Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Coheblaethau,
Coheblaethau, HEINTIAU. SyR,-Dyivecl y (ioethion fo(I heintiiii yn heintus. Wedi sylwi'n ddyfal ar hanes dyn, ei ryfedi foes, a'i amryfal ffyrdd, bron na thybiwn eu bod ar brydiau yn ddoeth eu llafar. Ni chyfyngir heintiau i'r "amien hon o bridd a nych y soma Shakespeare am dani, ond yrnwthiant drwyddi i sancteiddle sincteidcliolaf dyn, a da os dianc y meddwl heb ei lwyr ddifa. Hynod mor ddiduedd ydyw heintiau y meddwl. Ni faiiant fwy am syfrdaau morwyn i efelychu gwisg ei meistres nag am bendroni coeg-en ucheldras i ym- bincio fel tywysoges. Nid diystyr uaohonynt o'r ys- barbil bregethwr ddynwareda'r hen hoelion wyth, nac o'r lordyn a rodia fel argiwydd y cread. Ond o holl blant dynioD, y rhai onvyaf agored i'r plaau heintus hyn ydyw y bodau rhyfedd hyny elwir Flint yr Awen. Nid yw o bwys pa un ai lien ai can, ai barddas neu hanes, sy'n dwyn eu serch, canys syrthiant oil, o dro i dro, yn aberth i'r heintiau eohrydus hyn. Pwy na wyr am haint y bwthyn ? Canodd un bardd am 'Y bwthvn yn nghanol y wlad,' ae enynodd yr haint awen y cyff barddol. Ar darawiad amrant, wele eu llygaid yn gwibio mewn gwynfydedd i chwilio am fythynod eraill yn destynau i'w caniadau anfarw- ol. Canfu un 'fnvbhyti ac y traetb,' ac un arall fwthyn yn y coed.' Gwelodd hwn fwthyn bach to gwellfc,' a chofiodd nac w am fwthyn bach melyn ei daid.' Weithian, nid oes brm fwthyn yn Nghymru na bu fflachiadxu y beirdd yn ymwau o'i amgylch ogylch, a'u rhuadau yn biglo ei sylfeini fel tymfiestl arswydus o fellt a tharanau. Tarawiad cyffelyb sydd gan 'haint yr hen if on.' Ymlwybrodd un bardd i ben bryn anfarwoldeb ar bwys hen lion ei nain.' Dilynwyd et gan un arall yn hen glocsiau ei nain a gwelwyd un brawd yn araf ymgribo i fynu y llechwedd serth trwy gym- horth hen brocar bach gloaw ei nain.' Haint anaele arali ydyw clwy y marwnadu. Ad- waenir hwn mewn rhai manau dan yr enw Pla yr Anthem Goffa.' Nid cvnt y cwymp un o fawrion y wlad nag y dylifa ffrwd o ddagrau o lygaid y bardd, as y deehreua'r cerddor fingamu i nadu ac oohain ar ei ol. Gwyddis am un bardd alarnadai am bawb efo'r un pan, heb newid dim ond y penawd a'r enw ac am gerddor farwnadai mor gyffredinol feL nad oedd eiaiau dim ond newid y rhagenw, hyny yw dodi ef' am fab a hi' am fercb, a dyna'r anthem yn addas i alaru am bob brawd a chwaer ymadawedig,' ys dywedai yntau. Gallesd tybio y gwnelsai hon bob anthem goffa arall yn ddifudd, ond hyd yn hyn ni 'chauwyd y dr-w" Disgwylir cnwd toreithiog o ffrwyth yr -awen wylofus y dyddiau hyn. Beth amser yn ol, troediodd un gwr lien y wlad i weled 'Cartreti Cymru,' a tbraethodd yn hyawdl am ei hynv. Mawr ydyw mintai y rhai a'i dilynant. Pererindodant at hen furddynod, gfn holi a stilio pa.wb am y gwr a bia'r nenbren. Craffant yn fanwl ar y wlad o'u hamgylch, ac os medrant adgoffa llinell o waith y gwr mawr ei glod, gwyn ea byd, canys dod- ant hi yn eu hysgrif, un ai fel darlan o'r wlad neu fel tamaid o'i brofiad ef ynddi. Pwysicach fyth gan y tylwyth hwn—bum agos a'« galw yn adar cyrph- ydyw cael hyd i fan techan ei fedd'—dyna ddywedir am hunell pob un—a chodi'r englyn ar ei faen goffa i anwes foethi eu llith a galar y sawl a'i carai yn ei fywyd. Da y gwoant am a wa i a phur yw eu hamcanion ond pe meddent y ganfed ran o gaxiad y gwr lien, neu'r filfed ran o'i ddawn, ni soniai neb am haint y traed a'r genau.' Hwyrach mai'r clwy enbytaf a difrifolaf o'r cyfan ydyw haint y saint.' Both, yn eno dyn, ydi hyny?' medd rhywan. Hz,int darawodd gcrddorion Cymru pan oedd galw mawr am donau cynulleidfaol, a plinu- der enwau i roddi arnynt. Ar ol hysbyddu enwau bryniau a bronydd ac afonydd y fro, dodasant eu henw bedydd ar y d6n, a'r gair sant' o'i flaen i'w urddasoli. Cawsom felly Sant Ifan a Sant Joseph, Sant Edward a Sant Dafydd, ac amryw seintiau eraill at ddeug mil ar hugain seintiau Cymru. Ca lluniau saint y Pab a Mari Wen Ddisgleirwych enfys o gylch eu pen Am benau'r rhai'n, rhown ninau fwa gwlaw, A'r dwyrnyn boeth a'u gedy maes o law. Boed felly efo'r heiiitiau,oll, medd BILA BIL.
ETHOLIAU MEIRION.
ETHOLIAU MEIRION. SYR,—Er fod hyn bellach drosodd, a'n hetholedig wedi ei osod yn ddyogel ar ei sedd, y mae yna un pet'1 y dylid ei egluro a'i unioni mewn cysylltiad a dswis ymgeisydd Rhyddfrydig ] r etholaeth. Dy- wedir gan rai newydd iadcrori mai Mr Osmond Wil- liams oedd dewisedig Rhyddfrydwyr Penrhyndeu- draeth, yr hyn sy'n gam-hysbysiad ac yn gamarwein- iol holloi; ac os amlygodd cynrychiolwyr y Penrhyn hyny yn y gynadledd yn Nolgellau, gwnaethant yr hyn na ddylasent, a'r hyn oedd yn hollol tuallani'w dyledswydd, ac yn sicr fe ddylent egluro en gwaith a rhoi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Os nad y cynrych- iolwyr wnaeth yr amryfu-edd, yna mae'r bai yn gor- phwys ar gynrychiolwyr y wasg, a dylent hwy wneud yr eglurhad gofynol. Gwyddom fod teimlad rhai yn rhedeg yn uchel yn ffafr Mr Osmond Williams; ond daeth y boneddwr i'r cyfarfod, a dywedodd yn ddiamwys ei fod yn rhoi pob hawl i fynu yn ffafr y Proff 0 M Edwards, ac y gwnai ei oreu yn ffafr ei ddychweliad. Ond er y dat ganiad gone-t ao anrhvdeddus hwn, mynodd rhai o edmygwyr Mr Williams ei gynyg a'i gefnogi, eithr llwyddodd y cadeirydd ac eraill gael ganddynt dynu y cynygiad yn ol. Felly ni ddodwyd ond enw Mr Edwards i'r eyfarfod, a dawiswyd ef yn unfrydol; ac ni ddylasai cynrychiolwyr na gohebwyr wneud y fath gam na gosod y fath anwiredd wrth ddrysau etholwyr (Rhyddfrydig y Penrhyn, y rhai ydynt mor bur i'w hegwyddorion ag ydynt o frwdfrydig dros eu haelod anrhydedd..s a galluog. Ac yn enw cyfiawnder a chwareu teg, yr ydym yn galw ar yr euog, pwy bynag ydyw neu ydynt, od oes goleuni ganddynt, 1 roddi ini .eglurhad ac ymddiheurad am y camwri a wnaed i ni yn y mater hwn. VOTER O'R PENRHYN.
CATECISM Y BWRDD YSGOL.
CATECISM Y BWRDD YSGOL. SYR,—A ganiatewch chwi i un dinod, diddysg fel fi ddweyd gair ar y cwestiwn uchod. Yr wyf fi a llawer tebyg i mi yn dra dyledus i chwi am daflu mesur o oleuni arno ond yr wyf eto yn y tywyllwch parthed pwy a luniodd y catecism- Fe'i gelwir yn gatecism yr Eglwysi Rbyddion. Os hwy a'i lluniodd pa amcan oedd ganddynt ? Ai er mwyn ei gyflwyno i'r ysgolion dyddiol ? Os mai ie, paham ei gwrthwyn- ebir ganddynt ? Onid yw hyn yn greulondeb at blentyn ? Heblaw hyny, caniatawn eu bod wedi trefnu i'w gyflwyno i'r ysgolion dyddiol, pwy, yn enw pob rheswm, oedd yn galw am hyny ? Ai rhieni v plant sy'n mynychu'r ysgolion. Na, choelia'i fawr. Ni ynganwyd gair wrthynt erioed, mwy nag yr yng- anodd aelodau y Bwrdd Ysgol air wrth y bobl y maent (mewn enw) yn eu cynrychioli. Yn araf deg, gyfeillion. Mae gan y rhieni rywbeth i'w ddweyd yn y mater, ac fel un o'r cyfryw, cyn belled ag yr aiff addysg ysgrythyrol yn yr ysgolion dyddiol, ni fodd- lonwn ar ddim. Ac nid wyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Mae'n amlwg fod yn bryd i rieni dde- chreu ymysgwyd, gan fod ein harweinwyr—dynion yr arferem ymddiried bron y cwbl iddynt ar adegau cyfyng fel byn—yn plygu fel brwyn yn yr awr reitiaf wrthynt. Os byth y daw'r catecism i rym, awn ar dtreic, doed a ddelo, a gobeithio yr aiff yr ysgolfeistri ar streic, fel y Llundeinwyr. Gofalwn ninau, dreth- dalwyr a rhieni y plant, am gadw hyn mewn cof pan ddaw adeg ethol y Bwrdd Ysgol nesaf. Rhaid fod y dynion a droisant eu cefnau arnom wedi gorphen magu eu plant neu heb ddeohreu. GOBAITH.
< Colofn Dirwest-
< Colofn Dirwest- SAFLE'R ACHOS YN BIRKENHEAD. YR wythnos ddiweddaf cynaliwyd cyfarfod mawr" blynyddol Cynghrair Dirwestol y dref uchod yn neuadd y Y.M.C.A. Sylwodd v Llywydd i'r Cyxig- rair gael ei gychwyn naw mlynedd yn ol mewn ys- tafell gan chwech o ffyddloniaid, ac erbrn heddyw rhifai ei aelodau (J,0-10. Un o led-Gymry sir Fyn- wy ydyw'r ysgrifenydd, ac un galluog a pliybyr an- nghyffredin. Dyma'i unig oruchwyliaeth, a cheiff ei holl amser; ae y mae'r CYD,hrair, o'r herwi dd, yn dyfod yn allu gwirioneddol yn y cylch. Dangosai adroddiad yr ysgrifenydd—un or rhai mwyaf clir a thwt a glywsom braidd un amser—fod y Cynghrair yn cynwys ynddo 45 o gymdeithasau a themlau dirwestol, yn en mysg Teml Gymreig z, "Hiraethog." Birkenhead oedd gyda'r cyntaf o drefi Lloegr i symud gydag atal rhoi diod i blant mewn tafarnau, yr hyn a bwyswyd ar yr ynadon gan y Cynghrair efe hefyd a ymegniodd i gael Dr Wilkinson yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, yr hyn a rydd i bleidwyr dirwest fwyafrif ar y Bwrdd hwnw. Dynoethodd y Cynghrair hefyd Hwyllgor Gwylio ( Watch Committee) Cynghor y Uref, fel un cynwysedig brou i gyd o bersonau yn meddu budd- iant uniongyrchol neu anuniongyrchol yn y Fasnacli. Llwyddodd i beri peth cyfnewidiad er gwell ar y Pwyllgoi-, ond hen gaerfa anhawdd ei dymch'-vel ydyw. Dywedai'r adroddiad air da am agwedd y Bwrdd Ysgol at ddirwest, a'i fod yn un o'r ychyd- ig Fyrddau hyn sy'n cyflogi darlithydd cyfarwydd ar alcohol a'i ddrwg-effaith i fyned ar gylch trwy'r ysgolion. Yn mhellach, y mae i'r Cynghrair ei gyhoeddiad misol tan yr enw Town Crier, a ddosberthir wrth y canoedd yn y dref, ac a brawf fod ffydd ag yni mawr yn y pwyllgor a'i swyddogion. Peth auhawdd yd- yw cadw cyhoeddiad dirwestol, a dirwestol yn unig, yn fyw heb gynorthwy rheolaidd gwyr o aim lleu- yddol helaeth, a gobeithiwn y ceiff }" Criwr hwn fwy o hyny yn y dyfodol. Prif siaradwr y cyfarfod heno ydoedd y Tra Hybarch Ddeon Hereford. Gwr adnabyddus iawn yn Myddin Dirwest, a gair da iddo am ei dduwiol- deb a'i ddifrifwch. Credwn mai fel trefaidydd a chynghreiriwr y rhagora; y mae wedi cychwyn a dwyn yn mlaen undeb o gymdeithasau dirwestol yn mhobman y bu wedi teithio'r ddaear gron i ddeall gwaith dirwest yn mhob dull o'i hyrwvddo ac y mae ganddo gnd fawr mai dynion wedi eu "haii eni" yn ysbrydol sy'n debyg o ledaenu teyrnas llwyrymwrthodiad, ac mai trwy ei bachu wrth ger- byd yr Efengyl yr aiff Dirwest tros yr hollfyd. Tynodd ddarlun pygddu iawn o ddau Dy'r Senedd, a sylwodd fod ein Deddfwrfa yn dryfwl o bleidwyr cefnog i fasnach y diodydd meddwol, ac v rhaid ei glanhau ohonylit cyn byth y ceir deddfwriaeth ddii- I westol drwyadl a chymesur ag angen y wlad. Syn- iad bychau sydd ganddo am gydymdeimlad dirwest- ol Mr Chamberlain, ac mai byr a gwyrgam oedd ei welediad moesol pan ddywedai yn ddiweddar am ranau o Affrica mai eu prif felldith oedd clefyd y dwymyn boeth. Dim o'r fath, dyrnai'r Deon, alco- hol wediei drwytho a. phob gwenwyn ysol ydyw hwnw. Eglwyswr rhyddfrydig iawn ydyw'r Deon, ac yn gydweithiwr rhagorol ag Ymneillduwyr a phawb sy'n ceisio darostwng annghymedroldeb o'r tir. Llywydd y Cynghrair am y flwyddyn ddyfodol fydd Mr Maurice Llewelyn Davies, mab i un o ber- soniaid £ Lloegr Fach," fel y gelwir parthau Seisnig sir Benfro, ond sydd yma'n berchen llongau llwydd- ianus er's blynyddau. Disgwylia'r Cynghrair lawer wrtho gan fod boneddwr ddewisa gelu ei enw wedi addaw mil o bunau at godi neuadd ddirwestol hardd, gyfleus at holl angenion y Cyngrair a'i waith, ond iddynt hwythau gasglu pedair mil ato. Ac fe wneir ar fyrder yn ddiau. Mae Dirwest yn rhwym o ffynu'n well wedi cael cartref o'r fath. Dal i ganu Aberystwyth,' Crugybar, a Holy City' mewn tafarn y mae'r pedwarawd crefj-ddol eu proffes yma o hyd. Y maent yn weilch herfeidd- iol iawn, ac fel mae gwaetha'r modd yn niweidio planhigion eraill sydd heb lwyr golli eu tynerwch moesol. JE AnslI. 0--
[No title]
Yn ystod yr ystorm o fellt a tharanau ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, tarawyd Pont Menai,(y Tabular) tua'r piler canol gan fellten. Rhyddhawyd careg fawr, dunell o bwysau, a chwympodd i'r dwfr. Gweithiai amryw ddyn- ion ar y pryd yn ymyl ar ysgaffald crogedig, ond ni anafwyd neb.
PURWCH Y GWAED.
PURWCH Y GWAED. Y GWAKI) YW Y BYWYD," ac mae yn rhaid ei gael yn bur cyn y ceir corph iach. Mae llawer o'r clefydau a'r anhwylderau y mae dynion yn ddarostyngedig iddynt yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, yn cael eu hachosi gan vjaed anmhur ac afiaeh. Arwyddion neu arddangosiadau o anmhuredd yn y gwaed yw gwelwder, gwendid, maawynau. cornwyd- ydd, &c. Darpariaeth natur er puro y gwaed yw llysiau o wahanol fathau Yn mhlith y llysiau mwy- af rhinweddol ae etfeitbiol i gyrhaedd yr amean hwn, cydnabyddir gan feddygon yn mbob gwlad mai y goreuon yw cinchona (o'r hwn y ceir Quinine), sarsapa- rilla, cynghaw (burdock) a dant-y-llew. Ceir rhin- weddau iachaol a gwaedburol y llysiau hyn, yn nghydag amryw felus-lysiau a chwerw-lysiau eraill, yn y meddyglyn enwog, Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae meddygon ac eraill sydd wedi rhoddi prawf arno yn cyd-dystio nad oes un meddyginiaeth aiall gydmara a Bitters Gwilym Evans er gwella ac atal anhwylderau a achosir gan loaed anmhur. Ceir hefyd fod Bitters Gwilym Evans yn anmhris- iadwy at ddiffyg treuliad a phob anhwylder yn y cylla, ac mewn aohosion o wendid mewn gwrage id a phlallt, neu rai yn dihoeni mewn gwendid ar ol bod mewn unrhyw dwymyn. Dyry yni a nerth adnewydd- ol yn fuan i'r cyfryw. Grochelwch efelychiadau ohono trwy edrych fod eow Gwilym Evans ar y label, y stamp a'r botel. Pris poteli, 2s 9c a 4s 6-i yr un. Ar werth gan bob fferyllydd, neu anfonir ef am y prisiau hyn yn uniongyrchol oddiwrth v perchenogion, Quinine Bitters Manufacturing Co. Limited, Llanelly, South Wales.
Advertising
FINEST CYOr.ES "jLobs^ 1899 Lists of ROYAL AJAX /iCvAWy^\ CYCLES for Ladies and Gen- fliirpt.lr H tl,s,nen Post free. IMMENSE STOCK, New & Second hand, Wonderful bargains. Carriage ^ASY PAYMENTS FROM 10s. MONTHLY. Large aia.^uut for cath. Old machines ex- changed. 1 year's %uarantee.- _a, gest Cycle-Riding School in North of T?aeLand.—1HB BRITISH CYCLE MANU- FACrURINGr CO.. 45. Evertoo Rf ad, Liverpool. Telephone 113 Anflell. Central Depot, 30, Elliot Street. Telephone, t90
I MR. W. W- WALKER, C.D.
I MR. W. W- WALKER, C.D. .I) YDi)"ffodiis i drethdalwyr auiyneddgar ein dinasoedd mawrion fydd hwnw pan na fernir credo wleidyddol mwyach fel y cymhwysder mwyaf i weinyddu ar gyughorau bwrdeisiol. Dan y gyfundrefn bresenol, ceir dynion o bob plaid wleidyddol yn cael mynediad i mewn i'r Cynglior fel i'r Senedd, y rhai—er lies y cyhoedd os nad hefyd eu lies eu hunain-y buasai'n well iddynt fod oddiallau. Er engraipht, byddai'n fendith genedlaethol pe gellid danfon tinceriaid a theilwriaid yn lie rhai or cyfreitliwyr a'r darllawyr sy'n eistedd yn St. Stephan. Yn ffodus i logellau'r masnachwyr trwm-lwythog, aufonir y dynion cym- hwysaf, er gwaethaf gwleidyddiaeth, weithiau i'r Cynghor Dinesig Un o'r cyfryw yw Mr AV. W. Walker, gyrfa fasnachol lwyddianus a gwybodaeth eang vr hwn am reidiau lleol sy'n ei gymhwyso'n arbenig ar gyfer dyledswyddau Tad Dinesig." Craff, proliadol, anturiaethus, ac un yn gweled yn mhell, y mae'n batrwm o'r dyn ymarferol sy'nangen- rheidiol ar y Cynghor i atal treuliau diangenrhaid ac ynfyd, tra yn cefnogi pob mudiad doeth a diwygiad darbodol er lies y cyhoedd. Mr Walker yw penaeth ffirm adnabyddus Mri W W Walker a'i Fab, goruchwylwyr cyfaawerthol i'r gwneuthurwyr myglys a sigars biaenaf, 53 White- chapel. Oherwydd ei brawf maith a'i wybodaeth arbenig, gellir ystyried Mr Walker yn fyglysydd ymgynghorol i fasnachwvr man-werthol. Fel gwr hyfedr yn ei ganghen ei hun, y mae hwyrach heb ei hafal yn y wlad hon, a mantais i rai'ndechreu bustles man-werthol fyddai ymgynghori ag ef sydd wedi cael deugain mlynedd o brofiad yn y fasnach. Fe syaa aelodau o Ijndebau Llafur pan ddeallant i Mr Walker am fiynyddau lawer weithio o 8-15 yn y bjre hyd 8 yn yr hwyr bum' niwrnod o'r wythnos ac hyd 11 o'r gloch ar y chweched noson. Yn yradeg hono o gaethwasiaeth gwyn," ni feddai Mr Walker ua'i feistr y syniad lleiaf y byddent mewn blynyddau dilynol yn cydgyfarfod fel aelodau o'r un Senedd Ddinesig. Cafodd Mr Walker y fantais o ddysgu cyfrinion y fasnach fyglys yn drwyadl trwy dreuliodeng mlynedd gyda Mri Pierce a'i Fab, Castle Street, y ffirm hynaf o wneuthurwyr myglys yn Lerpwl, a'r atforwyr mwyaf o sigars yn y dref yr adeg hono. Yn ddilynol, dechreuodd Mr Walker fasnachu ar ei gyfrifoldeb ei hun fel gwneuthurwr myglys yn Birkenhead, Ar ol masnachu'n llwyddianus am chwe' blynedd, cyfarfu a thrychineb atiaele-llwyr losgwyd ei fasnachdy a'i gynwys, ac nid oeddynt wedi eu li.v,wirio. Ar ol y trychineb hwn, daeth Mr Walker i gysrlitiad ag ua o ddynion hynotaf Lerpwl—y diweddar Air David Lewis, yr hwn a ymddiriedodd iddo'r gvit:tii o agnr ac arolygu atituriaeth hollol newydd yn llanelagh Street. Gwerthfa myglys a sigars ydoedd hon-ua o'r canghenau cyntaf o'r lluaws a ychwanegodd Mr Lewis ar ol hyny at ei fusnes cyntaf fel dilledydd, Y raae'r iiaith fod oddeutu 11,000 o gwsmeriaid bob wythnos yn yr adran newydd cyn pen mis, yn profi aa chamgymerodd Mr Lewis yn ei farn am fedr a gwybodaeth Mr Walker i arolygu'r fasnach. Parha- odd Mr Walker yn y swydd hon am 13 mlynedd ryda llwyddiaut mawr, a dygodd luaws o newvdd- bethau i'r amlwg yn ystod y cyfnod hwn. Ymadaw- odd i reoli canghen Lerpwl o fasnach y Mri T. P. & R. Goodbody. Dublin, y gwneuthurwyr myglys hel- aethaf yn y Werddon. Yn ystod ei yrfa fasnachol, dygodd Mr Walker i sylw'r cyhoedd amryw fathau enwog o fyglys a ddaethant yn dra phoblogaidd. Yn eu plith ceir Old Monk,' 'Side Light,' Duchess of Newcastle,' 'Don Caster,' 'Squatter,' 'Our Buoys,' a Vine Grove,' a gellir cael yr oil oddiwrth Mri W. W. Walker a'i Fabi 5:5 Whitecliapel. Un o neillduolion y ilirrn ydyw atforiad tri math o cigars Mexico, sef La Prueba,' Old Monk,' a'r Yalle National,' sy'n cael eu gwerfchfavvrogi'n fawr. Y mae'r ffaith yr at- forir y mathau hyn yn uniongyrchol, gan arbed y pris cludiad o Lundain, yn dangos y trefnusrwvdd a'r efrydiaeth o fanyliou sy'n galluogi Mri Walker a'i Fab i gyflenwi nwyddau goreu y mainachwyr goreu am y prisiau isaf yn y fasnach. Nid yn naig y mae Mri Walker a'i Fab—sy'n meddu llu mawr o gws- rneriaid yn oruchwylwyr dros amryw o'r gwneuth- urwyr myglys a sigars enwocaf, ond y mae ganddynt hefyd fudd arianol yu amryw o'r gweithfevdd myglys a sigars pwysicaf yn Ngogledd Lloegr. Gau eu bod fel hyn mewn safie eithriadol fanteisiol i gyf- lenwi eu cvvsmeriaid a'r nwyddau goreu am brisiau a gystadla ag unrhyw fa-nacluly o'r fath, nid yw'n syn fod y busnes yn 5'1, Whitechapel, wedi da'dblygu'u rhyfeddol mewn vchydig flynyddau. Y mae Mr Walker wedidyfeisio a breintebu bhvch i gadw myglys, yr hwn fuasai yn sicr o beri hyfryd- well i'r Capten Thomas Prys o Bias Iolyn (un o'r tri cyntaf, meddir, i ysmygu yn heolydd LIllndain). Gelwir y blwch Kapnophilon,' ystyr yr hyn yw 'cyfaill i gyfaill,' a chynwysa bwys o fyglys Old Monk' Walker am 5/ Y mae i'r blwch gauad tyll- og, ac yspwng llaith wedi ei fiitio oddifewn i'r caiiad. Nid yw'r myglysa gedwir yn y blwch yn myned yn sych na llychlyd. yr hyn, wrth gwrs, sy'n arbed llawer ar logell yr ysmygwr ac yn ychwauegu ei fwyniant hefyd. Y mae'r ddyfais hon wedi llwyddo fel yr haeddai. Etholwyd Mr Walker gyntaf yn aelod o Gynghor y ddinas mewn rhag-etholiad yn Ebrill, ltiDS, gan etholwyr Ward West Derby, y rhai a roddasant iddo fwyafrif mawr ar ei wrthwynebydd Mr Reeves, yr ymgeisydd llafur. Yn yr etholiad dilynol yn Nhach- (ld 11 1 wedd, daeth allan ya fuddugol wed'yn gau orchfygu y Rhyddfrydwr, Mr Fairbrother. Yn rheoleiddiad y busnes yn 53, Whitechapel. cynorthwyir Mr Walker gan ei fab. egni a medr vr hwn sy'n cadw'n gyfochrog a dadblygiadau diwedd- araf y fasnach. Mantais ddirfawr i rai'n dechreu busnes fyddai ymgynghori a ffirm yn meddu cymaint cymhwysderau a'r Mri Walker a'i Fab i gvfarwyddo'u ddoeth ar bob pwynt cysylltiol a thriniaeth a gwertli- iant y llysieuyn gwerthfawr sydd, er gwaethaf taran- follthynody Brenin Iago-" y ffwl doethaf yu y byd Cristionogol "—-sydd wedi esmwytho a melysu byw- ydau miliynau, yu cynwys tywysogion a thlodion, Ii. rhai o'r gwyr mwyaf meddylgar a welodd y byd erioed.
Advertising
Q, Ii Ii 01 L II If Ii "Goreu Arf-Ari hysg. Iesu na'd gamwaith." Duw a phob daioni. EISTEDDFOD TEMLWYR DA LERPWL, Yn Hope Har, Hope Street, Dydd Miwrth (Gwyl y Banc), Rhagfyr 26am, 1 >99. PRIF DES T YNA U. TESTYN Y GADAIR-Pryddest, heb fod dros 400 o linellau, Y Ddau Ddailun," Galarnad Jeremiah iv. 7. 8. Gwobr, Cadair Dderw, gwerth 5p 5s. I PRIF DRAITHAWD—" Brasluniau Beirniadol (Critical Sketches) o'r enwogion canlynol: Miss A. J. Davies, Parchn John Thomas, D.D., Robert Jones (Llanllyfni), Mr Thomas Gee, a'r Dr. Hugh Owen Thomas." Gwobr laf, 2p 2s 2il, lp Is. TRAITHAWD, cyfyngedig i Ferched, "Dylanwad Merch tr cadw a denu o'r dafarn." Gwobr laf, lp Is: 2il, 108 6ch. NOFELIG DDIRWESTOL (Gymraeg), tua 3,000 o eiriau. Gwobr, 2p 2s. PRIF GYSTADLEUAETH GORAWL—I'r Cor o Feibion, heb fod dan 35 a tnros 45 mewn nifer, a gano oreu Llewelyn ein Llyw Olaf (Tom Price), Gwobr laf, 20p a Thlws Aur i'r Arweinydd. (CHIKF gano oreu Llewelyn ein Llyw Olaf (Tom Price), Gwobr laf, 20p a Thlws Aur i'r Arweinydd. (CHIKF CHORAL COMPETITION—M-de Voice Choir, not under 35 nor over 45 in number, for the best rendering of Llewelyn our Last Prince" (Tom Price). First Prize, 220 and a Gold Medal to the Conductor Second Prize, £5) Gellir cael rhestr gyflawn o'r Te=t>nau ond anfon stamp i LLEW WYNNE, Ysgrifenydd, Aslifield, 98, Westbourne Road, Birkenhead. Yn awr yn barod, pris Swill. LLAWLYFR DIRWESTOL At wasanaeth Temlwyr Da, y Cymdeithasau Dirwestol, a r Gobeithluoedd Cymreig (buddugol yn Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl, 1897). Gan THOMAS JONES, Birkenhead, gyda rhagymadrodd Gan y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A, I w gaelgan LLEW WYNNE, 93 Westbourne Ro7, Eirkenhead Xeierau arbenig i Demlau, Cymdeithasau, a Gk beithluoedi- I I' CERDDORIAETH GYMREIGh JOHN JONES, Wholesale and Betallg Musio Selle BETHESDA, NORTH WALEB. OmDWIB ar law y Stoo Fwyaf Amrywiaethol yn Nghymru o aANETJOST (SOSGS) CYXREIG; ao fel rheol danfonir pob archeb gyda throad y pott. Anfoner am y Catalogue yn cynwys tua 500 o wahano G.neu