Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Coffa Mr Gladstone.
Coffa Mr Gladstone. CYFARFOD MAWR YN HYDE PARK, LLUNDAIN. CYNALIWYD un o'r cyrddau lluosocaf a welwyd erioed yn Hyde Park, Liundain, ddydd Sul, i. goff haurhinwe ddau y diweddar Mr Gladstone. Cyf- rifir fod yno o 70,000 i 100,000. Anerchwyd y torfeydd oddiar cbwech o lwyfanau, gan y rhai csnlynol :-(I) Dr Clifford, Parchn Harold Rvlftl, A. Pritchard, a Mr D Lloyd George, A.S.; (2) Parchn B". Price Hughes, J. T. Parr, E. Atkin, a Newman Hall; (3) Parchn J. M. Meyer, J. Mach- reth Rees, a T. O. Oolliogs (4) Parchn J. Ossian Davies, Dr Owen Evans, Dr Luna, a Mr E. Joaes- Griffiths, A.S. (5) Parchn James Adderley, H. R. H&wels, J. E. Daoies, a Mr Mort i, A.S. (6) Parchn R. Wakefield, Fleming Williams, John Elias Hughes, a Mr Bowen Rowlands, Q C. Yr oedd corau y gwahanol eglwysi Cymreig ya cymeryd rhan. Sylwodd Mr D. Lloyd George, A.S., a" onestrwydd y gwron, gan ddwyn fel engraipht'o hyny y ffaith iddo ddigolledu'r difrod a wnaed i'r Alabama, a chredai y cerddai ei ddylan- wad nes ffurfio math o undeb Cristionogol mawr.— Y Parch J. E. Davies yn Gymraeg a gyfeiriodd at .aaerchiad a glywodd gan Mr Gladstone ar ddad- blygiad cymeriad. Gwelwyd mawredd ei gymeriad ei yn ei weitlutdoedd; ac yr oedd cymaint o grefydd yn ei gymeriad a dim arall, yr hyn a'i gwnelai yn esiampl teilwng i'w ddilyn. Dygodd yr oil dystiolaeth uchel i ddylanwad y gwr enwog mewn anerchiadau pwrpasol.
-0-'-Rhyfel Spaen ac America.
-0- Rhyfel Spaen ac America. NID hawdd yw ysgrifenu ar y rhyfel hwn—yn gyn- taf, oblegyd annghysondeb yr adroddiadau a ddeu- ant i law ac yn ail, oherwydd nad oes dim swydd- ogol i gadarnhtiu yr adroddiadau. Par hyny i ni amheu dilysrwydd y eyfryw Mae'n amlwg iawn fod mwy o ffag nag o ff"ith mewn llawer o'r hanes- ion ond amcanwn roddi; i'n dirllenwyr y cryn- hodeb cywiraf o'r newyddion dyddiol:- Dydd lau. Ymddengys i rywbeth tebyg i ymosodiad gael ei wneud ar Santiago yn Cuba ddydd Mawrth gan lynges America. Oyhoeddir amryw adroddiadau tra gwahanoi am hyn ond nid oes le i amheu nad jaeth llongau'r Unol Djleitbiau i eaau y porthladd, sc i ryfel-long Ysptenaidd en gwyaebu yao. Ba'r cyflegrau wrthi yn rhuo, a gorfoiwyd Hong Spaen i gilio am nodded i gysgod y pentir, era y dinvstr- iwyd amrvw o'r eaerfeydd ar y Ian. Tybir fod liawer o'r Spasniaid wedi eu lladd. O'r ochr arall, hawlia'r Spaeniaid yr oruehafiaeth yn y frwydr. Ceisiocld rh-Ai o ffrwydr-gychod Spa-en adael y porthladd nes Sul, ond yr oedd yr lancwys yn eu gwylio, ac ni chawsant ond aflwydd yn euhymgais. Dydd Gwener. Heddyw cadarnheir yr hane73 am y frwydr yn Santiago, a thybir nad yw hono ond y gyntaf o amryw a ymleddir ar yr un tueddau. Adroddiad urall a ddywed fod yr Americauiaid wedi ail ddech- reu ymosoi ar Santiago ddydd Ian. Hysbysir nad yw milwyr America wedi cychwyn eto o Tampa i Cuba. Tybir mai yn Porto Rica y bwriedir iddynt ddechrea ymosod os ant rhagddynt i geisio goresgyn Cuba. Amlygir gobaith cryf yn America y deuir i del- erau heddweh yn fuan ac eisoes y mae traul y rhyfel yn tynu llawer o sylw. Dydd Sadwrn. Hysbysir heddyw i'r Arlywydd Mc'Kinley ddat- gan ei fod yn disgwyl y bydd i fuddugoliaeth America yn Santiago derfynu'r rhyfeJ." Oblegyd hyn, parotoir at frwydr fawr yn Santiago. Ddydd Llun. Mae'r newyddion yn fwy cyffroas heddyw nag er's dyddiau. Dywedir fod liynges Spaen yn gaeth yn Santiago. Dygwyd hyn oddiamgylch trwy antur feiddgar. Mae genui'r porthladd yn gul iawn, a'r modd a gymerwyd i gau'r fynedfa ydoedd trwy i'r Americaniaid suddo un 0'11 llongau ynddo. Lieu- tenant Hobson gyda chwech o ddynion gyflawnodd y gwrhydri, a'r ilong Merritnac ydoedd yr un a suddwyd. Llwyddodd yn hollol, ac achubwyd ei fywyd ef a'i gvmrodyt dewr. Gwelodd y Llynges- ydd Spaenaidd Cerver% mai ofer fyddai ymgyndynu yn mhellach, a chwyfiodd faner heddwch. Dycld Mawrth. Adroddir heddyw am adnewyddiad y tanbelenu ar Santiago, ac am ianiad milwyr America yn Cuba, ond ni cheir dim swyddogol i gadarnhaahyn. Fold bynag, os nad yw gallnoedd America. wedi cyrhaedd Cuba eisoes, y maent bron yn sicr o gyrhaedd c-in pen diwrnoi neu ddau. Mae gwrhydri'r Lieutenant Hobson a'r ehwe' dyn wedi enyn edmygeid mawr, a bwriada'r Arlywydd McKinley ofyn i'r Gyngres dalu dioleh iddynt. Ddydd Mercher. Mae'r newyddion heddyw yn bur gyffrous, Pell- ebrir fod tref, caerfeydd, a'r llongau Spaenaidd yn Santiago wedi eu tanbelenu, a bod y eaerfeydd wedi eu chw^hi a dwy long Spaenaidd wedi suddo. Ar y lhw arail, pellebrir fod y Spaeniaid wedi atal yr lancwys rhag glanio yn agos i Santiago. Mae'r fath annghysondeb dbryd rhwng y ddau adrodd- iad fel nad hawdd coelio yr un ohonynt hyd nes y cair hysbysrwydd swyddogol i gadarnhau'r naill neu'r llall. O'r Phillipinea hysbysir fod brwydro caled yno rhwng y Sp lenHud a'r gwrthryfelwyr, a bod yr olaf yn graddol amg?]chu dinas Manila. Dywedir fod y Spaeniaid wedi eu hanrheithio'n ddirfawr. --0-- Y Parch D. Oliver, Treffynon, sydd wedi ei ethol yn ysgrifenydd Cynghrair Eglwysi Rhyddion Gog- ledd Cymru. Mae'r rhifyn cvntaf o GOFIAST Y PARCH DR. JOHN HUGHES," dan elygiaeth y Parch JOHN WILLIAMS, Princes Road, allan o'r wasg. Ceir ynddo ra; o bregethau godidog y gwr mawr hwnw, ac nid oes odid lyfr yn y Gymraeg a gyDwya gyfoethosach iaith a meddyliau. Nid yw ei bus -and Is. a dylii pob darllenydd Cvmreig ei feddu. Yn iiyg ynadon Rhondda, ddydd Llun, cyhuddid Griffith Thomas, cvn-reolwr Ariandy'r Metropoli- tan, o gymeryd LlOOp trwy dwyll. Gohiriwyd yr achos, Ymwelodd yr Arohdd:»3oa Williams, Meirion- ydd, â Llaajdlpes ddydd Sadwrn i ymchwil i sef- ylifa'r yn y cylch. Amlygwyd cydym- deimlad dwfa ag Esgob Bingor a'r Canghe'lydd D. Silvan Evans yn ea hafiechyd, a dymnniad am idd- j ynt gfleJ a 1fe» :>'d buan. Hysbyswyd nad oes gan | reithian plwyfol unrhyw reolapth ar elusenaa a renir gan y wardeniaid oglwyeig.
Capel Coffadwriaethol John…
Capel Coffadwriaethol John Elias. DDYDDIAU Gwener, Sadwrn, a'r Sul, cynaliwyd eyfarfodydd pregethu yn Llangefni i ddathla agor- iad capel coffadwriaethol y diweddar Barch John Elias. Moriah y gelwir y eipal, ac y mae'n un o'r rhai harddaf yn Ngogledd Cymru. Costiodd 5,000p. Gweinyddwyd gan y Parchn J. Donne, Llangefni; W. E. Prytherch, Abertawo T. C. Williams, Porthaethwy O. Hughes, Amlwch G. Williams, L!angoed J. Williams, Llangefni J. Roberts, Taihea; T. Williams, Caergybi; D. Lloyd Jones, Llandinam S. T. Jones, Rhyl a J. Williams, Princes Road, Lerpwl.
o Ffestiniog.'I
o Ffestiniog. Y DYDD o'r blaen, daeth llyfryn byclnn, yn dwvn y teitl A Benedictine Martyr of England," i'm dwy law. Cvnwysi'r llyfr hanes un o feibion Meir. ion a ddyoddefodd ferthyrdoi er mwyn eydwybod. Ei enw ydoedd John Roberts, a hanai o hen denlu nrddasol Rhiwgoch, Trawsfynydd, ac a anwyd tua r fl. 1575, fel y rhaid ei fod yn gydoeswr ac yn gymydog agos i Edmwnd Prys a Huw Llwyd o Gynfal, y rhai a drigent dros y Breichiau o'i gar- tref. Ail fab ydoedd i Rhobert ab Morys ab John ab Meredydd o'r lie hwnw, a diau iddo, gan fod tueddiadau ei rieni at yr hen grefydd Babaidd, gael ei egwyddon gan rai o hen fynachod y Marian, llawer o'r rhai a enillent eu crystyn yn ystod vr erlsdigieth a ddilynodd y Diwygiad Protestanaidd trwy ddysgu Lladin i ieuenctyd teuluoedd cyfrifol yras ac acw ar hyd y wlad. Pan yn 19 oed, fodd by nag, anfonwyd John ieuanc i Goleg St. loan, ^ydvehain, lie treuliodd ddvvy neu dair blynedd. Ymddengys fod ei deulu yn gysurus arnyn!, gan eu bod yn gallu fforddio ei anfoa ar daith i'r Cyfaudir yi2 ol arfei- mawrion yr oes hono-i "weled y byd,» Hyd y pryd yma diau ei fod yn proffesu Protestaniaeth, ond yn ei ymweliad â phrifddinas iirainc daeth i gyffyrddiad a nifer o Babyddion Prydeinig a. oddefent alltudiaeth er mwyn eu ere- fydd, a dychwelwyd ef i'r ffydd Babyddol, pryd y psnderfynodd ymddeol o'i fwnad i ddarllen ar gyfer y gyfraith, ac ymgysegru i "adenill ei gyd- wladwyr i'w ffydd gynhenid." I ymberffeithio at ei waith mbwysiedig, aeth i goleg Seisaig Valla- dolid, lie r adaabyddid ef wrth yr enw Fra, Juan de Mervinia. Wedi treulio pum mis yno, dychwel- odd i Loegr, ond cyfrifid ef yn elyn i'r Llywodr- aeth, a dyoddefodd benydiau ltwer o'r herwydd. Tybir iddo gael ei fradychu gan berthycas o'r enw Lewis Owen taflwyd ef i garchar, ac wedi dyodd- ef ysbaid yno alltudiwyd ef o'r wlad. Ni fu'n hir, fodd bynag, heb ddychwelyd, gan gyrhaedd y wlaa pan oedd pla Llundain yn ei anterth. Dal- iwyd ef yr ail waith yn nh' un o'r enw Percy, ac wadi treulio rhai misoedd yn ngharchar Gatehouse anfonwyd ef unwaith yn. rhagor i'r Cyfandir ond i 1ddychwelyd yn fwy pmderfynol nag erioed yn ei ameanion i 84 argyhoeddi ei gydwladwvr o ddryg- ioni eu ffyrdd." I dori'r stori'n fyr, diliwyd ef y drydedd waitb, cyhuddwyd ef o deyrnfradwriaeth, a dygwyd ef o flaen Esgob Llundain (Abbott), yr hwn ai condemniodd i gae! ei grogi, ei lusgo, a'- dori bedwar aelod a phen. Y mae hanes ei brawf1 a'i farwolaeth adfydus yn cael ei adrodd yn deiml- adwy gan ei fywgrr.phydd, yr hwn a dystia iddo ddangos y gwroldeb mwyaf wrth gyfarfod ei dded- fryd farbaraidd. Fy amcan yn trethu eich gofod gydÙ braslinell iad uchod yw cadw'n wyrdd goffsidwriaeih bachgen teilwng or fro, yn nghyda galw sylw at y flfaith mai unochrog iawn ydyw hanes yr Eglwys yn Nghymru hyd yn hyn. Diau fod mwyafrif eich uarlienwyr, fel fy hunan, yn hapus anwybodus o iooolacth y Cymro hwn, heb son am y ffaith ei fod wedi aberthu ei han ar allor cydwybod. 0 bosibl iod ambell fodolyn crebachlyd, daltbleidiol yn ein rnysg na chydnebydd rinwedd mewn Pabydd, m. gwaith John Roberts yn wynebu angau er mwyn yr egwyddorion y credai ynddynt yn ferthyrdod ond i mi y mae'n glod i Drawsfyaydd ei bod wedi magu mab mor wro!, a theimlaf fy ysgwyddau'n codi wrth ddeall foi o Jeiaf un Cymro ychwanegol wedi rhoi ei einioes i lawr dros yr hyn a gredai ond gresyn ein bod fel cenedl yn nyled Yspieniad am y wybodaeth. Pfin yr ydvm yn cael amssr i gyfarch ein gilydd yn yr ardal hon y dyddiau hyn. Y mae piwb ar ei oreu glas yn parotoi ar gyfer yr Wvl fawr Genedtaethol. Dywedir i mi fod yr Ygrifenydd Gyffredinol (Mr A. Ariauder Hughes) yn methu troi yn nghanol y cyfansoddiadau sydd yn dilifo i mewn. Yr oedd y llanw wedi codi at ei 6 yr wythnos ddiweddaf, a'r tebygolrwydd ydyw ei fod wedi ei lwyr orchaddio cyn hyn Er tilei yw. Y mae y b-ibell yn myned rbagddt yn gam pus yr holl anhawsderau wedi eu gorchfygu, a'i chadernid fel y oreigiau a i hamgvlchynant. Y mae y gwyr cyfarwydd sydd yn gofalu am y trefniadau cytfred- inol mor brysur a beiliaid mewn sesiwn. Y maent eisoes wedi sicrhau digonedd o le i holl Gymry Cymru a Lloagr, a chredaf y gellir yn hawdd taflu pobl LSanrwst i fewn yn ychwanegol. Gofala y brodyr hyn hefyd am drens rhad o bob min--ond o'r Lleuad, bydd rhaid wrth air-balloon i gludo'r Cymry sydd yn trigo ya y blaned hono. Y mae yr Ailtwen wedi darparu teir rod arbenig i gludo y beirdd i gopaau .y mynyddoedd i gael, cipdrem ar brydferthwch y wlad, ond ni chaniatair neb i'w marchogaeth ond y sawl sydd yn aelod dig »msyniol o r urdd. Yr ydys bron wedi cwblh&u y trefoiadau o berthynas i'r tywydd, a chredir y gall pawb adael ei wlawlen adref (rhag ofn ei chollij. Mewn gair y mae pawb yn yr hwyliau goreu, ac yn byderus y ceir Eisteddfod Gymreig na fu ei chyffelyb er Eisteddfod fawr Caerwys. B
Trychineb yn Ngholwyn Bay.
Trychineb yn Ngholwyn Bay. COLLIAD TRI o FYWYDAU. Bij damwain dost yn Ngholwyn Bay oddeutu Pe«wai' o'r gloch nawa ddydd Gwener. Yn y boreu aeth pedwar o wyr ieuainc o'r enwau Willie Whitshoiis 2, Herbert Frost, John Hope, a Herbrt Sjorris, aelolau o Ysgol Sul ar bleserdaith o Man- cemion, allan mewn ewch. Aethant i le paryglos, Yn gweled hyn aeth dau arall o'r enw Megan a Koberts yn y Bluebell i geisio estyn ymwared iddynt. Llwyddwyd i gasl y pedwar i'rcwch hwn, ond nifi cynt yr oeddynt wedi eistedd nag y deca- reuodd y cwch saddo. Boddodd Morgan, athraw yn byw yn Rhos, a Hope a Morris. Achubwyd y lleill trwy i ddya o'r enw Hugh Evans fyned atynt. Nid yw cyrph yr un o'r tri a foddwyd wedi eu cael eto.
Llythyr Llundain.
Llythyr Llundain. [Gan HEN OHEBYDD.] PRYDNAWN dydd Llun cyfarfyddodd y Seaedd, I ac y mae pob argoel y diwedda y tymhor mewn dylni a methiant. Nid oes neb byw 'rwy'n meddwl yn cofio adeg mor ddiymadferth mewn cylcboedd gwleidyddol. Gweithiodd y Gwydd- elod yn ol eu harfer i gael cymaint ag oedd yn. bosibl o saig i'r Iwerddon allan o Fesur y Llyw- odraeth. Am yr Wrthblaid, y mae hono bron wedi collipobdyddordebyn y gweithrediaoau ond pan ei cynhyrfir gan ambell i free lance, ac wedi ymroddi i bwyso gobeithion Rosebery a Harcourt am yr arweiniad pan ddelo'r Blaid i awdurdod-os byth y del. Am y mwyafrif mawr a thrwstan sy'n dilyn Salisbury megys o an fodd, ac eithrio Mr James Lowther, Mr Bowles, Syr Ellis Aslimead-Bartlett a gwrth- ryfelwyr erail),y maent fel defaid gwrtbnysig yn cymeryd en corlanu fyth a hefyd, yn ol dymun- iad eu bugeiliaid chwipyddol. Rhwng y cwbl y mae trymder a dylni wedi syrthio fel tarth ar fywyd y Ty, a gellir ei weled yn dadwino ger- bron ein llygaid. Ag ystyried y galwadau amrywiol ar eu hamser a'u talentau, yr oedd cryn nifer o'r aelodau Cymreig yn bt'esenol ar* ddiwrnod yr agoriad. Yr wyf fi yn digwydd perthyn i'r dosbarth hwnw o wleidyddwyr sy'n hoffi gweled eu cynrychiolwyr yn cymeryd dyddordeb yn mhob pwne a ddygir gerbron, ac rid yn cadw eu hunain fel ryw dwr o would-be experts ar faterion Cymreig yn unig. Yr wyf yn fodd- lawn iawn i Gymru a'i bangenion gael y lie penaf a dyfnaf, ond rhaid cofio hefyd y dylai Cymru a'i chynrychiolwyr chwareu eu rhan yn nglyn a. holl achosion yr Ymherodraeth. Clyw- yd lief amryw o'r aelodau Cymreig prydnawn ddoe. Er engraipht, dymunai Mr Brynmor Jones wybod llawer obethau yr-k ngbyleh llywodraethiad y Twrc yn Candia. Ychydig o foddlonrwydd a gafodd gan Mr Curzon,y bod gwybodus sydd yn cynrychioli y Swyddfa Dramor yn Nby y Cyfirediti,ond nid gwaeth gofyn er hyny. Holai Mr Herbert Lewis pa bryd y fewriedid dwyn i fewn Fesur i drefnu Addysg Ganolradd ein gwlad, a hysbysodd Mr Balfour mai gan Lywydd y Cynghor (A.rdalydd Hartington) mewn man arall y ceid gwybodaeth ar y pwnc. Dymuriii Mr Wynford Philipps wybod pa bryd yr oedd y Weinyddiaeth yn ol ei haddewid yn bwriadu ceisio gwella yr Agricultural Holdings Act, ond nis gallai Mr Balfour roddi un sicrwydd iddo. Gymaint yn haws yw addaw rhagor cyflawni, onide ? Pan aetbpwyd i drin cynygiad Arwein- ydd y Ty i gymeryd yr holl amser at ddybenion y W einyddiaeth, cododd Mr Lloyd George a Mr Herbert Lewis eu llaia yn erbyn y trefn- iant, a chawsant atebiad personol os anfoddhaol I yn araith Mr Balfour. Rhywbeth tebyg i dranoeth wedi digwydd oedd y gwasanaeth coffadwriaethol i'r diweddar Mr Gladstone a gynaliwyd yn Hyde Park y Sul diweddaf. Pregethwyr oedd y rhan fwyaf o'r siaradwyr, ac nid yw yn anmhosibl, feallai, rhoi rheswm dros fod cynifer ohonynt yn hoffi myn'd ar y stump pa amgylchiad bynag fo'n galw. Ond fe synais gryn lawer weled rhai o weinidog- ion callaf Cymry Llundain yn mhlith areithwyr y stump. Yr oedd miloedd o bobl yn llygad- rythu ar y siaradwyr yr oedd yr hin yn braf a'r Pare yn ddeniadol. Fe fawyd yn treio canu emynau, ond swn nodau uhaf udgorn barus yn unig a glywid gan y rhan fwyaf. Siaradodd Mr Ellis Griffith a Mr Lloyd George eiriau hyawdl am eu hen arweinydd ond buasai yn llawer mwy dyddorol eu clywed dan dô. Waeth un gair na chant, 'dwyr y Saeson yma ddim sut i gynal Cymanfa nac Eisteddfod.
t--0--Barddoniaeth.
--0-- Barddoniaeth. PRIODASGERDD T. E ELLIS, A.S., A MISS ANNIE J. DAVIES, CWRTMAWR. Ton,—" Morwynion Glan Meirionydd CLYCHACJ peraidd Gwlad y Gan, o ddiwahan ddvwenydd, Heddyw geir, i ddathlu'r llw, yn galw ar eu gilydd A'u hanthemau'n donnau dyr yn awyr Cymru Newydd. Meirion glyd a dery dant ei moliant i Tom Ellis Am gyfieithu enw'r fun yn eiddo'i hun mor weddus Hyn," medd Ceredigion wyl, sy orchwyl ddigon serchus." Gwladgar sel, a dysg, a dawn, athrylith lawn na threulia, Gyda than diwygiad gwyn sy'n dychryn gelyn Gwalia- Garia Ellis yn ei wedd-a'r Senedd fawr a syna Hithau Annie, fanon bur, goronir a theg riniau Anhebgorion mwy nion merch, a swynion derch yn dorchau Ac o fewn ei chalon caed teg waed y Diwygiadau Bywyd unol Cymru gu sy'n rymns yn y rhwymyn 0 Dde i Ogledd-enfys Duw sydd heddyw dros y ddeuddyn; Eden glir dan awyr las i Cynlas sydd yn canlyn. Os mai chwip yn Senedd gwlad yw canwyll Ilygad Cymru Troes y rhod o'i du mewn hedd yn senedd mynwes Annie; Gogoneddwyd Tom yn awr & gwawr y ferch mae'n garu. Annie yw Brenhines Tom, a Tom yw'r Prifweinidog Yn ei llaw mae'r Chwip mor ir a brwynen o dir bryniog A dyma'u "cySes ffydd" dinam-" Home Rule am awyr heulog Iechyd da i chwi eich dau, a diliau fyth tra dalioch Law yn llaw, dros fryniau' serth a chreigiau certh, ewch rhagoch: Rhodded Nef, o olud gras ei Theyrnas, fendith arnoch. Cyfraith Duw fo i chwi'n gan, i'w did dan anrbydeddu Ar eich aelwyd glyd yn glaer arosed gwenau'r iesu Rhowch eich pabell dan y Groes am einioes mwy i wynn, Ewch, llefarwch wrth y byd gadernid myg y Deyrnas," Hauwch fyth, a had y Gwir, adwythig dir cymdeithas, A. cheir cnwd o wenith gwyn yn canlyn Ann a Gynlas. JOHN T. JOB. :0:
[No title]
Llettydai mewn Ffermdai, ar Fin y Mor, cc yfi, y Wlad;—Mae'r Mri Walter Hill a'u Cyf, Llundain, wedi darpar eto bamphledyn darlunedig tlws i Gwmni Reilffordd sir Gaer, yn cynwys rhestr o lettydai mewn ffermydd, ar lan y mor, yn y wlad, ac mewn gwesttai, a thai byrddio yn yr ardaloedd hyny sy'n gysylltiol a, Llinell sir Gaer, yn cynwys Gogledd Cymru ac Ynys Manaw. Dengys y pamphledyn hwn pa fath le sydd yn y lleoedd hyny, yn ngliydklr manau o ddyddordeb a bydd yn ddefnyddiol iawn i deithwyr. Gellir cael copi yn rhad ond apelio at y Rheolwr, Gorsaf Ganol, Lerpwl, neu unryw orsaf neu swyddfa berthynol i Linellau sir Gaer.
Advertising
Y Boon Gyntaf yn awr yn barod. Mewn Chwech o Ranau, Swllt yr un, GYDAG AMRYW ARLUXIAU, r 0% 1% COFIANT A PHREGETHAlr Y DIWEDDAR Barch. JOHN HUGHES D D., TAN OLYGIAETH Y Parch. JOHN WILLIAMS, PRINCES ROAD LERPWL. Pob ai-cheb,io?t i'iv hanfoni SWYDDFA'R "CYMRO, 8, Paradise Street, Liverpool.
--.._--Llenyddiaeth.
Llenyddiaeth. "WILLIAM EWART GLADSTONE; ei Fywyd a'i Waith. [Qan y Parch GRIFFITH ELLIS, M. A., Bootle. Rhan L, pris 6c.:>—Da genym fod Mr Ellis wedi ymgymeryd ag ysgrifenu yn yr iaith Gymraeg hanes bywyd y gwladweiaydd enwog. Nis gwyddom am yr ua Cymro eymhwysach i'r gwaith ar lawer ystyriaeth, megys edmygedd goa- est a diragfarn o'r gwrthrych, peadercyniad di-ildio i ddyfod o hyd i ffeithiau, a threfnu y cyfryw yn fedrus a goleubwyll. Nid yw'r gelf o fywgraphu ond pur ieuanc yn ein llenyddiaeth; tybiai'r hen babl nad oedd ond eisiau cynull nifer o hanesion yn nghyd am y bywgrsphadig, a'u lluchio rhwng cloriau llyfr, heb fawr feddwl am drefn na dim ond gofalu niai grot fylidai.'r pris. Y fasgedaid o esgyrn syehion ydy .v'r cofiantau a gyhoeddid hyd yn mhell i haner olaf y ganrif hon, Ond y mae Mr Ellis, fel y gwyr pawb, yn perthyn i'r dosbarth goreu o fywgraphwyr—wedi meistroli ei waith yn drwyadl-yn gallu gosod ei feddwl allan ya eglur a threfnu ei fleithiau yn ddeheuig. Rhydd gryn bwys ar foi Mr Gladstone yn Ysgotiad, gan y cyfeiria at v ff^ith bon yn amryw o'r testynau a ddyfynir yn nechreuad y pennodau ac o'rheiaia ei deulujddiaeth genediaethau yn ol, gan gadara- hau y synia.d fod galluoedd meddyliol uchalryw yn etifeddoJ. Chwanegisd pwysig at ddydiordeb y bywgraphiaa ydywr amgylchoedd, neu hanes yr oes yr oedd efe ya byw ynddi y hr wydrau mawrion rhyddid a ymladdwyd ac a eniliwyd, a'r dargan- fyddiadau a'r da,,ib,,ygi,dau gwerthfawr a wnaed yn y celftu a'r gwyddorau o bob math gan ei gyf- ceswyr. Disgwyliwu wledi ddanteithiol pan ddelo'r bywgraph gallaog i ddadaasoddi cym- eriad mor amlochrog ac mor fawr yn mhob cyfeir- iad ac i leoli Mr Gladstone yn oriel cewri medd- yliol y byd. Yn mysg y llu mawr o fywgraphiad- au o'r un parson godidog sydd eisoes wedi ym- ddangos, ac a ymddangosant eto, gellir yn ddi- b,itrus osod Gladqtoae Mr Ellis yn y dosbarth cyntaf ohonynt. "OWEN OWENS, CORS Y WLAD YR HEN FLAENOR HYNOD. Gan y Parch HENRY HUGHES, Brynkir. Pris Is 6c. Yr ydym wedi darllen y llyfryn bychan hwa gyda bias a dyddordeb annghyffredin. Y mae enw yr awdwr yn ddigon o sicrwydd y gellir dibynu arnoam rywbeth gwerth ei ddarllen, oblegyd y mas Mr Hughes wedi profi ei hunan yn hanesydd o ndd uchel. Medda ar y ddawn i chw&lu a chiwljta yn myd ebargofiant, y rhaid fod ty ami bryf ccpyn druan wedi ei lwyr ddinystrio cyn y galiasti gasglu yn nghyd ddefn- yddiau hanes yr hen fl ,eaor o Gors-y wlad, Ac heblaw hyny, medr gymeryd amser a phoen i sicr- hau cywirdab ei ffeithiau nid oes yr un dyddiad nac enw i'w ddefnyddio heb yn gyntaf roddi prawf areu dilysrwydd. yda gwrthrych mor nodedig, ac yn Haw y fath awdwr, nid rhyfedd fod y byw- graphiad hwn yn dry sorfa gyfoethog o ffeithiau hanesyddol. Ganwyd Owen Oweas ar ddeohreu y ganrif hon, a bu farw yn y flwvddyn 1877 ac with adrodd ei hanes, y mae Mr Hughes wedi tofla llawer iawn o oleuui ar hwnes Methodistiaeth, ac yn wir ar hanes crefydd yn nghanolbarth sir Gaernarfon yn ystod y tri chwarter cyntaf o'r ganrif, ond Owen Oweas ydyw prif wrthrych y gwaith. Ao anhiwdd faasai cael gwr o gymeriad hynotach nag efe. Hen flaenor ffyddlon ydoedd, mewn capel bychm gwl-sdaidd o'r eaw Bwlcli- derwin, ond yr oedd yn meddu ar alluoedd meddyliol anarferol, ac yn adaabyddus t-wy yr boll wlad am ei ffraethineb a phertrwvdd ei sylwadau. Oof genym ei glywed ua- waith mewn cyfarfod eglwysig mewn capel cyfagos. Yr oedd ar ei ffordd adref o ffair yn Pwllheli, a denwyd ei i'r cjfarfod gan un o flaenoriaid y capel. Ar ol dechreu y gwasanaeth, gofynwyd id io ddweyd gair, ac medd&i, heb air o ragymadrodd, Wrth ddwad ar y ffordd yna yr oeddwn i'n gwel'd hwsmoa yn y gidias vn toi y das wair. Ac meddwn i wrtho, I Beth yr wyt ti'n trafferthu i doi ar y tywydd braf yma, dywad ? 'Does dim golwg y cawn ni ystorm ca gwlaw byth rhagor (yr oedd yo ddiwedd biwyddyn nodedig o sych). 0,' meddai yntau, mi ddaw hi'n ddvycin, Owen Owens ac yn wir, welwch chwi, yr oedd o'n dweyd y gwir. Wel, yr oeddwn i'n meddwl mai rhywbeth yn debyg ydyw hi gyd\'r grefydd yma. I beth yr ydach chi'n trafEertha dod i'r seiat a'r cyfarfod gweddi ? Yr ydach chi i gyd yn iach a digon cysurus O, mi ddaw hi'n ddryein." A dyna fu ganddo fel byrdwa am ddeng muryd neii chwarter awr, "0, mi ddaw hi'n ddryein." Ac yr oedd y d» lan wad yn wsfreiddiol. Dyna un engraipht o Owe i Owens, a phwy bynag ddymuno ychwarieg darllened y llyfr hwn.
[No title]
*> THE LONDON EQUITABLE ?EXCHANGE Stock and Share Brokers and Dealers and Investment Advisers, 18, Eu>osr STREET, LONDON, E.G. Write for Pamphlet (free) containing full particulars of our Investment, Cover," Deposit, 3-Monthly and Special Operations. The only safe v;ay of v-aking profits on the London Stock Exchange." No FURTHER LIABILITY beyond "Cover" remitted. Investments made at a charge of one sixteenth and all "COVER" TRANSACTIONS opened at "MIDDLE PRICE." Money advanced to any amount on approved Stock 'I and Shares, at 1 per cent, above Ba.nk Rate. Corres- pondence invited. Telegrams, "Elopement London." I A oes genych eisieu LLETTY 1 Hysbysebwoh yn
[No title]
y Cymro. IS gair am 0oh.