Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Pentref yn Llydaw.

News
Cite
Share

Pentref yn Llydaw. TRWY garedigtwydd Mr W. G. Jones a'i chwaer, Miss Jones, o Birkenhead, y rhai a ddigwyddais gyfarfod yn Ffrainc, cefais yn ddiweddar y fraint o dalu ymweliad ag un o ysgolfeistri cenadol y Bedyddwyr yn Llydaw. Er nad oedd genyf yn flaenorol ond syniad bychan am waith cenadol yn gyffredinol, angenrhaid yw cyfaddef i'r hyn a wel- ais yn cael ei wneud yn y Guilly (Gelli yn Gym- raeg) fy llwyr argyhoeddi fod beth bynag rai cen- adon yn gweithio'n odidog er hyrwyddo gwybod- aeth a gwareiddiad. Ar ol teithio tua 15 miildir o'r hen dref ddryg- s^ wrus Carhaes trwy wlad goediog a phrydferth heibio i bentref gwledig Pwllowain, cyrhaeddasom ffermdy bychan, lie gorfu i ni adael y cerbyd am fod y ffyrdd oddiyno i'r Gailly yn rhy ddrwg i fyn'd a'r fath luxe a chhr hyd-ddynt. Nid yd- ynt ond rhychau dyfnion a wisgwyd allan gan y llifogydd, ac mewn m,nau wedi eu llwyr orchuddio oddiuchod gan goed, drain, a mieri. Yn y gauaf, neu pan fo'r hin yn wlyb, nis gellir eu teithio. Tra yn y ffermdy uchod, lie cartrefai'n ddoniol fochyn, llo, ieir, wyth o blant, y tad a'r fam, os nad hefyd eu perthynasau, oil yu yr un ystafel), i'r hon yr oedd tua haner troedfedd o ffenestr na chaf. odd erioed ei hagor, gorfu arnom ymddyddan oreu gallem yn Llydawaeg. Gwyddem mai moch y gelwir y creaduriaid hyny yn Brezonec fel yn Gym- raeg, ond synasom ddeall yma mai "porchell" ddywedent am fochyn. Aethom heibio amryw ff--rmclai--bythynod tru- enus lie cyd-drigai'r teulu, y moch, a'r ieir yn yr un ystafell, ac yn ami gwelir y domen o flaen y drws. Ar ol cymaint o anwareidddra, mawr oedd ein liawenydd ganfod ysgoldy zinc hardd, ac am. ryw blant glanwaith a thaclus yn chwareu o'i am- gylch. Yr oedd fel dyfod o dywyllwch i oleuni. Croesawyd ni'n gynes gan Mr a Mrs Chopin. Syn fod dau o'u cbwaeth a'u dygiad i fynu hwy yn gallu ymwadu i'r fath radd"u ag i fyw yn y fath le a than y fath amgylchiadau yn uuig er mwyn gwareiddio a gwella eu cydgre&duriaid. Brodor o Po/lfcou yw Mi Choppin. Dygwyd ef i fynu i fod yn ofleiriad Pabaidd, yr hyn, gyda'r addysg rag- orol a dderbyniodd, a'i cymhwysodd yn arbenig at ei waith presenol. Rhoes ei le fel ysgolfeistr tan y Llywodraeth i fynu i ddod yma i weithio tan y cenadwr gweithgar a boneddigaidd Mr J eokins o Morlaix. Nid oes ond hunanymwadiad perffaith a gyfIif am y peth, gan y gallai pe dewisai gael liawer gwell lie unrhyw ddydd. Mae'n ysgolfeistr talentog, wedi dyfeisio amryw gynlluniau hynod gywrain i ddysgu darllen, &c. Mae'n gerddor a bardd da, a chanodd ef a'i briod amryw ddarnau svvynol o'i waith ei hun. Mae hefyd yn arlunydd a. chrefftwr medrus, a'i waith ef yw agos bobpeth clefayddiol yu y ty a'r ysgo'l-y bwrdd du, desc, darluniau, mapiau, a miloedd o lythyrenau symud- 01 ar y parwydydd, a glob gy wrain dros ben. Mae wedi arloesi gardd weddol o ddiffaethwch holiol. Pe heb feddu cymaint o adnoddau, mae'n debyg mai newyn fuasai ei ran, gan na cheir bara yno heb ei gludo o'r trefi. Ar y cyntaf bu ef a'i deulu yn y cyfyBgder mwyaf-neb am werthu ymborth idd- ynt, ac anhawdd cael dim o'r trefi yn y gauaf gan fod y ffyrdd yn annhramwyadwy. Ond glynu yma a wuaeth, er y buasai lluaws llai dewr wedi tori eu calonau. Er nad oes ond tuag wyth mis er pan mae yma, llwyddodd eisoes i gael tua 50 o blant i ddilyn yr ysgol ddyddiol yn gyson ond nid heb rwystrau anarferol, Defnyddiodd yr offeiriaid bob ystryw i atal i'r rhieni anfon eu plant i'r ysgol, a phrawf o'i lwyddiant yw y bygythiant yn awr losgi'r adeilad. Mae' dlwygiad sydd wedi cymeryd lie yn y plant me yn cyn lleied o amser bron yn annghredadwy. Casve mis yn ol, ni fedrai yr un ohonynt lythyren ar lyfr na gair o Ffrancaeg; erbyn hyn gallaat bron i gyd ddarllen ac ysgrifenu, amryw yn medru rhifyddiaeth hyd at "Division." Ihsga hwynt trwy gyfrwng gwrthrych tebyg i Kindergarten. Gorchuddid y parwydydd a darluniau lliwiedig a champus o'i 'waith ef ei hun, trwy y rhai y dysgai i'r plant enwau yr amrywiol wrthrychau yn Ffrancaeg, a cbyflwynai i'w meddyliau syniad cy- wir am bethau na welsent erioed mohonynt, yn. nghyd a'u defnydd. Dewiswyd rhai o'r gwrth rychau, a gofynwyd i'r plant ddywedyd yn Ffranc aeg yr hyn a wyddent yn eu cylch, ac yr oedd bron yn anhygoel gymaint eu gwybodaetb. Pan enwid unrhyw ddysgybl, codai yn ddiatreg ar ei draed ac atebai'n ddifloesgni y cwestiynau a roddid iddo. Rhoes ein cyfaill Mr Jones anerchiad addysgiad- 01 yn Ffrancaeg ac er mwyn iddynt ei ddeall yn drwyadl, galwyd un bachgen ar y llwyfan i'w chyf. ieithu i'r Llydawaeg, a throsglwyddai y naill frawddeg ar ol y Hall i iaith ei fam gyda'r rhwydd- iaeb mwyaf. Edmygem y dull o wobrwyo gan yr ysgolfeiatr. Pan fyddai dysgybl wedi hynoai ei hun mewn cynydd, rhoddid tocyn bychan iddo, a'r hwn a feddai fwyaf o docynau ar (Idiwedd y chwar- tsr a dderbyniai y wobr oreu. Yr oedd y plant i grd yn lanwaith, a rnoesgu eu hymddygiad. Cyn ni ymadael cauasint yn beraidd ddernyn Llydaw- aeg ar hen doa Gymreig. Anhawdd credu na ddy- lanwada. gwareiddiad y plli-it ar eu rhieni a'u eym- ydog:on. Ar y Sul troir yr udeilad yn addoldy, a p hregetha. Mr. Choppin i gynulliad lluosog; a cheir Ysgol Sul yn y prydnawn. Diamheu, os gwnaeth g maint mewn haner blwyddyn, y bydd golwg wa- hanol ar y Gelli a'i thrigolioo cyn hir. Aracin fy ysgrif ydyw dwyn i'r golwg y ihin- weddau hyny deilyngant gydnabyddiaeth genym fel dynion. Hebiaw hyn, deallaf fod v ceaadon hyn yn cael ychydig gymhorth o'r wlad hon i gadw enaid a chorph yn nghyd, a theimlaf y dylaswn, fel un holiol ddiduedd, roddi'r dystiolieth hon er mwyn eu cefnogi i barhau yn ffyddlon, gan eu bod yn dwyn ffrwyth yn awr. Ni raid iddynt sros adg i fodiad y rhai cyfiawn"—mae'r adgyfodiad yn myn'd yn mlaen eisoes yn fwy cyflym nag y meddyliais y buasai'n bosibl. Egremont. W. R. ROBERTS.

Y DON ASSOCIATION

OyfFryn Clwyd

Gwreiohlon.

[No title]

Cyfarfod Misol Liverpool.

--;0:--Claddu dyn 31 mlynedd…

A ".+/1O Nodion o'r Ddinas.

--0:-Cardd y Cerddor.

[No title]