Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
GoreiL Arf, Arf Dysg- Iesu ns d gamwaith." Duw a phob daioni, CYNELIR Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl, YN HOPE HALL, HOPE STREET, Dydd Llun, Gwyl y Bane, Rhagfyr 26, 1898 PlilF BEST YN A U TESTYN Y GAD AIR. -Awdl (heb fod dros 400 o linellau) Y Ddau Ddarlun," Galarnad Jeremiah iv. 7, 8 Gwobr, Cadair Dderw, gwerth S5 5s. PRIF DRAETHAWD.- Ar-,vyr D'rwestol Cymru." Gwobr laf, 92 2s.; 2il, 91 ls. TRAETHAWD (cyfyngedig i ferched), "Dylanwad neillduol merch ar y Mudiad Diywestol." Gwobr laf, £ 1 Is 2il, 10s. 6ch, NOFELIG (Cymraeg neu Saesneg), tua 3,000 o eiriau, yn desgrifio Bywyd Crefyddol yn Nghymru (cyfnod •855—65. Gwobr, £2 2s. IDYLL—(Welsh or English)—about 3,000 words, descriptive of Religious Life in Wales (temp. 1855—65). Prize, P.2 2s. PRIF GYSTABLEUAETH GORA WL.-I'r C6r o Feibion (heb fod dan 35 na thros 50 mewn nifer) a gano oreti Gyr-,irch Wyntoe(ld (D(t vid Jen kins. Bac.). Gwobr, 925 a Thlws Aur i'r Arweinydd. (CHIEF CHORAL COMPETITION.—Male Voice Choir—not under 35 nor over 50 in number-for the best rendering of "Storm-winds Driving (David JenJcins,: Mus. Bac.). First Prize," 925 and Gold Medal to the Conductor). Gellir cael rhestr eyflawn o'r testynau ond anfonstamp at LLEW WYNNE, Ysgrtfenydd, Ashfield, 98 Westbourne Rd., Birkenhead. MR. J. H. ROBERTS Mus, Bac. (Cantab), A.R.A.M., F.T.S.O., London (Organist of \Chabham Street Presbyterian -Church). Begs to announce that he gives Lessons at 149, GROVE STREET, LIVERPOOL, On the Pianoforte, an:1 Organ, also in Singing, Harmony, and Composition Pupils thoroughly prepared for the various Exams, in the above subjects,also in Musical Analysis, Fotm, Orchestration, and Acoustics, and in reading from Score and Figured Bass. The largest money prize ever given a*, an Eisteddfod for Solo Singing was won by one of his pupils. Out of a large number of candidates throughout the United Kingdom at the Local Exam. of the Royal Academy, six took honours in Harmony, two of whom were Mr Roberts' Pupils. His Pupils have also taken valuable prizes in Piano playing, and in composition. Postal Lessons in Harmony and Composition. Full particulars on application. Soprano Song THE WONDROUS CROSS.' Competition piece at the National Eisteddfod, 18aS. 2s. nett Cymdeithas Lenyddol a Duwinyddoi MYNYDD SEION, LIVERPOOL. CYFARFOD CYSTAllEUOL TACHWEDD, 18Q8, BARDDONIAETH. Pryddest, "Er cof am y Parch John Evans (Eg- Iwnsbach)." Gwobr. 5p. 5s. 0c, Beirniad, Parch H. ELVED LEWIS (Elied). Cyfansoddiadau i fod yn Haw yr ysgrifenydd ar neu cyn yr 20fed o Hydref. JABEZ JONES, 99, Upper Warwick Street. Eisteddfod Genedlaettiol 1900. RHYBUDD. Rhaid anfon ceisiadau am Eisteddfod Genedlaethol 1900 (i'w chynal yn y Gog- ledd) gyda'r ddeiseb o blaid, a chopi o'r Ymrwymiad Arianol (Gitaraiitee Bond) i ofal Ysgrifenydd Cymdeithas yr Eisteddfod, E. Vincent Evans 64 Chancery Lane, Llundain, erbyn y laf o Orphenaf, 1898. Eglwys Annibynol Trinity Read. Bootie. .PR E GET H I R- yn yr Addoldy uchod NOS SADWRN, MEHEFIN lSfed, 1898, gan Miss ROSINA DAVIES (Efengyles), Treberbert, am 6.30 p.m. Sabboth, Mehefin 21, am 10 a.m., Miss DAVIES, 2 pm., Parch. Wm. HENRY, Waterloo. 6 p.m., Miss DAVIES. -Whitefield Road Wesleyan Church — Sunday School Anniversary, JUNE 12th, 1898. Morning at 10.45 Evening at 6-30, Rev. TREVOR H. DAVIES of Southport. Flower Service in the afternoon at 2.30. T IVERPOOL TO LLANDUDNO, j BEAUMARIS, BANGOR, & MENAI BRIDGE. ———— DAILY SAILINGS Ir«Bi "Prince's Landing Stage (Sundays excepted, and "weather and other circumstances permitting), "ST. TUDNO Leaves Liverpool,10-45 atn j Leaves Menai Bridge 3-30 pm „ Llandudno 1-0 pm „ Bangor Pier 3-40 pm Beaumaris 2-0 pm „ Beaumaris 4-0 pm Bangor Pier 2 '20 pm LiaadudHO 5-15 pm Air'iVes Menai Bridge 2 30 pm Arrives Liverpool 7-30 pm "ST. EL VIES." Week-end Trips. From Liverpool Saturdays 4th, 18th, & 25th June, at 2 p,m. From Wales, Mono ays 6th, 20th, & 27th June, leivuig Menai Bridge at 6-30 a.m. For all further particulars apply to any of the Company's Arpnts or to THE LIVE&POOL & NORTH WALES STEAMSHIP CO., LTD.. T G BREW, Secretary, 20 WATER ST., LIVERPOOL. Tel. 6366 -¥- CARTRSF CYMRBIG I YMWBLWYR a LLUNDAIN. Pa le i gael llefcy cysurus vn Llundain ? Ewch o Paddlng- ton Station, G.W R., gyda'r Underground i Gower Street Station am No. 9 neu 30, Euston Square, neu o Euston Station'(L. & N". W. ay.), pa un sydd yn agos lddyn. GLASLYN HOUSE EVANS' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N. W. D. EVANS, Perehenog CELT (KELT) TEMP K K. \NCE HOT .feiL, 30, Euston Square, London^ W. F. DUNN, Perehenog Y mwyaf canolog i bob rhan o Lundain. THOS JONES & Co. Ltd TIME-TESTED "TEAS u @ 1/3, 1/7, and 2/- per Th. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20f. and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLIGA7ION. THOS. JONES %Co. Ltd Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL Y CYMRO: Danfonir UN OOPI yn ddidraul trwy y Poet: r- Am 12 mis, 5/6—Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/8 Blaendal yn unig. At Ein Gohebwyr. Dylaz" pob gohebiaeth reolaidd gyrhaeda z'r Stvyddfa cyn canol dydd Llun, neu ni ellir etc cyhoeddi yn y rhifyn canlynol Glan Alun a Mr Gladstone —Dywed Elis o'r Nant ein bod yn camsyniad pm yn hysbysu mai yn erbyn tad yr Arglwydd Mosfcyn presenol yr ymgeisiai Syr Stephen Glynne, tan aden Mr Gladstone, ae y bu'r ffrwgwd rhyngddo a Glan Alun. Yn 1852 yr hen lord oedd ei wrthym- geisydd; yn 1854, ei fab, yr Anrhyd. Lloyd Mostyn. Yn mha un o'r ddwy ysgarmes y bu'r ol. ygfa a ddesgrifir gan Daniel Owen ? Yr oedd Daniel Owen yn 16 oed yn 1852, ac yr oedd yn ddigon hawdd iddo fod yn llygad-dyst o'r olygfa, a chofio byth am dani. Y BUDDUGWR ar gyfieithu Praise to the Holiest in the height," sef hoff emyo Mr Gladstone, yw Mr Hugh Edwards (Huwco Penmaen), Rhyl ac yr ydym wedi anfon y wobr o haner gini iddo.
CWASTRAFF.
CWASTRAFF. Bu dadl ddyddorol yn Nhy'r Cyffredin nos Lun. Yr oedd yr adran eglwysig fihvr- iaethus o'r Seneddwyr yn eu harfwisgoedd, tan arweiniad y dewr Filwriad Milward a'r pendefigaidd Arglwydd Cranborne, mab y Prifweinidog. A mean y rhyfelgyrch oedd cael gostyngiad, os nid dilead, trethi ar glerigwyr, nid o bob enwad, ond yr un enwad sydd eisoes yn cael bron holl wadd- oliadau y wlad. Ni a ddymunem weled trethi pob dosparth wedi eu symud-gwlad ogoned fyddai gwlad ddidrethi ond ni welsom hyd yn hyn yr un rheswm tros symud y baich oddiar ysgwyddau un dos- barth o ddynion, pa mor ragorol bynag, a'i ddodi ar ysgwyddau dosbarthiadau eraill sydd cystal deiliaid o'r wladwriaeth a hwy- thau. Ni fuasai y rhithyn lleiaf o esgus gan y frawdoliaeth leygol filwriaethus a nodwyd tros wneud y cyfryw gynygiad, ond fod annhegwch cyffelyb wedi ei gyf- lawni gan y Llywodraeth bresenol o'r blaen, sef pasio yr hyn a elwir yn Weith- red y Dreth Amaethyddol, trwy yr hyn y cafodd tir-berchenogion wared o ran fawr o'u trethi. Gwrthwynebodd Canghellydd y Drysor- fa y cais yn egniol. Nid oedd ei dasg yn un hawdd. Gwesgid ef o'r ddwy ochr. Os ssmwythawyd baich y tirfeddianwr, paham y gwrthodid yr un peth i'r clerigwr ? os I gwrthodid y clerigwr, paham na wrthodasid hefyd y tirfeddianwr ? ac os caniateid y ddau, paham na chaniateid i bob dosbarth? Felly gwaith Syr Hicks-Beach oedd rhoi vspryriion i lawr a gododd ef ei hun ychydig fisoedd yn ol. Os gall y clerigwyr faddeu iddo, a pheidio dial arno y cyfie cyntaf, haeddant glod dauddyblyg. Tra yn beirn- iadu annghysondeb Syr Hicks yn llym, ac yn dweyd fod pob dadl a ddefnyddiodd yn erbyn y cynygiad yr un mor gymhwys yn erbyn yr Agricultural Rating Act, yr oedd efe yn naturiol amgefnogi'r Llywodr- aeth i wrthod y cais hwn, a'i wrthod a gafodd, ar ol i'w hyrwyddwr wneud cais i'w dynu'n ol, a chyda'r mwyafrif arwydd- ocaol 0215 yn erbyn 27. Yr un noson, galwodd Syr Charles Dilke sylw y Senedd at waith y Llywodraeth yn gostwng y trethi yn y Gyllideb ddiweddar, gan gyfeirio yn benaf at y doll ar fyglys, tra yn ol ei geiriad hi yr oedd arni angen mor fawr am arian i chwanegu at a chad- arnhau y fyddin a'r llynges. Cafodd Syr William Harcourt gyfle drachetn i ddat- guddio gwastraff ac afradlonedd y Wein- yddiaeth, a'r ddawn arbenig a fedd i wario arian y cyhoedd Y mae un o newyddiad- uron tecaf Llundain wedi tablu cwyn Syr William yn y dull canlynol :— RHYDDFRYDWYR. RHYDDFRYDWYR. 1892-'3 99,750,000p n ( 1893-'4 99,250,000p. 1894-o 101,750,000p. J TORIAID. 1895 '6 107,250,OOOp. ] n t 1896'7 111,500,00. )p. Lw nnnnAn 1897-'8 117,000,OOOp. ) 112>000>000P- Gwelir fod y cynydd yn rheolaidd, ac nad oes i'w ddisgwyl yn y blynyddau sydd o'n blaen ond ei gyffelyb. Cododd y treul- iau, mae'n wir, tan y Rhyddfrydwyr, ddwy filiwn mewn tair blynedd, Yn yr un am- ser cynyddodd tan y Toriaid tros bymtheng miliwn ac i ba ddyben ? i iro yr hwch dew, ar lun gwaddoli tir-berchenogion gar- tref ar y naill law ac i herian, yn hytrach na dim arall, hefo tramoriaid. Canys y mae'n gwbl ddealladwy erbyn hyn os arf- oga un gallu y bydd i alluoedd eraill ei efelychu yn ebrwydd.
--0-""----GREFYDD YN EIN SEMEDO-BAt
--0- GREFYDD YN EIN SEMEDO-BAt ANFYNYCH yn ein dyddiau ni y clywir llawer o son am grefydd yn Senedd-dai ein gwlad. Ar adegau, cyfyd dadleuon brwd o barthed i allanolion y gwahanol enwadau crefyddol, yn enwedig eiddo yr Eglwys Sef- ydledig ond amheuthyn iawn yw clywed cyfeiriad at grefydd yn ei hagweddau per- sonol ac ysbrydol. A phan yr anturia un o'r Seneddwyr groesi drosodd i dir mwy cysegredig, fel rheol derbyniad gwamal a choeglyd a roddir i'w sylwadau. Mwy cydnaws ag anianawd y ddau D.t ydyw gwrando ar ambell wawdeb neu ysmaldod, lie byddo crefydd bersonol yn y cwestiwn, yn hytrach na geiriau sobrwydd a difrifweh. Ond yn awr a phryd arall, er hyny, ac weithiau yn dra annisgwyliadwy, digwydda rhywbeth, fel mellten o'r glesni, a deifl oleuni gwah:tnol iawn ar wir gymeriad corph ein Seneddwyr. Gyda'u holl hoffder o ddonioldeb ac arabedd, odditan eu difyr- wch mewn rhedegfeydd a chwareuon, y mae'n gorwedd haen ddofn o barchedigaeth a chrefyddoldeb yspryd. Os nad yw ein Senedd-dai yn bleidiol i areithiau crefyddol, y maent yn gyfTym iawn i adnabod a gwerthfawrogi cymeriad crefyddol. Nid oes yr un cylch o fewn y deyrnas lie yr hawlia boneddigeiddrwydd y gwir gristion sicrach gwarogaeth ac anrhyd- edd. Dangoswyd hyn mewn modd nodedig yn mywyd, ac yn fwy fyth ar farwolaeth Mr Gladstone. Ac i fesur mawr, i'w ddy- lanwad ef yr ydym yn ddyledus am y ffaith y cyfeiriwn ati, sef y parch a delir yn nghylchoedd uchaf y Llywodraeth i gymer- iad pur a chrefyddol. Pwy all ddweyd gymaint a wnaed ganddo i ddyrchafu moes- oldeb a duwioldeb yn ngolwg mawrion ein tir? Ac ar ei ymadawiad, y fath arddang- osiad digyffelyb a wnaed o barchus gydnab- yddiaeth i ragoroldeb ei gymeriad Er mor fawr ac er mor enwog, ei ogoniant penaf ydoedd ei gymeriad ac er's wyth- nosau bellach, y mae penaduriaid a phen- defigion gwledydd Ewrop yn ymryson i blygu eu penau ar lan ei fedd. Pa deitl, pa gyfoeth, a pha safle mewn bod a allasai hawlio y fath barch ag a delir iddo ef yn awr ? Ac fel yr addefir gan bob plaid a dosbarth, yr oedd nerth a phrydferthwch ei gymeriad yn codi o ddyfnder ei argyhoedd- iadau crefyddol. Pwy a wyr beth fydd dylanwad ei goffa- dwriaeth yn awr ar ol iddo ymadael ? Ceir awgrymiadau o ami gyfeiriad fod dylanwad ei esiampl yn ei fywyd a'i farwolaeth yn foddion i ddeffro meddyliau dwysion mewn llawer mynwes. Nid yw yn debyg yr an- nghofia neb o gyfeillion personol Mr Glad- stone, yn enwedig y rhai a gawsant y fraint o'i weled yn ei ddyddiau olaf pan yn croe y dyffryn-nid yw yn debyg yr annghofiant byth y gwroldeb a'r hunanfeddiant tangnef- eddus a'i nodweddai. A golygfa ardderchog ydoedd diwedd ymarweddiad y gwron o Benarddlag. Y mwyaf o feibion y ganrif, y disgleiriaf a'r lluosocaf ei dalentau, y gwr ag y mae ei enw wedi ei gymhlethu a thra- ddodiadau enwocaf Prydain Fawr—hwnw, ar ol oes lafurfawr, ac mewn henaint teg, yn ffarwelio a Lloegr ac a'r ddaear, ac yn gwynebu yr anweledig mawr, yn cerdded yn mlaen mewn perffaith dawelwch, gan adrodd ac ail adrodd emynau o fawl i'r Bod Goruchaf. Y mae acenion ei hoff benillion yn parhau i adsain yn nghlmtial1 miloedd erys yr adgofion am dano am ganrifoedd lawer i ymdroi o amgylch ei hen gastell, ac yn fwy fyth o amgylch Ty'r Cyffredin yn Llundain. A thybed na fydd eu presenol- deb, i ryw fesur, yn foddion i ddifrifoli ac i grefyddoli Seneddwyr y dyfodol ? Heddwch i'w lweh. W.
-:0:-CWRS Y BYD
-:0:- CWRS Y BYD Y Rhyfel.. w MAE dau neu dri o'u darlleawyr wedi ysgrifenu i ofyn panti na fyddai chwaneg o hanes y Rhyfel yn y Cymro ? Mae llawer o'r ymladdgar yn y goreu o ddynion ac y mae'n anhawdd i ddyn gyrhaedd tir ddigon uchel mewn bywyd, fel y gall beidio troi i edrych ar fatel, hyd yn nod rhwng dau gi neu ddau geili-g, llawer llai dau ddyn, beb ymwasgu at y dorf fyddo'n edrych arnynfe ac yn mwynhau yr olygfa. Ond nid oes fodd ini, a thalu rhyw rithyn o barch i eirwir- edd, ysgrifenu hanes y Rhyfel. am y rheswm mawr nad oes dim rhyfel er's wythnosau ondyn ngholofnau papyrau newyddion y gwledydd, a rhai'r America yn benaf. Pe gallesirl troi yn llaith bobpeth a ddywedwyd yn y pyre nwddion, buasai haner y ddynoliaeth wedi ei husgubo i ddiddymdra erbyn hyn, ond diolcb, celwydd ydyw'r stori bron i gyd-o ddau ddrwg, dewis y lleiaf. Rhyw ryfel ydyw hon gyffelyb i ym- ryson rhwng tarw a gwybedyn mae'r trych- filyn bychan adeiniog yn gallu poeni ei elyn, a gwneud iddo ruo a chornbriddo'n echrydus, ond ni fedr ya ei fyw gael hyd iddo—mae'r gwybedyn yma, mae'r gwybedyn acw, yn ei gynddeiriogi, a'r tarw Americanaidd yn mothu cael gafael arno, ond pan gaiff, gwae ef. Wedi ysgrifenu'r uchod, ba brwydr neu ddwy. Gweler yr hanes mewn colofn arall. Priodas Mr. Ellis. MAE llawer blwyddyn er pan gymerodd priodas Gymreig le ag y teimlid cymaint dyddordeb ynddi a phriodas prif helsmon y blaid Rydd- frydol a Miss Davies Cwrt Mawr. Mae pawb yn gwybod am ddoniau poblogaidd y priodfab, fel mai derbyn wyneb fyddai eu nodi, ond er rhag- ored Cynlas, y mae ei briod yn gwbl deilwng gymhar iddo. Y mae Mrs Ellis yn hanu o deulu clodfawr, a hithau ya aelod anrhydeddus o'r teulu hwnw. Y Charlesiaid, a Peter Williams yr esboniwr yn mysg yr hynaf- iaid David [Charles Davies yn ewythr iddi frawd ei thad, a Dr Roberts, Caergrawnt, yn gefnder iddi o waed coch cyfa, tra y credaf nad oes undyn byw a wyr fwy am lyfrau a llawys- grifau Cymreig a'i brawd,Mr J. H. Davies,Cwrt Mawr. Am y pwyddion, ni welais erioed ddim byd yn debyg iddynt, a rbaid eu bod yu y cyfanswm yn cyrhaedd yn rhywle o bymtheg i ugain mil o bunau ac y maent yn ddangosiad o ewyllys da bonedd a gwreng. Hir oes a phob dedwyddyd i'w mwynhau i'r pâr dedwydd. Hen Awiwyr y "Traethodydd." Y MAE tri yn fyw y ceir eu gwaith yn y Traeth- odydd belled yn ol ag 1850, sef y Parchn Canon Silvan Evans W. Williams, Abertawe a Dr Griffith Parry, Carno. Nid oes yr un o ysgrif- enwyr 1851 yn aros, nac ond un o'r eiddo 1852, sef y Parch Daniel Rowlands, y golygydd hyglod presenol. Yn 1853, ceir erthyglau o waith Canon Silvan Evans, Daniel Rowlands a Rhys Gwesyn Jones (yctau yn fyw ac iach gobeithio) yn ymyl eu gilydd. Yn 1854, ceir erthyglau eto gan y tri uchod, a chan R. J. Derfel a'r Parch D. Griffith, Dolgellau, yr unig ddau heblaw hwy sydd wedi goroesi hyd yn hyn o Draethodwyr y flwyddyn hono. Nid bodau byrhoedlog, a barnu oddlwrth yr uchod, ydyw llenorion Cymru. Yr oedd pump ohonynt yn byw o fewn deng mlynedd yn ol o fewn ychydig filldiroedd i Gonwy, a'u hoedran cydrhyngddynt yn mhell dros bedwar cant, sef S. a J. R., Gwalchmai, y Parch Owen Jones (Meudwy Mon), a Chlwydfardd. Natur a'r cnydau, NID oes undyn yn cofio y wlad yn edrych mor ardderchog ag ydoedd ddiwedd yr wythnos ddiweddaf ar ol y gwlaw mawr ag y tybiem ni yn y trefydd yma fuasai wedi ei difetha. Cawsom fis Mai annghyffredin 0 wlyb, ond ymddenys fod ffrwythlonedd yr ardd a'r berllan wedi ei oroesi. Golwg go anwastad sydd ar y gwenith mewn llawer man, a thipyn ar ol ydyw'r ydau eraill. Galw mawr am wres sydd-pythefnos neu fis o wres a roadai'r delyn mewn cywair—a besgai'r anifeiliaid, a roddai dwf yn y enwd fu'n di- hoeai, ac a barai i'r perllaaydd lawenychu. Ni fu er's blynyddau y fatb gnwd o eirin Mair neu gwsberins, fel y gelwir y grawn danteithiol mewn rhai manau ac y mae afalau hefyd yn lluosog, er mai digon egwan ydyw yr eirin. Ys gwn i syt mae'r eirin perthi (sloes) yn dwad yn mlaen, fy nghyfaill Elis Pirs ? Rhaid eich bod chwi, syr, yn cael ami i ddysgliad ohonynt.