Hide Articles List

10 articles on this Page

--0--Yn yr Eisteddfod.

News
Cite
Share

--0-- Yn yr Eisteddfod. MR GOLYGYDD,—Darllenais sylwadau 44 BREU- ddwydiwr" yn y Oymro diweddar, a chan wired a bod y mor yn hallt fe fydd gwae iddo pan gaiff un neu ddau o'r cymrodyr a anafwyd drwy ei freuddwyd pigog afael arno. A minau—fel miloedd ereill a aethum i Eisteddfod 'Stiniog ac nid cdifar genyf chwaith. Mae pob rhagfarn oedd yn fy meddwl tuag at yr hen sefydliad hwn wedi ei Iwyr ddileu erbyn hyn. Gresyn fy mod yn awr yn hen ddyn, onid6 buaswn yn debyg o droi allan yn Eistedd- fodwr chwilboeth Gan mai hen lane wyf, a'm bod yn bender- fynol o barhau felly yn oesoesoedd, nid oedd unrhyw atdyniacl i mi—beth bynag am Cyn- haiarn ac Isallt !-yn y ffaith y byddai yr Eisteddfod yn gyrchfan i ferched ieuainc a ben. Pa mor wên deg bynag y byddo'r menywod yma, mi fyddaf yn gweled gwep a thnciau yr hen Efa tu cefn i'r holl hudoixaeth. Cefais fy nhwyllo gan un ohonynt, ac ni cha'r un arall gyfleusdra, coeliwch chwi fi Ond wn i yn y byd at ba beth yn yr Eistedd- fod fawr i gyfeirio, Yn wir, wrth edrych yn 01 arni drwy ysgrif ddigrifol 44 Breuddwydmr," mae llawer o ddiddanion yr Eisteddfod yn ymrithio o'm blaen. Yr oedd agos yr holl ber- sonau y cyfeirid atynt yn yr ysgrif yn ddieithr i mi ond dygwyddais ddod i gydnabyddiaeth a hen'gyfaill o ddinas y Cymro yna oedd yn alluog i'm goleuo yn eu cylch, a bum yn chwerthin llawer, o dro i dro, fel y delai y naill ran ar ol y Hall o'r weledigaeth yn eglur 1 ml. Dyna hen fachgen ffamws yw Morkn. Yr oedd yn dda genyf gael cyfleusdra i'w adnabod. ClywwB ddweyd mai ystyr ei enw yw Mor-hen! Ac ni fu neb erioed yn llanw ei enw yn well. Yn ol pobpeth a ddarllenais ac a sylwais am dano, gall ei fod wedi byw filoedd o flynyddoedd ar y ddaear, ac wedi symud o gorph i gorph nes cyrhaedd y tabernael crwn, a chryno, a ebadarn y mae ynddo yn bresenol. Y mae yn byw yn rhywle rhwng y diluw a dechreuad y byd, ac yn gwybod pob mymryn o hanes y cyn-ddiluwiaid. Y mae yn rhyfeddu yn aruthr at y Proff J. M. Jones yn haeru nad yw Gorsedd y Beirdd dros dri chanrif o oed a pha ryfedd, oblegyd y mae Morien ei hun yn ei chofio yn mheU cyn hyny Mor Hen Mwynheais fy hun yn fawr yn yr olwg ar Orsedd y Beirdd. Darllenaswn lawer am y Bwch Gafr a barthynai i Orsedd Ffestiniog ond gwelais y creadur diniwed â'm llygaid o'r diwedd. Yn wir, ymddangosai i mi cyn galled ag amryw o'r beirdd oeddynt gyfagos iddo. Clywais ddarfod i'r Bwch dderbyn 44 urdd an- rhydeddus," ac i'r Archdderwydd rwymo y ruban arwyddol o hyny am ei gorn, Gresyn na buasid yn gorphen yr anrhydeddiad hwn drwy godi y Bsvch dysgedig i ben y Maen Llog pwy ^yr na fuasai iddo eilfydda "Asen Blaam" gynt, (t A dyna fuasai yn bert, onide 'nawr ?-Bwch Gafr yn dweyd englyn Ond, ran hyny, mae digon o rai tebyg iddo wrth y gwaith. Hir oes i r Bwch Fel y mae gweilch yn cymeryd mantais ar greadur diniwed fel y fi-perswadiodd rhywun fi i ymofyn am wisg orseddol ond gyda'm bod yn dechreu fy nghais wrth rhyw ddyn bychan, eiddil, tybiwn weled cledd yn ei drem poer- odd ar ei law, winciodd yn orwyllt, a thybiwn mai fy mwrw i'r llawr a, dyrnod y buasai. Ar- weiniodd fi allan, a'r peth olaf a glywais ganddo oedd- 4i Dyma dy le dim o dy lol Byth nad elwyf ar ofyn hwnw ond hyny. Yr oedd amryw yn y Cyngherdd nos Fawrth yn sylwi, ond wn i yn y byd paham, fod pobl fawr yn dal at eu hen arferiad o dori eu cy- hoeddiadau. Un o'r pethau cyntif wnes i rol cyrhaedd y Blaenau oedd myn'd i siop i brynu carpet bag i gario program y Steddfod. Mae genyf logell i fy nghob gymaint a 44phoced potshiar," ond tae'r anghenfil erchyll ddim i mewn iddi, heblaw y buasai'r ddraig goch bono yn rby agos i fy mharth gorllewinol imi fod yn ddiberygl. 'Roedd rhwfun yn gofyn i mi wrth yr Orsedd ddydd Gwener, sawl het fydd Isander yn ddwad gyda fo i 'Steddfod. Pwy oedd y gwr boneddig hwnw oedd yn chwythu drwy y 44 Corn Gwlad ? Olywais ei fod yn perthyn i'r teulu brenhinol, a gallesid tybio wrth ei wisg a'i osgaw ei fod. Tvbiwn fod pob ystum o'i eiddo yn dweyd, "Yt wyf yn mawrhau fy awydd Byddaf yn hofti gweled dyn yn rhoi ei boll hunan yn y gwaith fyddo ganddo mewn Haw, ac nid yn rhyw chwareu ag ef. Yr oedd y twtiadau a ddeuai weithiau o'i gorn yn ddigon a pheri i ddyn feddwl am ddyn arall yn chwythu o'i ben ch-g. Dacw Llew Wynne yn ceisio tynu darlun o'r Beirdd yn Ngorsedd, ond yn methu yn llwyr, gan eu bod mor aflonydd. Yr oedd rhai ohon- ynt yn wincio ar y boneddigesau ieuainc ger- llaw, ac eraill yn sibrwd rhywbeth yn eu clust- iau, fel nad oedd fodd cael dim tebyg i ddarlun ohonynt. Gresyn hefyd na fuasai modd tynu darlun o betb fel hyn Edrychai y boneddig- esau yn brydferth iawn yn en gwisgoedd gor- seddol ond, fel y dywedais 'does dim a wnel wyf fi a, hwynt. Cwynai y gorseddwyr hefyd fod Llew Wynne ei hun yn symud ei drigfan yn fynych iawn. Clywais fod bardd wedi anfon englyn i'r gys- tadleuaeth ar 44 Adgof," ac wedi dyfod i'r Eis- teddfod yn un pwrpas i gael y wobr. Pan welodd golli ohono, esgynodd i ben pigyn uchaf y mynydd uchaf gerllaw, ac edrychodd i lawr ar yr Eisteddfod Dyna'r tro olaf am byth iddo gystadlu, ebai efe, tra byddo "pethau fel y maent." Aeth ar ei ddeulin ar ben y mynydd, naddodd ei englyn i goryn craig, ac aeth i lawr gan ymgysnro yn y dybiaeth y bydd beirdd y Mil Blynyddoedd yn pererindodi i'r pigyn uchel hwnw, o barch i fardd oedd yn rhy fawr i feirn- iaid yr Eisteddfod Genedlaethol ei ddeall- bardd a gafodd gam Di genyf ddeall fod Eisteddfod 1900 i ddod i Lerpwl yna. Mr Golygydd, mae genyf air bach i'w sibrwd wrthycb yn y fan hon, a dyma fo,— A wnewch chwi sicrhau gwisg orseddol i mi, os caf fyw i ddyfod i'ch Eisteddfod ? Os gwnewch, gofynaf i rhywllll gyfansoddi englyn neu gan i mi gael ei gwaeddi oddiar y Maen Llog. Rhyfedd iawn Yn mhen deuddydd wedi i mi ddychwelyd o'r Eisteddfod, clywais adsain dyeithriol yn myned dros yr Eryri yma. Deallais wedi hyny mai un o ysgrechfeydd y beirdd oddiar y M aen Llog oedd wedi crwydro y ffordd yma i gyfeiriad yr Andes—i gadw cwrdd adsain yno gyda'r Patagonwys.

-0--' Cymraeg yn y Colegau.

YPMOR- GWISGOEDD Y MOR

[No title]

--:0:--Gohehiaethau,

----Saethu y Barnwr Parry.

---0--Brawdfysoedd OogEedd…

--0--Llwyddiant Cantores Gymreig,

-0--Marchnadoedd.

: o; CWRS Y BYD