Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. "Jones' Lane" sydd yn rhedeg rhwng Aigburth Road a'r Afon. Heol newydd ydyw, ac wedi etifeddu ei henw oddiwrth y ffordd gwlad oedd yno o'r blaen, ac yn arwain at balas boneddwr o'r enw Jones. Y mae y cwr bwn o Lerpwl yn newydd, ac ur ddiwrnod clir gellir gweled y Foel Fama ohono. Nid yw preawvlwyr presenol Jones' Lane mor gyfoethog a'r Jones roes ei enw i'r Ion, ond y maent yo fwy respeotol ac yn dymano cael rhyw enw aewydd ar eu trigfab, mwy cydnaws a'u hurddas. Felly danfonasant gais i'r perwyl at Bwyllgor Iechyd a pfaan ddarllenwyd eu cais yn y pwyllgor, tueddid at gymeryd eu deisyfiad yn ysgafn. Awgrymwyd amryw enwau newyddion —"Moel Vama View," Snowdon Vista," neu gysylltu'r lie ag enwau rhywun o aelodau'r pwyllgor, megys Morgan, Ruddin, Robinson, ac wedi chwareu ag ef, fel a pbêl, taflwyd ef i'r engineer i wneud a, fyno ag ef. Hwyrach na ddylid beio llawer ar y bobl byticlar sydd mor Itufodlon ar yr enw presenol. Er fod gwaed tri neu bedwar canghen o deulu lluosog ac anrhydeddus y Jonesiaid yn fy ngwythienau, ni fa dda genyf erioed mo'r gair. Estron ydyw gan estroniaid y cawsom ef gan- rifoedd yo ol nid yw'r llythyren gyntaf ynddo 1 w chael yo yr egwyddor Gymraeg ac y mae 'r sawl a'i rhoddodd groesaw ohono yn ol. Y mae genym ddigon o enwau prydfertb, hysain, soniarus, yn y Gymraeg hebddo. Nid yw newid enw yn unrhyw anfri ar bobl onest, a chaniateir hyny, pan fyddo dymuniad, yn ddigon rhad gan y gyfraith yn bresenol. Rhaid mai mewn flit o ddiofalwch, neu o anoaturioldeb y syrthiodd ein "tadau ar yr enwau Normanaidd hyllion sydd genym, megys Williams, er engraipht. A ddichon fod enw erchyllach ar ddyi., ? ac nid yw Roberts, Hughes, a dau neu dri eraill, fawr iawo gwell. Mae'n debyg mai rbyw fath o Hebread o ran v ei haniad ydyw Joaes. Modd bynag, y mae tenantiaid parchus "Jones' Lane" wedi deisebu am gael ei newid--ni ddywedant i beth a ^yddai yn ormod awgrymu "Saobery Avenue"? Byddai liwnw yn well enw ar yr heol na'r un sydd ganddi ac yn gryn lawer amgenach na Bedlam y Wyddgrug Hole in the Wall Street," Caernarfon Pwll y Grawys," Din- bych neu "Stryt y Chwain," Rhuthin-yr olaf, 9 drugaredd, wedi ei newid yn awr i Record street. Mr Milo Griffith, BYDD yn chwith gan luaws cyfeillion y cerflun- ydd hawddgar uchod glywed am ei farwolaeth gynar, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau, Medi 9fed, yn ei gartref yn Chelsea, Llundain. Gwelais ef fis Gorphenaf yn ngarddwledd Arglwydd Bute edrychai yn gryf ac iach, ond yn bryderus. Yr oedd Mrs Griffith gydag ef, yn siarad yn fynych ar draws ac ar hyd, gan ddweyd nad oedd Milo yn iach, nac yn cymeryd haner digon o ofal ohono ei hun. Ofnwn ar y P^yd nad oedd hi, druan, wedi cwbl wella o aaechyd fu yn ei blino am flynyddau, ac a barai Symaint o drallod ac o bryder iddo am dani. Yr Oddynt yn ddiblant, ac yn nodedig o ffond o'u gdydd. Brodor o Gilgeran ydoedd. Dangosodd ei dawn at gerflunio, a chafodd nawdd Arglwydd •^oerdar. Daeth yn mlaen yn lied dda yn ei ,alwedigaeth, ond nid cystal a'i ddisgwyliadau, !la dymuniad ei edmygwyr, nac yn ol ei haedd- lant ychwaith bob amser. Efe oedd yr ail yn y Systadleuaeth am y delfrydau neu'r panels sydd ochr ddwyreiniol Sfc Georges Hall, yn y dinaa hon, a barn meistriaid yn y gelfyddyd ^elsant y darluniau ydoedd fod yr eiddo Mr bi^th' a siarad yQ bur gynil5 lawu cystal a'r dd"!i ^d byoag, n* adawodd y byd yn yn ivSt °* a^u—^ mae cerJ^un Hugh Owen Bat Skaernarfon, tra yn edrych mor siriol a atv;Ur|pl ar ei edrychwyr, yn brawf mai nid diffyg 1 rylith oedd yn Milo Griffith, ond diffyg cyf- le^sderau i'w dangos. Cyoddefladau. Wd mec^^w^ erioed wrando ar ddim mwy calonrwygol na desgrifiad y diweddar dani ° ts> Gwrecsam> °'r driniaeth yr aeth o'i ^an ^orwyd un ochr i'w ifroen, rhan fawr c«ncer na thafl«d ,ei e?au> y™aith rbag y ^yne bymerodd hyn le yn Newcastle-on- yr oedd llawfeddyg enwog y pryd glorrlff a° yn 1850' °yn 1 ddyfais 8ael byd i a°"n a moddion eraill i beri dideimlad- alh, i Rhaid fod ganddo ewynao o ddur i hyn y ddyoddefaint o ddryllio ei wyneb, yr ef a> 0a^baodd am oriau, a'i waed yn ei fwy do fel apJ116. y§on- Safodd yr holl boenau erchyll o'r J r,' ynganodd air o rwgnach na chwyno yn r diwedd. Yr oedd y meddygon y eddu at ei allu i ddyoddef. Tyfodd y cnawd drachefn tros ei fuch, dodwyd pJUfc aur ar y ffroen a thaflod y genau. Gyda'r olaf y cafwyd y drafferth fwyaf. Methai y meddyg gael dim i ateb i'r sugniad sydd yn yr etiau yn naturiol i dynu y gwynt neu ddwfr i mewn ac heb hyny, nid allasai'r truan yfed ond fel aderyn trwy godi ei ben i fynu. Bti'r efengyl- ydd melus fyw am 47 mlynedd a rhaid fod y blynyddau cyntaf yn adeg o ofn a phryder meddwl dirfawr iddo rhag y dychwelai ei afiechyd; a bu yn dyoddef mwy neu lai ar hyd ei fywyd. Ond mor addfwyn ydoedd bob amser, mor ymostyngol i'r hyn oedd, mor gar- edig at bawb, a boneddigaidd yn ei garedigrwydd. Mr Ashton ar y Fainc- DYWED Charles Ashton yn y Young Wales di- weddaf, mai llyfr "useful" ydyw Enwogion Cymru. Mae ganddo bob rheswm tros ddweyd hyny, pan gofier mor ddefnyddiol a fu i'r awdwr dysgedig yn nghasgliad ei lyfr ar Hanes Llertr yddiaeth Gymreig." Mae tua chwarter goreu y Ilyfr hwnw wedi ei gymeryd o Enwogion Oymru. Ar gynydd yr elo ysbryd diolchgar.
Angladd Monwyson.
Angladd Monwyson. DDYDD Mercher, rhoed gweddillion y Parch Wil- liam Evans i orwedd yn mynwent Amlwch. Gvvas- anaethwyd wrth y ty yn Ngbaergybi, gan y Parch Peter Jones, Aberffraw. Ar y blaen yr oedd holl weinidogion y dref :—Y Parchn J. Williams, Owen Hugbes, R. Eames Williams, R. M. Jones, R. P. Williams, Elias P. Jones, John Hughes, a Charles Winter, Mri W. S. Owen, G. Jones, a W. Owen. Yna y Cynghor- wyr J. Roberts, Thomas Williams, T. Forcbr Evans, Y.H., W. D. Jones. Yn dilyn yr oedd swyddogion yr achos Wesleyaidd, Mri T. Owen, E. Owen, William Lewis, John Hughes, Thomas Hughes, Llywelyn Jones, a John Beard. Ar ol cyrbaedd y capel yn Amlwch, gweddiwyd gan y Parch W. Caenog Jones, a darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch. D. Marriott. Yna cafwyd anerchiadau gan y Parchn H. Jones, Birkenhead, ac R. Morgan, Caer (y rhai oedd yn dechreu teitbio yr un flwyddyn a Monwyson), R. Lloyd Jones (yr hwn oedd yn cynrychioli Pwyllgor y Llyfrau), Cadfan Da vies, O. Williams, Caernarfon, ac R. Jones, Beaumaris (gynt o Fangor). Terfynwyd trwy weddi gan y Parch R. Curry, Pwllheli. Dar- llenwyd wrth y bedd gan y Parch Peter Jones, a gweddiwyd gan y Parch W. O. Evans, Bethesda. Cyn ymadael canwyd emyn.
0 - Ffestiniog.
0 Ffestiniog. GODDEFED Mr William Owen, Isallt, i mi ei longyfarch ar ei ddyrchafiad i fod yn brif oruch- wyliwr chwarel bwysig y Llechwedd. Yr wyf yn ei longyfarch ef am y rheswm fy mod wedi gwylio ei yrfa er-wel, waeth i'r gath ddod o'r owd yn fuan nac yn hwyr,—er pan ydoedd ond hogyn yn ei bais. Gwelais ef yn grwtya yn gwthio ei figyrnau i'w lygaid pan y byddai hogiau mwy nag ef yn ei feisfcroli gwelais ef yn dychwelyd o'r ysgol yn ngororau Lloegr gwelais ef ar y blocyn yn hollti, ac wrth y peir- iant yn naddu gwelais ef yn dyrchafu gris ar ol gris ar ysgol defnyddioldeb hyd nes y daeth yn wr priod ac yn second in command yn chwarelau enwog Oakeley's, ac yn awr y mae yn ddywenydd genyf gael euro ei gefn am esgyn risyn yn uwch. Nis gwn yn iawn pa un ai efe, perchenogion y chwarel, ai ynte y gweithwyr lluosog, a ddylwn longyfarch Y mae efe wedi cael ei haeddiant, y mae Mri. Greaves wedi cael swyddog medrus a llygadog, a'r gweithwyr wedi cael un i'w harolygu sy'n meddu r cydymdeimlad llwyraf a'u dyiieadau, at galon yr hwn y mae buddianau goreii chwar- elwyr bob amser yn agos. Eiddunf" lwc dda" o galon 1 r briodas, ac oes hir i'r gwahanol bleidiau sy'n cyfamodi. (O) BWYGIL.
Marohnadoedd.
Marohnadoedd. A m wy thig. —Me 1 i It. Gwenith gwyn newydd, 4s 10c i 5s 4c; coeh eto 4s 8c i 5s 2c y 75 pwys haidd, 4s i 5s y 75 pwys • ceirch newydd, 12s i 13s 6c; ffa newydd, 12s 6c i 13s y 240 pwys. Caer, Medi 11. Gwenith gwyn, 5s 4c i 58 6c coch eto, 5s 4c i 5s 6c y 75 pwys; ceirch newydd, 2s 2c i 2s 5c hen, 3s i 3s 3c y 46 pwys ffa, 5s y 80 pwys; indrawn new- ydd, 9s 3c i 9e 6c hen eto, 9s 60 i 9s 9c y 240 pwys. Bangor, Medi 10. Ymenyn ffres, Is 3c y pwys; wyau, 14 am swilt leir, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; biff, 6c i 9c molltfrig- 10c cig oen, 10c i 11c ci- lloi, 7c i 9c. Caernarfon, Medi 11. ,ymei?yn ls 4c i Is 5c wyau, 12 i 15 am swllt- biff, 4c l 8c molltgig, 6c i 9c; cig oen, 8c i 10c cig Iloi, 5c i 9c; ieir, 3s 6c y cwpl. Liangefni, Medi 9. Haidd, 9s i 108 y 147 pwys ceirch, 5s 6c i 7s 60 y 105 pwys ymenyn, ls lc i Is 3c wyau, 13 i 14 am swllt; blawd ceirch, 36s i 37s y 252 pwys gwlan, 6c i 6e y pwys leir, 3s i 3s 60 y cwpl; hwyaid, 3s 6c i 4s y cwpl. Rhuthin—Medi 7. Gwenith, 10s 6c 1 lis 3c yr hob haidd, 7s i 9s vr hob; ceirch, 5s i 7s yr hob ymenyn ffres, Is i Is 10 y pwys leir, 3s l 4s y cwpl; hwyaid, 4s i 5s y cwpl • wyau, 14 i 15 am swllt. Le'-pwl, Medi 14. Gwenith wedi gostwng lc y cental—Califfornaidd, 39s 9c I 40s Walla Walla, 28s 3c y chwarter. Ind- rawn wedi gostwng lc y cental, a Chymysg Americ- anaidd yn gwerthu am 16s 9c i 17s y chwarter. Blawd wedi g-ostwng 6c y sach. Ceirch a blawd ceirch yn sefydlog am brisiau diweddar. Dinbych. Medi 8. leir, 3s i 4s y cwpl; hwyaid, 3s 6c i 4s 6c ymenyn ffres, ls l ls lc eto, llestri bach, ls 0|c mawr eto, lifei y pwys blawd ceirch, 2Jc y pwys biff, 6c i 9c molltgig, 7c I 9c cig oen, 7c i 9c cig lloi, 6c i 8c y pwys. J
Advertising
GOFYNWCH A MYNWCH GAEL "BARKER AND DOBSON'S BUTTERSCOTCH." MEWN PECYNAU Ie., 3c., a 6ch. Gwerthir gan yr holl Anewywyr, Grosers, ac mewn storfeydd parchus.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. Nos Sadwrn. CAFODD Dr David Roberts angladd syml ac an- rhydeddus ddydd Gwener, a daeth tyrfa fawr yn nghyd i wneud y gymwynas olaf iddo, a'i hebrwng i'w hir gartref. Gwleidyddiaeth sydd fel trydan wedi llenwi ein bawyr ni yma, ac yr ydym ar fin brwydr galed a chyffrous. Mae'r cadlywyddion wedi eu dewis, ac yn prysur drefnu eu byddinoedd. Gorchwyl cydmarol hawdd fu dewis y ddau arwr, a throdd allan yn union fel y disgwyliem, a hyny yn hollol unfrydol a chan fod eioh darllenwyr yn gwybod eisoes hanes y ddau, af- raid i mi ymhelaethu heno. Yr ydym yn bur sicr sut y try'r etholiad ond i ni fod yn ffyddlon, a pheidio bod yn rhy hy- derus. Dyna'n perygl ni yma-gormod o hyder a gorphwys ar y gorphenol, yn lie myn'd ati a'n holl egni i roi dyrnad i Doriaeth. Bydd Moss yn sicr o weithio fel dyn ac yn deilwng o Gymro boed i ninau oil daflu ein nerth o'i blaid, yn benderfynol ac ar yr un pryd yn foneddigaidd. Cyn y gwel y bras-nodiou byn oleu dydd, byddwn yn nghanol y rhyfel. Byr fydd yr ym- gyrcb, ond saith poethach nag arfer, a rhaid i bob un ohonom dorchi ei lewys ac ymladd a'i holl egni; ac ond i ni wneud hyny caiff Samuel Moss ein cynrychioli yn y Senedd. Y ni, gyf- eillion, sydd i benderfynu eu tynged, a boed i ni wneud hyny fel gwlidgarwyr, a dangos ein bod wedi ein boddbau yn rhagflaenydd Mr Moss. Cerddwn yn mlaen a mynwn fuddugol- iaeth. Nos Lun. Dyma fi newydd droi adref o Gymanfa Ganu yr Hen Gorph, wedi cael fy moddhau yn annghyff- redin. Dechreuwyd hi yn Ngwrecsam nos Wener, a pbarhawyd hi hyd heddyw yn y Capel Mawr. Dipyn yn annrhefnus oedd hi nos Wener, a lladdwyd y canu cyn cychwyn Beth mewn difrif, oedd eisiau symud y bobl o'r capel i'r ysgol- dy, a hwvthau yn gwybod ein bod ni yn dyfod i lawr o'r Rhos ? Rhyw chwareu plant oedd peth fel hyn, a chawsant y fraint o fedi ffrwyth eu hynfydrwydd yn mhen ychydig iawno amser. Aeth yr ysgoldy yn llawn, a digon i'w llenwi hi drachefn yn sefyll oddiallan, a doedd dim i'w wneud, wrth gwrs ond myned yn ol i'r capel. Os oedd pobl Seion yn ffol, a'u ffydd yn wan, pa le yr oedd yr ysgrifenydd arni? A ydyw yntau wedi cael }r un clefyd ? Yn naturiol iawn, fflit oedd hi ar ol rhyw chwareu mig fel hyn, a methwyd codi'r hwyl o gwbl. Dt i bobl Gwrecsam, er hyny, ein bod wedi myned i liwr, neu lie buase nhw ? Os gwael oedd hi nos Wener, hwyliog oedd hi yma heddyw. Yr oedd y Capel Mawr yn oriawn, y cantorion mewn hwyl, a Tom Price with ei fodd. Nid wyf yn meddwl i mi weled mwy o bobl erioed mewn cywatifa-gorniod mewn gwirion- edd. Yr oedd wedi myned mor dwym yno fel mai anhawdd iawn oedd canu, ac yr oedd y don- yddiaeth yn ddrwg iawn ar adegau. Aethom trwy'r rhaglen er byny yn fawreddog ac urddas- ol, ac ar y cyfan canu da iawn. Gresyn na fuasai yno well tenor hefyd, o'i gymhira a'r bass. Yr altos oedd fwyaf ansef- ydlog, ac yn fwy tueddol i fyned allan o diwn. Rhaid i'r rhai hyn fod yn fwy gofalus. Gwnaeth Tom Price ei waith fel arweinydd yn rhagorol, a Dan Evans ei galedwaith yntau gyda'r organ yn foddhaol iawn. Aeth anthem newydd Mills yn dda iawn, ac arweiniwyd hi gan Mills ei hun yn y ddau gyf- arfod. Er y brychau a'r diffygion, cafwyd gwledd serch hyny, a chryn lawer o eneiniad ar y canu; ac yr ydym yn barod i ofyn i'r cyfeillion am gael cymanfa debyg iddi eto. SAMWEL JONES.
Nodion o Fon ac Arfon.
Nodion o Fon ac Arfon. YN Trefriw, nos Lun, gofynwyd i ddau o Ler- pwl gymeryd rhan yn y cyfarfod. Gwnaethant ymgais i ganu y ddeuawd Mae'r lan gerllaw," un yn canu y geiriau yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg. Ni bu y fath ymdrech am gael glan erioed, ond yr oeddynt yn pellhau o hyd. Dysg- weh Gymraeg, fechgyn. Tipyn o brofedigaeth i'r bobl ieuianc byny ddaeth o Ffestiniog i Lanrwst i'w priodi, ddydd Mawrth, oedd gorfod dyehwelyd heb wneud, gan nad oedd pobpeth yn barod ganddynt. Nos Fercher, yr oedd aelodau a chynulleidfa Betbania yn cyflwyno anrhegion priodasol i'w gweinidog a'i briod. Gan fod y cyfarfod yn un cyhoeddus aethum yno. Llywyddwyd gan Mr. Edward Morris, diacon, a'r brawd D. Pennant Evans yn arwain yn ddoniol iawn. Cyflwyn- wyd yr awrlais werthfawr i Mr Griffiths gan D. Williams. Tanybryn, a phert iawn oedd ei sylw- adau, a chyflwynwyd llestri arian i Mrs Griffiths gan Miss E. E. Jones, Victoria Place. Cydna- byddwyd derbyniad yr anrhegion gan Mr Griffiths. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod hefyd van amryw eraill. Canodd y cor, o dan arwein- iad Pennant, yn rhagorol. Ysgrifenydd y mud- iad ydoedd R. D. Williams, Tanybryn, a'r drysoryddes Mrs T. Jones, Glanffrydlas. Yr oedd yn ddrwg genyf ddeall fod y cyfaill Gordon Williams yn ymadael o'r ardal. Y mae yn myned i aros i Birmingham. Gobeithio y bydd iddo gadw mewn cof yn wastad un o'r caneuon a ganodd mor swynol ac effeithiol yn y cyfarfod hwn, "I fynu'r bo'r nod." Dymunir ei lwvddiant gan gylch e-mg o gyfeillion. Yn Llangefni, ddydd Ian, yr oedd Oymdeithas Helwyr Mon yn cael eu ciniaw blynyddol. Dyma'r unig dal, mi gredaf, ga ffermwyr y sir am ganiatau i'w cloddiau gael eu chwalu gan yr helwyr. Yr oedd yno ddigonedd ar gyfer pawb o bob math o fwydydd a diodydd. Digwyddais fyned i mewn pan oedd cyfaill yn canu Mentra Gwen," ac yn cael ei ddilyn gan Telynor Seiriol. Nos Sadwrn. OBADIAH DA VIES. o: —————
[No title]
Cigau gwir Gymreig o bob math i'w cael y ddyddiol am brisiau rhesymol yn Siop COED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn a Marchnad St. 1 John, r
Cyffredinol.
Cyffredinol. Y mae Pwyllgor Eisteddfod Genedlaetbol Caer- dydd (1899) wedi dechreu cyfarfod eisoes. Fore Mercher lladdwyd porter o'r enw Da vies trwy i drea fyned drosto yu ngorsaf Fflint. Bwriedir codi cronfa i gadw curad yn Llaneur- gain. Tybir mai y nofel Gymraeg gyntaf a gyhoedd- wyd ydoedd Y Meudwy Cymreig," gan Cawr- daf, yn 1830. Bydd yn ddrwg gan filoedd o Gymry ddeall fod Llew Llwyfo yn gorwedd yn beryglus glaf yn ei et ty yn Llanrug, ger Caernarfon. Taflwyd Richard Williams, Mostyn, o'i gerbyd ddydd Gwener, trwy i'r ceffyl wylltio a charlamu, ac archollwyd ef yn dost. Dydd Llun, cauwyd Gweithiau Alcan Glandwr, ger Abertawe, gan fod y gweithwyr yn gwrthod derbyn 12 y cant o ostyngiad. Ail-agorwyd addoldy Methodistiaid Rhiwabon ddydd Sul ar ol ei adgyweirio. Pregethwyd gan y Parchn J. T. Williams, Llandudno, ac E. Williams, Froncysyllte. Yn Mynwent Ford, Lerpwl, ddydd Llun, cladd- wyd gweddillion Joseph Rogers, a adwaenid fel "arwr y Royal Charter," aeth yn ddrylliau ger Moelfre, Mon. Cynaliwyd cyfarfod chwarterol Annibynwyr Meirion yn Corris ddydd Gwener, Mr J. T. Row- lands, Tanycoed, yn llywyddu. Amlygwyd gofid dwys o golli Syr G.O. Morgan a Dr David Roberts, Gwrecsam. Dyma dderbyniadau dyddiol Eisteddfod Cas- newyddDydd Llun, 147p 2s 9c; Mawrth, 400p 9s; Mercher, Eisteddfod, 903p 2s Sc, oyngherdd, 229p 12s 6c dydd Iau, 460p dydd Uwener, 657p tymhor-docynau a seddau blaenaf, tua 800p tanysgrifiadau, tua 1,300p-cyfaDswm o 4,927p 7s 11c. Cyfrifir y costau tua 6,000p. Mewn un eglwys yn ddiweddar, am dri Sul yn- olynol, pregethwyd ar adnodau yn son mewn rhyw wedd neu arall am goed. Tr.iethai'r cyntaf am Abraham yn pianu coed testyn yr ail oedd, Y rhai a blanwyd yn nhy yr Arglwydd a flodeuant yn nghynteddoedd ein Duw trd. mai mater y trydydd ydoedd y Cristion fel cedrwydden yn Libanus. Ac y mae ua hen flsenor yn yr ardal hono YD credu'n sicr y gwnelai'r tri timber mer- chants siort ora. Ddydd Mercher, yn nghapel Preswylfa, Llan- beris, priodwyd J. G. Rowlands, B.A., m&b hynaf y Parch Daniel Rowlands, M.A., Biogor, a Jenny, unig ferch yr Heuadur D. P. Williams, Y.H., cadeirydd cyntaf Cynghor Sir Gaernarfon, Y morwynion oeddynt M ss Myfanwy Jones (cyf- nither y briodferch), Misses Anna a Meoai Rowlands (chwiorydd y priodfab), Miss Bebb, Lerpwl a Miss Dilys Lloyd Williams a'r gwas oedd Mr Llewelyn Rowlands (brawd y priodfab). Gweinyddwyd gan y Parchn J. 0 Jones, Daniel Rowlands, a John Williams, Princes Road, Lerpwl. Rhifai'r pwyddion tua 300. Yn y prydnawu rhoed te i holl blant yr ardal a chafodd aelodau eglwys Preswylfa wiedd yn yr hwyr. Os mynweh gae! Om OEN GWIR GYMREIG, blasus, dantuithiol, y mae i'w gael yn ddyddiol yn SlOP COED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn a March- nad St. John. Treiwch ef. Ni'ch siomir.
-:0:-Ein Cened! yn Manceinion.
-:0:- Ein Cened! yn Manceinion. Y MAE'R rhiii fwyaf o Gymry Manceinion wedi dy- chwelyd o u gwyliau—ihai o'r mor a rhai o'r myn. ydd, eraill o'r tfynocau. Bellach rhaid gweithio'n ddiddig heb ddim gwyliau tan y Nadolig. Y mae'r Cymdeithasau Llenyddol yn prysur bar otoi eu rhagleni, ond ni chlywais fod yr un wedi ei chyhoeddi ond eiddo Chorlton Road-un gampus. Ar ol cychwyn ei yrfa tan belydrau haul Ilwydd- lant, aeth Undeb y Cymdeithasau Llenyddol yn sydyn i ryw fath o niwl, ond wedi bod ynddo rai misoedd mae wedi dod allan o'r diwedd. Cyfarfu'r gwahanol Gymdeithasau yn Booth St. nos Fawrth i drefnu gwaith y tymhor-Pareh E J Jones, M.A., yn y gadair. Rhanwyd y ddinas yn ddwy, gogledd a de. Perthyna i'r gogledd Gymdeithasau Pendleton, Heywood Street, Colly- hurst, a Chymdeithas Undebol y Wesleyaid (yn cynwys Gore Street a Hardman Street) i'r de y perthyn Booth Street a Chorlton Road. Tach. 20 ceir dadl ar A ddylai'r Llywodraeth ymyryd ag achosion o sefyil allan neu anghydfod rhwng meistr a gweithiwr?"—cad., y De nac., Gogledd. Ion. 29, yn Booth Street, ceir dadl ar A ddylai'r tir fod yn eiddo'r genedl ?" Caniateir i aelodau'r Cymdeithasau gymeryd yr ochr a fynant. Bydd ymgomwest ar ddiwedd y tymhor. Peth bd na b'ai Cymdeithas Lenyddol yn Higher Ardwiek. Y mae yno yn ol rhif yr eglwys fwy o feirdd a Ilenorion nag yn yr un capel Cymraeg arall yn y ddinas, a siaredir gwell Cymraeg yma nag yn unrhyw fan o Fon i Fynwy. Aeth si ar led fod Cymdeithas Cymru Fydd Man- ceinion wedi rhoi'r ffidil yn y to a thynu ei thraed i'r gwely i farw ond lol botes oedd y chwedl—mae mor fyw ag erioed, a bydd ei rhaglen yn barod yn fuan. Wyr neb ddim o hanes y Gymdeithas Genedlaethol, os na wyr y prif lywydd a'r ysgrifenydd; am y swyddogion eraill, they don't count," chwedl y Sais Daeth llu o feirdd i ail gyfarfod Cymdeithas y Beirdd yn y Central Hall Restaurant, nos Wener. Yr oedd pob un oedd am aelodaeth yn y Cylch Cvf- rin wedi anfon i mewn ffrwyth ei awen ar "Dyngar- weh," Ap Cyffin yn clorianu. Barnwyd yr oil yn deilwng i fod yn aelodau. Caed hwyl dda wrth ddar- llen y cyfansoddiadau, a beirniadaeth gynghaneddol ar bob un. Dyma y feirniadaeth ar ymfflarnychiad y bardd doniol a brathog Ceirionydd :— O'i goryn, yn dan geiriol'—dylifawl, Daw lava barddonol; Egyr ei fant—gyr o'i fol Ei boeth arawd bytheiriol. Etholwyd y swyddogion fel y canlyn :-Prif -fardd, Ap Cyffin; Ail Brif-fardd, Eryddon Ceidwad y G6d, Iorwerth Cofnodydd, Gwilym Tanad Cof- nodydd Cvnortawyol, Ceinionydd; Porthor, Tom Tom. UNORDDAU.
[No title]
o- Paham y telir Is 10c a 2s y pwys am De Ceylon mewn pecynau addurnedig ? Gellir cael Te o ansawdd rhagorach am Is 6c y pwys gan BARBER a'i GWMNI, Masnachwyr Te, 1, Church Street, Lerpwl, a thelit ludiad i Chwe' Phwys unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol.
0 Y FRWYDR YN SIR DDINBYCH.
odd Mr Peters, cynrychiolydd y glowyr, fel y boneddwr y tybiem ydoedd bob amser, trwy glirio Mr Moss oddiwrth y cyhuddiad a ddygid yn ei erbyn gan y Toriaid 0 gym- eryd plaid y meistr yn erbyn cynrychiol- ydd llafur. Y mae'r glowyr ar hyd y cost o Frymbo i'r Waen wedi cael golwg eglur ar y sefyllfa-mai brwydr ydyw hon rhwng rhyddid a gorthrwm, rhwng y bobl a'r dos- barthiadau, rhwng cyfiawnder a thrais, rhwng cydraddoldeb crefyddol a breinio un enwad ar draul y Hall; ac a hwy wedi cael y weledigaeth hon, a chadw eu llygaid yn ddianwadal ar yr iawn, ni raid cfni na fydd cyfeillion rhyddid a chyfiawnder yn mysg etholwyr Dwyreinbarth Sir Ddinbych yn lluosocach o bedwar ffigiwr na'u gwrth- wynebwyr pan ddaw awr y cyfrif—tua'r 28ain o'r mis hwn. 0.