Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Tlodi yn Ngogledd Cymru.
Tlodi yn Ngogledd Cymru. Y MAE adroddiad Mr Bircbam, arolygwr Bwrdd y Llywodraeth Leol dros Gymru a sir Fynwy, yn dangos sefyHfa tlodi yn Ngogledd Cymru am y deuddeng mis diweddaf, newydd gael ei gyhoeddi. Ymddengys mai rhifedi y boblog- aeth ydyw 466,869 gwerth trethadwy 2,225, 793p a'r arwynebedd, 2,212,626 o erwau. Nifer y tlodion oedd yn derbyn cynorthwy plwyfol ar y 25ain o Fawrth, 1898, ydoedd 16,939, o ba rai yr oedd 15,164 yn derbyn cynorthwy allan, yn erbyn cyfanrif o 17,158 yn 1897—lleihad o 219. Yr oedd yna, modd bynag, gynydd o 77ain yn rhif y tlodion yn y tlottai, tra yr oedd y treuliadau am y flwyddyn oedd yn diweddu Gwyl Fair y Cyhydedd, 1898, yn 110,504p yn erbyn 108,461p--cynydd o 1,043p. Yr oedd y cynorthwy yn y tlottai yn gofyn 2,179p yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, a'r cynorthwy allan 136p yn 11 ai. Yr oedd nifer y tlodion a dderbynient gynorthwy yn ol y boblogaeth yn 3.6 am bob cant yn Ngogledd Cymru, yn erbyn 3 dros Ddeheudir Cymru a sir Fynwy, 3.1 dros yr oil o Gymru, a 2.3 dros Loegr a Chymru. Y gost i gadw tlodion yn y tlottai a thuallan yn ol pob un o'r boblogaeth ydoedd 4s. 8fc. dros Ogledd Cymru, 4s. lie. dros yr oil o Gymru, 3s. 14).Jc. dros Ddeheudir Cymru a sir Fynwy, a 3s. 3fc. dros Loegr a Chymru.. 4 Treffynon a Chaergybi aydd yn meddn y rhif uchaf o dlodion yn ol y boblogaeth (45) o nn- rhyw undeb yn Ngogledd Cymru ac nid oes I ond un undeb yn yr oil o Gymru sydd yn meddu cyfartaledd mwy yn ol y boblogaeth sef Hwl. ffordd, yn sir Benfro, yr hwn sydd yn cyrhaedd 4.6. Fforden, drachefn, ydyw yr isaf ar y rbestr yn Ngogledd Cymru a chysylltir Ffor- den a Thregaron, yn sir Aberteifi, am y lieoedd uchaf yn yr oil o Gymru a sir Fynwy. Dsngys yr undebau canlynol leibad o ran rhif y tlodion a dderbynient gynorthwy plwyfol dydd Gwyl Fair y Cyhydedd diweddaf, o'i gymharu a'r rhestr am 1897 :—Llangefni, Caergybi, Bangor, a Beaumaris, Caernarfon, Conwy, Pwlllieli, Rhuthin, Penarlag, Treffynon, Bala, Corwen, Ffestiniog, Fforden, Llanfyllin, Machynlleth, Drefnewydd, a Llanidloes. Cymerodd y cynydd le yn Llanrwst, Gwrec- sam, Llanelwy, a Dolgellau. --0- Y styrir y priodoldeb o oleuo Towyn ac Abar- dyfi a thrydan.
Advertising
Y lihan Gyntaf yn aivr yn barod. Mewn Chwech o Ranau, Swllt yr un, CtYDAG AMRYW ARLU-NIAU, PREGETHAU A GHOFIANT Y DIWKDDAR Batch. JOHN HUGHES, D.D., TAN OLYGIAETH Y Parch. JOHN WILLIAMS, PRINCES ROAD Lerpwl. Pob archebioti i',w hanfon i SWYDDFA'R "Cymro 8, Paradise Street, Liverpool.
|Gadeirydd Newydd y Cynadiedd…
| Gadeirydd Newydd y Cynadiedd Wes- leyaid. Etholiad y Parch HUGH PRICE Hughes. BYDD yn llawenydd digymysg i bob Cymro o bob enwad a phlaid bynag y bo, glywed am eth- oliad ei gydwladwr enwog uchod i'r swydd uwcfaaf o anrhydedd yn y byd crefyddol y gellir yn y wlad hon ethol dyn iddi. Un Cymro o'r blaen fu yn Galeirydd y Gynadledd Wesley- aidd, sef Dr Cooke yntau fel Mr Hughes wedi ei eni yn Neheudir Cymru, y ddau hefyd yn mhentref y ddwy sir agosaf i'w gilydd, sef Brycheiniog a Chaerfyrddin a'r ddau, yn mhellach, yn feibion i faddygon. Yr oedd yr etholiad yn un tra unfrydol, yr hyn a chwanega at ei worth. Dyma fel y safai'r etholiad :—James Robertson (Iwerddon), Win. Perkins, Herbert Clayton, Enoch Salt, 1 bleid- lais yr un Dr Dallinger, 2 J S Banks, 4; Dr Davidson, 5 Marshall Hartley, 7 Thomas Ailer, 3.1 T A Macdonald, 83 Hugh Price Hughes, 369. Bywgraphiad. Mab ydyw Mr H. Price Hughes i Dr John Hughes, meddyg, Caerfyrddin, yn yr hon dref y ganwyd ef yn 1847 ac y mae efe yn wyr o du I ei dad i weinidog enwog gyda'r Wesleyaid yn ISighymru, sef y diweddar Barch John Hughes, yr hwn am lawer o flynyddau a fu yn gadeirydd y Dalaith Dieheuol. Ar du ei fam, dywedir fod gwaed Hebreaidd yn ei wythienau. Cafodd ei addysg ar y cyntaf mewn ysgol breifat ger- liaw Abertawe a phan mor ieuanc a 14 oed dechreuodd bregethu. Byddai yn yr oedran cynar hwn yn pregethu mewn nifer o ffermdai oddeutu'r Mumbles, a thalai o'i logell ei hun i hen wreigen am fenthyg ei chegin i bregethu i'w chymydogion ar noson yn nghanol yr wyth- nos. Pan yn bymtbeg oed, pregetbodd yn Nghapel Cymraeg Caerfyrddin, lie bu ei daid yn gweinidogaethu. Y mae Mr Hughes yn cyfaddef yu fynych fod ei bregethau yn ddy- chrynllyd o hyawdl, ac yn adlewyrchu'r haul, y lleuad, ac aneirif ser y nen yn nghyda glan- au'r Mor Coch a manau erailllle y car yr ieuanc ymfflamychol ymddigrifo." Cyn cyrhaedd ugain oed, yr oedd yn ymgeisydd am y weinidogaeth, ac aeth i Goleg Add ysgol Richmond, lie yr oedd Dr Moulton yn athraw. Wed'yn graddiodd yn uchel yn Mbrifysgol Llundain. Tra yn y coleg, cyfarfu Mr Hughes y foneddiges a ddaeth wedi hyny yn gydmares mor werthfawr yn ei fywyd, Merch ydyw. Mrs Hughes i'r Parch Alfred Barret, llywodraethwr y coleg, ac nid oedd hi pan gyfarfu gyntaf ei gwr dyfodol ond deaddeg oed. Wedi gadael y coleg bu Mr Hughes yn teithio gyntaf yn nghylcbdaith Dover; ac yno y dechreuodd gymeryd dyddordeb neillduol yn yr achos dirwestol. Wedi hyny, llafuriodd yn Brighton, rhanau o Lundain a Rbydychain, a'i glod fel pregethwr yn myn'd ar gynydd yn mhob cylchdaith. Dycbwelodd i Lundain fel arolygydd cylchdaith Brixton a thra yno y codwyd yr hyn a elwir Cenhadaeth Dinas Llundain," gyda'r hon y mae enw Mr Hughes yn annatodol. Yr wythnos nesaf (os yn bosibl) rhoddwn DDARLUN HARDD o LYWYDD NEWYDD Y GYNADLEDD WESLKSTAIDD, Yn nghyda dwy nen dair colofn o fanylion ei hanes. --0--
Cohebiaethau.
Cohebiaethau. HEN LYFR HYMNAU. SVR,-Y dydd o'r blaen deuais ar draws hea lyir hymnau heb na deahreu na diwedd iddo. Mae ynddo benillion dyddorol, a chryn lawer o dine Maesypbvm ynddynt. Er engraipht, cymsrwn ei bsnillion i'r Afradloa, tudal. 68 Fy nyddiau'n feunyddiol a dreuliais Yn ddiles, a phechais yn ffol; Er hyny, mi 'mdrechaf i gychwyn I fyn'd o wlad newyn yn ol; Mae llawer o weision dan gyflog Yn annedd odidog fy nhad- Digonedd a gweddill sydd ganddyn', A minau'n wael adyn o'r wlad. Mae ynddo hymnau ar wahanol byociau, megys U Angall," Llwydd ant yr Efengyl," &3. Am yr olaf, fel hyn y dywed :— Brysied llongau dros y tonau A'r trysorau gorau i gyd, Nes cyfraner geiriau'r Nefoedd I bob ieithoedd yn y byd Aed y durtur ogoneddus Draw i'r dyrus anial dir- Nid gwroldeb annuwioldeb Saif yn wyneb -lesun hir. Da iawn genyf os 0:8 U1 o'ch darllenwyr a chan- ddo rhyw grap pwy yw'r awdwr neu'r casglydd. GLWYSFRYN Hughes,
[No title]
Menyg gwynion fu hi yn Mrawdlys Mon ddydd Mavrrth, fel mewn tair arall o siroedd y Gogledd a wnaeth y Bar wr Wilis sylwadau liongyfarch- isdol ar brinder troseddau yn Nghymru Lan. Yb mhlith trefi a phentrefi sy'n bwriadu ymgais | am Eisteddfod Gsnedsaethol 1902, ceir Colwyn I Bay Ddydd Mawrth, yn Nghemaes-un o fanau mwyaf addawol gororau Mon-a-gorwyd neuadd a I' llyfrgell gyhoeddus o sclfteniad ein cyd ddinesydd Mr David Hughes—Uchel Sireid Mon un °. I Caed anerchiad ar yr achlysur gan Mr Ellici J. Griffith, A.S. Ddydd Sadwrn, wrth ymdrocfai yn yr afon Dilfi, bodiodd un G. F. Gamble, ymwelydd yn yr ardal. Trwy brynu yr argraphiad rhad o'r Bardd Gwsc, a gyhoeddir yn y Swyddfa hon, gellir dod i feddu un o'r cl&saron Cymreig rha:roraf. Golygir ef gan un o Gymreigwyr goreu'r dydd, ac y mae' r fath ofal wedi ei gymeryd fel na raid i'r un rhiant ofni J ei roddi yn Haw yr un aelod *r aelwyd. Tair Oumioo yw ei brie.
--YR EISTEDDFOD GENEDLAETIJOL…
YR EISTEDDFOD GENEDLAETIJOL Yil FFESTINIOG. [Oan Ein* Gohebyod ARSENICj. NID oes lanerch fwy llengar yn Ngwaliana Ffestin- iog. Dyma fro Edmwnd Prys, Huw Llwyd o Gynfal, a Morgan Llwyd o Wynedd. Erysysbryd a nodweddion y trindod trylen hyn yn fyw yo yr ardalwyr hyd heddyw ae nid oes odid ddosbi»rth o ddynion yn unman ag y mae cerdd,awen, a Ilea wedi swyno cymaint arnynt. Cedwir bri y gerekl gan gor enwog Tanygrisiau gan amlder benrdd geilir cadw Gorsedd yn mlien pob heol bron ac y mae 11 en gar wyr fel raer yn esgyrn y chwarelwyr diwyd. Priodol fan, gan hyny, i gynal Gwyl Fawr y Cymry yw Ffestiniog, a rhyfedd na, fu'r Eistedd- fod o fewn magwyrydd Meirion hyd yr wythnos hon. Ar ol i raith yr Or&edl a Ohymdeithas yr Eis- teddfod gydsynio yn Llaadudno i wahoddiad brwd y Meirioawys i gynal yr wyl yn Ffestiniog eleni, ni fa ball ar egnion yr ardalwyr i sicrhau ei lIwydd. iant. Ffurfiwyd pwyllgorau ac etholwyd swydd- ogion yn ddiymdroi; detholwyd testynau buddiol a chwaethus yn y gwahanol adranau; trelnwyd pobpeth berffeithied ag y gallai talentau a gwlad- garweh eu llunio, a'r wythnos hon wele'r wyl yn cael ei derbyn ya groes%wtis a'i deflon hen a dy- ddorol yn cael en hanrhydeddu yc mhrifdainae y llechi. Dyma enwau'r swydd ogion a'r pwyllgor gweitli., iol:— Llywydd, Mr W E Qakeley is-lywydd, Mr Win Davies, Y.H. trysorydd, Mr G H Ellis, Y.H. ysgrifenydd cyffredinol, Mr H Ariander Hughes; ysgrifenyddion mygedol, Mri W E Alltwen Williams a R H Hughes. Gadeirydd y Pwyllgor Cyffredinol, Mr R 0 Jones y Pwyllgor Gweithiol, Mr Owen Jones is-gadeirwyr, Henadur Andreas Roberts a Mr J Newton .Jones. Gadeirydd y Pwyllgor Llenydd- ol, Parch J Rhydwen Parry is-gadeirydd, Mr R J Davies (Barlwydon); ysg., Bryfdir. Gadeirydd y Pwyllgor Cerddorol, Dr Roberts, Y.H. (Isallt); is" gad., Mr Cadwaladr Roberts; ysg., Mr J Jones- Morris. Gadeirydd y Pwyllgor Celf, Dr Richard Jones is-gad., Mr J Bowen ysg., Mr J Gadwaladr. Cad. Pwyllgor yr Orsedd, Yr Alltwen is-gad,, Cyffdy; ysg,, Caerwyson. Gadeirydd Pwyllgor y Neuadd, Mr D S Wilhams, Y.H. is-gad., Mr Cad- waladr Roberts, Penygroes; ysg., Mr William Jones. Cad. y pwyllgor Arianol. Henadur W P Evans ysg, Mr R 0 Davies. Cad. Pwyllgor Pobpeth, Henadur E H Jonathan; is-gad., Mr G E .Jones ysg., Mr E M Davies. Dyma restr o'r beirniaid a weinyddent B,gi-ddon,iaeth-lblo Caernarfon, Elfed, Dyfed, a Berw. Cyfieithiadau—Elfed, Mri J Morris Jones, M.A., a T Darlington, M.A. BJiyddiaith—Prifathraw John Rhys, M.A,, Mr D Brynrftor Jones, A.S., Deon Howell, Prifathraw T F Roberts, M.A., Praff J E Lloyd, M.A., Proff Ed- ward Anwyl, M.A., Parchn 0 Jones, M.A., Canon Davies, B.A. (Dyfrig), Mri 0 M Edwards, M.A., L. J Roberts, M.A., R Williams, F.R.H.S., D Row- i lands, M.A., Charles Ashton, G J- Williams, F.G.S., John Hilditch. Parchn D Adams, B.A. (Haioen), W 0 Jones, B.A., a Proff Phillips, M.A., B.Sc. Aclroddiad-Pareh T C Edwards, D.D. (Gynon- fardd). Cerddoriaeth—Mr Joseph Bennett, Dr Joseph Parry, Dr Roland Rogers, Mri D Jenkins, Mus. :3ac., D Emlyn Evans, William Davies, J 0 Shepherd, Miss Llywela Davies, R.A.M., Mri Edward German, Fred Griffiths, Eos Dar, a W 0 Jones. Celfa Gwyddor-Mr H Clareiiee Wliaite, P. R. C. A. Syr Edward Burne-Jones (yn awr yn ei fedd); Mr T H Thomas A.C.A., Anrhvd Mrs Oakeley, Mr W Goscombe John, Anrhyd Arglwydcl Kenyon, MTi; Thos Jones F.S.I., T T Marks, C.E. Mrs R M Greaves, Mrs Percival, Dr Le Neave Foster, Dr Kohn, Mri T E Ellis, A.S., Harrison, R.C.A., Hurren Harding, Mus. Bac., J C Roberts, R Roberts. Y.H., J J Evans, F.G.S., Meyrick Jones.MT Morris, J E Griffith, F.L.S., J Llovd Williams, C H H Walker, F.C.S., W Owen a T P Edwards. Arholiadau'r Orsedd. Wele restr o'r ymgaiswyr llwyddianus yn arhol- iadau'r Orsedd :— Urcld. Btrdd-John E Williams (Derlwyn), Llan- beris; Henry Roberts (Eryddon). Manceinion T Llewelyn Thomas (Elian), Caernarfon D J Roberts (Dewi Ma,i o Feirion), Ffestiniog; a Thos Thomas (Glan Rheidiol), Manceinion. I Urdd Ofydd—W Meiwyn Jones, Talysarn Parchn M 0 Evans, Gwrecsam E J Williams, Rhydyclaf- dy Morgan Watkin, Clydach, Abertawe Gwilym Thomas, Tylorsbown; a James Hnghes, Porch madog. Urdd Pcncerdd— David Davies (Pencerdd Morgan- wg), Fochriw; a'r Parch James Salt (Pencerdd Ogwen), Llandinorwig. Urdd Ccrcldor-Annie Hopkins (Cerddores y De). Ystalfera; Owen T Jones (Alaw Ffestin), Ffestiniog; J W P Arrowsmith (Mancunium), Cyffordd Llan- dudno; J Jones (Alawydd Peis), Llanberis; a W Thomas (Cxwilym Elian), Fachwen. Urdd Cerdd-Ofydd—J R, Jones (Trebor Alaw), Lerpwl; a J Thos Williams (AJaw Meirion), Ffestin- iog. Urddir y thii a ncdwyd yn yr Orsedd fore ddydd lau, Ddydd Llun. Dj wyl y genedl ar y rhiaiog, a thrigolion dinas y llechi yn pirotoi i roi derbyojad teilwng o'n gwladgarwch iddi. Gyda bod yr ymwelwyr ya, saogu ar ffiaiau Ffestiniog, gwelir prysurdeb an. nghyffredin-pawb yn cerdded yn fau ac ya fuan, a sirioldeb eroesawg»r ar wynabiu'r oil. Yn mhub < aned 1 bron ceir llumanau tlysioo yn cyhwfan yn yr awel dvner ac ar be a yr heolydi gwelir bwaw gwyrd ileisiou wedi ea gosod yn chwaethus. Pr n y ga"lasai trefi mwy eu rhwysg ragori yo 4S allinol- ion bethau yr wvl, åc os bydd y trefmadau mewo- ol cystal, hawdd prophwydo y ceir Eisteddfod ragord. Ymwelais a'r babell heldyw prydnawn. Siit yn Mhetry I y Farchoad, mewn man eano'og, ac o'f blaen ceir mates adloniant wedi ei brydferthu a. choed a rhodfeydd. Adeilad o goad ydyw, a'i hagwedd allanol yn eadarn. Nid oes ynddi ffen- estr, eithr darperir digon o awyr yn v gofod rhwng y bargod a'r p vrwydydd. O'i hamgylch ceir amryw adeiiadau coed i ddarpar ar gyfer rheidiau'r gwyddfodolion. Oldimewa i'r babell y mae'r olygfa'n hsrdd. Ni raid wrth haul y dydd na lleuad y nog i'w goleuo, eithr y mae digon o drydan weii ei drefnu i roi goleu ar bob pwnc dyrys. Tu ol i'r esgynUwr ceir yr organ fawr wedi ei gosod, yr hon a a nwisgir S, lleni lliwiog a banerau beirdd, yn nghyda'r -=--====-.=:=.=-=====--=--== uys-jfyoeiriau ttrferoi, Q gy'ioh y pen, gwelir banerau cenedlaethoS Lloegr, Cymru, Werddoc Alban, a'r Anaeric. O&d vr hyn sydd fwyaf t ddyddordeb ar y Ilwyfaa yw y darluniaa o Gymry gwiwgof; y rhai sydd yn eirfch fel yn tyw ac yn deflfro adgofioa fil am hen Eisbeddfodau a hen wynebaji addien sydd bellach Svy0 nyffryndir hen ffnediau, Dyma enwau'r rhai y ceir eu darluniau ymaWilliam Owen Pughe, Sioa Cent, Iolo Morganwg, Inigo Jones, Tany- mariau, leu&n Glan Geirionydd, Caledfryn Parch William Edwards, Twm o'r Nant, ac Ieaan Gwyaedd. Yn eu gwynebau ar y pareu j>-llaf^ ceir darluo o Die Aberdaron wrtho'i hue. n ychwanegol at y dsrluaiau, nodir o dan bob un y biynyddoedd y blodeuent ynddynt, yr hyn sy ji eh^vanegiad buddiol ac vn foddion i ad- gofio ii meddwl o flynyddoedd toreithiog yn gystal a biynyddoedd diffcwytli hanes ein gwlad. Ar hyd yr oehrau ceir euwau yr enwogion canlynol.-Hoo MorJais, Hiraethog, Clwydfardd, Gwalchmai, Gl&nf,frwd, Daniel OweD, Heber, Cynfaen, Dewi Mawrth, John Osborne illiams (y cerddor ieuane o Ffestniog), Tanymarisn, Dewi Ogwea, Islwyis, Cynddelw, ac Elis Wyn o Wvi-fal—hwytbaa oil wedi cefnu ar eu eyfoe(i;oi Eisteddfodol. Mae dwy law diwvd wrthi'n egniol yn gwisgo'r coed- golofnau a blodeu a chan*fod ymyl y llwvfan wedi ei urddo a pbalm wydd a thyleidion, ni ellir dymuno hatddiich golygfa mewn neuadd. Nid oes vaia gais yn cael ei wneud at orwychder, eithr y mae pobpeth yn drefmis a chwaethus, ac yn ddymunol fan i lettya givyl yr awen a'r gerdd ar eu phererin- dod blycyddol. Daeth Hwfa Mon i'r dref yn gynar, ac edryoha'r Archdderwydd yn iaeh a golygus i weinyddu ei swydd ddyddorol, Y mae'r heolydd yn llawn dy- eitariaid a disgwylir tyrfa fawr eto gyda'r fcrenau sydd i gyrhaedd yn hwyrach. Nid oes yr un o'r corao mawr wedi cyrhaedd eto. Y mae Cor Baallt yn y Bala yn cadw c3yng- herdd heno a bydd ytna'n blygeiniol yn y borea, Ceir edc arall yn cadw cyngherdd yn Nolgellaa. Nid yw'n debyg y bydd i'r nn o'r pum cor dor:i ei gyhoeldiad. Y mae Bryn yr Oraedd mewa man dymunol yn ngwyneb haul a llygad goleuni. Pan aethum yrid cefais y gweithwyr yn diwyd blana coed a gosod y meini mewn trefn dan gyfarwyddyd Caerwyaoa. Cied diwrnod heulog heddyw, ond yr oedd deigryn yn nghil ei lygad hefyd. Oed y "gwlaw Ffestiniog*' wedi cadw draw hyd yma, a gweddi. unoi pawb yw am i'r eymylau ddistyll eu eynwvs o,r rhyw fcolir arall yr wythnos hon, Dechreua cyfarfod y Cymmrodorion am wyth Addysg Ceifyddydol yw pwnc y drafodaeth, ac yr wyf ar fedr myned i v-, randor doaiau. Cewch yr banes yfory. Cyfarfod y Cymmrodorion. Cynaliwyd hwn yn y Neuadd Gynull nos Lun, ac yr oedd y cynulliad yn un tra lluosog. Llyw- yddid gsa y Prifathraw Reichel, Bangor, a thestyn y drafodaeth ydoedd "Ape! ar ran addyeg gelfydd- ydol a Chretftcl Cymru," Darllenwyd p»oyrau nysbyddol ar y ma<er gan y Prifathraw T. F. Ro. berts, Aberystwyth, a Mr u. J. Roberts, arolyg- ydd ysgolion. Dangoswyd gymaint ydoedd Cym- ru ar ol yn y cysylltiad hwn, ac anogwyd yr aw- durdodau addysgol 1 geisro efelychu gwledydd y Cyfandir gyda hyn. DYDD MAWRTH O'i cbymharu a diwrnod cyntaf Eisteddfodau Oenedlaethol yn gyffredin, y mae pob argoel y bydd i hon ragori ar ei blaenoriaid o ran nifet y rhai oedd yn bresenol. Caed tywydd braf. heulog, ac eithrio adeg cyrj^Had yr Orsedd, ar y cyfan ac aeth y gweithrcdiadau yn mlaeu yn hwylns a dibrofedigaeth. Cynaliwyd yr Orsedd. yn ol y drefn arferot a.m naw o'r gloch y bore, ac oblegyd y gwlaw ym ddangosii'r beirdd yn ngwisgoedd meldrohon cyffredin. Llywyddid v gweithrediadau gan yr Archdderwydd Hwfa Mon, yn cael ei gynorth- wyo gan yr henwr ieuanc Alltud Eifion, Cynoo- fardd, Gwynedd, Ap Myrddhi, 4to. Canwyd penilliofi gan Eos Dar, yn caei ea cyfeilio ar y delyn gan Telynotes Lleifiad. Anrhegwyd yr Archdderwydd a chorn hirlas gan Miss Caled fryn Williams; a datgaiiodd Cynonfardd deimladau serchog ein cyd wlad wyr hwnt. is eigion at yr Eisteddtoa a he a wlad eu tadaa. Caed anerchiad hefyd gan lolo Caernarfon, a chyfarchiadan barddonol gan Tudwal, Bryfdir. Pedro j, Llifon, Isander, Isallt, Dewi Mon, a Morion Rhoes Cadtan hanes byr a dyddorol o amryw enwogion eisteddfodol oeddynt wedi codi yn Ffestiniog a'r ardal. Yn bresenol v gynrychioli Gwyl Fawr 1.899 yn Nghaerdydd. yr oedd Idriswyn a'r Parch T. Davies, Bethel. Wedi canti "Hen fy nhadati," aed i babell yr Eisteddfod He r oedd tna thair mil 0 bobl wedi ymgynoll a \es deohreu a cyfarfod, Y llywydd boreu heidyw ydoedd Mr W. E. Oakley, Tanybwlch, gan yr hwn y caed anerchiad dyddorol iawn. Talodd iv&,rogaeth i lafur y pwyllgor, a bad eu hymdrechion yn teii yngu pob llwyddiant. Adnabyddid Ffestiniog trwy'r byd fel caiiolfan y fasnach lecbi; ond yr oedd y Ue vn ddvddoro1 hefyd i'r ysgolhaigVr hynafiaithydd. fma. y lie.jlid mabinogi Math fioh Mathoawy—hen stori we h vdoeid wedi ei hys grifenu yu ei ffurf bresenol taa chwe' chanrif y,c ol, ond a berthynai i ad jj lawer hyn na hyny, Ac yr oedd yn hyfryd cael e wau ar ffarmydd Lc afonydd y gym vdoget,h ojddynt yn aros o'r adeg hona hyd heidyv/ heb a j cyfaewid, Ya mhlit ri testynao'r Eisteddfod bresenol vr oedd triithawd ar yr Archddiacon PrYB, rheithor Maentwrog a Ffestiniog o 1572 i 1624. Nis gallai ef ()&1 Oakeley) honi ei foi yn ddisgynydd uuiongyrcb 1 o'r gwr enwog hwnw, eto efe ydoedd cynrychiol- ydd agosaf y taulu. Merrh i'r A'chadiacoa a briodoid bercheaog Tanybw c 5 y pryd hyny, gan yohwanegu Tyddyn Da a Rh wbryfdir at yr ystad hono, ac felly gynortiiwvo yn rudblygia 1 a chyn- ydd chwarelau'r fro. Pob'ogaeth plwyf Ffestin' > yn y fi wyddyn 1695 i 1700 ydoedd 460, a ch&nr >f vn ddiwaddarach 710; t-r" erbyn heddyw iaaeddi ) 14,000 i 15,000. H td dÆweld y ganrj o'r blaen, dibynai'r r-igo'ioa yn gyfangwhl am gynaliaeth ar eu defaid a'r mynydd.dir, a'u prif ddiwydwaith ydoedd n'ddu a gweu. Modi bynag, tua'r flwvdd/n 1755, dywedir i ryw hea chwarelwr o Arfon, Methuselah Jones, freudd- wydio fod chwarel yn Ffestiniog, ac ar bwys ei freaddwyd daet-h taau \ma, a dara.nfydd() "I Ohwarel y Diphwys. Dieth amryw o'i gymdeith {Parhad ar tudal 8.)
--0--.-CWRS Y BYD.
Mr. Chamberlain MAE'R bod dyrchafedig a elwir Joseph, yr hwn cldwy neu dair blynedd yn ol oedd yn myn'd i droi Cyfandir Affrig yn ardd Brydeinig, ond a luddiwyd yn ei amcanion uchelryw gan yr hen wr gwargaled Kruger oedd cyn ddiweddared a deufis yn ol yn myned i ddechreu'r milflwydd- iant trwy gaei gan Brydain a'r Unol Daleithiau syrthio ar yddfau ei gilydd ac ymgusanu, ond a dynodd fwy o gilwenan arno nag a gafodd o gymeradwyaeth dynion call a'r hwn hefyd a addawai mor deg a chadarn dair blynedd yn ol ar fin yr etboli, fi cyfiredinol, cofier, roi pension i bob bod dynol yn y wlad a gyrhaeddai ei 65 mlwydd oed, ond y dywed dau gomisiwn, ar ol hir ystyried y mater,sydd yn hollol anymarferol beb filiwnau o buuau gan. y Llywodraeth y Mae Joseph wedi sori'n enbyd, a barnu oddiwrth ei don, ac yn ei soriant yn dweyd ei fod ef yn gwbl ddidaro beth "ddywed y Radicaliaid am dano." Ond hyd y gellir deall yr byn oil a ofyn y giwed hyny gan y dyn mawr ydyw iddo egluro paham yr addawai ef ar fin etholiad yr byn y mae dau gomisiwn, ac un comisiwn yn bobl o'i ddewisiad ei bun, yn ddweyd sydd yn anymarferol; ac nad yw eu dyfarniad hwy yn gywir, pabam na ddatguddia ef ei sciam ei hun, ar ba un y sylfaenai ei addewid. Mae o'n gais pur deg, leddyliwn i. Hael Hywel (Salisbury) ar bwrs y wlad. £ 600,000 yn flwyddyn ydyw'r cyfan fedr y Lywodraeth fforddio i'w rhoi i dirfeddianwyr Iwerddon. Mae'r swm braidd yn fychan, ond wed'yn rhaid cofio fod ei haner yn myn'd i bobl eraill yn y trefi ac ychydig hyd yn nod i denant- iaid. Wrth gwrs, o logellau trethdalwyr Ynys Prydain, ac o chwys ei gweithwyr, y daw y chwe' chan mil hyn. Gan fod y Toriaid a'r Gwyddelod o bob daliadau yn pleidio'r mesur, Rhyddfrydwyr yn unig oedd yn ei wrthwynebu, a'r blaenaf ohonynt oedd M r Lloyd George. Yr oedd Mr Georgeyn ei elfen yn pwnio ac yn panu y Mil. Saunderson, y gor-Brotestant Gwyddelig. Ymddengys y bydd i'r Milwriad dewr elwa rhyw ganpunt yn flynyddol oddiwrth y rhodd a phan hysbyswyd ef o hyny, atebodd "Clywch, clywch." Trodd Mr George arno gan ddweyd fod yn dda ganddo glywed y Milwr- iad yn cydnabod ei fai, ac y byddai rbyw ddynion yn arfer gwneud hyny er mwyn cael cosb ysgafnach.