Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CWASTRAFF 0 BYMTHEC MILIWN.

News
Cite
Share

CWASTRAFF 0 BYMTHEC MILIWN. A YDYW'R blaned hon ar fin cyhoeddi rhyfel a. rhyw blaned arall-dyweder Mawrth a Phrydain i gymeryd y rhan flaenaf yn yr ysgarmes ? Neu a ydyw Prydain ar fedr tynu holl deyrnasoedd y byd yn ei phen, ac fel Sion Phylip yn ffair y gwagedd floeddio, Dowch yn mlaen, nid un ar unwaith, ond i gyd gyda'ch gilydd. Rydw i'n gwbl barod i roi lab am lab felly, os mynwch chwi," Dyna'r syniadau oedd yn codi, ac yn ddigon naturiol hefyd, yn meddwl pawb ystyriol wrth ddarllen araith Mr Goschen, Ysgrif- enydd y Morlys, yn Nhy'r' Cyffredin nos Wener, yn gofyn am bymtheg miliwn o bunau tuag at gryfhau y Llynges. Pym- theg miliwn !—tua'r seithfed ran o gyllid ymherodrol y wlad yn cael ei ofyn, nid pan ydym ar fin rhyfel, pan yw cymylau r duon bygythiol yn crynhoi ac yn hofran yn gilwgus uwch ein penau ond pan, yn ol tystiolaeth mynych Arglwydd Salisbury, y Prifweinidog, a'r Ysgrifenydd Tramor, a'r hwn a ddylai wybod, ac a ddylai ddweyd y gwir am ei wybodaeth, y mae yr awyr yn glir, yr un gelyn yn y golwg, tinc yr un arf rhyfel i'w glywed yn ein herbyn ni, beth bynag o gyfeiriadau y rhaid ini bry- deru yn eu cylch. Caniataer fod angen y swm aruthrol hwn i ddifrodi lluoedd milwrol gelyn neu elyn- ion, y cwestiwn galarus sydd yn codi dra- chefn yn naturiol ydyw, Ai hyd yma yr ydym eto, ar ddiwedd y i geg ganrif, gyda'n gwareiddiad a'n Cristionogaeth ? Pryd- ain, y wlad fwyaf Gristionogol dan haul," fel ei gelwir, yn gwario ar un ergyd fwy nag a dreulia hi mewn blynyddau ar elusenau. Yr wythnos ddiweddaf, tystiodd comisiwn a fu'n gwneud ymchwiliad pa fodd i gadw'r hen weithwyr diwyd uwch- law angen fod yn rhaid cael ugain miliwn o bunau i wneud hyny dychrynodd y syniad gwastraffus gymaint ar y Llyw- odraeth fel y bwriwyd yr adroddiad o'r naill du fel un anymarferol ond aroswch chwi nes y bydd gan yr un Llyw- odraeth rhyw hobi o'r eiddi ei hun i'w farchogaeth—landlordiaeth eisiau ei iro, "crefydd" eisiauei ategu, neu rhyw fwg- anod rhyfel eisiau eu codi i'r gwynt, ni ddangosir nemawr drugaredd at y treth- dalwyr, nac o gydwybod yn y mater. Cydnabyddai Mr Goschen mai amcan penaf y symudiad hwn ydoedd gosod Prydain gryfed ar y mor ag unrhyw ddau jllu arall ar y ddacar, a chyn diwedd ei araith, bu yn ddigon tafodrydd i addef mai gwaith Rwsia yn adeiladu ac yn ychwan- egu cynifer o gadlongau cedyrn at ei llynges oedd prif gynhyrfydd y wlad hon i ymarfogi. Y mae llywodraethau Lloegr er's blynyddau yn arfer rhoi'r bai ar Rwsia am bob peth fel y rhoddai eu rhagflaenor- iaid bob bai ar Ffrainc. 0 Ffrainc y deuai pob aflwydd atynt hwy, o Rwsia y daw atom ni. Yr oedd ac y mae y ddau allu ellyllaidd yn darllaw drygioni i ni beunydd beunyddiol, ac y mae lIe cryf i gasglu mai dyma'r ddau allu oedd gan Mr Goschen mewn golwg pan y gofynai i'r Senedd wneud llynges Lloegr yn ddigon cref i'w gorchfygu ill dau mewn brwydr ar y mor. Y mae'n ddigon a dychryn dyn i feddwl fod lefiathanod mor rymus a'r llongau dinystriol hyn yn nofio ar eigion yr un byd a ni. Ymddengys mai pedair gwib- long sydd i lyncu i i v:u y rhan fwyaf o'r swm anferth y gofynir yma am dano. Bydd pob un o'r pedair yn mesur tros 500 troedfedd o hyd, yn 7I tr. ar eu traws, yn pwyso tros 14,000 o dynelli, ei pheirianau yn meddu nerth 30,000 o geffylau, a gall pob Hong wrth raid gario 2,500 tynell o lo. Bydd eu symudiadau fel cynifer o ynysoedd cedyrn, a beth a ddichon sefyll o'u blaen ? Gallesid meddwl nad oes dim byd dinystradwy na fedrant ei ddinystrio. Y gwaethaf o'r symudiad gwastraffus hwn ydyw y debygolrwydd iddo beri gwastraff mewn teyrnasoedd eraill. Beth sydd yn rhwystro i Rwsia godi ei llynges cyfuched a Lloegr, ie, ac i Ysgrifenydd ei Morlys ddweyd fel y dywedodd Goschen, y rhaid i lynges Rwsia fod gryfed a'r eiddo unrhyw ddau allu arall ar y ddaear ? Dim y mae ganddi ddigon o gyfoeth. Ond yn ol y newydd diweddaraf, nid yw y llywodraeth "haner barbaraidd hono, fel y gelwir hi yn fynych, am efelychu Lloegr yn ei barbareiddwch ac yr oedd hi, meddir, yr un noson ag y taranai Lloegr ei bygythion anwar yn gorchymyn atal y gwaith o adeiladu y llongau rhyfel y cyfeiriai Goschen atynt ac y gwnai esgus ohonynt i ofyn am Bymtheg Miliwn i'w Forlys. Nid rhyfedd fod Reading, fel manau eraill, wedi newid ei barn boliticaidd gresyn na chai etholwyr y wlad yn gyff- redinol gyfle i ddatgan eu meddwl am Arglwydd Salisbury a'i Weinyddiaeth an- fedrus ac afradlon.

: o; CWRS Y BYD