Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

--Newyddion Cymreig.

News
Cite
Share

Newyddion Cymreig. Mae'r llong Trechteve, aeth i'r Ian ger porthladd Mostyn, wedi ei dryllio gan y gwynt a'r tonau. Y mae'r gan tores Miss Ceinwen Jones, R. A. M., ar fin priodi gyda Mr. J. E. Williams, Oasnewydd. Bwriada trethdalwyr Caergybi brynu'r gwaith dwfr sy'n awr yn meddiant cwmni. Credir y bydd diffyg arianol Eisteddfod Casnew- ydd tua l,500p. Y mae larll Carrington wedi rhentu ty yn Hen 45olwyn, ac yno y trigiana ef a'r teulu yr wythnos- au hyn. Dydd Llun, darfu i ddyn nad yw ei enw'n hysbys ladrata deurod o fasnachdy yn FflinL Mae'r heddgeidwad ar ei drywydd. Ar 01 bod yn nychu am rai wythnosau, medrodd y Parch J. Evan Owen, Nant Padarn, Llanberis, foregethu ddydd Sul. Gwerth eiddo personol Miss Christina Rebecca McLeod, 1, Hill Terrace, Llandudno, fu farw Awst 16, yw 12,909p 6a 10c. Cymerodd angladd Dr Duncan Frazer, Colwyn Bay, le ddydd Iau, pan yr oedd llu mawr yn bres- ,enol, ac amlygiadau o alar cyfifredinol yn y lie. Yn Nghynghor Gwledig Gwrecsam ddydd Iau, penodwyd Dr. J. H. Davies i olynu ei dad fel Bwyddog meddygol y rhanbarth ddeheuol. Y mae'r Proff. Herkomer yn tynu llun y prif. athraw T. C. Edwards, D.D., Bala. Gosodir y darlun yn Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Yn ffair Caer ddydd Iau, caed y prisiau canlynol: Gwartheg godro, 14p i 17p; hespion, 9p i lip 10a I Sty res, 5p i 7p. Galwad bychan oedd am ddefaid, a'r prisiau heb newid. Mr O. D. Griffith, o Ysgol Ganolradd Porth- madog, oedd yr uchaf yn Ngogledd Uymru ar restr ymgeiswyr llwyddianus Arholiadau Lleol Rhyd- _ychain a Chaergrawnt. Anfonwyd John Parry, Penygroes, i fis o garchar ddydd Sadwrn gan ynadon Caernarfon am feddwi ac ymosod ar yr heddgeidwaid, a dirwywyd J. R. Williams, Waenfawr, i 5s a'r costau am herwhela. Y Parch F. W. Edmondes, mab y diweddar Canon Edmondes, sydd wedi ei benodi yn Arch- ddiacon Llandaf fel olynydd i'r diweddar Arch- ddiacon Griffiths. Cafodd ffermwyr Cymru dywydd da i'r cynhauaf yr wythnos ddiweddaf, ac er cymaint o wlaw a gafwyd dywedir fod y cnydau yn llawer rhagorach nag y disgwylid. Tuag un o'r gloch fore ddydd Iau, torodd lladron i mewn i fasnachdy Mr J. Lemon, gemydd, Rhyl, a llwyddasant i gymeryd deuddeg o wddf-addurnau oddiyno. Cynaliwyd nodachfa er budd eglwys Fethodist- aidd Conwy yn y Castell ddyddiau Mercher, Iau, a Gwener diweddaf. Derbyniwyd y dydd cyntaf 363p. Y Parch. O. J. Davies, B A., Rhyl, sydd wedi ei ibenodi yn gurad eglwys St. Paul, Colwyn Bay, fel olynydd y Parch. R. Theophilus Jones, B.A., ben- odwyd yn ficer corawl Llanelwy. Mae priodas wedi ei threfnu rhwng Mr Laurence Williams, unig fab y diweddar Mr Wm. Williams, Parciau, Mon, a Kathleen, merch y diweddar Fil. Griffith-Phibbs, Knockbrack, Werddon. Fore dydd Gwener, yn Harrogate, bu farw Mr Henry Watkin Lewis, Y.H., Aberca.naid, Merth- yr, brawd Syr W. T. Lewis, a Mr T. J. Lewis, ynad cyflogedig Caerdydd. Ganwyd ef yn Mer- thyr 55 mlynedd yn ol Gerbron ynadon Treffynon ddydd Iau, cyhudd- wyd John M'Cormick, Cefnycoed, o ladrata 7s, ..eiddo'i feis"r, George Deeth. Oherwydd ei ym. ddygiad da biaenorol, rhwymwyd ef i ymddangos pan elwid arno. Y mae Bwrdd Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin wedi penodi'r Prifathraw Walter J. Evans, M.A., yn Broffeswr Clasuron; Parch. D. E. Jones, M A., yn athraw duwinyddol; a'r Parch. P. Moore, M.A., yn athraw Hebraeg a Groeg. Deallwn fod y Parch. J. Fisher, B.D., Rhuthin, ay'n golygu Llawysgrifau Cefncoch a gyhoedd- ir yn fuan o'r swyddfa hon, yn golygu gwaith hefyd ar y Seintiau Cymreig a gyhoeddir gan y Parch. S. Baring Gould. Ueir yn Llundain 46,000 o Gymry. Gall 28,000 obonynt siarad Cymraeg; aiff 8 000 ohonyrit i'r .capeli a'r eglwysi Cymreig a 5,000 i addoldai Seis- nig. Llafuria, pedwar o genadon Cymreig yno, ac yn ystod 1895 6 gwnaethant 3,584,023 n ymweliad- au a thai. Un o ryfeddodau Sasiwn Pwllheli oedd gweled amryw o weinidogion yr Hen Gorph yn marchog- aeth ar y ddeurod. Ai dyna barodd i flaenor gyf- ansoddi'r pill canlynol1- Mae'r efengyl ar farch ha'rn—wedi dyfod, March heb iddo goes na charn—mawr ryfeddod Teithio wna yn gyflym iawn-heb ddiffygio, Ni raid porthi hwn a, grawn-diolch iddo. Ddydd Gwener, yn Ngwrecsam, gosodwyd meini coffa ysgoldy newydd mewn eysylltiad a. chapel Annibynol Penybryn gan Mrs Edward Jones, King Street, a Mr James Stevens, Grosvenor Road. Bwriedir codi addoldy newydd hefyd ar dra.ul o 5,000p, Llywyddwyd y gwelthrediadau gan Mr Philip Yorke, maer y dref. Ar feddfaen taid a nain y diweddar Archddiacon Griffiths yn mynwent Egiwyswrw, ceir yr englyn canivaol:- Cofiwch, diwygiwch eich agwedd,-bob oedran Sy'n edrych ein hanedd Arafwch—mae'n daith ryfedd, Symud o'r bywyd i'r bedd. Cynaliwyd cyfarfod chwarterol Cynghor Sir Fflint yn Rhyl ddydd Mercher, Mr W. Elwy Wil- liams yn y gadair.— Bu'r cwestiwn o uno Bwrdd Pysgodfeydd y Ddyfrdmy â Bwrdd sir Lancaster dan sylw ac yr oedd teimlad cryf yn erbyn y cynllun hwn. Fodd by nag, oy flwy nwvd y mater i Vstyriaeth pwyllgor.—Hysbysodd y trysorydd fod 527p 133 3c mewn Haw ar derfyn y chwart--r.- Penderfynwyd codi treth o 4c y bunt er cyfarfod gofynioQ y chwe mis neaaf.—Enwyd cynrychiol- Wyr y Cynghor ar y byrddau cyhoeddus.-Pellder. fynodd y Cynghor wrthwynebu'r cais i halaethu wrfynau diaas Caer fel ag i gynwya trefddegymau Zealand a Saltney.—Peuderfynwyd deisebu'r aw- durdodau i roddi arwyddlun Cymru ar yr arfbais t •irenhinol.

Dolofn Dirwest.I

-0 Ar Finion y Ddyfrdwy.

-0--DARGANFYDDIAD TRYSOR.

Brwydr Dwyreinbarth sir Ddinbych.

YR YMGYRCH WEDI DECHREU.