Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Nodiadau o Lanbaris

News
Cite
Share

Nodiadau o Lanbaris DDYDD Sadwrn, yn nghapel Gorphwysfa, cynal- iwyd Cymanfa Ysgolion Sul y Dosbarth, Daeth cynulliad rhagorol o'r plant i gyfarfod y prydnawn, a dangosent ol llafur mawr a chanmoladwy. Yn adran y dysgu allan-o 6 i 14 oed-yr oedd lluaws mawr, a gwaith da iawn wedi ei wneud. 0 dan 13 arholiad mewn ysgrifen-y goreu oedd Edwin Wil- liams, ysgol Gorphwysfa allan o 30; cyfartal ail, 0 A Thomas, Gorphwysfa, a W 0 Jones Rehoboth; 3ydd, R Ifor Jones, Gorphwysfa. Dan 16-arhol- jad ysgrifenedig-1, Ednyfed Evans, Gorphwysfa; 2, OB Owen, eto-oedd erbyn dydd y Gymanfa yn ei fedd. Yr oedd dau arall allan 0 lu mawr yn gyf- ei fedd. Yr oedd dau arall allan o lu mawr yn gyf- artal ag ef. Cyflwyawyd tystysgrifau Tonic Solffa i nifer mawr o'r plant. Yr oedd y canu yn rhagorol iawn yn yr oil. Caed anerchiadau gan y Parchn Tecwyn Parry a J 0 Jones, a'r cadeirydd (Mr Evans, ysgolfeistr Diuorwig). Llywyddid yn yr hwyr gan y Parch J R Wil- liams, Rhydbach. Yr adran gerddorol oedd prif beth y cyfarfod hwn. Caed datganiadau rhagorol o amryw donau, salmdonau, ac anthemau. Yr oedd myn'd" ar y cwbl, yn enwedig anthem Mr J H Roberts, Caernarfon gynt. Caed cymanfa hynod lewyrchus eleni o'r dechreu i'r diwedd. Yr arwein- ydd oedd Mr Griffith Phillips, Dinorwig. Gwelais gipolwg ar Gofiant a Phregethau' y diweddar Ddr Hughes, tan olygiad y Parch J Wil- liams, Lerpwl. Am gynwys y gyfrol nid oes dau feddwl yn ddiau. Yr oedd y Dr yn hynod boblog- aidd yn y cylchoedd hyn. Deuai yma'n fynych o Lerpwl, gan aros i bregethu y nosweithiau yn y cylch, a dychwelyd adref at y Sul. Yr oedd ei ymweliadau megys angel Duw. Diau y bydd galw mawr am y gyfrol yn y cylch. Goddefer i mi ddweyd fod dygiad y gwaith allan, o ran papyr, llythyren, cywirdeb, destlusrwydd, a manyldra, yn glod i swyddfa'r Cymro.. Ni bu mewn unrhyw lyfr- gell gyfrol harddach, glanach, a mwy gorphenol. Gwn pe buasai'r hen Ddr anwyl yn fyw y cawsai foddhad wrth edrych arni. Y mae si yn y gwynt fod EISTEDDFOD GADBIKIOL i'w chynal yma tua diwedd Medi y flwyddyn hon. Mae'r testynau a'r beirniaid wedi eu penodi, a'r daflen ar ddod o'r wasg. Beirniaid y farddoniaeth yw Cadfan ac Eifionydd; traithodau, nofelau, ac adroddiadau, Tecwyn, a Cyngar. Syniad campus yw hwn, a diau y bydd yn boblogaidd iawn. Y mae Mr Puleston Jones, medda nhw, yn nghanol yr Hwntws yr wythnos hon. Diau y dy- wed wrthynt bethau newydd a hen. Y mae si ar led ei fod yn debyg o ymadael or cylch. Y tefyygol rwydd yw y dewisir ef. yn athraw i Goleg Duwin- yddol y Bala. Pwy a geid yn well, yn mhob ystyr, nag ef ? Mae'n ysgolhaig gwych, ac yn gallu cyf- lwyno ei feddyliau i eraill yn eglur ac effeithiol, ac yn goron ar ei holl ragoriaethau mae ganddo ddyn- oliaeth dda, ddiblygion, a llawn o garedigrwydd. Teimlwn yn chwith o'i golli, ond dymunwn y goreu iddo. Da genym ddeall fod yr hen bererin dyddan y Parch D Williams, Cwmyglo, yn dechreu hybu o'i gystudd blin. Dymunwn iddo adferiad buan. Bu yma gynt hen gymeriadau ffraeth a doniol yn y cylch, ond y maent wedi myn'd," ac nid oes neb yn codi yn eu lie. Yr ydym fel marbles, heb un gwahaniaeth rhwng y naill a'r Ilall. Y mae dau neu dri o to's, chwedl y plant, yn y Clegir, a hwyrach un neu ddau tua Pentrecastell, y cawn sy lwi arnynt yn y man. ELlPIR BAIS. .— o ———

[No title]

Dadorchuddio Cofgolofn Enwogfon…

--:0:--Nodion o Faalor.

CWRS Y BID. -0-.;