Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. Aiff yr hen offerynau- heb allu Bellach i'r cysgodau; Bwa celf sy'n bywiocau Gallu tyner gwell t&nau."—Tudno. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, AMERICAN ORGANS, 5s. y mis," &c. Go HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. Stock ragorol o'r Caneuon goreu, newydd a hen. School of IMusic, Voice Training, Violin, Piano, &c., &c. Prospectus free on application. EISTEDDFOD GADEIR/OL COLWYN BAY, DYDD GWYL DEWI, MAWRTH laf, 1898. PRIF DgSTYNAU. PRIF GYSTADLEUAETH GORAWL.—I'r Gor, heb fod o dan 35 mewn nifer, a gano oreu Pwy yw y rhai hyn ?" wobr, L8, a Choron Arian i'r Arweinydd BRASS BA.ND CONTEST Gems of Victorian Melodies" (Round). Prize, Seven Guineas. TESTYN Y GAD A IR. -Pryddest heb fod dros 300 llinell, Y Cynhauaf." Gwobr, Cadair Dderw Gerfiedig. PRIF DRAETHAW.D.—" Dewi Sant a'i Amserau." Gwobr, £ 110s. BEIRNIAID :-Mr Wilfrid Jones, R.A.M., a'r Parchn J. Cadvan Daviep, T. 0. Jones (Tryfan), a T. C. Roberts.N Anfonir rhestr gyflawn o'r Testynau &c., ar dderbyniad stamp ceiniog. Ysgrifenyddwn-O. JONES ROBERTS, a H. O. MOFJRTS, Grove Park, Mr. J, H. ROBERTS, Mus. Bac., Caiolib (Organist" of Chatham Street Presbyterian Church; A8sociate oj the Royal Academy of Music London Fellow of the Tonic Solfa College, London Musical Editor of the following Publications -1 C. ffl. Tune Book,' 'Llawlyfr Holiant'; lvovello's Anthem Book; Author of I Handbook on the Elements of Music ). Begs to announce that he has taken up his Residence at 149, GROVE STREET r LIVERPOOL. MR. ROBERTS is prep red to accept Engagements as Musical Adjudicator, Conductor of Psalmody Festivals, &c., and for Organ Recitals. Lessons given on the Pianoforte, Organ, and in Sieging, Harmony, and Composition. Pupils prepared for all Examinations. A Special course of Lessons may commence at any date. Postal Lessons given. Term begins SEPTEMBER 8th. Particulars on application. 1:1 LIVERPOOT-i & N°RTH WALES 8.S. CO., LIMITED. DAILY MORNING SAILINGS. Prom Prince's Landing Stage (-undays excepted, and weather and other circumstances permitting). P. S. ST. TUDNO or ST. ELVIES, DAILY to 27th Sept. Leaves Live, pool.10-45 am Leaves Meaai Bridge 3-0 pm „ Handudno.. 1 0 pw Bangor Pier 3-10 pm Beaumaris 2 Opra „ Beauwars. 3-30 pra Bangor Pier 2 20 pm Llandudno.. 4 30 pm Arrives Menai Bridge 2 30p;>. Arrives Liverpool 6-4,5 pm DAY and WEEK-END EXCURSIONS, until 27th Sept- ternber, at the following ratesFares—Liverpool and tIan- durlno First return 5s., Second return 3a; Liverpool and Beaumaris. Bangor, or Menai Bridge: First return 6s (id., Second return 4s For further particulars apply to THE LIVERPOOL & NORTH WALES STEAMSHIP CO., LTD., T. G. BREW, Secretary, 20, WATER STREET, LIVERPOOL. Telephone 6366. CLOSING TRIPS OF THE SEASON. NORTH WALES AND BACK THE SAME DAY. THE CHEAPEST AND BEST SEA TRIPS OUT OF LIVERPOOL. Best and Quickest Route to Holywell, St. Winifred's Well Pantasaph, Prestatyn, and Rhyl. The Fast Paddle Saloon St. amer FLYING FALCON Will Sail from the Prince's Landing Stage and Mostyn (weather and other circumstances permitting), as under ;— LIVERPOOL to MOSTYN and Back the same day. Average passage 1 hour and 45 minutes, giving passengers two or three hours ashore in one of the prettiest spots in North Wales. Long Day Trips, about ten hours ashore, From LIVERPOOL. From MOSTYN. Thursday, Sept. 36 to.O am I Thursday, Sept. 16 S. 15 pm Friday 17 ..10.0am Friday 17 3.45 pm Saturday „ 18 .11.0 am Saturday 18 4.0pm Thursday, Sept. 36 ..i0.0 am Thursday, Sept. 16 ..315 pm Friday 17 ..10.0am Friday „ 17..3.45pm Saturday „ 18 .11.0 am Saturday 18 4.0pm Monday 24 1.0 pm Monday 20 .5.15 pm Tuesday 21 3.0 pm Tuesday, 21 7.0 pm Wednesday 22 4 0 pm Wednesday „ 22 7-0 pm Thursday 23.. 7 30 am I Thursday 23.. 7.0pm Friday 24 .8.30 am Friday 24 7.15 pm Saturday 15.. 9 0 am Saturday 25 8.0pom September 23rd, 24th, and 25th. Long Day Excursion 'from Liverpool to Mostyn and Back. Single Fare, 1/6; Return Fate, 2/6; Bridge extra. Tickets not transferable, and available for day of issue only Refreshments on Board at Moderate Charges. Office; 27. WATER STREET. LIVERPOOL. Telephone 2334. lelsti Presbyteriaq Chapel PEEL ROAD, BOOTLE. PRELIMINA R Y NOTICE. A SALE of WORK in connection with the above Chapel, will be held in the SCHOOLROOM of the Welsq Presbyterian Cljapel, Stanley Road I BOOTLE (Kindly lent for the occasion), EARLY IN DECEMBER Particulars later. I CARTREF CYMREIG I YMWELWYR a LLUNDAIN. Pa le i gael llety cysurus yn Llundain ? Ewcb o Padding- ton Station, G.W.R., gyda'r Underground i Gower Street Station, am No. 9 neu 30, Euston Square, neu o Euston Station (L. & N.W.Ity.), pa un sydd yn ag os iddyn. GLASLYN HOUSE E VAIIS' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. D. EVANS, Perchenog Neu CELT (KELT) TEMPERANCE HOTEL, 30, Euston Square, London, N.W. F. DUNN, Perchenog. Y mwyaf canolog i bob rhan o Lundain. CHESHIRE LINES TRENS NEWYDD RHWNG MANCEINION A GLAN MOR CEREDIGION. Rhedir TRENS CYFLYM i OGLEDD CYMRU a CHYFFINIAU LLINELL Y CAMBRIAN. Lavatory Carriages o'r cyntaf a'r trydydd dosbarth rhwng Gorsaf Ganol MANCEINION ac ABER- YSTWYTH fel y canlyn:- Amser. Amser. Dydd Gwaith- Dydd Gwaith. Gorsafoedd a.m. p.m. Gorsafoedd. a.m. p.m. Manceinion (Ganol) gadael 10 10 330 Pwllheli gadael 1010 — Stockport Tiviot Dale) 9 5 320 Porthmadog 1048 Altrincham a Bowdon „ 10 26 3 45 Abermaw „ 1135 150 Knutsford „ 10 36 3 53 Aberystwyth „ 12 5 2 20 Northwich 1046 4 2 Drefnewydd ,,163 420 Hartford a Greenbank 10 51 4 8 Trallwng „ 2 22 5 0 Caer (Liverpool Road) „ 1117 429 Croesoswallt „ 2 50 530 Wrecsam (Ganol) cyrhaedd 12 0 5 12 Wrecsam (Ganol) cyrhaedd 3 40 6 15 Croesoswallt 1240 615 Caer (Liverpool Road) „ 422 7 2 Trallwng 125 6 55 Hartford a Greenbank „ 4 45 7 25 Drenewydd „ 2 0 7 45 Northwich 450 730 Aberystwyth 340 9 35 Knutsford 5 0 7 40 Abermaw 4 0 Altrincham a Bowdon „ 510 7 49 Porthmadog 533 Stockport (Tiviot Dale) „ 618 820 Pwllheli 6 0 Manceinion (Ganol) „ 530 810 I jAm amserau dychwelyd, cysylltiadau yn y gors- afoedd cydrhyngql, a manylion am drens eraill gweler tablau amser, GOFYNWCH AM DOCYNAU GYDA'R "CHESHIRE LINES." DAVID MELDRUM, Qoruchwyliwr, Lerpwl, Gorph., 1897. Y CYMRQ. I NODYN I'R BONEDDIGESAU. I YN Lerpwl yn bresenol. gwerthir y Crysau a'r Blowsus mwyaf defnyddiol yn masnach- dy Husseys, 116 Bold S-reet. Y maent wedi eu gorphen yn brydferth, ac yn y ffurfiau mwyaf ffasiynol. Hefyd yr holl hugan-ddefnyddiau ffrilins, ffunod, gwe- nwyddau, &c,, &c., diweddaraf; yn nghyda detholiad gwych o dlysau rhesymol eu pris- iau. Bron-addurnau arian am is. ac uchod; eto rhai aur-orchuddedig am o is. i 5s. yr un a detholia d diddiwedd o anrheg nwyddau heirdd- Cofiwch y cyfeiriad- Husseys, 116 Bold Street, Lerpwl. TJIOS JONES& Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and £ > per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/. and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. TH OS. J ON ES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. GELLIR cael Y Oymro yn Llundain gan Mr J. J Kelly, 2, Southampton Buildings; a Mr W. H. Roberts, 10, Cecil Court, Charing Crosg Road, W.C. 0; EIN NOFEL NEWVDD. Yr wythnos nesaf ymddengys y bennod gyntaf 0 un 0 brif nofelau y byd yn Nghymraeg. At Ein Cohebwyr. Oherwydd meithder ein hadroddiadau o Etholiad Dwyreinbarth Dinbych, gorfodwyd ni i adael amryw gynyrchion dyddorol, yn cynwys Y Critic," trosodd i'r rhifyn nesaf.
CYDIO TAFARN WRTH DAFARN.
CYDIO TAFARN WRTH DAFARN. MAE tymhor y trwyddedu bron wedi myned heibio, gan adael lluaws o wersi ar ei ol ag y byddai'n fuddiol, nid i ddirwest- wyr yn umg, ond i'r etholwyr yn gyffredinol, gymeryd sylw ohonynt. Dangoswyd mewn modd arbenig eleni eto fel y mae darllawyr mawrion yn dyfod i feddiant o westtai a thafarndai y wlad a'r trefydd. Tan gochl diniweidrwydd, gofynir i'r ynadon drosglwyddo trwydded John Jones i Hugh Hughes Jones ydyw'r gwest- tywr hen ffasiwn, oedd yn gwneud ei fywoliaeth wrth gadw ty glan, cysurus, Hetty gar, cartref bron i fforddolion, yn byw yn gymydogol yn nghanol ei bobl, cynrychiolydd y dosbarth hyny o westty- wyr afu yn nawdd ac achles mewn llawer man i Ymneillduaeth Cymru yn ei inaban- dod. Nid oes odid dref yn Nghymru na dderbyniodd Ymneillduaeth ynddi garedig, rwydd gan ei gwesttywyr drwy gael ben- thyg rhyw ystafell eang cyn bod yr achos bychan yn ddigon cryf i godi capel at ei wasanaeth. Ac yn nechreu y ganrif, yr oedd y gymwynas hon yn llawer gwerth- fawrocach nag ydyw yn bresenol, canys nid oedd yr adeiladau haiarn tymhorol,sydd mor wasanaethgarfmewn cyfwng cyffelyb ynawr, ac iselbris mewn cydmariaeth,wedieudyfeis- io. Yn ddiau,y mae YmneiIlduaeth Cymru,a thrwy hyny ei chrefydd, tan ddyled i'r dos- barth parchus a'i cymerasant i dy, ac yn ami am ddim tal, pan oedd eraill yn gwgu arni. Nid oes yr un fasnach, boed waethed ag y bo, heb ei rhagoriaethau,ond bydd difodaeth yr hen dafarnwyr, a dodi yr I-Iuw Huws- iaid, neu yn amlach rhyw Wyddel, Sais, neu Ysgotyn, i gynrychioli y ffirm o ddar- llawyr o Loegr neu Wrecsam, yn cymeryd ymaith yr unig ragoriaeth am y gwyddom a fedd. Y mae'r cymydog yn cilioa'r estron oer yn cymeryd ei le-" y gwas cyflog" nad yw yn gofalu am ddim ond am elw ei feistr, y I darllawydd, a chymaint ag y bo modd iddo ei hun. Os trwy raib neu ddiofalwch y trosedda'r gyfraith, gan beryglu'r drwydded, daw'r darllawydd, a gallu y miliwnydd gydag ef, i logi'r doniau uwchaf sydd wrth y bar, gan droi y du yn wyn, a'r diwedd ond cdid a fydd bwrw un gwas cyflog ymaith a rhoi un arall yn ei le. Mae'r drwg yn dechreu gyda gwaith y gyfraith yn rhoi trwydded i neb ond a fyddo'n byw yn y ty, ac yn cydnabod neb yn y mater ond a fyddo a'i enw arni. Yn bresenol, darllawyr arianog a marsiandwyr gwirod biau tua haner gwesttai a thafarnau Gogledd Cymru ac nid oes yr un rhan o'r wlad yn ddyfnach yn y camwedd na sir Ddinbych, ei Dwyreinbarth yn enwedig. Y mae ystadegaeth gwesttai, &c., y sir hono a gyhoeddwyd yn 1891 a 1894- dyna, hyd y deallwn, yr unig flynyddau y cyhoeddwyd hwy-yn awr ger ein bron ac yn 1891 yr oedd yn y sir 434 o dafarnau, sef 169 yn glymedig (tied) a 255 yn rhydd; a 160 o dai cwrw (beer-houses) clymedig a 57 yn rhydd. Yn rhanbarth Gwrecsam o'r sir, yn cynwys agos yr holl etholfa sydd yn awr mewn brwydr, yr oedd y cyfartaledd fel y canlyn 231 yn glymedig, a 145 yn rhydd. Tref Gwrecsam a phlwyf Rhiw- abon, drachefn, ydyw'r ddau le gwaethaf yn yr etholfa felly gwelir fod darllawyr caredig Gwrecsam yn gofalu yn nghyntaf am eu cymydogion. Allan o'r 80 trwydd- ed sydd yn Ngwrecsam, yr oedd, yn 1891, 47 yn glymedig, a diau fod yno ragor felly erbyn hyn, canys y mae'r pla ar gynydd dirfawr. Nid oes dy rhy fawr na th rhy fychan gan y bobl hyn i'w drachwantu. Ychydig ddyddiau yn ol, ceisiai un o ddarllawyr goludog Lerpwl gael trwydded i wthio diotty mawr ar gymydogaeth o bobl nad oedd arnynt ei eisiau ac ychydig cyn hyny, profwyd fod clybdy bychan yn Penmaen- mawr a berchenogid gan ddarllawydd mawr arall yn cynyrchu mwy o Sul yfwyr na'r holl dai trwydeddig gyda'u gilydd, trwy ddiwallu llymeitwyr sychedig pan fyddai'r ffynonellau cyfreithol yn nghaead. Yn ngwyneb y ffeithau crybwylledig, y mae'n ofynol i'r wlad ddeffro, onide bydd yn ngafaelion gelynion creulon ac ni ddaw hi ychwaith yn rhydd o'i gyffion hyd oni thalo y ffyrling eithaf mewn mwy nag un ystyr. Beth, tybed, ydyw barn y ddau ymgeisydd yn Nwyreinbarth sir Ddinbych ar y mater hwn ? Dylai'r etholwyr gael gwybod a pha un bynag ohonynt sydd yn pleidio y gyfundrefn felldigaid bresenol, ni haeddai bleidlais yr un etholwr rhesymol, bydded ef Dori neu Ryddfrydwr, Ymneill- duwr neu Eglwyswr. Yr oedd yn ddrwg genym weled Mr Kenyon yn cynal ei gyf- arfod cyntaf yn nghanol publicanod Gwrec- sam, ac mai'r unig estron gwahoddedig oedd y darllawydd Drage o Derby. Rhaid i gyfeillion sobrwydd a gweddeidd-dra cyhoeddus gymeryd sylw o hyn a thynu yr ymgeisydd Toriaidd ar draws y drybedd. Ffarmio gwael, fel rheol, a geir lie bo amaethwr yn trin o hyd breichiau," ac yr oedd cydio maes wrth faes yn wahardd- edig tan y gyfraith ond nid oedd y bai' hwnw yn ddim o'i g\ mharu a chydio taf- arnau y wlad a'u gilydd yn un rhwyd anfad.
0 Y FRWYDR YN SIR DDINBYCH.
0 Y FRWYDR YN SIR DDINBYCH. MAE'R frwydr wedi dechreu o ddifrif. Cynelircyfarfodyddganyddwy blaid beunos. Syr Watkin a Syr Robert Cunliffe sydd yn cynal breichiau yr arwr Toriaidd dau wedi brwydro'n fynych a'u curo bron mor ami a hyny. Dywedai perchenog Wynn- stay o'r gadair yn Rhiwabon, nos Fawrth, mai'r achos na fuasai ef yn dyfod yn mlaen fel ymgeisydd ydoedd mawredd ei lafur gyda'i etifeddiaeth eang; ac nad oedd modd iddo gyflawni ei ddyledswyddau fel Seneddwr (fel pe buasai rhyw berygl i'r etholwyr roddi'r cyfle iddo) a'i ymrwym iadau fel tirfeddianwr. Gan hyny, y mae'r barwnig cyfrwys wedi penderfynu glynu wrth ei ystad, a rhoi lie i ddyn heb ganddo fawr o ystad (pa ystyr arall ellir roi i'w eiriau ?) Yr ydym yn edmygu eich doethineb, Syr Watkin ac yn falch fod eich ystad wedi eangu a thyfu cymaint yn ystod y blynydd- au diweddar er pan wrthodwyd chwi deirgwaith gan etholwyr Dwyreinbarth Dinbych. Mae'n fwy na thebyg na chaf- odd Syr Robt. Cunliffe mo'r cynyg y tro hwn ond y mae ei areithiau presenol yn ei gymhwyso at hyny y tro nesaf canys y ffordd oreu i lewis darllawyr Gwrecsam- prif noddwyr Toriaeth yn yr etholaeth— yw difrio dirwestwyr. Galwai y barwnig hwy y noson o'r blaen yn "gymedrolwyr annghymedrol." Dyna'r unig engraipht o ffraethineb a gafwyd erioed o Acton. Golygfeydd mynwentaidd sydd ar y cyrdd- au Toriaidd hyd yn hyn ond diau y cawn yn fuan glywed llais mwyn y dyn o sir Mwythig "—nawddsant Cymru yn y Sen- edd-yr hyglodus Mr Stanley Leighton ac ysywaeth y rhydd y llenor cain Syr Theodore Martin erddygan o blaid ei blaid. Ond y cam mwyaf anffodus a wnaeth y Ceidwadwyr oedd gwahodd y bragwr Mr Drage o Derby i Wrecsam fel pe buasai dyn yn myn'd a llwyth o lo i Frymbo. Os na chyll y symudiad ffol hwnw iddynt bum' cant o bleidleisiau, na sonier mwy am wyddoniaeth etholiadau. Ond tra y mae gobeithion y Toriaid yn tywyllu o ddydd i ddydd, i raddau mawr trwy eu hanfedrusrwydd hwy eu hunain y mae rhagargoelion y Rhyddfrydwyr yn goleuo yn ol yr un graddau. Ymddangos-