Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

MARWOLAETH GOLEUFRYN. !

News
Cite
Share

MARWOLAETH GOLEUFRYN. Yr oedd set angau arno er's cryn amser, ar I lun yr afieclyd marwol a elwir Bright's dis ease." Yr oedd ei farwolaetb yn golled i len- yddiaeth Gymraeg. Cyhoeddwyd ei lyfr olaf I ychydig fisoedd yn ol, yn llyfryn 6ch., tan y teitl Cibroth Hataafah a rhyfeddwn glyw- ed ei gyhoeddwr, Mr Gwenlyn Evans, Caernar fon, yn dweyd yr wythnos ddiweddaf nad oedd ond ychydig o'r llyfr wedi gwerthu. Mae hyn yn rhyfedd iawn, pan ystyrier ei deilyngdod uehel ac amcan dyrchafedig y llyfr. Nid oes fawr ambeuaeth erbyn hyn nad Goleufryn oedd y Siluriad a barodd y fath gynhwrf yn y gwersyll Cymreig rhyw ddeng mlynedd yn ol. Eu nerth a'u gwendid oedd eu min. i MARWOLAETH YR AELOD SENEDDOL. Trychineb galarus a gyfarfu Mr Thos. Owen, yr aelod tros Launceston, ddydd Sul. Ychydig, mewn cymhariaeth,a wyddent ei fod yn Gymro, ac yn enedigol o ardal mor Gymreig a Machyn- lleth ond Cymro ydoedd er hyny, a'i dynfa yn cryfhau at ei wlad enedigol fel yr heneiddiai. Yr oedd mewn masnach fawr, ac wedi dringo trwy ei fedr a'i ddyfalwch i gyfoeth helaeth. Tra alian yn rhoi tro ger ei gartref Cymreig ddydd Sul, anturiodd i le peryglue ar lechwedd yr afon Llyfnant, ger Machynlleth Hithrodd ei draed dano, syfrdanwyd ef yn y ewymp, a boddodd mewn dwfr has cyn i neb ei gyrhaedd. Yn rhyfedd iawn, yr oedd y ddan ymadawedig wedi eu geni yn ystod yr un flwyddyn, sef 1840. Y CROGBREN. Unwaith eto, os na cbyfrynga y Frenhines gyda'i gras, gosodir yr ^offeryn melldigaid uchod i fynu yn Nghymru. Ddydd Mawrth, yn Mrawdlys Dolgellau, dedfrydwyd Jones, feremp- yn,i angau gwaradwyddus y crogbren. Lladdodd ei ordderchwraig ar fynydd gerllaw Ffestiniog. Daliwyd ef megys &'i ddwylaw yn rhudd. Ni fn crogi yn Nolgellau er pan ddienyddiwyd y Cadwaladr Jones hwnw Die Rolant am ladd ei dad-yn-nghyfraith oedd yr olaf a gollwyd yn Mon llofrndd Jesse Roberta a gollwyd ddi- weddaf yn Nghaernarfon a'r lleneyn hwnw o Helygain (nid wyf yn cofio ei enw, tae waeth), oedd ysglyfaeth olaf y pren dyoddef yn sir Ffiint. Mae Daniel Owen, yn Given Tomos, yn rhoi math o aralleiriad o'r achos hwn. Cyn hyny y gweinyddwyd cosh marwolaeth olaf yn sir Drefaldwyn ac nid oes neb b?w yn ddigon hen i gofio y "colli" olaf yn sir Ddinbych. Mae rhywun yn arswydo drwyddo wrth feddwl fod undyn yn yr oes ddefod-grefyddol hon yn gwneud dim a haeddai farwolaeth mor ofnadwy. CWIWL WYNNSTAY. Cwmwl nad oes mo'i duach yn y rhestr ydyw hwn. Owr a gwraig, ac yn gefnder a chyfnither i'w gilydd, yn methu byw tan yr un to. An- fFyddlondeb gwarthus yn cael ei osod yn erbyn y foneddiges, a hithau yn cydnabod hyny. Y ddau yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf nchel- radd yn Ynys Prydain. Tyner y lien tros yr olygfa brudd.

Lerpwl ac Eisteddfod Cenedlaethol…

Damwain echrys i Cymro.

Lladrad beiddgar yn y Wyddgrug.

[No title]

Marwolaethau.

YR HAF YN Y WLAD.

Carddwest Cymreig yn Oaklands,…

---C)-alwydd-daliadau i'r…

Advertising