyau, 20 am swllt; ieir, Is 9c i 2s 00 yr un; hwyaid, 2s 6c yr un; moch tewion, 31 i 3ic y pwys; pyre, 13s i 17s yr un biff, 6c i 8c y pwys molltgig, 7c i 9c; ei oen, Is Oc cig lloi, 7c i 8c pore, 6c i 8c. Salford, Mai 23. Pris;au :-Biff, 5c i 7c; molltgig, 610 i 9c; cig oen, 910 i lOt; cig lloi, 5tc i 8c y pwys. Moch, 8s 0c 9s 0c y scor. Birmingham, Mai 23. Biff, 4c i 6c y pwys; molltgig, 7c i 8c; cig oen, 8c i 9ic; Cig lloi, 5c i 8c. Moch bacwn, 8s 60 y scor perchyll, 9s Oc i 9s 6c hychod, 6s 3c y scor.
Advertising
Total Abstainers and Life Assurance: K UNITED KINGDOM TEMPERANCE AND GENERAL PROVIDENT INSTITUTION The OLDEST, the STRONGEST and the BEST OFFICE which offers SPECIAL ADVANTAGES to Abstainers. The 1 Largest English Mutual Life Office. FOUNDED 1840. Total Accumulated Funds 26,850,000 Annnal Income. zC690,000 Amount of Policies in Force 31st December, 1895 £ 14,000 000 Surplus Divided amongst Policy-holders, 1896 2741,845 For the Society's Full Handbook, 48 psge?, apIly to the Representative,— JOHN HUGHES, 1 Venice Chamber?, 61 Lord Sfreet, Liverpool. Be ideYice-2, Elm Bank, Wanton Breck Road.
Cyrddau y Dyfodol, &o.
Cyrddau y Dyfodol, &o. Gweler yr Hysbysiadau yn y rbifyn hwn. Shag. 26.—Eisteddfod y Temlwyr Da yn Lerpwl „ 26-Eisteddfod Gadeiriol Rhyl
Dyffryn Clwyd.
Dyffryn Clwyd. DINBYCH. Y MAE darlun o Mr W Mellard yn ei wisg swydd- ogol fel Maer (wedi ei baentio gan Mr Leonard Hughes) ar hyn o bryd yn y Cambrian Academy. Plas Mawr, Conwy. Nos Wener, cynaliwyd cyfarfod yn y Clwb Rhyddfrydol i ddathlu coffadwriaeth Mr Gladstone. Cymerwyd rhan gan Mr T Williams, Y.H., Llew- esog, ac eraill. Yn nghanol pentwr o lo yn ymyl gorsaf y ffordd haiarn y mae nyth gwningen, ac amryw rai bychain ynddo. Dyma'r trydydd tro i hyn ddigwydd. Anfonodd y Parch T E Williams, Peniel, a Fwrdd Llywodraeth Leol, dros drethdalwyr e gymydogaeth, yn cwyno am gael pont dros afon sy'n croesi'r ffordd wrth Dderwen Gomel, ac anfonodd y Bwrdd at Gynghor y dref. Yn mynwent Llanganhafal y claddwyd y peirian- ydd enwog, Mr G F Lyster, Plas Isaf. Yn y cladd- edigaeth yr oedd prif foneddigion y dyffryn, ac amryw aelodau Bwrdd Dociau a Harbwr Lerpwl. KHUTHIN. Wedi tridiau o afiechyd, bu farw Mrs Williams, y Fferm, yn 33 oed. Yr oedd yn aelod yn Bethania, Llanfwrog. Claddwyd hi yn mynweut y Rhewl ddydd Mawrth, pan y gweinyddwyd gan y Parchn E Stephens, E Evans, T Owen, I James, a Mr D Jones, Pentre. Dydd Iau, rhoddodd Mrs Bremner, Plas Wood: lands, de i hen bobl Bontuchel. Arfyrddau ac nie vn swyddi cyhoeddus perthynol i'r dref, y mae 12 o Fethodistiaid. Dangosa hyn fod yr Hen Gorph yn bare hus a lluosog yn Rhuthin. Edydd Iau, prynodd Mr Ma^i i mewn arwerth- iant bedwar o dai yn Heol y Rhos am 210p., a Mr R Owen, Dinbych, dros un arall, ddau fasnachdy yu Heol Clwyd am 350p. Y mae meirch-filwyr y sir wedi cyrhaedd i'r dref ddydd Iau. Rhifant 150, ac y maent o dan lywydd- iaeth y Milwriaid Howard a Mesham. LLANELWT. Yn Mwrdd y Gwarcheidwaid, darllenwyd llythyr oddiwrth y Tad Lucas yn gofyn am i un o blant y tlotty gael myn'd i ysgol y Pabyddion. Wedi llawer o siarad a phleidleisio, caniatawyd y cais. Boreu ddydd Iau, bu farw, yn 75 oed, yr hen fil- wr Wm. Burrows, a gollodd ei dy ychydig amser yn 01 trwy dan. Ymunodd a'r fyddin yn 17 oed, a bu yn mrwydrau yr Alma a Sebastopol, am yr hyn y cafodd dlysau. Derbyniai flwydd-dal er 1860. NANTGLYN. Dal yn gyndyn y ma-i y clerigwr presenol eto yn nglyn a'r ysgol, yn nacau ei g.,sod heb iddo ef gael yr hawl arm ond amser yr ysgol a thair no,waith o'r wythnos. Yn ngbyfarfod diweddaf y Bwrdd dewis- wyd Mr Bennett Jones, Hafod, yn lie y cyn-glerigwr ar y Bwrdd. CLWTDFAB.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. CcneOtoaetbau. Jones-Mai 23, priod D W Jones, Llanfrothen a Bootle, a ferch. Jones Nai 17, yn Victoria load, New Brighton priod J M Jones, ar ferch Parry Mai 22, yn 23 Chapel avenue, Walton, priod H Pirry,, ar ferch. Jones-Mai 13, priod T Jones, Lon Abram, Dinbych, ar fab Jones-Mai la, priod T Johea, ceidwad yn y Uwaligofdy, Jjin- bych, ar fab. Jones Mai 17, priod R Jones, Penybwlch, Groes, Dinbych ar fab. prtodaeau. Humphreys-Jones-Mai 20, yn nghapel David Street, gan y Parch Wm Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Patch T. Evans, Ismael Humphreys, Buotie, a Louisa Jones, unig ferch Isaac Jones, Beresford itoad. James-Griffith -Mai, 17, yn ngapel M.C, Fitzclarence Street, Lerpwl, gan y Parch J Hughes, John Janes, Ler- pwl ag Ellen, mercn Thomas Griffiths, Amiwch. Jones—Hughes—Mai 17, yn nhgapel yr Aunibynwyr Saes neg, Greenhough Street, Wigan, gan y Parch Owen F Jones, llicbara J Jones, Oak Villa, Ooodiiai, a Mary Ellen, ail ferch Mr David Hughes, Ulanygors, Maeshafn. Owen—Williams—Mai 20, yn nghapel Betblehem, Nether- field Road, gan y Parch Hugh Jones, D.D., Hughie Owen 65 Harebell Street, ag Elizabeth J. Williams, Hengae Lianfairfechan-y adau yn aelodau o Gyfrinfa '• Seren Bethlehem." Llwydd iddynt. Price—Smith—Mai 22, yn nshapei Annibynol Llandrillo, gan y Patch Ifan T Davies, Bvau Ptice, 100 Rodney Street, Birkenhead, fig Annie Smith, Blaenywern, Llandrillo. .Rogers—Jones—Mai 13, yn nghapel Rhewl, gan y Parch Isaac Jones Nartglyn, yn mhresenoldeb y cofreswydd (W H Jones), Edward Rogers, Nantglyn, ag Anne Jones, liaeth- wraig ITstred, ger Dinbych. Abarwolaetbau. Davies-Mai 17, yn 37 oed, Ellen, anwyl briod Evan Davi, a, Cefn-y-Bedu Mills, Wrexham, ac a gladdwyd yn Mynwent Hope, Mai 20, George-Mai 18, yn Ysbytty Shaw Street, Lerpwl, yn 66 oed, Margaret, anwyl briod Wm George, adeiladydd, Beau- maris, gynt o Bootle. Bu'n aeiod am Hynyddau yn eglwyai y Bedyddwyr yn Erasenose Koad, Knowsley Road, a Beautuaris. Claddwyd hi ddydd Llun yu Beaumaris, yn Jigwydd lluaws o hen gyfeillion a gyoyitiueimlent yn ddwfn a Mr George yn ei gystudd a i brofodigaetb. Gweinyddwyd gan y Parch J Parrish, gweinidog y lie. I Tans—Mai 19. yn Marchnad y Moe, Dinbych, AnneErans, priod y diweddar 0 Evans, ger Trosyparc. Witijama-Mbi i 7 ger eglwys St, Hilary, Dinbych, ptiod D Williams, arwerthwr, a merch y diweddar J Jones. o'r Cas- teJl ,j awr, Williams—Mai 20, yn 79 oed, yn nhy ei fab, 75, Edinburgh rd Owen Williams, am lawer o fiynyddoedd yn gwasanaethu yn y Custom House, Lerpw 1.
Advertising
PRETT2 TEETH ARE ATTRACTIVE. W. JONES, Dentist, 29, HIGH ST., WAVERTREE All Clients receive Mr. JONES'S personal attentions and the benefit of his 22 years experience as a Dentist. Painless Extractions under Nitrous Oxide Qu, HIGH CLASS ARTIFICIAL 1EETH, natural Shape, and Colour, 8s. to 21s. each. Old Sets and Misfits re-made on New Setting at about half; the original cost. Repairs to Artificial Teeth and Plates, any Makers', completed1 in a day If required. Consolations Free. Telephone, No. 25&Waverbr". Siarledir Cymraeg neu Saesnec. Pamphlet,'gntfi Printed and Published by ISAAC FOULKES at1 his Printing Establishment, 8, Paradise Streat in the Parish of Liverpool, in the County ot Lancaster. Telephone 7426 (Central).