Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
EISTEDDFOD OS1fBDLIETl(OL FRENUIROL CURD, 1898 a gynelir yn ZBX_A.E:N\ATT FFBSTINIOG, GORPHENAF 19, 20, 21, 22, 23. CYSTADLEUON corawlT POBLOGAIDD, 40 o Gorau yn Cystadlu. Nifer y Cystadleuwyr ar y gwahanol destynau yn eithriadol o fawr CYNGHERDDAU MAWREDDOG. PERFFORMIR y ddwv Oratorio Gymreig enwog Ystorm Tiberias" (Stephen), a Traeth y Lafan" (D. G. Williams), yn nghyda'r "Elijah" (Mendelssohn), gan GOR YR EISTEDDFOD, YN RHIFO TRI CHANT. Oerddorfa ac Organ fawr arbenig i'r achlysur. Yn mhlith y Datgeiniaid y mae Miss MACGIE DAVIES. Madame HANNAH JONES. Mr. BEN DAVIES. Mr. FFRANCCON DAVIES. Pavilion enf&wr i ddal dros ddeng mil. Rhaglen ddyddorol bob dydd. Trens rhad o bob cyfeiriad. Rksgleni i'w cael (pris 6c. yr un) yn Swyddfa'r Oenedl, Caernarfon, JMYNEDIAD I MEWN. Blaenseddau (Reserved), Season Tickets (8 cyfarfod), transferable, 25s. eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 4s Dosbarth laf, Season Tickets, (8 cyfarfod), not transferable, 20s. eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 3s. Dosbarth 2il, Season Tickets, (8 cyfarfod), not transferable, 12s.; eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 2s. 3ydd Dosbarth, tin cyfarfod neu gyngherdd, Is. Dydd Sadwrn, pris unffurf, Is. Am bob manylion ychwanegol, ymofyner a Mr H. ARIANDER HUGHES, Llys Llywelyri, Blaenau Ffestiniog. D. R. JONES & Co., PIANOFORTE ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106. HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. Stock rsgorol o'r Caneuon goreu, newydd a hen. School of Music, Voice Training, Violin, Piano, <&c., &c. Voice Trainer, JOHN HENRY, R.A.M. Ma. J. BE ROBERTS Mus. Bac. (Cantab), A.B.A.M., F.T.S.G., London (Organist of Jùnatham Street Presbyterian Church). Begs to announce that he gives Lessons at 149, GROVE STREET, LIVERPOOL, On the Pianoforte, and Organ, also in Singing, IHarmony, and Composition hpils thoroughly prepared for the various Exams, in the above subjects,also in Musical Analysis, Foira, Orchestration, and Acoustics, and in reading from Score and Figured Bass. ^The largest money prize ever given at an Eisteddfod for Solo Singing was won by one of his pupils. "Out of a large number of candidates throughout the United Kingdom at the Local Exam, of the Royal Academy, six took honours in Harmony, two of whom were Mr Roberts' Pupils. His Pupils have also taken valuable prizes in Piano playing, and in composition. Postal Lessons in Harmony and Composition. Full particulars on application. Soprano Song THE WONDROUS CROSS. fcompetition piece at the National Eisteddfod, 18«8. 2s. nett. CYFARFOO CYSTA iLEUOL CAPEL FIELD ROAD, A gynelir TACHWEDD 29aiu, 1898 RHAI O'R TESTYNAU. RHYDDIAETH. I.-Hanes Eglwys Anfield Road o'i chychwyniad cyntaf yn Walmsley Street. Gwobr, 4p. 4s. 2.—Bywgraphiad o'r ddiweddar Miss Annie Wil- liams (t rai dan 25 ce i). Gwobr, lp. Is. BARDDONIAETH. 5.-Dernyn, heb fod dros 150 na than 120 o lin- ellau, "DeuwIJh a gwelwch" (loan i, 39). Gwobr, lp. Is. 6.-DuchaDgertid, heb fod dros 50 o linellau, "Lladron Aroser," Gwobr, 10s. 6c. CERDDORIAETH. IS.-Cor, heb fod dros 25 n% than 16 mewn nifer, a gano oreu, "Y c'wfn ddistawrwydd" (Mendel. ssohn). Gwobr, 2p. 2s. 9.—Cor o Blant (dan 16 oed), heb fod dros 20 na than 16 mewn nifer a gano oreu, "Cysegriad" (Tom Price). Gwobr, lp. Is. ADRODDIADAU. 17.-Agored i bob oed, Marwolaeth Esgob .Heber (Blackwell). Gwobr, 7s. 60. CELF. 19.-Crayon Drawing of David Hughes, Esq., J.P. Gwobr, 2p. 2s. Rhestr gyfkwu i'w chael am geiniog oddiwrth yr Ysgrifenydd, S. G. ROBERTS, 10, Coningsby Road, Anfield. CARTKSF CYMREIG I YMWElWYR a LLUNDAIN. Pale i gael llety cysuros yn Llundain ? Ewch o Padding tea StatioD, G.W R gydafr Underground i Gower Street Station, am No. 9 neu 30, Euston Square, neu o Euston Station (L. & N. W. Ry), plio an sydd yn agos iddyn. GLASLYN HOUSE EVANS' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. D. EVANS, Perohenog CELT (KELT) TEMP to NCE HOTEL. ¡ 30, Euston Square, London, N.W. F. DUNN, Perchenog Y mwyaf canolog i bob rhan o Lundain. Os am gyfrol o feddyliau mawreddog yn y Gym. raeg goethaf, pryner COFIANT Y PARCH JOHN HUGHES, D. D d..n o ygiaeth y Parch JOHN WIL LIAMS, Princes Ro.rI, Lerpwl. Mae'r rhan gyntaf, pris Swllt, allin n W\sg y swyddfa hon, ac yn cyn. wys rhai o'r pregt:thnu godidocaf sydd yn yr iaith. THOS JONES& Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3, 1/7, and 2/. per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20j. and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. THOS. JONES & Co. Ltd Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL
,Y CYMRO:
Y CYMRO: .Danfonir UN OOPI yn ddidraul trwy y Post: r- Am 12 mis, 5/6—Am 6 mis, 3/0 I Am 3 mis, 1/8 Blaendal yn unig.
At Eln Cohobwyr.
At Eln Cohobwyr. Dylai pob gohebiaeth reolaidd gyrhaeda zV Swyddfa cyn canal dydd Llun, neu ni ellir eu cyhoeddi yn y rhifyn canlynol Llythyr annghyhoedd o waith Islwyn.—Yn y Gymro nesaf. Troseddau Givent a Morganwg.-Yn ein nesaf. Rhaid ini erfyn amynedd amryw ohebwyr eraill.
Y CRI WRTH-BABYDDOL.
Y CRI WRTH-BABYDDOL. Y MAE'R gri hon yn y gwynt, a dywedai Mr John Morley, mewn araith gerbron Cynghrair Rhyddfrydol Merched Llun- dain wythnos i heno, na ddeilliodd dim da- ioni o'r fath gri yn ystod y ganrif hon. Ond wed'yn nid yw'n hawdd dweyd beth yw safon daioni Mr Morley y dyddiau hyn. Bu cryn son ei fod wedi ei newid yn mis Mai. Cyn hyny deallid fodynddo ogwydd cryf at annghredu, ond iddo yn y cyfamser gymeryd naid fawr i dir a adwaenir gan fwyafrif ei gydwladwyr yn orgrediniaeth- mtwn gair, yn Babydd. Mae'n wir iddo wadu'r chwedl, ond nid mewn dull diam- wys iawn. Yn ol pobrheswm, y mae gan Mr Morley, fel pawb arall, berffaith hawl a rhyddid 1 newid ei farn, a throi yn unrhyw aeth ddymuno ei galon ond dylid cymer- yd ei farn ar y No Popery cryfel ei gelwir, os oes gwir yn y chwedl uchod, yn ochelgar a hamddenol. Hwyrach, er hyny, nad oes air o wir yn yr hanes am ei ddy- chweliad i Rufain, ond mai ymddifyru y mae, yn cl ei arfer ddiweddar, mewn gwrth- ddywediadau, megys pan ddywedai mewn cyfarfod arall ychydig wythnosau yn ol fod y Rhyddfrydwyr tan fwy o ddyled i'r Ym- reolwyr Gwyddelig nag oedd yr Ymreolwyr Gwyddelig i'r Rhyddfrydwyr. Swnia geir- iau fel hyn yn rhyfedd o enau awdwr Hanes Bywyd Cobden, a chyn-olygydd y Fortnightly Review. Modd bynag, mae llawer o ddynion mawr cyhoeddus, os cant fyw ddigon o hyd, yn treulio haner olaf eu hoesi ddad wneud yr hyn a wnaethant yn ei haner cyntaf. Ni fynem ychwaith ddweyd dim yn er- byn condemniad Mr Morley ar y waedd wrth-Babyddol. Rhaid i bob Rhyddfryd- wr gydnabod nad oes gan Ymneillduwyr fwy o hawl i lefain Dim Pabyddion nag sydd ganddynt hwythau i floeddio "Dim Ymneillduaeth." Mae gan bob Pabydd hawl i addoli fel y myno ei hun, a dysgu ei blant yn y dull y gwelo oreu a'r cwbl arall sydd i'w ofyn ydyw iddo dalu ei hun am ei grefydd a'i addysg nid oes ganddo hawl i ofyn i ni gyfranu tuag at gynal i fynu ei baderau a'i offeren, mwy nag y dylemninau, Brotestaniaid, ei orfodi yntau i gyfranu at ein gwasanaeth eglwysig neu ein hoedfeuon capelaidd. Y Pabydd a adwaenom, ac nid oes arnom ei ofn bach, a bach iawn, fu yr arddeliad ar ei weini- dogaeth yn Nghymru er pan yw yn llyg- adu arni ac yn ei thrachwantu o newydd, dyweder, er's haner can mlynedd fan lleiaf. Yn erbyn y Pabyddion fel Pabyddion, nid oes angen codi'r waedd I lawr a. Phabydd- iaeth." Ond y mae mawr angen codi y gri yn Eglwys Loegr, lie y mae defodaeth ar gynydd dirfawr. Eir yno mor agos i Rufain ag y gellir, trwy ystumiau ffol a ffurfiau direswm, a theilynga Syr Wm. Harcourt, a Mr S. Smith, fel y sylwem yn ein rhifyn diweddaf, glod dauddyblyg am eu heondra yn dynoethi yr hoced. Ond fe dynodd y ddau ddryghin enbyd yn eu penau, a dondir hwy'n echrydus gan uchel-eglwys- wyr tan ffugenwau. Dywed Arglwydd Halifax, penaeth penwan y symudiad gwallgof, nad yw Syr Wm. yn deilwng o'r enw boneddwr Seisnig. Condemnir yr arweinydd Rhyddfrydol yn chwerw gan gylchgronau sydd yn cydnabod gwirionedd yr hyn a ddyweda, ond yn annghymerad- wyo y modd eu dywedwyd, neu eu dy- wedwyd o gwbl. Papyrau eraill a gydna- byddant y drwg ac a awgrymant feddyg- iniaeth. Engraipht dda o'r cyfryw ydyw'r Spectator, yr hwn, mewn prif-erthygl, ar ol mynegi fod eisiau mesur seneddol eglwysig newydd i ad-drefnu'r ffurf-wasan- aeth, a ddywed :— Dylai gomeddiad i unrhyw gyfnewidiad yn y ffurf- wasanaeth ddyfod oddiwrth uwchafiaid y clerigwr, ac nid oddiwrth awdurdod wladol. a'r drefn oreu fyddai rhoi caniatad i adael allan o Lyfr y Weddi Gyffredin—yr hyn sydd yn fynych yn anheb- gorol er cyfaddasu'r gwasanaeth at angenrheidiau'r gynulleidfa, ond peidio caniatau ychwanegiadau heb gydsyniad yr Esgob. Ni ddylai'r Esgob, yn ein tyb ni, dynu llinell annhyblyg, ond cymeryd pob achos ar ei deilyngdod ei hun. Yn mhob amgylchiad gallai'r Esgob ystyried a rhoi pwys ar ddeisyfiad y gynull- eidfa. Diamheu y digwyddai weithiau i'r clerigwr wrthod ymofyn am y cydsyniad esgobaidd, ac anufuddhau ei arcbiad pan berid iddo ymatal; ond, ni a gredwn mai anfynych y digwyddai hyn. Dyna un ffordd, yn engrai pht o lawer, y mynai rhai o gyfeillion proffesedig yr eg. lwys i ni gredu y gellid ei gwaredu o afael- ion defodaeth, a'i throi yn ol oddiar ei ffordd i Rufain. Rhoddai'r ysgrifenydd hwn fwy o awdurdod yn nwylaw'r esgob- ion, os ydym yn ei ddeall yn iawn a thynai gymaint a hyny oddiar y clerigwyr. Annhraethol well i bethau aros fel y maent mae genym fwy o gred yn nghler- igwyr Prydain nag sydd genym yn ei hesgobion. Un o'r dynion a lygrodd fwy- af erioed ar Eglwys Loegr, mewn ystyr ddefodol beth bynag, oedd Laud, ac efe yn archesgob. Ond mater ydyw hwn i'w drafod gan eglwyswyr eu hunain a'r unig ffordd iddynt fwynhau perffaith ryddid i wneud hyny ydyw trwy dderbyn DADGYSYLLTIAD. --0- Yn Answers yr wythnos ddiweddaf celr darIun a bywgraphiad o Mr W. P. Jones, mab y W, diweddar Mr Owen Jones, cigydd, Caernarfon, a brawd y diweddar Mr J. W. Jones, Plasybryn. Ganwyd ef yn 1841, bu'n gwasanaethu gyda Mr T. J. Williams, Dinbych, ac aeth i Lundain yn 1862 heb fawr gyfalaf ganddo. Casglodd lOOp neu 200p mewn tair blynedd, agorodd fasnachdy ac y mae ganddo'n awr un o fasnachdai mwyaf Llundain, 1,000 o wasanaethyddion, ac 80 o geffylan.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Aflesoldeb Cynghorau Sirol, &c. Ni fedr undyn ystyriol gerdded ffyrdd gwledig yr amser yma ar y flwyddyn heb ryfeddu at y gwastraff a'r afradlondeb sydd yn cymeryd lie o adael i wair y cloddiau dyfu, crino a marw yn y man y mae y naill dymhor ar ol y Hall. Y mae canoedd lawer o aceri ohono yn mhob sir yn myned yn ofer am fod yr awdurdodau a'i piau yn ddibris ohono, ac na faidd neb arall ei gyff- wrdd. Er's talm, byddai'r cymydogion yn helpu rhyw weddw dlawd i brynu buwch, os na fedd- ai'r moddion i hyny ei hunan a phorai'r fuwch ochrau'r cloddiau, tra'i pherchenog yn ei gwyl- io gerllaw, tan wau hosan i enill ceiniog mewn ffordd arall. Er's blynyddau yrwan ni wiw i'r un fuwch ymgyfarchwel 4 phorfa'r cloddiau ac y mae olynydd a chynrychiolydd ei pherchenog naill ai yn H dihoeni yn Ngweithdy'r Plwyf," nen yn derbyn ei sist o dri swllt neu bed- war yn yr wytbnos gan y plwyf i'w ohadw rhag myn'd yn bwysau trymach yn y Gwcithdy. Y canlyniad ydyw fod yr hon a ddylasai fod yn annibynol yn dlottyn, fod y trethi wedi trym- hau yn ddirfawr, a gwelltglas a gwair cloddiau'r ffyrdd yn dyfetha. Disgwylid y buasai Rhaith y Plwyf, y Dos- barth nea'r Sir, wedi edrych ar ol mater fel hyn, y naill neu'r llall ohonynt, neu y tri gyda'u gilydd. Ond diles iawn i raddau helaetb, mae He i ofni, ydyw'r sefydliadau hyn y disgwylid unwaith gymaint odili wrtbynt. Cyfarfyddant bob hyn a hyn i ymdderu a herian ar eu gilydd, i fesur eu gilydd p'run sydd fwyaf ca achos politicaidd fwy o'u sylw na'r un lleol, a gellid meddwl wrth eu lleferydd mai eu hethol a gawsant i edrych ar ol buddianau tramor yr Y mherodraeth ac nid buddianau y plwyf neu'r sir. Er engraipht, onid allai cynghorau siroedd Dinbych, Fflint a Meirion gydsymud i gael rhyw ddiwygiad ar ddau gwmni cyndyn y reil- ffyrdd sy'n cyfarfod yn Ngborwen ? Tan y drefn bresenol, mae hi'n cymeryd i fasnachydd o Rbyl, Dinbych neu Ruthin ddiwrnod cyfan i fyn'd i'r Bala ac yn ol, a gwneud ychydig fas- nach yno-pellder o ychydig tros ddeugain milldir o Rhyl, ac ugain milldir bron llai o Ruthin, oherwydd fod pob un o'r ddau gwmni yn Nghorwen yn ceisio yr holl fasnach iddo'i hun. Ac nid yw hi darned gwell mewn manau eraill, tra y mae'r trens yn gywilyddus o an- mhrydlon ar holl linellau Gogledd Cymru, ac yn peri colled drom i'r wlad mewn gwahanol ffyrdd. Prifathraw Coleg lIanbedr. CREDIR fod gwrthwynebwyr dewisiad ein cyd- wladwr dysgedig y Parch Hartwell Jones yn llywydd y coleg uchod, wedi llwyddo unwaith eto i gael Sais a we a'r tro yn ei le ef. Mi a ddywedais chwech wythnos yn ol y llwyddent. Nid oes neb yn meddwl, am wn i, y dylid rhoi'r swydd hon i Gymro am ei fod yn Gymro, ond fe ddywed pawb nad oes dim rheswm mewn gwrthod ei rhoi i Gymro, yn meddu pob cym- hwysder i'w llanw yn deilwng, am ei fod yn Gymro. Pan etholwyd y Sais Gent flwyddyn yn ol yn erbyn Mr Hartwell Jones gan fwyafrif bychan yn cynwys esgobion Caer, Llanelwy, a Thyddewi, yehydig feddylid y caent gyfle gynt- ed a hyn i ail wneud yr hyn a wnaed y pryd hwnw ac yamaldod y mater ydyw fod lie i gredu na fuasai dau o'r tri byth yn esgob onibai mai Cymry oeddynt y pryd hwnw grogo neb wyr beth ydynt yn awr. Troseddau Gwent a Morganwg. MEWN perthynas i'r dabl a ymddangosodd yn y rhifyn di yeddaf yn dangos y siroedd uchod y ddwy sir dduaf yn Nghymru a Lloegr ar gyfrif eu troseddau, ysgrifena gohebydd o "Frynfau Gwent" gan ddywedyd Ddim syndod fod y siroedd hyn fel y maent, pan gofier mor gyf- lym a fu cynydd y trigolion yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf buasai yn anmhosibl i grefyddwyr pob enwad yn y sir (yo cynwys Eglwys Loegr, wrth gwrs) ddyfod i fynu â.'r gofynion. Gwnaed llawer iawn, ond dim agoa i ddigon, a bydd yma ddigonedd o waith i gen- edlaeth neu ddwy eto, cyn y gellir codi nifer digonol o addoldai ar gyfer y lie. Y mae eistau pregethwyr Cymraeg grymns ac effeithiol, haner cant o fath Eglwysbach (parcher ei goffadwr- iaeth byth) i draddodi'r genadwri yn rymus a gafaelgar wrth bobl sydd yn esgeuluso pob moddion o ras. Colled annhraethadwy i For- ganwg oedd marwolaeth John Evans. Pwy sydd yn barod i aberthu fel y darfu ef ? Mae'r A.nnibynwyr yn gryfion iawn yn y ddwy sir-yn gryfach na'r un blaid grefyddol arall ac mi glywals fod yn Llundain yn unig 35 o Gymry yn gweinyddu mewn eglwysi Annibynol Seis- nig. Greayn, onide, na fedrem berswadio rhai ohonynt i ddyfod yn ol i'w gwlad. Fel y dy- wedodd y Mwyaf o ddynion, Y cynbauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml.' Oni ellir ychwanegu fod canoedd o bregethwyr anwyd ac a fagwyd yn Nghymru, ac a godwyd ac a addysgwyd yno i bregetbu, yn awr yn gweithio'r cynhauaf yn Lloegr-am fod y oyflog —' cyflog y Groes hwyrach—yno yn fwy" Y Rhyfel rhwng yr Amerig a'r Yspaen. DICHON y cofia'r darllenydd i ni grybwyll fai misoedd yn ol fod rhyfel wedi tori allan rhwng y ddwy wlad uchod; a'r naill a'r llall tan deimladau pur ddigofus at eu gilydd. Y mae'r brwydro yn parhau fyth, ond ni wnaed fawr o niwed hyd yn hyn ar yr un o'r ddwy ochr—er y buasai'r ddwy genedl wedi eu llwyr ddifa oddiar wyneb y ddaear pe gallesid coelio y newyddiaduron Americanaidd ar y gwaed a dywalltwyd a'r bywydau a gollwyd. Ond y mae rhyw argoel hefyd y bydd pethau yn fyw- iocach nag y buont o'r blaen. Dywedir fod o'r diwedd fyddin gref o Americaniaid wed i glanio-