Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y Pabydd a'i Gi.

News
Cite
Share

Y Pabydd a'i Gi. DDYDD Gwener, yn un o lysoedd Llundain, bu actios pur darawiadol hyny yw, tarawodd plismon ben ei fys ei hun ac nid pen yr hoel. Ci bychan i'r offeiriad Pabaidd, Df Whereat, o Goleg Sant Joseph, Bittersea, a dorodd y ddeddf trwy ymddangos yn yr heol gyhoeddus hebei ben war, neufwshel. LIygad eraffy swyddog a syrthiodd ar y pechadur anneddfol, a gwys- iwyd y perchenog i ymddangos o flaen ei well. Yn y llys, dywedodd y doethawr parchedig Yn ystod y deng mlynedd diweddaf, torodd lladron i fy eglwys ac i fy ysgolion. Y sbeil. iwyd fy mlychau arian o'u cynwys. Ni fyddai R70 yn ddigon i dalu am y golled. Ni wnaeth yr heddgeidwaid yn y cyfamser ddim i ddwyn y troseddwyr i lys cyfiawnder. Ond o'r diwedd, dyma nhw wedi cyflawni gorchest dal fy ngbi. Nid ei ddal chwaith, fe gerddodd y ci i'r heinws heb ei ddal." Methodd yr ynad ddal heb chwerthio, tra yn dirwyo i Is a'r costau. Y mae ymddygiad Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury tuag at gwn yn ddangoseg o'i hym- ddygiad at ddynion. Rhwymir safnau cw I un sir, a gadewir safnau ewn y sir nesaf ati yn rhydd lieb yr un cysgod o reswm tros wneud y gwa- haniaeth. Yn union yr an modd hefo'r bodau uwch—gordrethir un dosbarth-y tenant, dy- weder, a gwaddolir y landlord.

Rwsia a'r Gynadledd Heddwch.

---'" Damwain St. Helens.

Prydnawn da, Mr Edward

Cofgolofn Liansannan.

Modion o Faelor.

Cymanfa Gyffredinol y Methodistiald…

CWRS Y BYD.