Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Y CYMRY A'R CWYDDELOD.

News
Cite
Share

Y CYMRY A'R CWYDDELOD. TRA y gwelir pob arwydd o neshad y ddwy ganghen hyn o'r teulu Celtaidd at eu gil- ydd mewn ystyr lenyddol, y mae hefyd arwyddion llawn mor amlwg o'u hymbell- had mewn ystyr boliticaidd. Buont yn gydymdeithion lied gyson am y pymtheg neu ugain mlynedd diweddaf; ond er's rhai misoedd bellach nid ydynt wedi cyd- gamru yn dda. Ar fatenon politicaidd na fydd a fyno daliadau crefyddol a hwy, y mae'r Gwyddel a'r Cymro yn go unfarn ond gynted fyth ag y sonir am grefydd, gogwydda un yn gryf tua Rhufain, a'r llall, fel yr ydym yn credu, tuag at yr Ys- grythyr Lan. Tra y bu Mr Gladstone byw, ac yn allu mewn gwleidyddiaeth, gweinyddai fel dolen gydiol rhwng y ddau dylwyth—rhwng y rhai, am ryw achos nad yw yn hawdd ei olrhain, y bu casineb greddfol am oesau lawer—casineb brodyr, chwerwach na chasineb arferol, a hawdd- ach ei ail enyn, fel adgyneu tan ar hen aelwyd. Cadwai yr hen wron, tra yn wladweinydd, y cwestiynau ymraniadol hyn yn y cefn, fel yn wir y darfu hefyd yr arweinwyr Rhyddfrydig ar ei ol ac yn ol y cyfrwysdra a roddwyd iddynt, nid yw aelodau'r Llywodraeth bresenol erioed wedi colli'r cyfleusdra i'w ddwyn yn mlaen, fel y gwyr pawb fu'a gwylio eu symudiadau. Pa fodd bynag, y mae'n eithaf amlwg bellach y rhaid i'r blaid Gymreig weithio allan waredigaeth a rhyddid ei gwlad heb help y blaid Wyddelig fel y cyfryw. Y j sydd yr ysgariad yn wir golled i ni fel 1 Zymry, nis gellir credu am foment. Ni Idarfu i ni unwaith bwyso ar y blaid ( Wyddelig, mewn achosion o addysg a :hrefydd, na throdd hi allan yn gorsen j rsig, os na fyddai ganddi rhyw amcan am- wg ac agos mewn golwg. Y mae cymaint j ;wahaniaeth rhwng y ddwy bhid ag sydd a hwng Pabyddiaeth ac Ymneillduaeth— d im mwy na llai. Ni ddichon Pabydd yson fod yn Rhyddfrydwr. Pa fodd y all yr hwn sydd yn credu yn anffaeledig- eth ei gredo ei hun, ac yn ffaeledigaeth c, redo pawb arall, bleidio cydraddoldeb cre- rddol ? Fe wnaeth filoedd o weithiau nd erioed oddiar egwyddor. Yr oedd yn weithio yn rhyfeddol o egniol gyda'r Y hyddfrydwyr i enill rhyddfreiniad y i) abyddion yn 1831, a'r un modd i ddad- ef ysylltu Eglwys Loegr yn Iwerddon yn tr I Nid oblegyd fod ganddo wrthwyn- g )iad i gysylltu Eglwys a Gwladwriaeth, dE id am mai nid ei eglwys ef oedd yr eg- rys a ddadgysylltid. Nid oes yr un wlad- riaeth ar wyneb daear na fyddai ef mewn 'sylltiad a hi pe gallai ond ni fyn y j m vledydd callaf mo'i grefydd, gan wybod I yc ai pa le bynag y mae, yno y mae marw- bi dd-dra a melldith—o leiaf yn wlad- M riaethol. Cawsom ei help a'i bleidlais I ?! Fesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn ghymru yn hollol ar yr un tir safodd m 1 yr amgylchiad hwnw. fel y safodd a ,ewn amgylchiadau o'r blaen, ochr yn ¡ hi :hr a phleidwyr cyson rhyddid, tadau m efyddol y rhai y bu ef yn tywallt eu da vaed ac yn llosgi eu cyrph yn lludw j ag ewn amserau a than amgylchiadau gwa- inol. Gwr dauddyblyg ei feddwl sydd j iwastad yn ei holl ffyrdd "—dyna'r Pab- fo Id gwleidyddol i chwi, bydded dlawd neu en rfoethog, anwybodus neu ddysgedig a ac dyna'r Pabydd Gwyddelig yn anad yr un. Pabydd arall ar wyneb daear. Nid y syn- dod yw fod y cynghrair, y ddealltwriaeth, neu ba beth bynag y gellir ei alw rhyng- ddynt yn tynu i ben, ond iddo bara cyhyd, Felly yn gymhwys hefyd gyda Rhydd- frydwyr Lloegr a'r Alban. Bydd yn an. nichonadwy iddynt hwythau barhau yn llawer hwy mewn cysylltiad a chorph marw fel Y m reolaeth I werddon-corph marw cyn belled ag y mae ynddi ddim bywyd yn bresenol nac yn debyg o fod am beth amser; y ond a ddichon adfywio eto yn y dyfodol mewn fTurf ac agwedd wahanol. Dywedai Mr John Morley, ychydig wythnosau'n at fod y Blaid Wyddelig wedi aberthu mwy na'r Blaid Rhyddfrydig er mwyn yr undeb rhyngddynt. Ond yn anffodus, ac yn groes i'w arferiad gyffredin, ni roes Mr Morley yr un rheswm tros ei haeriad rhyfedd, Mae'n anhawdd gwybod beth a gollodd yr Ymreolwyr trwy yr undeb, a pha beth a enillodd y Rhyddfrydwyr. Rhwygwyd y blaid olaf yn ddau ddarn, aeth amryw o'i gwyr galluog trosodd at y Toriaid, ac yno, mae'n fwy na thebyg yr arosant beth bynag nid yw'n debyg y dychwelant tra parhatho eu hen gyfeillion yn gysylltiedig a. phlaid y mae aelodau lawer ohoni yn gorfoleddu yn mhob aflwydd a ddigwydd i'w gwlad, yn anos pob drwg rhyngddi a gwledydd eraill, yn ymladd Au gilydd fel eu cathod o Gilceni a gwaeth na'r cwbl, sydd yn anffyddlon i'w hamodau,ac yn dewis yn hytrach wrando ar leferydd y Pab a'ii gynrychiolwyr ar lun ofFeiriaid Pabaidd o bob math, na geiriau tegwch a chyfiawnder gwladwriaethol rhwng dyn a dyn, rhwng plaid a phlaid, a chrefydd a chrefydd. Mae'n hen bryd i Ryddfrydiaeth ac Ym- neillduaeth beidio rhoi ymddiried cyfaill mewn gelyn, a chofio nas gellir erioed rawnwin oddiar ysgalL

--0--.-CWRS Y BYD.