Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
--Yn nghwmni Natuir a'i Phlant.
Yn nghwmni Natuir a'i Phlant. Y MAE cryn amser bellach. er pan ymddangosodd dim o din y penawd uchod yn ngbolofnau'r Oymro, ac yr wyf yn deall fod rhai yn holi beth sydd wedi dod o Was y Gog. Nid hawdd denu un allan i'r meusydd a'r cotd yn ystod misoedd y gauaf, ond pan ddaw dydd y ffolanttiu gellir disgwyl gweled yr adar yn dechreu cvmharu, os bydd yr hin yn tfafriol, a rhai ohonynt, fel y brain, yn talu ymwclifid a'u hen nythod a'u hadgyweirio, cs wedi eu gadael gan wyntoedd y gauaf. Maent wrthi n brysur yr wythr;os hon yn cirio brigau at nyth newydd neu adgywe:riad yr hen. Y cyntaf o'r holl adar i ddodwy ydyw y Brain, sc o'r Brain y Gigfran, ac mae'r pSr a nythsnt bob blwyddyn nwehbtn llyn yr Arenig wedi clechreu er's dydd au, a chanddynt wyau erbyn hyn yn y nyth Clywais neu darllenais fed v 'Deryn Du wedi nythu mewn rhyw ran o'r wlad, a bod nyth y Drudwy wedi ei gael a. rhai bach ynddo. Cynar iawn yw hyn, ac eithriadol yn hanes y Drudwy, a doethach fuasai iddynt aros ychvdig. Ofnaf na lwyddant i fagu'r cywion trwy dywydd gerwin y dyddiau hyn. Rhew ac eira mewn rhai maca' fel y dy,, ed Roberts, Caergybi, ydyw hanes yr aythn, s a basiodd, a llawn mor debyg mai tywydd caled geir eto yn mis Mawrtb. D.rlleoais yn y Daily Mail fod rhywun wedi clywed fy meistres, y Gog, yn nghymydogaeth Hampstead Heath ac yn y Guardian am ddydd Llun, ysgrifena un arall iddo'i chlywed ger y dref bono. Os yw troaodd, rbyfedd na fuasai rhai ohonom ni yn y wlad wedi ei chlywed. Ymddengys ei bod ya fwy hotf o gymydogaeth tre na'r wlad. Ond gan nas gwelwyd gan y cyfeillicn hyn, ofnaf na dderbvnir eu tystiolaeth. Haws credu mai dynwarediad ojeiddo bacbgen direidos a dwyllodd y brodyr hyn. Lhis y Gog yw'r tebycaf i eiddo dyn yn mhlith yr adar. Dyma restr o'r llysiau a'r blodiu darluniau o'r rhai sydd yn Ysgol y Bwrdd. Abermiw :— Snowdrop Periwinkle Stag-shorn Ivy leaved Toad Flax Holly Ivy Hawthorn Hawthorn Berries Wild Rose Clorze Spindle Privet Myrtle Violet Herb Robert Speedwell Pirn pern ell Knee Holly Mosses White Violet Jasmine Groundsell Carline Tiii-tle Mallow Hare's foot Tre- foil Heather Sneezeworfc Betonv Toad Flax Rest Harrow Wild Thyme Bog Heath Yarrow Wild Marjoram Knapweed Small Celandine Dandelion Cinquefoil Hazel Catkins Daisy Broom Willow (Sallow) Daffodil Primrose Coltsfoot Greater Stitch- wort Thale Cress Wood Sorrel Blackthorn Wood Anemone Kmg Cap Wild Violet Cowslip Scurvy Grass Ground Ivy Woodruff Bugle rbrift Ve-tch Soapwort Scabious Convolvulus Golden Rod Blackberry Ragwort Wild Mint lor CD en til Woundwort Lesser Spearwor Heath F umitory Bird's foot Trefoil Wild Hyacintll Globe Flower Lesser Trefoil Winter Cress Clover Bog Bean Shepherd's Purse Buttercup Red Campion Wild Garlic Sheep's Bit Yellow Vetch Crane's Bill Wild Strawberry Ragged Robin Orchis Tufted Vetch Butterfly Orchis Lady's Finger Lady's Bedstraw Bog Asphodel Burnet Rose Nipplewort Chamomile Purple Lometrif e Cotonea,ter Ye'v Hips or Haws Harebell Orpine Hawkweed Mimulus t Fool's Parsley Yr ydym wedi pauderfynu ychwanegu at yr uchor1 enw Cy ^raeg pob un ellir ei gael, ac am wa, hodd help darllsnwyr y Cymro. Dylid eg'Ht.i efallai mai rhodd wertf fawr yw'r uchod—dirluniau mewn oiew o'r rhan fwyaf o lys iau a bodau'r gymydogaeth. gwaith Mr. Hewins, arlunydd lleol, wedi eu cyflwyno i'r ysgolion gan Mrs. Tolbot. Gwerthfawrogir y rhodd yn fawr, ond teimlir na. bydd yn gyflawn heb yr enwau Cyinraeg, cystal a'r Saesneg, yn argraphedig ar- nynt. Pwy o blith eich darllenwyr a rydd help gyda hyn ? GWAS Y GOG.
-0-Cohebiaethau.
-0- Cohebiaethau. AWDWR "CATHL Y GAIR MWYS." SYR,—Yr wyf yn dilyn yr ohebiaeth yn nglyn ag awduraeth y gathl uchod gyda chryn ddyddor- deb, ond hyd yn hyn yr wyf yn methu a phender- fynu pwy oedd yr awdwr. Feal:ai y bvdd y ffaith ganlynol o ryw gymhorth. Yn ol "Foster's Al- umni Oxoniensis," ganwyd un Peter Lewis, mab Stephen Lewis. Gwydderwern, air Feirionydd, yn y flwyddyn 1652, ac aeth i Rydychen yn 1672, ond nid ymddengys iddo gael ei ordeinio. Buasai'r gwr yma yn 54 pan gyfausoddwyd y gerdd, ac nid yw'n anmliosibl neu yn anhvgoel fod parchedig wr o'r oedran yna wedi cyfansoddi'r fath gerdd eto buaeai'n haws genyf gredu mal gwr ieuanc oedd ei bawdwr. Ond i droi at resymau Henafgwr." Nid wyf fi, rhaid cyfaddef, yn gweled llawer o rym yn- ddynt. Er esiampl. dyfynir o Eiriadur Thomas Richards i brofi fod y faih wr wedi gwasanaethu fel curad yn Ngherygydrudion end os troir i'r ar- graphiad cyntaf o'r Geiriadur a gyhoeddwyd yn 1753, gwelir nad yw ei enw i'w gael yn hwnw. Yn ddiau, awdurdod golygydd v trydydd argraphiad dros reddi ei enw i mewn oedd y Blodeugerdd," a buaswn yn tueddu gredu mai dyna hefyd oedd awdurdod hen bobl Cerygydrudion 60 mlynedd yn oi drcs ddweyd mai "y Parchedig Peter oedd ei hawdwr. 5f mae pwvnt arall yn llythyr "Henafgwr" sydd wedi peri cryn ddifyrweh i mi, a hyny yw el dyetiolaeth i gymeriad ardderchog Dewi Fardd. Pe buasai "Henafgwr" wedi darllen rhai o'i geidli annghyhoeddedig, ni fuasai yo ei alw yn wr crefyddol a pha buassi wedi darllen rhai o'i lyth- yrau, ni lu <sai yn ei alw )n ddiysmala." Y mae'n bawdd ddigon genyf gredu tystiolaeth Taliesin Hiraethog, ond ar yr un pryd nis gellir diorseddu'r Parchedig Peter Lewis heb rywbeth mwy pendant. Tybed ai nid Lewys Morys o Fon oedd ei hawd- wr? Yn sicr, y mae tine Llywelyn Ddu yn- ddi. Yr oedd ef a Dafydd Jones ar delerau pur gyfeillgar, er ei fod ar amgylchiadau yn ysgrifenu yn chwerw ddigon am dano. Yn 1759, pan gyhoeddwyd y gerdd gynta", yr oedd Lewys Morya yn ddyn o safle pur uchel, ac ni hoff- asai weled ei enw wrth y fath ganig-ac yr oedd ym,ra;g a lion d ty o blant ganddo befyd. A phwy a W) r nad efe fathodd yr enw y Parchedig Mr. Peter Lewis, Cerygydrudion," er mwyn dipvn o ddigtifwch i'w ysbryd celhveirus tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ? LLUNDEINIWR.
LLEFERYDD Y CERYG.
LLEFERYDD Y CERYG. SYR,—Dichon nad annyddorol gan eich darllen- wyr fyddai a ganlyn o wahanol fynwentydd. De- chretiaf gyda nivn,,vent Gl-n'rafon, Mon. Diau y gwyr amryw o'ch darllenwyr am y mangreoedd, a'u bod wedi ceisio dyfalu lawer gwaith beth allai y brawddegau estronol byn fod. Ar hen fedd o Baeu drws capel Glan'rafon gwelir y frawddeg Ladin hon :— Mors janua vitae. J (Marwolaeth yw porth bywyd.) Ar gareg tucefn i'r cape), ceir y ddau ddarn adcod hyn — Suatolatus est Dominus vere. (Cyfododd yr Arglwycld yn wir.) Ultimus autem hosfeis aboletur mors. (Y gelyn diweddaf a ddiddymir fydd angau.) Wrth daleen y capel v dd y adnod ganiynol, y naill yn Lladin a'r 11^11 yn Ffraccieg 1. Ne hoc miramini nam veniet hora, qua omnes qui in monumentio sunt audient vocein ejus. 2. Et ils sortiront: Savoir, ceux qui auront bien fait, en ressurection de vie et ceux qui auront mal fait, en ressurection de condamnation. Gan nad ydynt yn hollol yr un fath ag yn y Tes- tament Cymraeg, c-iniataer i lieu cyficithu 1. Na ryfeddwch am hyn, canys mae'r awr yn dy- fod ar yr hon y clyw pawl) ar sydd yn eu beddau ei lais ef. 2. A hwy a ddeuant allan sef, y rhai a wnaethant dda, i adgyfodiad bywyd a'r rhai a wnaethant ddrwg, i adgvfodiad condemniad. D}na'r cdu a welais yn Ng'an'rai'on. Yn myú- went Llanbeblig, ceir y llmeilau hyn 1. Maerentes lapidem parvnm posuere parentes Qua sobolis carae pars peritura jacet, Eheu flos subito quamvis bit raptus in urnqras, Spiret in aeterno tempore amoenus odor Haud opus est pompa virit post funera virtus O pietatis honos sancta puella vale. M.S. Mariae 2. Filiae majoris natu superstitis Gulielmi Hardwicke et Charlotte ejus uxoris Apud Brugiam in agro Salopiensi, Obiti die Julii vicessimo qninto, MDCCCXXXIX. iEcat 32. Cyfieithf t rhif 1 "dan ganu," fel hyn-bron yn ilythyrenoi hefyd Rhowd y gareg feer an yma Gan rieni galar lawn, Lie gorwedda rhan o'u plentyn Hoff a bydra'n ebrwydd iawn. Er i'r blod'yn gael ei aipio I gysgodion angau du, Deil ei sawrus berarogledd Am ryw oesoedd maith diri'. Nid oes angen rhwysg angladdol— Y mae rhinwedd byth yn fyw O brvdferthwch duwiolfrydedd Ffarwel bellach, eneth wiw Neu gall p'etatis olygu anwyldeb a pharch yr eneth i'w thiani. Felly aarllenai y drydodd liiiell, 0 ogoniant mabaidd gariad. Ystyr jr ail yw y Cysegredig i goffadwriaeth Mary, Merch hynaf oroesedig William Hardwicke a'i wraig, Ger Bridgenortb, yn yr Amwythig, Bu farw y pumed dydd ar hugain o Orphenaf, 1839. Oedran 32. Golyga'r alsodclair "majoris" mai yr hynaf o ddwy oedd Mary, a superstWo" mai hi oedd yr olaf, neu yr aro"edig (surviving). Os yn dderbyniol, antonaf i chwi ychydig o farddoniaeth y beddfeini-rai ohonynt yn hynod iawn. Seacombe. R. M. PRICHARD.
Trysor Cuddiedig yn Mhorthdinorwic.
Trysor Cuddiedig yn Mhorthdinorwic. CAED hyd i dryaor cuddiedig yn Mhorthdinorw g yr wythnos ddiweddaf. Gorfodwyd Miss Williams, fu gynt ya ysgolfeistrts yn Nghaernarfon, i ymad- ael o'i hanedd, oherwydd ei fod yn ana(ldas i fyw ynddo. Tra'n symud hen goffr derw du, a fu'n eiddo'r teulu am genedlaethau, daeth dror yn rhydd, svrthiodd ei gwaelod, a chafwyd hvd i dri cbod. Yn un yr oedd agos i ganpunt mewn aur, yr oedd y Hall yn llawn o ddainau pum' swllt, a deiw Sior III. a-nynt, a'r trydydd yn llawn o ddarnau chwech a tluir ceiniogau. Credir mai un o hynafiaid Miss Williams a guddiodd y trysor, gan na wyddai hi ddim o gwbl am dano.
-0--Cymraes yn liadrata Sofren.
-0-- Cymraes yn liadrata Sofren. GERBROV ynsdon L aneurgain, ddydd Iau, cyhudd- wyd Ann Amos, Helygain, o ladrata sofren, eiddo dyn o'r eaw John Jones. Gofynwyd i'r ferch fvned i newid y sofren, a chan na ddychwelodd ey- merwyd hi i'r ddalfa.—Euogbrofwyd hi, a chafodd ei dirwyo i 25s., neu bythefnos o garchar.
Eisteddfod yn Liundain.
Eisteddfod yn Liundain. CYNALIWYD Eisteddfod ddydd Iliu yn y Queen's Hail, Llundain, Mr Perks, A.S., yn y gadair. Y beirniaid oeddynt Proff. J. E Lloyd, M.A., Parchn W. Ryle Davies (lien), Signor Randegger a Mr D. Jenkins, Mus. Bac. (cerddoriaeth), a Mri Cat ring- ton Willes a Tudor Rhys (adroddiadau) Enillwyd y gadair am bryddest ar Unigedd Crist," gan Bryfdir, Ffestiniog. Cor Falmouth Road enillodd y 30p am gatiu Put off, 0 Jerusalem." Yn nghystadleuaeth y corau meibion, enillwyd gan gor Cymreig King's Cross. _n_
Advertising
v- Ddydd Mercber, gwerthwyd Plastiiion, Pwllheli, i Capt. David Williams, y cyn-faer, am 550p. a ifarm y Ffridd i Mr. W. Jones, Gwestty'r Eifi, am 350p. TO BORROWERS AND INVESTORS.-THE PRUDENTIAL BANK OF LONDON, Capital £ 150,000, advances money promptly upon Bills of Exchange, Promissory Notes and other Securities. CASH RECEIVED ON DEPOSIT, at from 6 TO 10 PER CENT. PER ANNUM. according to period, interest payable monthly or quarterly. Write for Prospectus, Edwin Lee, General Manager, Finsbury Circus Building?, London, E.C. A ydych vn vmofyn am unrhyw LYFRAD t Hysbysebwch yn Y Cymro. 18 gair am 6ch.
i Diangfa gyfyng Cymro o Lerpwi…
Diangfa gyfyng Cymro o Lerpwi yn ¡ Coolgardie- LLADRON PENPFORDD YIST YMOSOD ARNO. YMDDANGOSODD yr hacesyn cyffrous canlynol yn y Goolgardie and Goldjieids Chronicle. Mab yw Mr. William Hughes i Capten Hughes, 14 Kimberley Street, Lerpwi. Yn eglwys Princes Road y mag- wyd ef, a ba yn ngwasmaeth ffirm y Mri David Roberts & Co., coed-fasaachwyr. Gadawodd Ler- pwi i fyned i'r meusydd aur ya Coolgardie oddeutu dwy flynedd yn ol, ac fel y gwelir oddiwrth yr hanes, y mse'a awr yn rheolwr Cwmni'r "African Gold Recovery." Dyma'r hanesyn fel ei ceir yn y papyr a nodwyd :— Parodd y troseddiu gyflawnwyd ddydd LIun i'r cyhoedd gyffcoi yn ddirfawr ond y mae cynifer o erchyllderau wedi dilyn eu gilydd nes peri'r anes- mwythvd mwyaf, ac y mae'r sefyllfa yn aanyoddef- ol. Nid yw dal amryw greuloniaid rhyfygus, cosbi un er esiampl i'r lleiU, carcharu un llofrudd, na defFtoad y cyhoedd a'r hcddweis i'r angenrhaid o arfer y mesurau llymaf, yn ddigonol i ddruostwng y troseddwyr sy'n heigio'r axdal. Yn lie encilio, mae'r giwaid hyn yn rhyfygu mwy, a'u dull o geisig) meddianu eiddo na pherthyn iddynt gyda'r mwyaf be ddgar fu mewn gweithrediad erioed. Yr oedd y lleiddiaid fu'n cyniwair drwy'r meusydd aur pan ddarganfyddwyd hwy gyntaf yn llai bwystfilaidd na'r adynod sydd yn cyffroi yr ardal hon yu awr. D^ngoswyd mor beryglus yw i ddyn ymdeithio ei hunan mewo unrhyw ran o'r dref y dyddiau hyn gan amgylohiad a ddigwyddodd ceithiwr, pan gy- fariu Mr William Hughes, rheolwr Cwmoi yr African Gold Recovery," diaesydd tra adnabydd- us a phoblogaidd, 4 chyfwng a ddiohon ddod i ran unrhyw un yn yr ardal mewn unrhyw lear unrhyw adeg os na fabwysiedir y mesara.u llymaf i ddaros- twng a chosbi y lladron a'r lleiddiaid penffordd sy'n ton ar hedd y trigolion. N;d oedd y llecyn ddewisodd y giwaid i gyflawni eu gwaith erchyll yn rhyw unig iawn, er ei fod ar gwr y dref. Cylchynir y llecyn ag aaedd dai, ac yr oedd yn amlwg i unrhyw un a ddigwyddai basio y flordd hono. Cymerodd yr amgyiohtad cyffrous le oddeutu deg o'r gloch y nos. Ar yr awr hono, c rddai Mr Hughes ar hyd Forrest Street, yn nghy- feiriad rhan orilewinol y Toorak, lie y bwriadai ymweled a chyfeillion Pan yn myned heibio'r maes adloniant, ac yn neshau at derfynau'r dief, He nad oes goleuni t ydanol, yn ddisymwth gwyneb- wyd Mr Hughes gan ddyn, yr hwn a ddywedodd wrtho, Rhowch eich dwylaw i fynu Rhoed y gorchymyn mer ddiatreg, ac ymdcangosai'r adyn mor fiieinig, fel yr ufuddhaodd y Cymro ieuanc ya d lioed. Pan yn codi ei diwylaw, canfu adyn arall ar ben y clawdd a wahanai'r maes adloniant oddi- wrth yr heol. Gynted ag y gwelodd yr adyn hwn lygad Mr Hughes arno,ymgudd:odd tu ol i'r clawdd. Gyda phresanoldeb meddwl anhygoel bron, dych- mygodd Mr Hughes ddyfais i daflu ei wrthwyneb- ydd oddiar ei wyliadwriaeth ac, fel pe n siarad â chyfeillion gerllaw, llefodd. "Hèlo! 'drychwch allan. Ll-yddodd yn ei amean, obi gyd trodd yr ymosodydd i edrych pwy cedd vno, a thra y gwnel- ai hyny, tynodd Mr Hughes ei strap i edr, a chyn i'r adyn sylwi curodd ef yn eg a: el draws ei ben gyd'r strap. Yr oedd y lleidr, fodd bynag, wedi ymarfogi a chyda chv flymder a ddysgodd prcfiid iddo'n ddiau, tynodd lawddryll allan a thitiiodd Aeth y fAled trwy lawes côb Mr Hughes, gan gs ff'-vrdd ei fraich aswy gerllaw ei beuelin, ond nid oedd yr archoll yn:ddiftifol, Gan dybio mai an- nyor>el fyddai aros yn y lie ar ol gollwng yr ergyd, ttodd y deidr ar ei sawdl, aeth dros y clawdd i'r maes a iloniant, a diflanodd. Yna dychwelodd Mr Hughes i'r drtf. Oherwydd tywyllwch y He, a sydynrvvydd yr ymos jdiad, nid yw Mr Hughes yn abl i roi des- grifiad o'r adyu. Nid oes amheua.eth nad yspeilio oedd yr amcan ond trwy wroldeb a phreserioldeb meddwl Mr Hughes, cafcdd y lleidr ei siomi. Pe amgen, gallasai llofruddiaeth arall fod wedi cymer- yd lie, ac y mae Mr Hughes i'w gyrnera(I-yo am ei wroldeb a'i longyfarch am ei ddiangfa gyfyng. o
Gwrelohlon.
Gwrelohlon. IT HEN chwyrnwr ofnadwy yw gwr Fronheulog, ac un noson yr oedd yn aros yn y ty gerddor plir alluog, ac ehe'r cerddor bore drancetb, Pam na nevvch chi chwrnu yn yr un key ? Yr ydych yn codi o'r B fflat i'r G, ac mae'n dyfetha'r miwsig." "Dewch d(lo." atebai'r chwrnwr, yn dallt yr er- gyd, ac yn hoffi chwareu ar ei watwareg, Y mae hyny'n fwy nag a fedrwch chi neud hefo'ch tip5 n lib is." IT Wsnos yn ol fe ddydsoeh wrtha i na naech chi d;litn bod yn wraig i mi, yn do ?" ebe carwr cydwybodol wrth y ferch a garai. "Do," ebe hi- thau, mor gydwybodol ag yntau, pryd y cafodd sytw pellach gan y cynygiwr a'i dychrynodd yn mron i ffitiau, Wei, y mae genyf l'ch hysbysn erbvn wscos i heno fe fyddwch yn ferch i mi-yr w) f yn myn'd i briodi eich mam." H Fe ddywedodd gwr y Frwynen brofiad llawer o ben bobl, ar ol y gauaf agored a gawsom, pan ofynodd y meddyg iddo ar yr heol, Sut yr ydecb chi, Tomos Evans ?" pryd yr atebodd yntau, "Rhw bethma iawn, Doctor—rhw gwtsio yn y ty, a rhw glwc-ian, a theimlo'n rhy sal i deimlo'n siouc, a rhy lach i alw'r doctor-rhw deimlo'n hwnw 'ma, wir ryden ni." Drwg iawn, wir," ychwanegai'r meddyg, yn dro yr elo hi." If Y mae'n ofidus meddwl am yr holl ddynion enwog sydd wedi maiw'n ddiweddar," ebe'r diacon wrth y pregethwr y dydd o'r blaen, pan yn son am gewn'r pw pud sydd wedi cefnu pryd y rhoes y pregethwr ochenaid drom, ac a ddywedodd, fel py buas .i yn ei feddwl, Reit wir Tydw ine ddim baaer iach." If Gofynwy d i Ianci y dydd o'r blaen beth oedd i'w feddwl wrth yr hen ddiareb myn'd o ddrwg i waeth," pryd yr atebodd yntau, Priodi yr ail waith." 1T Yn ol y raddeg yna, tydyw dyn ddim yn e gorpben hi nes y bydd wedi priodi y drydedd waith. Fel rheol, mae'n priodi'r byd' yn nghyntaf, yna'r I ciiawd,' ac wedi hyny y cyth raul, ebe Nathan, as y mae ef, yn gyffredin, ar gefn y gwir. If Yr oedd Mrs. Rogers wedi cael morwyn new ydd o'r wlad, a'r trydydd boreu ar ol iddi ddod i'w He newydd, fe stoptodd Mary y cloe larwm oedd yn ei hystafell wely, a'r boreu canlynol gofynodd ei me'st' es, yn bur grabet," Mary, pam yr oedd- Ih vn ar, p o'r doc sydd yn ycb r&m?" Wel, mam, yr oedd y peth gwirion yn cael rhyw fath o tlit bob bore, jist pan oedd gen i fwya^oisio cytgu, e he Mary, yn edrych yn ddigon milain y gallasai ei luchio na welai neb bylh mono. If Jehn, yr ydych yma er's llawer blwyddyn bellach, mae'n debyg y gallwch wneud pregeth er. byn hyn," ebe boneddwr ar ymweliad wrth was y person. Na fedra wir, syr, ddim gneud pregeth, ond hwrach y gallwn i dynu c&sgliad," atebai John. "W el, pa gasgliad dyaech chwi o'r testyn yma, John—' Yr asen wvllt a sniffia'r gwynt wrth ei phleser ?' ac atebodcl y gwas mewn chwinciad, Mi allwn dynu'r casgliad yma, syr, mi fydde yn rhaid iddi snyffio yn bur hir cyn yr ai hi yn dew aroo. If Wrth geisio argyhoeddi dyn ei fod yn bechad- ur, ceisiai'r gweinidog argraphu ar ei feddwl y pwys iddo ofyn am faddeuant, ond ni welai yr hen glocsiwr hyny o gwbl. Rhaid eich bod yn ystod eich bywyd hir wedi pechu," ychwanegai'r pre- gethwr, "ac beblaw byny yr ydych yn gyfranog o'r pechod gwreiddio! Be di hwnw?" gofynai y clocsiwr. Pechod Adda, ein tad ni oil, ac mae yr hil ddynol oil yn gyfranog ohono," gan feddwl ei fod wedi ei gael i gornel o'r diwadd, ond synwyd ef pan ddywedodd y clocsiwr, 0 'ruwd, tydi hyny ddim llawer rhwng pawb CYFARWYDD.
--0--Ethcliadau.
--0-- Ethcliadau. CRICKLADE, SWYDD WILTS. CYMERODD yr etholiad hwn, achlysarwyd gan ym- neillduad y Proff. Hopkinsoni fyned yn britathraw Owens College, Manceinion, le ddydd Iau, ac wele'r canlyniad Argl. Edmond Fitzmaurice, R.. 5,624 Argi. Emlyn, C. 5,135 Mwyafrif Rhyddfrydol 489 Fel hyn bu etholiadau blaenorol :— 1895. 1886. Mr A. Hopkinson, U.4,679 Mr Story Maskelyne, U ..3,401 Argl Fitzmaurice, R ..4,580 Mr B F Costell-je, R Syr J Beniiett, It ..1,247 Mwyafrif Undebol 99 Mwyafrif Undebol 471 1182. 1885. Mr J Husband, R .4.569 Mr S Maskelyne, R ..4,5*1 Mr S Maskelyne, U .3,571 Mr W Stone, C ..2,77() Mwyafrif Rhydd. 998 Mwyafrif Rhydd, ..1,771
---\U)---Ciaddedigaeth Mrs.…
-U)- Ciaddedigaeth Mrs. Eliezer Pugh. PRYDWAWN ddydd Sadwrn, clad-wyd nurwol ran y wraig ragorol hon yn Mynwent Smithdown Road a daeth tyrfa luosog yn ngtayd i dd%ngrs eu parchi w choff^dwriaetha'ucydy^ideimlada'i phriod gs.laru3 yn ei brofedigaeth. Fel y crybwyilwyd yr wythnos ddiweddaf yr osdd Mrs Pugh wedi cvrhaedd yr oednn. to? o 83 mlwydd. Yr oedd yn hanu o deulu cerdc'orol enwog, sef y Millsiaid o Lanidloes, a hi mae'ti debyg oedd yr olaf ohonynt o'r to y pt;r hynai id io. Wedi cyrhaedd y capel Ymasiliduol yn y fyn- went, yr hwn oedd yn or'awn, d rdeawyd rhanau o'r Ysgrythyr a gweddiwyd gan y Parch Owen Owens, Anfieid, a thraddodwyd aaerchiad gan y Parch W. O. Jones, 8.A., a Dr Hl1,h Jones, ac wrth y bedd gaa y Parch G. E lis, M.A., a ther- fynodd trwy weidi. Canwyd emya peDodol i'r achl;ysur prudd yn y capel ac w ta y bedj tan srweiniad Mr Wm. Williams. Y prif a'arwyr Ouddynt — Cerbyd cyntaf.—Mr E. Puerli, Mr James Mills, Parchn W. O. Jones, B. A., ac Owen Jones, B.A. Ail gerbyd.—Parchn. Dr Hugh Jones, Griffith Ellis, M.A., Mr a Mrs Jones, Machynlleth. Trydydd cerbyd.—Mri Wm. George, J. Meyrick Jones, Y.H., John Owen, a John Thomas. Pedwerydd cerbyd.—Mr Wm. Roberts, Miss Rob- erts, Mr Thomas, West Kirby. Pumed cerbyd.—Mr a Mrs Griffith, Mr John Davies, Mr J. P. Edwards, Mr John Evans, a Mr Jones, Rock Ferry. Anfonwyd blodeuglym gan Rachel: John, Maggie, Kezia; Mrs Edward Davies, Plas Dinam Mrs Richard Davies. Treborth Mr a Mrs Wm. Roberts, Breeze Hill; Mr a Mrs Tessimond, Mrs Charles Ranhardt a'r teulu Dr a Mrs Herbert Butcher, Mr a Mrs Hugh Edwards, Mr a Mrs Wm. Griffith, Mrs Humphreys Jones, Moscow Drive Mrs John Bell, Misses a Mr John Roberts, Wavertree, &c. Yn mhlith eraill oedd yn br. senol gwelsom :— Parchn John Williams, William Jones, Thomas Gray, David Jones, Lodwig Lewis, George Lamb, William Owen, Richard Jones, J. Calvin Thoma?, Hoylake; a'r Mri William Williams, J. W. Jones, John Jones, William Jones, a J. J. Bebb, diaconiaid eglwys Chatham Street. Nos SuI, traddododd y Parch 0. J >nes, B.A., L*I,al;s iiitffrai,:], cyn-weinidog Eglwys \1.C. Ohath m Street, biegeth angladdol i gynullei ifa luosog. ylwodd Mr Jones yn effeithinl ar amrvw riawedcl- an amlwg yr ymadawedig, megys ei fFyddlondeb p.'j hymroddiad llwyr i wneud daioni mewj cylchotdd yr oedd gal wad am yni moesol ac ym; oddiad Crist- ionogol cryf i'w gyflawni.
--:0:--Cofeb Daniel Owen.
:0: Cofeb Daniel Owen. £ s. c. Cydnabyddwyd eisoes 275 0 7 Mr Samuel Hughes, Y.H., Amlwch 1 0 0 Capt. Benj. Williams, Gwernymynydd 0 5 0 Mr Owen Hughes, Draper, Buckley 0 2 0 Mr Thos. Nosworthy eto 0 2 0 Mr John Bellis, Grocer eto 0 2 0 Parch G. Jones, Gwernymynydd 0 2 6 Mr Robt. Williams, Stanley House,Fflint 0 2 6 Mr D. O. Roberts, Glyncoed, C oesoswallt 0 2 0 Mr W. J. Winstanley, Newcastle, Staff. 0 2 0 Mr R. Doughton, cyn-faer Aberystwyth 0 2 6 Mr Wm. Hamer, cyn-faer, Llanidloes 0 2 6 Mr Richard Evans, Compton House, eto 0 2 6 Symiau tan 2s 1 3 0" LLEWELYN EATON, Wyddgrug. J. A. JENKINS, B.A., Coleg y Brifysgol, Caerdydd.
-;0;--Y MOR-GWISGOEDD Y MOR.
-;0; Y MOR-GWISGOEDD Y MOR. DYLAl Rhieni a Gwarcheidwaid sydd â'u bwriad i anfon eu plant i'r mdr, ac yn byw bellder o Lerpwi, yn y lie cyntaf ymohebu a'r Don, Lord Street, am eu rhestr fanwl o Wisgoedd i fechgyn yn troi allan i'r nior neu, os yn y dref, galwch a gwelwch y nwydd- au ddangosir yn eu Hadran Forawl. Gan eu bod yn gwneud y cwbl eu hunain, gellir eael siwtiau cyflawn am brisiau eyfanwerthol, yn rhedeg o 7p., 10p., 15p., 20p, i fynu—Anfonir Rhestr o'r prisiau a phob manyl ion ond cyfeirio i'r Adran Forawl The Don Associat- tion, Lord Street a Paradise Stree Liverpool.