Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
EISTEDDFOD GADEIRIOL CORWEN DYDD LLUN (GWYL Y BANC), AWST 1, 1898. PRIF EISTEDDFOD GWYL Y BANC. Llywyddion-W. R. M. WYNNE, Ysw.; SAMUEL MOSS, Ysw., A.S.; PROFF. J. E. LLOYD. DATGEINIAIlJ- Soprano-Miss Maggie Davies. Tenor-Mr. Maldwyn Humphreys. Bass Mr. Daniel Price. Telynores—Miss Jenny Parry (Telynores Lleifiad) Arweinydd Llifon. RHAGOLYGON YSPLENYDD. TRI 0 GORAU MA. WR-Corau Rhuthin, Cefnmawr, a Bangor. TRI 0 CORAU MEIBION- Cor Meibion Walton Park, Oldham, a Cwalia, Lerpwi. AIL GYSTADLEUAETH GORAWL-Toxteth, Lerpwi. PEDWAR 0 CORAU PlANT-Corau Dinbych, Bala, Corwen, a Trawsfynydd. PUMP 0 YMGEISWYR AM Y GADAIR. A Un mawr o ymgeiswyr ar y Gelfyddydwaith, y Cyfansoddiadau Barddonol a Llenyddol, &c. Am faoylioa pellicb gweler y Rhagleni, pris 3c., trwy'r Llythyrdy 4c., i'w cael gan yr Ysg, HUGH MORRIS, -Ten., Cesail y Berwyn, Corwen. CYNELIR GRAND INDIAN PALACE BAZAAR YN LLANGEFNI, Medi 7, 8, 9, a 10, 1898. Yr elw at G-apel Coffadwriaethol y Parch. John Elias. D. R. JONES & Co.l- PIANOFORTE ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. Stock ragorol o'r Careuon goreu, newydd a hen. School of Music, Voice Training, Violin, Piano, &c., &c. Vo-ice Trainer, JOHN HENRY, R.A.M. 1 •• J. H. IOBERTS Mus. Bac. (Cantab), A..R.A..11., F.T.S.G., London (Orga,nist of Onatham Street Presbyterian Church). Begs to announce that he gives Lessons at 149, GROVE STREET, LIVERPOOL, On the Pianoforte, and Organ, also in Singing, Harmony and Composition Pupils thoroughly prepared for the various Exams, in the above subjects,also in Musical Analysis, Foim, Orchestrating ,1 Acoustics, and in reading from Score and Figured Bass. "> and The largest money prixe ever given at an Eisteddfod for Solo Singing was won by one of hid pupils. Out of a large number of eindid ite« throughout the-United Kingdom at the Local Exam, of the Royal Andom* +„ 1 bonours in Harmony, two of whom were Mr Roberts Pupils. His Pupils have also taken valuable prizes" in Pi an A and in composition, Postal Lessons in Harmony and Composition. Playing, Full particulars on application. Soprsno Son? THE tfONDflOUS CROSS. Competition piece at the National Eisteddfod, 18as. 2s. neu CHESHIRE LINES. GWIBDEITHIAU GWYL Y BANC 0 LERPWL (GORSAF GANOL). TOCYNAU UN-DIWRXOD RHAD o LER- PWL i SOUTHPORT fel y canlyn:- c.a. c.a. nawn w.a. w.a. Sadwrn, Gorph. 30, am 9 0 11 3 12 20 1 25 222 Llun (Gwyl y Bane), ) Pob haner awr o 9 c.a. Awst laf. I hyd 2.55 w.a. .Ni ellir dychwelyd gyda'r toeynau ond ar y diwrnod y'i codif. ATDYNIADAU ARBENIG YN NGERDDI Y BELLE-VUE, MANCEINION. GOLWG ARDDEROHOG AR RYFEL GOROR.AU INDIA. Seindyrf at Ddawnsio. Cychod ar y Llynau. Casgliad ardderchog o Anifeiliaxd. YMRYSONAU CRICKET PWYSIG YN OLD TRAFFORD. TOCYNAU RHAD o LERPWL (Ganol) i MANCEINION fel y canlyn:— Ar Sadwrn, Gorph 30, am 1, 2, neu 3 diwrnod, Gyda GWIBDRENAU. c.a. c.a. w.a. w.a. w.a. Am 8 30 9 30 12 30 1 30 a 2 30 ac Ar WYL Y BANC, Llun, Awsb laf, c.a. c.a. c.a. c.a c.a w.a. w-a, w.a Am 8 30 9 30 10 30 11 0 11 30 12 30 1 30 230 Am 1 diwrnod yn unig Am fanylion o Wibdeithiau eraill i Matlock, Buxton, Worksop, Cleethorpes, a gorsafoedd ar y Glan- au Dwyreiniol, ac hefyd i Lundain a De a Gorllewin Lloegr, gweler tafleni yn y gorsafoedd. DAVID MELDRUM, Goruchxoyliwr. Gorsaf Ganol. Lerpwi. Gorphenaf. 1898. Os am gyfrol o feddyliau mawreddog yn y Gym- raeg goethaf, pryner COFIANT Y PARCH JOHN HUGHES, D.D. dan olygiaeth y Parch JOHN WIL LIAMS, Princes Roid, Lerpwi. Mae'r rhan gyntaf, pris Swllt, allan o wasg y swyddfa hon, ac yn cyn- wysrhai o'r pregethau godido?af sydd yn yr iaith. A oes genych sisieu MORWYN ? Hysbysebwch yn' fjymro. 18 gair am 6ch. | LLYFRAU PWRP/FSOL i Goleg yr Aelwyd. Swllt yr qtn. Llythyrau Goronwy Owen. Barddoniaeth Goronwy Owen Y ddau uchod wedi eu rhwymo yn un mewn Ilian hardd ac yn cynwys Holl Waith Prif-fardd enwog Mon am HANER CORON. Gwnai anrheg gymhwys ar ben" blwydd. Llyfr y Tri Aderyn. Caniadau Elfed. Elienau Athroniaeth Foesol Gan y diweddar Parch. J. JONES, Tuebrook LIVERPOOL: CYHOEDDEDIGGAN I. FOULKES, 8 PARAPH, St CARTREF CYMREIG I TMWELW78 a LLTJNDAI1T Pa le i gael llety cysurus yn Llundain Fw<.h « „ T,„ ton Station, G.W.R., gyda'r Undersrrminiii ri Padding:- Station, am No. 9 neu 30, Euston SonaSL r „street SWte'(L. X.W.Ry.), P« «» GLASLYN HOUSE EVANS' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N W „¥ „ ^J^jPerchenog CELT (KELT) TEMPERANCE HOTEX,, 30, Euston Square, London, N.W. v s F. DUNN, Perchenoe 7 mwyaf candog bob rhan o Lundain. THOSJONES&Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 117* and 2/- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20;- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sefct with the order. SAMPLES FREE ON A PPLIGA 7ION. THOS. JONES Co. Ltd I Tea & Coffee Importers, §» PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir UN COPI yn ddidraul trwy y Post: r- Am 12 mis, 5/6—Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/8 Blaendal yn unig. At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohpbiaeth reelaitid gyrhaedd I zlr Swyddfa cyn canol dydd Llun, neu ni ellir eu cyhoeddi yn y rhifyn canlynol GADAWYD allan yr wythnos hon amryw ohebiaeth" au a ddaethant i Jaw yn hwyr, oherwydd prinder lie- R. Jones.-Oes, y mae piwyf yn Mon, a'i enw yn llyfrau swyddogol y sir fel y nodwch. Dyma fel yr ymddengys yn rhestr etholwyr Mon :— Llanfairpwllgwyngyllgertrobwllgerchwimbwll- tysiliogogogoch." Modd bynag, gan fod amser yn awryn brin, fe wna Llanfair P.G. y tro yn y llythyrdy. Y mae Proff J. M. Jones yn byw yn y plwyf, ac yn bwriadu dadansoddi'r enw wedi y gorpheno rhyw bump neu chwech o fSn job sydd ganddo ar law. Yn barod Gorph. 29, COFIANT y Dr. JOHN HUGHES, AIL RAN. Pris Swllt. Cyhoeddir gan Isaac Foulkes, Swyddfa'r Oymro.
CWASTRAFF 0 BYMTHEC MILIWN.
CWASTRAFF 0 BYMTHEC MILIWN. A YDYW'R blaned hon ar fin cyhoeddi rhyfel a. rhyw blaned arall-dyweder Mawrth a Phrydain i gymeryd y rhan flaenaf yn yr ysgarmes ? Neu a ydyw Prydain ar fedr tynu holl deyrnasoedd y byd yn ei phen, ac fel Sion Phylip yn ffair y gwagedd floeddio, Dowch yn mlaen, nid un ar unwaith, ond i gyd gyda'ch gilydd. Rydw i'n gwbl barod i roi lab am lab felly, os mynwch chwi," Dyna'r syniadau oedd yn codi, ac yn ddigon naturiol hefyd, yn meddwl pawb ystyriol wrth ddarllen araith Mr Goschen, Ysgrif- enydd y Morlys, yn Nhy'r' Cyffredin nos Wener, yn gofyn am bymtheg miliwn o bunau tuag at gryfhau y Llynges. Pym- theg miliwn !—tua'r seithfed ran o gyllid ymherodrol y wlad yn cael ei ofyn, nid pan ydym ar fin rhyfel, pan yw cymylau r duon bygythiol yn crynhoi ac yn hofran yn gilwgus uwch ein penau ond pan, yn ol tystiolaeth mynych Arglwydd Salisbury, y Prifweinidog, a'r Ysgrifenydd Tramor, a'r hwn a ddylai wybod, ac a ddylai ddweyd y gwir am ei wybodaeth, y mae yr awyr yn glir, yr un gelyn yn y golwg, tinc yr un arf rhyfel i'w glywed yn ein herbyn ni, beth bynag o gyfeiriadau y rhaid ini bry- deru yn eu cylch. Caniataer fod angen y swm aruthrol hwn i ddifrodi lluoedd milwrol gelyn neu elyn- ion, y cwestiwn galarus sydd yn codi dra- chefn yn naturiol ydyw, Ai hyd yma yr ydym eto, ar ddiwedd y i geg ganrif, gyda'n gwareiddiad a'n Cristionogaeth ? Pryd- ain, y wlad fwyaf Gristionogol dan haul," fel ei gelwir, yn gwario ar un ergyd fwy nag a dreulia hi mewn blynyddau ar elusenau. Yr wythnos ddiweddaf, tystiodd comisiwn a fu'n gwneud ymchwiliad pa fodd i gadw'r hen weithwyr diwyd uwch- law angen fod yn rhaid cael ugain miliwn o bunau i wneud hyny dychrynodd y syniad gwastraffus gymaint ar y Llyw- odraeth fel y bwriwyd yr adroddiad o'r naill du fel un anymarferol ond aroswch chwi nes y bydd gan yr un Llyw- odraeth rhyw hobi o'r eiddi ei hun i'w farchogaeth—landlordiaeth eisiau ei iro, "crefydd" eisiauei ategu, neu rhyw fwg- anod rhyfel eisiau eu codi i'r gwynt, ni ddangosir nemawr drugaredd at y treth- dalwyr, nac o gydwybod yn y mater. Cydnabyddai Mr Goschen mai amcan penaf y symudiad hwn ydoedd gosod Prydain gryfed ar y mor ag unrhyw ddau jllu arall ar y ddacar, a chyn diwedd ei araith, bu yn ddigon tafodrydd i addef mai gwaith Rwsia yn adeiladu ac yn ychwan- egu cynifer o gadlongau cedyrn at ei llynges oedd prif gynhyrfydd y wlad hon i ymarfogi. Y mae llywodraethau Lloegr er's blynyddau yn arfer rhoi'r bai ar Rwsia am bob peth fel y rhoddai eu rhagflaenor- iaid bob bai ar Ffrainc. 0 Ffrainc y deuai pob aflwydd atynt hwy, o Rwsia y daw atom ni. Yr oedd ac y mae y ddau allu ellyllaidd yn darllaw drygioni i ni beunydd beunyddiol, ac y mae lIe cryf i gasglu mai dyma'r ddau allu oedd gan Mr Goschen mewn golwg pan y gofynai i'r Senedd wneud llynges Lloegr yn ddigon cref i'w gorchfygu ill dau mewn brwydr ar y mor. Y mae'n ddigon a dychryn dyn i feddwl fod lefiathanod mor rymus a'r llongau dinystriol hyn yn nofio ar eigion yr un byd a ni. Ymddengys mai pedair gwib- long sydd i lyncu i i v:u y rhan fwyaf o'r swm anferth y gofynir yma am dano. Bydd pob un o'r pedair yn mesur tros 500 troedfedd o hyd, yn 7I tr. ar eu traws, yn pwyso tros 14,000 o dynelli, ei pheirianau yn meddu nerth 30,000 o geffylau, a gall pob Hong wrth raid gario 2,500 tynell o lo. Bydd eu symudiadau fel cynifer o ynysoedd cedyrn, a beth a ddichon sefyll o'u blaen ? Gallesid meddwl nad oes dim byd dinystradwy na fedrant ei ddinystrio. Y gwaethaf o'r symudiad gwastraffus hwn ydyw y debygolrwydd iddo beri gwastraff mewn teyrnasoedd eraill. Beth sydd yn rhwystro i Rwsia godi ei llynges cyfuched a Lloegr, ie, ac i Ysgrifenydd ei Morlys ddweyd fel y dywedodd Goschen, y rhaid i lynges Rwsia fod gryfed a'r eiddo unrhyw ddau allu arall ar y ddaear ? Dim y mae ganddi ddigon o gyfoeth. Ond yn ol y newydd diweddaraf, nid yw y llywodraeth "haner barbaraidd hono, fel y gelwir hi yn fynych, am efelychu Lloegr yn ei barbareiddwch ac yr oedd hi, meddir, yr un noson ag y taranai Lloegr ei bygythion anwar yn gorchymyn atal y gwaith o adeiladu y llongau rhyfel y cyfeiriai Goschen atynt ac y gwnai esgus ohonynt i ofyn am Bymtheg Miliwn i'w Forlys. Nid rhyfedd fod Reading, fel manau eraill, wedi newid ei barn boliticaidd gresyn na chai etholwyr y wlad yn gyff- redinol gyfle i ddatgan eu meddwl am Arglwydd Salisbury a'i Weinyddiaeth an- fedrus ac afradlon.
: o; CWRS Y BYD
o; CWRS Y BYD Miss Anne Jane Davies. COLLED drom i Gymry Lerpwl yn gyffredinol ydyw marwolaeth annisgwyliadwy y foneddiges uchod. Llanwai gylch, yn wir gylchoedd, ag y bydd yn anhawdd eu llanw am amser maith. Bu o fawr wasariaeth fel aelod o'r Bwrdd Yagoi, a phrawf o'i defnyddioldeb yn yr amser aeth heibio ydyw'r mwyafrif mawr a gafodd ya ad- etholiad y Bwrdd bwnw yn mis Tachwedd di- weddaf. Trwy brofiad halaeth yr oeid Miss Davies wedi dyfoi i adaabod ei dyladswyddau ar y Bwrdd, trwy ffyddlondeb naturiol i'w holl ymrwymiadau yr oedd hi yn eu cyflawni, a thrwy synwyr cyffredin cryf yn gallu gwneud hyny yn'y dull goreu, mwyaf deheuig, a thrwy hyny er clod mawr i'w chenedl ac er cyfLiwnder i'r sawl a'i hetholodd. Yr oedd ei chymwynas- au annghyhoedd ya lluosog. Mynych y rhodd- ai fenthyg y swm gofynol i rieni tlodion er eu galluogi i ddwyn plant addawol i fynu yn pupil teachers, ac y talodd am addysg plant eraill, pan nas gallai eu rhieni fforddio gwneud" Cai pob aches da, yn enwedig yn mysg ei chydgenedl, ei nawdd a'i help, ac yr oedd ei chynghor a'i chymhorth yn werthfawr bob amser. Hyderwn y dewisir rbywon o blith yr Ymneillduwyr Cymreig i gymeryd He Miss Davies ar y Bwrdd Addysg ac y bydd yr un mor ffyddlawn, medrus, a hynaws yn nghyflawniad y swydd ag y bu hithau. Llew Llwyfo. Yii oedd Llew yn Ffestiniog, ac yn edrych yn dda o ran iecbyd mae'n heneiddio, ond erys ei feddwl mor glir bron ag erioed. Caforid dder- byniad caredig yn yr Orsedd fore ddydd lau ac adroddodd yntau yn ei hen ddull dihafal v gan ganlynol, a gyfaasoddwyd rhyngddo 'a Thaliesin o Eifion cyn belled yn ol ag Eistedd- fod Rhuthin, 1868. Yr oeddynt yn galw i aôf yr hyn a glywsent gan wladwr eiddigus o lwydd- iant cymydog. Y mae'n dda genyf gael cyf- lwyno'r gan i'r darllenydd, wedi ei hysgrifenu gan Llew i'r perwyl r— DANGOS DY HUN. MAR llawer o bobol yn byw yn y byd, Darostwng rhai eraill a fynant o hyd Hunanol a balch, meddant hwy, yw pob dyn A fyddo'n gyhoeddus yn dangos ei hun. 'Roedd 'ftteddfod yn Llanfair ddydd Sadwrn bryd A William o'r Fotty areithiodd yn iawn nawn Ond dyna beth glywais, bea bore ddydd Llun, A welaist ti Wil yno'n daagos ei hun ?" 'Roedd cyngherdd un noswaith yn neuadd y dre' A Mari o'r Faenol wefreiddiodd y lie; Ond tranoeth, medd rhywun wrth son am y fun A welaist ti Mari yno'n dangos ei hun?" Pe byddet yn brif fardd neu lenor y byd, Ac hefyd yn ben y cantorion i gyd, Mae rhyw greaduriaid di lee a di lun Yn si wr olth gyhuddo o ddangos dy hun.