Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
o Cyffredinol
o Cyffredinol Mr Daniel Evans, Aberhonddu, sydd wedi ei laenodi yn gofrestrydd Llys Manddyledion Llan- idloes. Mewn cyfarfod o Warcheidwaid Undeb Caernar- fon ddydd Sadwrn, penderfynwyd cyfranu 5p at y gymdeithas sy'n dysgu deillion i ddarllen. Gofyna ynadon Colwyn Bay am wasanaeth rhagor o heddgeidwaid yn y dref yn ystod tymhor yr ymwelwyr. Mrs J. E. Greaves, Parch L1. R. Hughes, J. Owen, a Mr J, Davies sydd wedi eu hethol yn rheolwyr addysg canolradd Porthmadog. Mae awdurdodau Pwllheli ya ymegnio i wneud y dref yn at-dyniadol. Gwneir llyn morawl yno cyflogir seindorf am y tymhor baf. mae tramffordd wedi ei gwneud i Glanweddw, lie y ceir casgliad o ddarluniau sydd yn werth 25,000p. Ddydd Mercher nesaf, cynelir Eisteddfod Gwyr leuainc Bwlchgwyn, ger Gwrecsam. I'r aawl a ymhoffa dreulio hirddydd haf mewn gwlad dlos, ac a gar wyl yr awen a'r gerdd, anhawdd meddwl am le mwy dymunol na dvffryn prydferth Nantyffrith lie y cynelir yr Eisteddfod. Y mae'r rhagolygon yn wych am gy&tad'euon campus, a threfnir trenau rhacl o wahanol gyfe.riadau. Mae'r rhifyn cyntaf o 14 GOFIANT Y PARCH DR. JOHN HUGHES," dan olygiaeth y Parch JOHN WILLIAMS, Princes Road, allan o'r wasg. Ceir ynddo raio bregethau godidog y gwr mawr hwnw, ac nid oes odid lyfr yn y Gymraeg a gynwys gyfoethocach iaith a meddyliau. Nid yw ei bris -end is. a dylai pob darllenydd Oymreig ei feddn.
Advertising
A oes genych eisien LLE ? Hysbysebwch yn y Cymro. 18 gair am Och.
Nodion o Fon ac Arfon.
Nodion o Fon ac Arfon. PE dywedwn wrthych mai prysur oeddwn yn par- otoi at Eisteddfod Ffestiniog, digon prin y cred- ech hyny fel esgusawd na buaswn wedi ysgrifenu yr wythnosau diweddaf. Fodd bynag, byddaf yn fwy rheolaidd yn y dyfodol os caf iechyd. Cymanfaoedd oanu a phregethu fu yn y cylch- oedd hyn yn ddiweddar. Caed cyfarfodydd da yn Llangefni gan y Bedyddwyr ar agoriad capel coffa Christmas Evans; a'r un modd y M.C. ar agoriad oapel coffa John Elias. Pregethwyd gan brif bregethwyr y ddau enwad, a chaed oedfeuon hapus. Nos Fawrth bu cyngherdd yn Nghaergybi gan y cor sy'n parotoi at Ffestiniog. Teneu oedd y cy- nulliad, ond cyngherdd da. Arweiniai'r bardd pert, R. Mon Williams, yn hwyliog iawn. Bu Dr Parry yn Mon yr wythnos hon yn arwain cymanfa ganu yr Annibynwyr. Canmolai'r canu ya fawr. Syn gymaint o eiddigedd a helynt sy'n digwydd gyda'r canu yma. Deallaf fod dau g6r yn Aber- ffraw. Un wedi enill tan feirniadaeth un beirniad, a'r llall wedi llwyddo tan feirniadaeth Isalaw. Y maent yn cystadlu yr wythnos nesaf eto tan feirn- iad arall. Gresyn nas gallent enill a cholli heb fyn'd i'r fath dymherau. Gan fod corau eraill ar y maes yn eu herbyn yn awr, dyna hwyl fyddai i un o'r rhai hyny enill. Un o'r beirdd mwyaf dirodres yw loan Mon, Llan- gefni. Er hyny, enillodd ei bedwaredd cadair yn Eisteddfod Llanelwy yr wythnos cjn y ddiweddaf, ar y testyn "Horeb, mynydd Duw." Siaredir yn gymeradwy iawn am y rhifyn cyntaf o Gofiant Dr Hughes a gyhoeddir yn y swyddfa yna a pha ryfedd, onid yw'r awdwr yn un o wyr mawr Mon." Cyd-deithiwn y dydd o'r blaen Ii rhan o gor meibion Mountain Ash-y maent yn ymweled a gwahanol leoedd i gasglu at gronfa gweithwyr y De. Y mae Ap Glaslyn wedi cyfansoddi darlith ar yr "Hen Alawon Cymieig," ac yn myn'd i'w thraddodi yn Mangor nos Wener nesaf, yn cael ei gynorthwyo gan g6r cryf o'r ddinas. Yr wyf yn sicr y teimla aJroddwyr Cymru yn dawel i gysfcadlu yn Ffestiniog, gan m3.i Cynon- fardd fydd yn eu beirniadu-yr awdurdod uchaf ar y ganghen hon yn ddios. Bydd yn well colli tan feirniad o'i safon ef nag enill tan feirniadaeth eraill. Nos Sadwrn. OBADIAH DAVIES
-0-Cohebiaethau.
-0- Cohebiaethau. CYMANFA YSGOLION M.C. GWRECSAM A RHOS. SYR,—Byddwch hynawsed a chaniatau ychyd g bach o'ch gofoi prin i mi alw sylw at un neu ddaa o bethau yn nglyn a'r Gymanfa uchod a gynaliwyd yn y Oapel Mawr ddydd Llun,Mehefin 6ad, Rhaid i mi ddweyd yn gyntaf oil fod y Gymanfa wedi troi allan yn ardderchog, a greayn fod yr un cwmwl wedi dyfod ar draws ei ffutfafen. Yn un peth, bysbysai y daflen y cyflwynid tystysgrifau yr arholiad sirol i'r rhai oedd wedi pasio yn Ilwyddianus, Dyna oedd y drefn i fod. Yr oedd hyn wedi ei ddweyd wrth y plant yn y gwahanol ysgolion, ac wrth gwrs edrychai y plant yn mlaen yn awyddus iawn am hyny. Yr oadd pawb yn disgwyl hyny, canys dyna oedd y drein i fod. Siomwyd y plant, heb roddi iddynt yr un rheswm dros hyny; a gwyr Ilaxer ohonom trwy brofiad beth yw canlyniad siomi plentyn. Dymuna llawer keblaw fy hunan, gael rhyw eglurhad ar y bwn- glerweh yma. Peth at all ydoedd, fod y daflen yn hysbyau fod yr anthem "Duw sydd berffaith ei ffordd" (Wilfrid Jones) i gael ei chanu, a gwn fod rhai o'r ysgoiion o leiaf wedi ei dysgu, Ni chafwyd datgan- iad ohoni, na gair o son am dani o gwbl. Nid wyf hyd yn hyn wedi cael yr un esboniad ar hyn. Diamheu y buasai gair o eglurhad ar y ddau beth hyn yn foidlonrwydd i lawer o'r rhai sydd yn llafurio gyda'r plant a chyda'r canu. Nid dyma'r ffordd beth bynag i Iwyddo yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth. A fuasai yn ormod gofyn i'r ysgrifenydd am air o eglurhad ? UN YN CARU'R YSGOL SUL
CYMRAEG RHYDYCHEN.
CYMRAEG RHYDYCHEN. SYR,—Paham Rhydychen, tybed ? onid y rhyw fenywaidd olygir wrth yr olddodyn en, megys yn hogen, llygodew, hwyadm, colomew,!&c, ? Chlywais i erioed son am ych benyw, gan hyny onid Rhydych- ain sydd iawn ? Ond Cymraeg Rhydychen ydyw y pwnc y dymunwn i alw sytw ato 'rwan (Cymraeg lIafar gwlad ydi hwn). Yn" Report on Manu- scripts in the Welsh Language," cyf. 1, tud. xv., dywedir The practice of writing yn Nghymru,' 'yn ngardd,' 'yn mhellder,' betrays a hopeless ignorance of the laws of Welsh mutations. If we cannot follow the practise of the M.S.S. by writing ynghymru, yngardd, yniwedd, ymangor, ymon, ymhellder, &c., why not adopt the example set by Bp. Morgan in his Bible and write yng-Hymru, yng-ardd, ym-hellder, &c.? Yn awr, Mr Gol, a ydyw ysgrifenu "yn Nghymru," "yn ngardd," "yn mhellder," "yo cglyn," "yn Nghorwen," yn Mon," yn ntiy John Jones, "Yll nghan y bardd, &c., yn "bradychu anwybodaeth an- obeitkiol o reolau" gramadeg ? oni ddywed y,"gram. adegau y dylid rhoddi yr acen ar y sill olaf ond un mewn geiriau Cymraeg, ond os rhaid ysgrifenu ynghymru," yngardd," &c., daw yn nglyn yn "ynglyo," neu mewn gair arall daw yn englyn." Rhyfedd iawn I daw "yn Mon" yn "ymon;" pa le mae y fan hono? Dywedwyd gan rhywun mai "bwhwman y bn Homer," ond erbyn hya, yn ol Cymraeg Rhydychen yngan geir yn nghan y bardd godidocaf heddyw. UN O GOLEG NATUR.
-J-¡ Marwolaeth Mr. R. R.…
-J- ¡ Marwolaeth Mr. R. R. Rathbone, DDYDD Sul, yn ei breswylfcd, Glanymenai, Mon, bu farw Mr Richard Reynolds Rathbone, yn ei 78 mlwydd. Mab ydoedd i'r diweddar Mr R. Rath- bone, Wcodcete, a chefnder i'r Mri William a S. G. Rathbone. Er nad yn ddyn oyhoeddua meddai gymeriad uchel, a theiralai ddyddordeb mawr mewn sefydliadau elusenol a dyngarol. Ei wraig gyntaf oedd Anna G. Fleming, a'i ail wraig oedd Frances Susamsah Roberts, Glanymenai. Mae ei fab, Mr H. R. Rathbone, yn Ynad Heddwch ac yn Ddirprwy-Raglaw yn Mon ac yn 1885 efe oedd yr Uchel Sirydd. Adwaenir ei weddw fel noddydd dwymgalon i bob sefydliad daionus. Cymerodd ei angladd lIe yn mynwent Llanfaglan, Mon, ddydd Mercher.
Llythyr Llundain.
Llythyr Llundain. [Gan HEN OHEBYDD.] MEWN Ion gul ar yr ochr chwith i Heol y Fleet, pan elych i gyfeiriad Eglwys Sant Paul, y mae bafarn ddiolwg ond henafol a elwir y Cheshire Cheese, Yr oedd pobl yn bwyta chops yn y Cheese mor bell yn ol a dyddiau Siarl II.; ond i ddynion cyffredin y mae yn fwy dyddorol gwy- bod fod Samuel Johnson ac Oliver Goldsmith a'a cymdeithion wedi bod yn eistedd ganwaith ar yr hen settle yn y gongl fawr ar yr ochr dde i'r pentan, yn mwynhau dant-ithfwyd y lie, ac yn ymloni yn ei fwynhad. O'r adeg hono hyd y dydd hwn, ychydig iawn o gyfnewid sydd wedi bod ar yr hen dafarn. Ymddengys yr hen fyrddau a'r hen eisteddleoedd yn hollot fel yr oeddynt, ac y mae golwg henafol hyd yn nod ar y cyllyll a'r ffyrc. Gogoniant mawr y Cheshire Cheese yw y pudding" anferth sy'n gweeud ei ymddangosiad yn rheolaidd ar ddyddian penod- ol o'r wythnos. Fe'i gwneir i fynu o gig y ddaear, o ymlusgiad y mor, ac o ehediadau yr awyr, gydag ychwanegiadau nas gwyr neb am danynt ond y gwr sydd ag agoriadau y gell He y cedwir y recipe. Jb e i coginir mewn basin digon mawr i gynwys digon o iuniaeth i dri neu bed- war ugain o bobl—yn ol fel y bo'r archwaeth. Fe'i berwir drwy gydol y dydd a thros nos, a phan ddelo'r awr ginio fe'i dygir yn orymdeith- iol i'r ystafell fwyta a dechreuir yn ddifrifol ar y seremoni o'i dori, ac os bydd gan ddyn iechyd a "stumog at fwyd," chwedl yr hen bobl, y mae yno le hapus droa ben tra pery'r pwdin." Ond nid adferteisio'r Cheshire Cheese yw fy musnea i ar hyn o bryd, nac yn wir ar un am- ser! Y peth a barodd i mi alw sylw ato ydoedd y cyfarfyddiad rbyfedd a gymerodd le yno y prydnawn Sadwrn diweddaf. 0 gwmpas yr hen fwrdd, ac o dan ddarlun cuchiog yr hen Samuel Johnson, eisteddai Mr a Mrs Joseph Chamber- lain, a chyda hwy Mr a Mrs Asquith, Syr Ed- ward Grey, Mr Haldane (y bargyfreithiwr), a Mr Augustine Birrell (awdwr Obiter Dicta). Yn un peth, yr oedd yn rhyfedd iawn eu gweled yno o gwbl. Meddyliwch am Mr Chamberlain, anwylddyn pendefigion a phendefigesau y blaid Doriaidd, yn eistedd yn nghongl tafarn bechgyn y wasg yn Wine Office Court! Meddyliwch hefyd am yr ysbrydol Margot Tennant (Mrs Asquith yn awr) yn eistedd uwchben llon'd plat (ac ni bydd Mr Beaufoy Moore byth yn rhoi llai na'i lon'd y tro cyntaf) o bwdin Cosyn Caer Rhyfedd, rhyfedd, ond nid y rhyfeddaf peth o lawer Meddyliwch eto am y noswaith cynt yn Nhy y Cyffredin, lie yr oedd Mr Chamberlain a Mr Asquith yn eistedd bob- ta i fwrdd, fel y gallern dybio, gyda theimladau llawer gwahanol. Ond rhaid am baragraph arall i ddweyd yr helynt. Wei, noa Wener, yr oedd Syr Charles Dilke wedi ymgymeryd a. dadlenu twyll a ffolineb gwladlywiaeth dramor y Llywodraeth. Nid yw Arglwydd Salisbury o fewn cyrhaedd saethau yn Nhy y Cyffredin. Ychydig, os dim, y mae Mr Balfour ya ei wybod am faterion tramor. Ysgogyn trahausfalch a gor-wybodus, fel pob gwas bach, yw Mr George Curzon, a'r unig un ar y fainc flaenaf a dal i'w faitio ydyw Ysgrifenydd y Trefedigaethau. Y mae pawb erbyn hyn yn gwybod am araith anystyrbwyll Mr Chamberlain y dydd o'r blaen yn Birming- ham. Wrth reswm, yr oadd gan aelodau yr Wrthblaid lawer iawn i'w ddweyd yn ei chylch, tra nad oedd gan Mr Curaon a'i gyffelyb ar yr ochr arall ond ychydig iawn i'w ddweyd o'i phlaid. Traddodwyd amryw areithiau cryfion iawn yn erbyn syniadau Jingoaidd a gwrth- Rwsiaidd yr aelod tros West Birmingham ond o bawb Mr Asquith wnaeth yr ymosodiad mwyaf ffyrnig a mwyaf effeithiol. A'r diwrnod wed'yn yr oedd y ddau yn cyd-fwyta o steak-pudding mawr y Cheshire Cheese. Mae politics yn chwareu llawer o driciau sal, ond nid ydyw bob amser- diolch am hyny-yn lladd cyfeillgarwch. Y mae'r udgorn eto yn galw i gynadledd yn yr Amwythig! Dywedir fod dros ddwy fil o wahoddiadau wedi cael eu hanfon at yr awdur- dodau addysg yn Nghymru-pwy fuasai fyth yn meddwl fod gan Gymru gymaint ohonynt-i gy- farfod yn Music HaU y dref a nodwyd ar y 24ain o'r mis hwn, i'r dyben o drefcu cynrychioliad priodol o Addysg Cymreig yn Arddangosfa Paris, 1900. Llawnodwyr y cylchlythyr gwahoddiadol, y rhai hefyd a weithredant fel pwyllgor parotoawl, ydynt Dr lsambard Owen (cadeirydd), Mri Humphreys Owen, A.S., ac A. G. Legard, arolygydd ysgoiion (is-gadeirwyr), yr Anrhyd. W. N, Bruce, Mri T. E. Ellis, A.S., a'r Prifathrawon Viriamu Jones, Reichel, Rhys, a Roberts. Wrth basio, gadawer i mi ddweyd fod yn ddrwg, iawn genyf ddeall fod un o'r llaw- nodwyr, Mr T. E. Ellis, yn dyoddef yn lied drwm gan anwyd ond yr wyf yn deall ei fod yn gwella yn raddol.
-0-Mr T. E. Ellis, A.S., yn…
-0- Mr T. E. Ellis, A.S., yn wael. HYSBYSIR fod Mr T. E. Ellis, A.S., yr hwn sy'n treulio ei fis mel yn sir Henffordd, wedi ei gyf yngu i'w wely o dan ymosodiad o pneumonia ac y mae'r meddygon wedi gorchymyn iddo gymeryd 11 wyr orphwysfa am dymhor. Oher- wydd hyn, mae'r ciniaw croesawol oedd i fod yn Llundain ar yr 22ain cyfisol wedi ei ohirio. Ddydd Mercher, hysbysir fod y claf yn well, ac yn abl i godi yn ei ystafell. -0-- Y WERN. MW.NGLAWDY).-Cynaliodd eglwys y He uchod eu gwyl lenyddol flynyddol Meh. 6. Er nad oedd yr hin yn ddymunol iawn, daeth nifer dda yn ngbyd. Ar ol y te cafwyd cyfarfod cys- tadleuol rhagorol mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, &0., yn yr hwyr, tan lywyddiaeth Mr Samuel Price. Mae'r Wern yn para i dderbyn cefnogaeth y wlad yo gyffredinol yn y cyrddau hyn.—J.P.H. Gwneir gwelliantau mawrion yn ngoranf Rhyl. Ma,3,r Barnwr Wm. Evanx wedi myn'd i gyfan- eddu yn Llanidloea.
Advertising
y Iihan Gyntaf yn awr ya barod. Mewn Chwech o Ranau, Swllt yr un, GYDAG AMRYW ARLUNIAU, r COFIANT A PHREGETHAU Y DIWEDDAR Barch. JOHN HUGHES, C.D., TAN OLYGIAETH Y Parch. JOHNr WILLIAMS, PRINCES ROAD LEHPWL. Pob archeb,"o?t i'iv hemfon i SWYDDFA'R "CYMRO, 8, Paradise Street, Liverpool.
Cymanfa Fethodistaidd Casnewydd.
Cymanfa Fethodistaidd Casnewydd. DAETH yr adroddiad i law pan oeddym ar fyned i'r wasg. Cofnodwn y prif weithrediadau, a cheir ad- roddiad cryno yn ein nesaf. Cynaiiwsd yr uchel-wyl yn Nghasnewydd, gan ddechreu ddydd Mawrth. Yn absenoldeb y Parch John Roberts, D.D., Kaasia, y llywydd etholedig, cymerwyd y gadair gan y Parch J. Morgaa Jones, Caerdydd.—Croesawyd y dyeithriaid gan Faer y dref, a chydnabyddwyd gan y Ilywydd ae eraill.- Am 6, eyfirf u'r cynrycjhiolwyr.—Amlygwyd gala.r dwys am golli Gladstone, a chydymdeimlad dwfn a'i deulu.—Coffoawyd gweinidogioa ymadawedig- 10 o'r De ac 8 o'r Gogledd, sef y Parchn. Eben- ezer Richards, Cross Inn Daniel Symmonds, Aber- gwaun; E. Meyler, Pencosd: John Williams, Aberystwyth Hugh Harries, Pencoed; B. O. Junes, Llanarth T. Job, Conwil; R. P. Roberts, Borth; Evaa Williams, Glyn Ogwen; Stephen Lewis, Cilfynydd; Isaac Blackweil, Rhyl E- Wynne Parry, Bala D. Williams, Coawy Eben- ezer Evans, Mon; Hugh Hughes, Gellidara; W. P. Williams, Waenfiwr John Hughes, Carneddau, a J, E. Hughes. Porthma.dog.-Ym aed i ddewie Llywydd am 1898-99 o blith gweinidogion y Gog- leld S.fai'r bleidlais gyntaf rhwog y Parchn Evan Jones, Caernarfon, a T. J. Wheldon, B.A., Bangor. Yn yr ail bleidlais, y Parch Evan Jones a etholwyd. -Wed'yn aed i ethol Llywydd am 1899-1900 o blith gweinidogion y De. Safai'r bleidlais rhwng y Parchn Dr Cynddylan Jones ac Evan Phillips, Castell Newydd Emlyn. yr hwn a etholwyd.—Pen- derfynwyd cynal y Gymanfa nesaf yn Fitzclarence Street, Lerpwl. Cefnogwyd y cais gan y Parchn John Williams. Princes Road, a John Hughes, M. A. — Am y swydd o ysgrifenydd, safai'r bleidlais rhwng y Parchn. E. J. Jones (Manceinion), J. O. Thomas, M.A. (Aberdyfi), a John Owen (Wydd- gtug), yr hwn a etholwyd.- Wrth gyflwyno'r gad- air i'w olynydd. traddododd y Parch J. Morgan Jones anerchiad grymus ar y kVe,nidogaeth. Diolchwyd iddo am ei anerchiad a'i wasanaeth gan y Parchn G. Eilis, M-A., a T. Levi.—Cymerodd y Parch Evan Jones y gadair, a diolchJdd am yr an- rhydedd a osodwyd arao.-Ar ol derbyn dirprwyon yr enwadau eraill, dygwyd gwaith y dydd i derfyn.
-0-Eisteddfod Genedlaethol…
-0- Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog. ERBYN hyR mae'r wyl uohod yn y golwg, a'r trefn- iadau i'w chroesawu am y tro cyntaf i Feirion bron wedi eu cwblhau. Oddiwrth y rhestr isoj, gwelir fod rhif yr ymgeiswyr yn lluosog iawn, ac y mae hyny'n argoel dda am lwyddiant yr Eistedd fod. Gosodwn yma'r nifer ymgeisiant ar y gwahanol gyfansoddiidau, ya nghyda-r ffugenwau yn y prif gystadleuon Barddoniaeth. Awdl, "Awen."—Nefydd, Cywair Lleiaf, Einion Urdd, Robert Burns, Un lioff ohoni, Mab Awen, Tydain, Gwyliwr, Dante, Tubal Cain, Swift, Ebur Oliffant-(12). Pryddest, Charles o'r Bala," -,Seiriol, Ap Meurig, Cymru Fu, D.S., Aran, Toriad y dydd, Dowden, Dolben, "lab Natur, Anthromorphite, Gomer, Er gwell er gwaeth-12. Cywydd, "Diniweidrwydd."—6. Myfyrdraith, Caradog- yn Rhufain.2. Bvigeilserdd, Rath.—1. Telynegion Serch.—17. Cadwen o Englynion, Y Boreu."—18. Can Ddesgrifiadol, Diwrnod Cneifio. "-14. Hir-a-Thoddaid: Beddargraph Gwalchmai "—53 Dychangerdd, "Yr Eiddig."—10. Knglvn, "Adgof."—117. Ciifieithiadau. C viieithiad Mydryddol i;r Saesneg, Llyn y Mor- wynion."—Swynol, Nutat, Homeries, Yn ceisio heb gael cysur, Annghelfydd, Brochwell, Unsterbliche Liebe, Ardudwy, Glyndwr, Ewart, Clwydfab, Meirion Wyn, Mochdre, An Exile, Bodedern, Benjamite.-I,-). Cyiieithiad Mydryddol i'r Gymraeg, The Tongue of Cymric Story. "-12 Cyfieithiad i'r Ffrancaeg, "Hen Filwyr Rhyddid." -7. Iihyddiacth. Traethawd (Saesneg), "Brythoniaid Ystrad Clud." -Ap Coel Hen, Belisarius, Ingleton-3. Traethawd (Cymra,eg neu Saesneg), Bywgraph- iad Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd gyda hanes beirniadol o'i weithiau, cyhoeddedig ac annghyhoeddedig."—Efrydydd, Ex Integro, Mor aRwyl yw Meirionydd, Plutarch, Cymro, Llotfwr, Asaph, Morus Cyffin-& Traethawd, "hlyfryddiaeth Cerddoriaeth Cym- ^Traethawd, Y Deifroad Addysgawl yn Xghym- rUTraethawd, Lie y Gymraeg yn Addysg ddyfodol Cymru.9, Casgliad, Llen-Gwerm Meirion. —2. Traethawd, "Dylanwad Brwydr Caer ar Hanes Cymru a'r Genedl Cymreig.6. Traethawd, Chwarelau, Mwngloddiau, a Llaw- weithfeydd sir Feirionydd.2. Traethawd, "Hanes, teithi, a. dylanwad Athron- iaeth Feddyliol a Moesol yn Nghymru."—2. Llawlyfr, Llysieuaeth unrhyw sir yn Nghymru Cyfansoddiadau Ccrddorol. Anthem gyda chyfeiliant i'r organ-Hen gystadleu- ydd am y tro olaf, Alawydd Mon, Shonco bach, Ffes- tiniog am byth, Monteverde, Deiniol, Organum, Meirionfab, Fitzjubal, Moelmud, Antifona—11. Pedwarawd llinynawl—5. Deuawd i'r Crwth a'r Berdoneg-3. Canig i leisiau cymysg—11. Unawd Bass gyda chyfeiliant-2. Unawd contralto gyda chyfeiliant-4.
--0--CWRS Y BYD.
Rhyfel Spaen ac America. Dydd Iau. HEDDYW hysbysir fod ymosodiad unol ar fedr cael ei wneud ar Santiago gan y llynges a'r fyddin Americanaidd. Mae'r Ilongau eisoes wedi ym- gynnll yn y fynedfa i'r porthladd. Ceir lluaws wedi glanio ohonynt a, yn cynllunio gyda'r gwrth- ryfelwyr yn Cuba pa fodd oreu i weithredu ac y mae liuoedd eraill ar eu ffordd o'r America yno. Credir y bydd un diwrnod yn ddigon i danbelenu Santiago, ac yr ymostynga'r trigolion gynted y gwelant y gwyr tiaed yn dechreu goresgyn V ddinas. Yr Arlvwydd McKinley a ddywed y bydd i'r llyngea adael y lie gynted ag y cwblheir yr amean, ond gadewir nifer digonol o tilwyr i warchod y ddinas. Tybir mai i Porto Rico yr aiff y llynges Americanaidd oddiyno ond ystyrir y He hwnw yn Rawer hawddach i'w feddianu na Santiago. Dydd Gwener. Cyhoeddir un ffaith bendant heddyw, sef fod byddin Americanaidd o 20,000 o wyr, gyda llawer o gyflegrau, wedi gadael Tampa ddydd Mercher, ac ar ei ffordd yn awr i Orllew!n Cuba. Dylent gyrhaedd S ntiago ddydd Gwener neu Sadwrn. Credir fod tanbeleniad y ddinas ddydd Mawrth wedi rhwyddhau liawerl ar y ffordd iddynt lanio end y mge'r wlad yn dra anhygyrch i gyflegrau trymion. Dywedir fod tair Hong rhyfel Spienaidd wedi ymladd eu ffordd i borthladd Havana, i warchodi y lie. Ond nid oes adroddiad swyddogol i gadarn. bau hyny. Teimlir dyddordeb miwr yn nyfodol y Philip- pines. Teirnlir fod y Spaeniaid yn colli eu gafael ar yr ynysotdi hyn ac y mae amryw o'r masnach- wyr wedi apelio at America i gymeryd llywodraeth yr ynys. Dywedir hefyd fod Rwsia wedi oydnab- od hawl America i'r ynys, trwy ofyn caniatad y -wl.ad hono i adael i longau Rwsiaidd fyned i borthladd Manila. Dydd Sadwrn. M ynegir heddyw Bad oes na milwyr na morwyr Americanaidd i gael eu danfoa i Porto Rico hyd nes y bydd Santiago wedi ei goresgyn. Aoaheuir heddyw a fu llynges Spaen dan y Llyngesydd Cervera yn mhorthladd Santiago o gwbl, er fod y Llyngesydd Sampson ac eraill wedi d itgan iddynt weled rhai o'r Ilongau gelynof. Dengys hyn mor anhawdd yw dibynu ar yr adrodd- iadau a ddeuant i law. I Hyabysir i'r Americaniaid danio ar gaerfeydd Morro a Soc-ipA ddydd Gwener, er atal y Spaeniaid rhag arnddiffyn y lleoedd hyn. Amlyga'r Llynges- ydd Sampson ei gred na ellir goresgyn Santiago heb wneud ymosodiad o'r mor a brwydro ar y tir. Ddydd Llun. Hysbysir fod Baiguiri, i'r dwyrain o Santiago, wedi ei thanbelenu gan yr Americaniaid. Goheb- ydd o Efrog Newydd ddywed felly tra y dywed gohebydd o Madrid: Ba tanbeleniad yn Sant- iago, a gwrthsafwyd tan yr Americaniaid ac un arali a ddywed fed yr "Americaniaid wedi gwrthod sefyli ac wedi cilio rhag ymosodiad tair llong Spaenaidd a aethant allan o borthladd Havana i frwydro." Nid yw lleoliad llyngesoedd y ddwy wlad yn hallol hysbys, oblegyd amledd a gwahaniaeth yr adroddiadau. Cyrhaeddodd pellebyr i New York ddydd Sul yn mynegi fod "y frwydr derfYl101 rhwng y gwrth- ryfelwyr Cubaidd a'r Spaeniaid am feddiant o Manila wedi ei hymladd ddydd Sadwrn, ond nad yw y canlyniad yn wybyddus." Dydd Mawrth. Bu ysgarmes dost nos Sadwrn rhwng y morwyr America oedd wedi glanio yn Caimaneta a chorph- lu o filwyr Spaen. Pentref bychan yw'r lie hwn ar ben uchaf Bau Guantanamo. Ncs Wener dring- odd y morwyr i ben bryn eyfagoc. Gwelwyd hwy ,dranoeth gan y Spaeniaid, ac aeth yn frwydr rhyng- ddynt-v frwydr gyntaf ar y tir er pan ddechreu- odd y rhyfel. Lladdwyd pedwar ac archollwyd amryw o'r Americauiaid, ond nid ces gyfrif i law o golledioo y Spjeniaid. Mae'r arian sydd eisoes wedi eu neillduo at am- can ion rhyfel yn cyrhaedd tri chant a thriugain miliwn o ddoleri. Hyderir y bydd i'r arddangosiad hwn o adnoddau America wangaloni'r Spaeniaid a pheri iddynt geisio telerau heddweh. Hysbysodd Swyddfa Rhyfel fod yr ymgyrch i Cuba wedi cychwyn o Key West ddydd Llun, ac yn cyrwys gwyr meirch, gwyr craed, a cbyflegrwyr. Cyhoeddir heddyw fod Manila wedi ymostwng a'r Americaniaid wedi ei meddianu, ond nid yw'r manylion nac adroddiad swyddogol wedi dod i law. Cadarnheir hanes tanbeleniad Santiago. Bu'r ysgarmes yn dacllyd iawn ac er i'r Americaniaid enill buddugoliaeth, eto nid mor hawdd fu ea gwaith oblegyd taniai'r Spaeniaid yn ddiball arnynt o'r caerfeydd ar y lan.