Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Cadair Coleg Dewi Sant, Lianbedr.
Cadair Coleg Dewi Sant, Lianbedr. YN canlyn ceir enwau yr ymgeiswyr am gadair y prifrthraw yn Ngholeg Dewi Sant, Tyddewi, a osodir vn ol trefn y wyddor Bebb, Parch LI. J., M.A., C'oleg Brasenose, Rhyd- yohain. „ TT „ Broughton, Parch Reginald, M.A., .rfaddon Hall, Boscombe, Bournemouth. Foakes-Jackson, Parch F. J., M.A., Coleg yr lesu, Caergrawnt. Gibbins, Parch H. de B., D. Litt., prifathraw Coleg Lerpwl (Shaw Street). Humphreys, Parch A. E., M.A., Rheithordy Fakenham, Norfolk. Hatton, Parch W. H., B.D., Coleg St loan, Rhyd- ychain.. Jones, Parch Edmund O., M.A., Ficerdy, Llan- idloes. Jones, Parch G. Hartwell, M.A., Rheithordy Nutfield, Red Hill. Macdonald, Parch J. Middleton, M.A., 150 Ken- nington Park Road, Llundain. Preston, Parch George, M.A., Fransham:Magna, East Dereham. r Randell, Parch Thomas, D.D., Rheithordy Sunder- land. Robinson, Parch Canon, M.A., 13 Crescent Parade, Ripon. Walker, Parch T. A., LL.D., Peterliouse, .^Caer- grawnt. Whittington, Parch Canon, M.A,, Rheithordy St Wilfrid's, Northenden, sir Gaer. Williams, Parch Robert, M.A.. Coleg Llanbedr, Wright, Parch C. H. H., D.D., 44 Rock Road, Rock Ferry, Birkenhead. Gwelir oddiwrth yr uchod fed tri o Jymry yn eu plith, ac UQ o'r tri yw Rheitlior dysgedig a j phoblogaidd Nuttield. Mae teimlad cryf a chyffred inol yn y wlad o blaid Mr Hartwell Jones, a rhoddai ei benodiad lawenydd nid bychan i'r Dywysogaeth, yn gystal ag anrhydedd i'r Go!eg e: hun. Cymer yr etholiad le ddydd Mawrth, Goiph- enaf y 5ed.
o Byfftyn Clwyd.
o Byfftyn Clwyd. YN nghyfarfod misol Cynghor Dinbych ddydd Mercher, darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Hughes, Kinmel, yn hysbysu nad oedd darlun vo Neuadd y dref yn dwyn o dano'r enw o Robert, larll Leicester," yn debyg o gwbl i'r pendefig hwnw, a bod y wisg yn y darlun yn perthyn i gyfnod diweddarach. Dvwedai'n mhellach mai darlun ydoedd o lago 1., a rhoes awgrymiadau pa fodd i'w adnewyddu. Penderfyncdd y Cynghor wneud byny ar ol ymgynghori a'r Mil Maiawaring, tad yr hwn oedd yn A. S. dros Fwrdeisdrefi Dinbych, ac a roes y darlun i'r dref. 0 flaen ynadon air Dinbych ddydd Mercher, trosglwyddw>d yn 11awn i T. Griffiths drwydded Kinmel Arms, Llandyrnog y Bee Ian, Llandyrn- og, i Wm. Davies; a'r Cymro Inn, Llanrhaiadr, i D. S. Christley, Dydd Sadwrn daeth catrawd o Fyddin lashawd- wriaeth i Ddinbych. Denodd ei seindorf brea gref dorf ar unwaitb. Oynaliasant amryw gyridau yn Bodawen ac yn yr awyr agored., Bu eu hymweliad yn foddion i fyned a lOp 10s o arian pobl y dref. Yn Nghaarnarfon yr wythnos ddiweddaf priod- wyd Mr R. H. Roberts (mab Mr Roberts, Foxhall, Dinbych) a Lili, merch Mr Alexander Frazer, Caernarfon. Yn arianol, raethiant fu Eisteddfod ddiweddaf Llanelwy. Yr Aooibynwyr a'i hyrwyddodd, a chadwasant hi braidd iddynt eu hunain. Nid oedd pobl y drws nesaf (Dinbych) yn gwybod am dani. Y mae plant yr hyfforddlong Indefatigable yn myned i Ruthin eleni i dreulio'u mis gwyl. 0 hyn allan ni chynelir ffair foch yn Ninbych ond bob mis y mae'r bythefnosol wedi myn'd i'r gwellt. Dydd Gwener cafodd Annibynwyr Graigfechan wledd de a bar.% brith yn yr awyr agored. Wedi digoni, rhoed melusion i'r plant am redeg am y geren. Yn Eglwvs St, Pedr, Llundain, yr wythnos ddi. weddaf, priodwy,l Mr G.F.Lyster, C.E., F.R.S.E., Lerpwl, a Pits Is9.f, Rhuthin, a Miss Blanche Emily Isabella Maude, merch y diweddar Gapt. yr Anrhyd F. Maude, R.N., cefnder Iarll de Mont- ftl, Dundrum, Tipperary. Cyflwynwyd anerchiad ku i'r Yawain E. O. V. Lloyd, Berth, Rhuthin, a Rhagatt, Corwen, yr wythnos ddiweddaf. Derbyniodd un gan drigolion Lianbedr yn y Berth, a'r llall gan Gorphorasth Rhuthin yn Ragatt. Mae cdr o Ruthin yn myned i gystadlu yn Eis- teddfod Corwen, tau arweiniad Mr Lucas Williams, Rhyl. Yn Rhyl ddydd Mawrth, cynaliwyd trengholiad gan Mr F. Ll. Joaes ar gorph Patrick O'Pxrady, 91 oed. Tyatiodl J. 0. Vaughan idd) ei janiatau i fyned i'r biddon. Yo mhen yehydig amser clyw- odd ei fod ar ei gefn mawn 18 modfedd o ddwfr. Pan godw, d ef yr oedd wedi m -rw. Rheithfarn, marwolaeth oddwrth achoaion natuiiol. Yn Answtrs ceir darlan o W. Pearce Jones, bro- dor o sir Feirionydd. Dschreuodd ei yrfa. fel iron- monger, wed'yn daeth at Mr T. J. Williams, Din- bych, fel drader. Oddivno aeth i Lundin, a de- chreuodd fusnes ei hun mewn path amser. Erbyn hyn mae ganddo agoa I fil o wasanaethj ddion a 80 o geSylau. Yn eglwys plwyf Llandyrnog y mae croes wedi ei gosed, er dirfawr boen i un brawd, yr hwn aeth allan pan ei gwelodd. Tuarfl. 1848 yr adeiladwyd G«allgofdy Din- bych. Yr adeg hono yr oedd eyfloq gweithiwr yn 9s yr wythaoa Yr oedd pris gwenith ychydig yn uwch nag yn bresenol; menyn, 8c v pwya chwar- ter 61 nen flaen o folltgig, Is 60; te a siwgr deir- gjWaith yn ddi'Ht*oh nag yo awr Eleni rhoddir darn >»t y gwalig(>fdy a gyst tu* 80,000p. Y mae cyfiog y gweithiwr wedi dyblu erbyn heddyw; y gweaith yn rhitach a lawer, ond fod esgus o ryfel wedi digwydd eleai, a rhai wedi manteisio ar hyny i'w godi Oig ao ymenyn yn unig sydd wedi codi. ONKSIMUS. -0-- Mae Mr HLigglnsbottom, Lerpwl, wedi prynu fflofa Bettiafield f un o,r rhai mwyaf yn Ngog- Tedd Cymrn. Yn ddiweddaf sylwodd y Parch R. Thomas, Glandwr, yr huffsi wele-i yi holl enwadau An- nghydffurfiol Cymreig ya defn^ddio'r un Llyfr Emynaa yr or*d<iyttt yn foddk m defnyddio'r un BeibL
Cymanfa Bedyddwyr Dinbych,…
Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint, a Meirion. YN Mhenycae, Rhiwabon, y cynaliwyd y gyman- fa hon ddyddiau Llun, Mawrth, a Mercher, y 13, 14, a'r 15 cyfisol, y Parch. E. Mitchel, Poncie, yn llywyddu. Ddydd Llun, cyfarfu'r pwyllgorau i drefnu eu hadroddiadau. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cenhadol, y Parch Abel J. Parry, D.D., yn y gadair, gan yr hwn yn nghyda'r Parchn W. Rowen Jones, cenhadwr yn India, a H. C. Wil- liams, Corwen, y caed anerchiadau grymus. Ddydd Mawrth am ddeg, cynaliwyd y gynadl- I edd gyntaf, pan y traddododd Mr Mitchel ei an- erchiad o'r gadair. "Gostyneiddrwydd Crist- ionogol oedd ei bwnc, ac yr oedd ei sylwadau'n gwbl deilwng o'r gair, ac yn faddiol ac amserol iawn. Diolchwyd yn wresog i Mr Mitchel, a mabwysiadwyd yr anerchiad fel cyfarchiad y gymanfa at eglwysi'r wlad.-Derbyniwyd y gweinidogion canlynol i gylch yr Undeb Parchn H. Howell Williams, Cefn Bychan J. Roberts, Abergele R. Jones, Llanfairtalhaiarn; Pedr Williams, Bootle Joseph James, Doly- wern; T. Salisbury, Codau E. P. Bbom, Bwcle; a M. Morgan, Birmingham.—Hysbyswyd fod 13 o bragethwyr ieuainc wedi passo'r arholiad, sef Mri T. G. Jones, Coedllai M. Williams, Cor- wen H. R. Williams, Corris; C. Thomas, Tyl- desley E. Jones ac E. Pritcbard, Penyct.e R. Williams, Cefn Bychan J. R. Williams, Ffes- tiniog J. Edwards, Llanfyllin; E. E. Morris a Jonathan Davies, Llansantffraid E. T. Hughes, Llangollen, a T. Jones, Manceinion.—Ni 1 oedd yr ystadegau ond am wyth mis, sef o Mai byd ddiwedd Rhagfyr. Ceir yn y Gymanfa hon 107 o eglwysi, yn cynwys 6,317 o aelodau, cynydd o 58 mewn wyth mis yn yr ysgolion Sul ceir 1004 o athrawon, a 8,805 o ysgolheigion. Trafod wyd amryw faterion yn nglyn A chapelau, achyflwyn- odd y pwyllgorau eu hadroddiadau. Nid oedd dim o bwys neillduol ynddynt—Etholwyd y Parch D. Jones, Pandy'r Cape], yn llywydd; Mr D. Roberts, Dolywern, yn is-lywydd Parch M. Roberts, Ffestiniog, yn ysgrifenydd Mr Jonathan Edwards, Ffestiniog, yn drysorydd, a'r Mri Pickering, Penycae, a W. Griffith, Rhos, yn arch w il wyr. --Llongyfarchwyd y Parch Abel J. Parry ar yr anrhydedd o D.D. a roed iddo.— Cyflwynwyd anerchiad a Beibl hardd i weddw y diweddar Mr R. Roberts, Rhos, trysorydd y gymanfa hefyd cafodd Mr Simon Williams, Colwyn Bay, anerchiad am ei wasanaeth i'r gen- hadaeth gartrefol.-Amlygwyd cydymdeimlad a'r Parch W. T. Davies, Pandy'r Capel, yn ei alar a'i nychdod ag eglwys Spurgeon ar losgiad eu capel acIA theulu Gladstone yn eu galar.- Penderfynwyd cynal y gymanfa nesaf yn Brym- bo.-Amlygwyd llawenydd fod yr enwad yn ffafr dau goleg yn lie tri. Pregethwyd nos Fawrth a dydd Mercher yn nghapeli'r cylch gan y Parchn Dr. A. J, Parry, I In T. Davies, Fforddlas Peter Jones, Pedr Wil- liams, a D. Powel, Lerpwl J. Davies, Birken- head; R. G. Roberts, Dolgellau T. Roberts, Maesteg D. Jones, Pandy'r Capel; H. Cernyw Williams, Corwen; W.H.Jones, Llanfyllin; Evan Jones, Llanelwy, a T. Morgan, Wyddgrug.
-0 Cymry llwyddianus yn Nghaergrawnt.
-0 Cymry llwyddianus yn Nghaergrawnt. YN yr arholiadau diweddar am y gradd o B.A, gydag anrhydedd yn yr athrofa uchod, disgleiria Cymru yn ogoneddus, gan fod amryw o'i melbion yn sefyll yn uchel yn mhlith y rhai llwyddianus. Sylwyd ar Mr Harris o Ferthyr Tydfil yn ein rhifyn diweddaf, a cheir banes Mr Vernon Stanley Jones, mab i'r Parch John Jones M.A., Ystrad Meurig, a phrifathraw yr ysgol ratnadegol horn, mewn colofn arall yn y rhifyn hwn. Yn mhiith eraill sydd wedi enill bri yno, ceir Mr W G Davies, Coleg y Drindod, a safai ar ben rhestr y Moral Science Tripos, a meddylir yn uchel iawn am dano gan Brotfeswr yr Athrofa. Bu Mr Davies yn ysgolfeistr am dymhor, a tra wrth y gwaith yma llwyddodd i enill y B.A. a M.A. yn Llun- daiD. Ordeiniwyd ef gan y diweddar Esgob Bangor, a bu yn gweinidogaethu am naw mlynedd fel curad Cymreig yn Llandudno. Yn 1895, ymddiswyddodd ac aeth i Goleg y Drindod yn Nghaergrawnt,a gorphena ei yrfa yn y modd anrhy- deddua o fod yn gyntaf ar restr y Moral Science Tripos. Bwriada Mr Davies ddychwelvd i lafurio eto yn yr Hen Wlad. Gyda lhw mae yn gyfaill mynwesol i'r Parch Peter Price, Lerpwl, yr hwn sydd yn astudio fel aelod o Qaeen's College, Caer- grawnt, gyda'r bwriad e raddio yn y Moral Science Tripos. Dymuoiad pawb yw i'r un llwyddiant dddyn Mr Peter Price. Mr David E Davies, un arall a gafodd II. Class yn y Theological Tripos. Mab yw efe i Mr Ephraim Davies, Upper Stan- hope Street, Lerpwl, ac un o aelodau hynaf Eglwys Dewi Sant, Brownlow Hill, lie y codwyd y dyn ieuanc sydd wedi dod allan mor rhagorol. Bu Mr Davies am amser yn gwas-anaethu mewn swyddfa yn Lerpwl, ond trwy hunanymroddiad a dyfalbarhad i'r gwaith o fyfyrio llwyddodd. i enill yagoloriaath a graddio gydag anrhydedd iddo ei hun, ei rieni, a'i wlad. Mr Morgan Jones, St John's College, Caergrawnt; a ymddangosodd yn Class III. Theological Tripos. Mae y Cymro llwyddianus yma yn nai i'r Parch J Morgan Jones, Caerdydd, a bwriada ddychwelyd i lafurio yn mhlith ei genedl ei hun yn fuan.-J.D. --0-- Cynaliwyd 25ain cylchwyl flynyddol Ysgolion Sul Annibynwyr Treffynon ddydd Sul, Mr W. Williams, Ffynongroew, yn y gadair. Cwblha'r Parch D. Oliver ei 25 mlwydd fel gweinidog yr eg- lwys y flwyddyn hon. Mewn atebiad i ddeiseb a arwyddwyd gan 75 o chwarelwyr y Penrhyn, addawa Mr Young y prif oruchwyliwr, gyflogi ychwaneg o fechgyn yn y chwarel. Mae clefyd y moch wedi tori allan yn sir Fflint.
YR HAF YN Y WLAD.
YR HAF YN Y WLAD. Pwy bynag sydd ganddynt Dai neu Ystafelloedd ar osod yn y dref neu yn y wlad neu pwy bynag sy'n dymuno cael Hetty mewn unrhyw ran o Gymru, modd goreu iddynt sicrhau yr hyn a geisiant yw trwy hysbysebu yn y Cyiitro-y cyfrwng hysbysiadol goreu. 18 gair am 6ch., a cheiniog am bob tri gair dros hyny
Lleoi.
Lleoi. Bydd y Parch Wm Jones, David Street, yn ol o'r America tua chaaol Gorphenaf. Gwelir oddiwrth golofn y Cyhoeddiadau fod y Parch D M Jenkias wedi adferyd ddigon i allu pregethu yn Park Road y Sul nesaf, Nawn Sadwrn wythnos i'r nesaf, am 1.30, bydd Cymdeithas Ryddfrydol Everton yn myned i Hale ar achlysur eu picnic blynyddol. Cafodd Mrs Lodwig Lewis gystudd trwm yn ddiweddar, ond deallwn, gvda byfrydwch, ei bod yn awr allan o berygl. Bu Mr David Davies, Pelham Grove, cadeirydd Cyfarfed Misol Lerpwl, yn bur wael yn ystod yr wythnoaau diweddaf, ond da genym ddweyd ei fod yn gwella yn rhagorol. Da genym ddeall fod Mrs Ellis, priod Mr Edward Ellis, Lancaster Avenue, wedi troi at wella, ac yn adenill ei nherth yn raddol, gan roddi lie i obeithio y caiff adferiad hollol er yn araf. Dymuna Mr Ellis gydnabod yr amlygiad o gydymdeimlad cyffredinol a ddangoswyd tuag ato yn ei bryder mawr. Eglwys Annibynol Trinity Road Bootle. --Pregeth- wyd yn yr addoldy uchod nos Sadwrn a'r Sul, yr 18 a'r 19 cyfisol, gan y chwaer Miss Davies, yr Efengyles o Gwm Rhondda. Teimlad pawb a'i clywodd oedd fod nerth a dylanwad mawr yn cydfyned a'i gweini- dogaeth. Siaradai yn bwyllog a hunanfeddianol, a therfynai trwy ganu yn effeithiol. Caed cynulliadau rhagorol. 2u raid i lawer droi yn ol nos Sul o ddiffyg lie. Dymunwn hir oes i'r chwaer i wasanaethu ei chenedl a'i Duw.
———0——— Marchnadoedd.I
———0——— Marchnadoedd. I Lerpwl, Meh 28. Galw bychan oedd am wenith, yn ol prisiau dydd Gwener; y Califformaidd, o 7s 8c i 7s 9c y canpwys. Prisiau blawd gwenith, ceirch, a blawd ceirch yn sef- ydlog, ond y fasnach yn ddifywyd. lndrawn-yr Am- ericanaidd cymysgedig goreu yn is o 3s 0|c i 3s Ie; Odessa a Galatz, o 3s lie i 4s Yellow Plate, o 3s 2c i 3s 3c Cinquantlna, o 4s 3c i 4s 4c pys, o 5s i 5s Ic y canpwys. Ffa Saidaidd, o 26s 6c i 26s 9c y chwarter. Caer, Meh 23. Cyflenwad da o ddefaid ac anifeiliaid stor, ond prin oedd y prynwyr a bychan y gwerthu. Prisiau Gwartheg blithion, 14p i 20p; cyfloion, 12p i 18p hespion, 9p i 12p heffrod, 8p i 13p; sfcyrcs, 5p i 8p; bustych, lOp i 12p mamogiaid, 20s i 28s y pen. Diddim iawn fu'r farchnad geffylau heddyw galwad cynil ar gyflenwad gormodol, ac am brisiau'r wythnos gynt. G-wrecsam, Meh 21. Cyflenwad da a marchnad weddol fywiog. Prisiau: —Biff, 6c i 6e y pwys molltgig, 7c i 8c y pwys cig oen, 8c i 9c lloi tewion, 89s yr un lloi at fagu, 47s yr un. Gwartheg blithion yn ddrudion. Moch bacwn, 8s 6c i 9s y sc6r. Bangor. Meh. 24. Ymenyn ffres, Is Oe y pwys; wvau, 14 i 16 am Is; biff, 7c i 10c y pwys molltgig, 7c i 10c cig oen, 8c i 11e y pwys cig Hoi, 7c i 9c; pore, 7c i 10c ) ieir, 3s Oc i 4s 00 y cwpl; hwyaid, 4s 6c i 6s Oc' y cwpl. Caernarfon, Meh 25 Ymenyn, 11e i Is y pwys; wyau, 16 i 18 am swllt; biff, 6c i 8c y pwys molltgig, 8c i 10c; cig oen, 9c i 10c y pwys cig lloi, 6c i 8c; pore, 6c i 8c ieir, 3s 6c i 4s 0c y cwpl. Croesoswallt, Meh. 22 Ymenyn ffres, 9c i 10c y pwys wyau, 15 i 16 am Is; biff, 60 i 8c y pwys molltgig, 7c i 9c cig lloi, 7c i 9c cig oen, 9c i 10c pore, 6c i 8c; ieir, 4s i 4s 6c y cwpl; hwyaid, 5s i 6s y ewpl; gwenith gwyn, newydd, 5s 6c i 5s 8c y 200 pwys coch, newydd, 5/4 i 5s 6c ceirch, hen, 12s Oe i 14s y 200 pwys. Dinbych, Meh 22. Ieir, 3s Oc i 4s 6c y cwpl; hwyaid, 5s Oc i 5s 6c ymenyn ffres, 9c i 10c y pwys; eto, hallt, 8c i 9c y pwys wyau, 17 am Is. Gwenith, 10s 3e i 10s 6c yr hob haidd, 7s i 7s 6c yr hob; ceirch, 5s yr hob biff, 6c i 9c y pwys cig llo, 6c i 8c molltgig, 7c i 9c. Llangefni, Meh 23. Ymenyn ffres, 110 y pwys; wyau, 18 am swllt; biff, 6c i 8c y pwys molltgig, 7c i 9c y pwys cig oen, 10c i 11e y pwys; cig Hoi, 7c i 9c y pwys pore, 6c i 8c y pwys; ieir, 3s Oc i 4s Oc y owpl; hwyaid, 3s 6c i 4s 00 y cwpl; moch tewion, 3e y pwys; perchyll, 17s i 21s yr un ceirch, 18s y chwarter. Pwllheli—Meh 22. Ymenyn ffres, 10c i 11e y pwys; wyau ffres, 22 i 24 am swllt; biff, 5c i 8e y pwys molltgig, He i 10c; cig oen, 10c i lie cig lloi, 5e i 8c pore, 6c i 8c; ieir, 3s 6c i 3s 9c y owpl; hwyaid, 4s i 4s 6c. Birmingham, Meh 28. Biff, 4c i 61e y pwys molltgig, 4c i 6ic; cig oen, 4c i Tie; moch baewn, 8s 9c i 8s 6c perchyll, 9s Oe i 9s 6c yr 20 pwys. Salfoxd, Meh. 28. Biff, 6te i 61c molltgig, 5c i 7ic cig oen, 8c i 8c cig lloi, 5ic i 7ic y pwys.
Advertising
CHESHIRE LINES. Yn dechreu GORPHENAF 1 hyd MEDI 30, 1898. Rhedir GWIBDRENAU CYFLYM ARBENIG rhwng MANCEINION (Gorsaf Ganol), a GLANAU MOR CYMRU, fel y canlyn:- Amser Amser Gorsaf. Dyddiau'r Gorsaf. Dyddiau'r Wythnos Wythnos c.a. c.a Manceinion (Ganol) gad 10 10 Pwllheli gad 10 10 St'kport (Tiviot dale) 9 5 Porthmadog 1048 A ltrincnam & Bowdon,, 1026 Abermaw „ 1140 Knutsford „ 10 36 Aberystwyth 12 5 Northwich 10 46 Drenewydd 155 Hartford & Green- Trallwng 2 25 bank 1051 Croesoswallt ,,255 Caer (Liverpool Rd) 1117 W a. Nawn Wrecsam (Ganol) cyr 340 Wrecsam (Ganol) cyr 12 0 Caer (Liverpool Rd) „ 4 23 Croesoswallt „ 1240 Hartford & Green- Trallwng 120 bank „ 445 Drenewydd 148 Northwich „ 450 Aberystwyth 3 35 Knutsford „ 5 0 Abermaw 350 Altrincham & Bowdon,, 610 Porthmadog 518 St'kport (Tiviot dale,) 618 Pwllheli 545 Manceinion (Ganol) 5 30 Am y trenau cydiol yn y Gorsafoedd ar hyd y ffordd a manylion am y Trenau eraill, gweler y Tafleni. Gyda'r Trenau hyn rhedir cerbydau di-newid yn y dosbarth laf a'r 3ydd, yn oynwys ynddynt bob cyfle i ymolchi, &c. DAVID MELDRUM, Goruchwyliwr. Gorsaf Ganol, Lerpwl, Mehefin. 1898. •fc' V Oapel Annibynol Kensington. CTNELIE CYFARFOD PREGETHU t yn yr Addoldy uchod, NOS SADWRN a DYDD SABBOTH, Gorphenaf 2 a 3, 1898. Gweinyddir gan y Parch ROBERT ROBERTS, Rhos a. Proff. J. E. LLOYD, M.A., Bangor Dechreuir nos Sadwrn am 7 o'r gloch, a'r Sabboth am 10, 2-30, a 6. YN EISIAU. Am Hysbysiadau o Yn Eisiau," &c., yn cynwys 18 o Eirlau neu lai, codir 6c ac yn ollc am bob tri gair dros hyny, Blaen-dal yn nnig.] GWALIA HOME AND REGISTRY, Hope Place, Liverpool. YN EISIAU.— MORWYNION parchus i leoedd da. Ymofyner S'r Arolyges, Miss K. B DAVIES, 2, Hope Place, Liverpool. A oes genych eisieu MORWYN ? Hysbysebwoh yn y fJymro. 18 gair am 6ch. T IVERPOOL TO LLANDUDNO, L BEAUMARIS, BANGOR, & MENAI BRIDGE. DAILY RETURN SAILINGS From) Prince's Landing Stage (Sundays excepted, and weather and other circumstances permitting), "ST. TUDNO," Leaves Liverpool. 10-45 am Leaves Menai Bridge 3-30 pm „ Llandudno.. 1-0 pm It Bangor Pier 3-40 pm Beaumaris 2-0 pm Beaumaris 4-0 pm Bangor Pier 2 20 pm Llandudno 5-15 pm Arrives Menai Bridge 2 30 pm Arrives Liverpool 7.30 pm "ST. EL VIES." Week-end Trips. From Liverpool, Saturdays, at 2 p.m., for Llandudno Beaumaris. Bangor, and Menai Bridge. From Wales, Mondays, loving Menai Bridge at 6-30 a.m. calling at Bangor, Beaumaris, Llandudno, due in Liverpool at 10 16 a.m. Extra Sailing during July. For all further particulars apply to any of the Company's Agents, or to THE LIVERPOOL &; NORTH WALES STEAMSHIP CO., LTD.. T G BREW, Secretary, 20 WATER ST., LIVERPOOL. Tel. 6366 Telephone No. 2308. W. BOOTE & Co 120, Paddington. Jams, Marmalade, Bottled Fruit and Candied Peel Factory- 61, Mason St., and Brydges St. Pickle, Sauce, &c., Factory- 64, Mason Street. Mineral Water Company- Back Mason Street, Te": Blending Rooms- 122a, Paddington. Coffee Roasting Warehouse- 122, Paddington. Teas, 7s. 4du 1s. 8d. and 2s. per lbv Prynwch y Te Cymreig hen ffasiwn. I'w gael yn nnlg yn y lleoedd canlynol Branch Establishments: 124, Paddington, 285, Breck Road, 119, Brunswick Road, 115, Kensington, 121, Prescot Road, Fairfield, 69, Breckfleld Road, N. 407, Smithdown Road, 32, Smithdown Road, 135, Upper Warwick Street, 66, Lodge Lane, 4, St. James' Place, 93, Byrom Street LIVERPOOL.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. GencDtaaetbau. Davies-Meh. 22, yn 64 Lidderdale Road, Lerpwl, priod B, J. Davies, ar efeilliaid. Roberts-Meh. 23, yn Normanhurst, Llandudno, priod John W. Roberts, ar ferch Roberts-Meheftn 18, yn Bryngwenallt, Dyeerth, priod r Parch E H Roberts ar efeilliaid (meibion). pciodasau. Jones-Lloyd-Meheftn 21, yn nghapel yr Annibynwyr Rhesycae, gan y Parch H U Jones, yn cael ei gynortbwyo gan y Parch W Parri Hughes, brawd yn-nghyfraith y briod. asfercb, y Parch J J Jones, Pwllheli, a. Mary E (Mallie), merch y diweddar Gadben John Lloyd, Hersedd. Jones-Williams-Mehefin 25, yn nghapel y Groes, gan y Parch R Williams, Tanyfron, a cherbron Mr E Mills, cof- restrydd, David Jones, 125 Beatrice Street, Bootle, ac Anne Williams, Fron Felen Bylchau ger Dinbych. Roberts- Fraser-Mehefin 22, yn nghapel Presbyteruidd Castle Square, Caernarfon, gan y Parch David Hughes, y Cynghorwr Robert Henry Roberts, mab Mr John Roberts, Foxhall, ger Pinbych, a lily, merch Mr Alexander Fraser, North Road, Caernarfon, marwolaetbau. Jones-Mehefin 23, yo 57 mlwydd, Evan Jones. Fronheulog, Llandwrog Uchaf, a thad y Parch R E Jones, Niwbwrch Mon. Wmiams-Mehefin 21, yn 69 mlwydd oed, Barbara Williams, 22 tfewry Street, Caergybi, gynt o Market Street, Caernarl fon. Claddwyd hi yn mynwent Llanbeblig. Caernarfon, Mehefin 25. Williams-Mehefin 23, yn 34 mlwydd oed, Thomas Williams, cyfrwywr, Dinbych.
Advertising
PRETT ï TEETH ARE ATTRACTIVE. W. JONES, Dentist, 29, HIGH ST., WAVERTREE. All Clients receive Mr. JONES'S personal attention, and the benefit of his 22 years experience as a Dentist! Painless Extractions under Nitrous Oxide Gas. HIGH CLASS ARTIFICI L TEETH, natural Shape, Size and Colour, 3s to 21s. each. Old Sets and Misfits re-made on New Setting at about half the original cost. Repairs to Artificial Teeth and Plates, any Makers', completed in a day if required. Consulations Free. Telephone, No. 25 Wavertree. Siariedir Cymraeg neu Saesneg. Pamphlet gratia. Printed and Published by ISAAC FOULKRS his Printing Establishment, 8, Parage Street in the Parish of Liverpool, in the Ollt1 y of Lancaster V.