Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

--0--Yn yr Eisteddfod.

-0--' Cymraeg yn y Colegau.

YPMOR- GWISGOEDD Y MOR

[No title]

--:0:--Gohehiaethau,

----Saethu y Barnwr Parry.

---0--Brawdfysoedd OogEedd…

--0--Llwyddiant Cantores Gymreig,

-0--Marchnadoedd.

: o; CWRS Y BYD

News
Cite
Share

Amhosibl yw diffodd y ser sydd uwchben, I A'r haul sy'n tanbeidio yn entrych y nen | Mae'r lloer a'r planed au'n llefaru'n gyttun, Mae'r lloer a'r planedau'n llefaru'n gyttun, Oymer esiampl, a dangos dy hun. j Annoeth goleu eanwyll, pwy bynag fa.'r gwr, A'i dodi hi wed'yn dan lestr, bid siwr Ni roddodd y Crewr mo'r enaid mewn dyn I Heb ddisgwyl i hwnw gael dangos ei hun. Dangos dy him, dangos dy hun, I" Mae'r Crewr yn disgwyl it' ddangos dy him. FlfelT DYWEDWYD llawer o bethau da a tblws a budd- iol eraill yn. Ngorsedd Ffestiniog, oud nid llawer yn rhagori ar y sylwadau canlynol o waith Elfed UN fantais o gyna.l Gorsedd yn yr awyr agored, a rhyddid i bawb a fynont ddod i w hoedfa, oedd rhoddi awgrym mai eiddo iddynt oil yw llenyddiaeth a cherdd oreu'r genedl. Os mai ychydig yw nifer y rhai allant greu, goveu po fwyaf fyddo nifer y rhai allant ddehongli. Y mae eisiairr lienor a'r llengarwr ar bob bryn ac yn mhob cwm, i gymeryd dyddordeb ei hun, ac i enyn dyddordeb mewn eraill, yn yr hyn sy'n well nas gall ef ei hun gynyrchu. Nid oes un yn ymwneud yn ofer a. llenyddiaeth a cherdd, os yw yn onest a diabsen yn ei waith ac os na ddaw i olwg cenedl, y mae'n rhan o gyfoeth y genedl er hyny. Nid yw bod yn gystadleuydd aflwyddianus yn golygu bod yn ddyn di-les. I wneud cenedl fyw, gref, gen- hadol, y mae eisiau arni gael goreu pob un o'i phlant. Golwg hardd y bore hwnw oedd ar y bryniau a'r mynyddoedd o'u deutu, ond cryfach iia"r mynyddau yw cenedl onest, uniawn. Yr oedd llawer dyffryn tlws yn Nghymru ond tlysach na'r dyffrynoedd i gyd oedd byw yn garedig i gvnorthwyo eu gilydd. Hyfryd oedd glesni'rnef uwchben, ond gwell na hyny oedd cymeriad, cyfiawn, gloyw. Aed pob un ohon- ynt adref, i ddilyn meddwl barddonol ar ochr y bryniau, i ganu can y cerddor ar fin afonvdd, ac i gofio ei fod yntau hefyd yn rhan ei hun o'r genedl gyfan, a bod cynyreh y goreu yn eiddo i'r lleiaf. Mae'r bardd cain yn dal i edrych yn dda, a'i galon yn curo mor Gymreig ag erioei er yn gweinidogaethu yn Dghanol y Brifddinas. Cura calon Cymru hefyd iddo frysio adref i blith ei anwyliaid. Y Siomedig. ER taer gymhell a thipyn o sciamio, ni lwydd- odd un pregethwr poblogaidd i gael perthynas agos iddo i ganu yn Eisteddfod Ffestiniog; a'r newydd diweddaf am dano ydyw ei fod mewn cyfarfod pregethu yn air Fflint yn taranu yn erbyn Eisteddfoda ac yn dweyd nad oedd cystadleuon ond cyfla i'r cryf sathru'r gwan tan ei draei, Mae llawer math o rai siomedig ond y mae hwn yo curo mewn 'riginality," chwedl Joseph y Potiwr. Yr Archdderwidd, MAE Hwfa Mon yn gwnead Archdderwydd o'r 44 siort ora." Yr oedd mewn hwyliau rhagorol ar hyd yr wythnos, ac yn bloeddio weithiau nes bycidai'r er eigiau'n iaspedaio. Dywedoddam- rvw bethau ffraeth a digrifol, doeth ac effeithiol. Bu hwyl fawr ar ei waith yn adrodd y llinellan canlynol:— DYFED aeth o'I ystafell Ag aur pur i'r Negro pell; Hwn yw y gwr yno gaid Yn twtio'r Hotentotiaid. Mae "twtio'r Hotentotiaid," yn anfarwol. Gair doniol troa ben ydyw "twtio." Nid yw'r gair twt yn yr ystyr yma gan Richards yn ei Eiriadur, ond fe'i defayddir yn Mhowys, beth bynag, ar lafar gwlad, am neatness. Lab arall i'r Llywodraeth- CAFODD y Llywodraeth ddyrnod cas yn Reading ddydd Llun. Trowyd y mwyafrif Toriaidd o 351 oedd yno yn 1895 yn fwyafrif Rhyddfrydol 0 694 neu cafwyd fod tref Reading wedi rhoi 673 m'wy o'bleidleisiau i Mr Palmer (R.) yn 1898 nag yn 1895; a thua 522 o'r etholwyr wedi newid eu barn yn y tair blynedd. [IE, mab i Ifor Ceri oedd y diweddar Filwriaid Heyward o Crosswood. Diolch i J abez Mal- dwyn am gywiro yr amryfusedd],