Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Claddedigaeth Dr. Davitl Roberts.

News
Cite
Share

Claddedigaeth Dr. Davitl Roberts. BRYDNAWN Gwener, y 10fed cyfisol, claddwyd yr hyn oedd farwol o'r gwr anwyl ag y mae ei enw uchod. Dieth lluawa mawr o bebl yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i un a garent mor fawr. Darllenwyd a gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch D. S. Jones, Chwilog. Oddiyno aetbpwyd i gapel Queen's Street, lie bu Dr Roberts yn gweinidog- aethu am y 26ain mlynedd diweddaf. Yr oedd y capel yn Ilawn, ac arwyddion o dristwch ar bob llaw. Anaml y gwelwyd angladd mor gynrychiol. iadol o bob en wad, plaid, a dosbarth o bobl. Ar ganol y gwasanaeth yn y capel daeth Mr Philip Yorke, Maer Gwrecsam, i mewn, gyda blodeudorch brydferth, yr hon a osodwyd ar arch yr ymadaw- edig, yn ychwanegol at amryw flodeudyrch a osodasid gan eraill, yn mysg pa rai yr oedd un oddiwrfch bobl ieuainc yr eglwys yn Queen's Street. Llywyddid y cyfarfod hwn gan yr henafwr hybarch, y Parch Samuel Evans, Llandegla. Dtirlleawyd a ■ gweinyddwyd gan y Parch Bryniog Roberts, Oaer- J narfon. » Y Llvwydd Datganai ei chwithdod a'i hiraeth L oherwydd colli brawd mor anwyl a'r diweddar Dr Roberts. Gallai ddweyd llawer am dano, ond nld oedd am wneud tan yr amgylchiadau, gan fod yr amser yn brin. Darllenodd lythyr tyner iawn oddiwrth eglwys Pendref, Caernarfon, lie bu'r ym. adawedig yn weinidog cyn symud i Wrecsam ac enwodd amryw bersonau oddiwrth y rhai y der- byniasai Iythyrau yn datgan edmygedd o'r diwedd- ar Dewi Ogwen, yn nghyda chydymdeimlad a'r galarwyr. Parch Thomas Roberts, Wyddgrug Chwith iawn ganddo feddwl fod Dr Roberts wedi eu gad- ael. Y tro cyntaf iddo ei glywed oedd pan y pregethai ar y testyn, Beth a dgl hi ?" Cofiai yn dda fel y cymerai amryw ffyrdd i ddangos mor an- mhrisiadwy oedd gwir grefydd. Er mai ieuanc oedd efe (Mr Roberts) ar y pryd, dywedodd y pre- gethwr amryw bethau a lynasant yn ei gof. Yr oeddym yn claddu un oedd anwyl gan bawb. Yr oedd Dr Roberts wedi tewi, ond nid wedi tewi chwaith. Gdarai cyfundeb Dinbych a Fflint am dano. Teimlent eu bod wedi colli tad, Wrth feddwl am ei ymadawiad, a'r t6 yr oedd ef gyda'r olaf ohonynt, adgofid ef o'r hyn a ddywedid mewn cysylltiad a marwolaeth Joshua, A'r holl oes hono a gasglwyd at eu tadau." Ond gobeithiai na fyddai raid chwanegu, a chyfododd oes arall ar eu hoi hwynt y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithredoedd a wnaethai efe yn Israel." Oes o enwogion wedi myned heibio-Griffiths Caer- gybi, Caledfryn, Emrys, Tanymarian, Ap Vychan, Hiraethog, Dr John Thomas, Dr Roberts. Dy. munodd Dr Roberts gael marw yn yr harnis, a chafodd. Y Parch Griffith Owen (M.C.) a ddywedai fod angeu wedi tynu darlun ag y dymunai ef ei fframio a dystawrwydd, yn hytrach na siarad. Ond gallai ddatgan ei deimlad fel ei deimlad personol, yn gystal a theimlad ei gyfundeb-fod yr un a gleddid yn anwyl ganddynt oil. Byddent weithiau yn newid pwlpudau, a phob tro y cyhoeddid Dr Roberts i tod yn eu capel hwy, edrychid yn mlaen at y Sabboth hwnw. Teimlid y golled am dano yn y cyfarfodydd undeboi, oblegyd ystyrient bob amser y byddent yn ddyogel os byddai ef yn bres- enol. Edrychai yn ol at ei adgofion cyntaf am dano. Dywedodd amryw bethau byw a dyeithr y tro cyntaf y clywodd ef yn pregethu, ac un peth oedd-bod yn bosibl y deuai amser pan y bachai dyn ei gerbyd wrth yr haul. Clywodd yntau y bregeth, Beth a dql hi?" a chlywodd hefyd y bregeth enwog ar Bedd yn yr ardd," pryd y pregethai gyda'r diweddar Dr Thomas. Yr oedd ffarm gyfaethog gan Dr Thomas, ond yr ardd aeth a hi y tro hwnw. Y Parch J. 0. Williams (Pedrog) a ddywedodd Ee buasai hiraeth am y marw a chydymdeitnlad a'r yw yn gymhwysder i siarad, y gallas&i ddweyd llawer iawn. Ond siaradwr gwael oedd galar. Meddyliai am y gair hwnw, Cysgod angau, ac heb drefn." Didrefn yr ymddangoaax llawer o bethau dan y fath amgylchiad, ac yn enwedig y meddyliau galarus. Awgrymiadol iawn yw y gair U bwrw a ddefnyddiodd y Gwaredwr, pan y gof- ynodd i'r ddau ddisgybl, Beth a wnewch chwi yn bwrw yr ymadroddion hyn at eich g lydd, gan rodio yn wvnebdrist ?" Cafodd y fraint o weled Dr Roberts yn ei flynyddoedd olaf ac yn ei ddydd- iau olaf. Nid ystyriodd yn ddoeth siarad llawer fig ef, gan mor wan ydoedd eto dywedodd ddigon i ddangos fod ei hyder yn ei Dduw yn dal hyd y diwedd. Ni chafodd Dr Roberts ddyfod ilw gartref daearol i ymadael ohono i'w gartref nefol ond cafodd ei ddymuniad i ymadael o'r Sabboth daearol i'r Sabboth nefol. Dr Owen Evans, Llundain, a ddywedodd ei fod wedi cymdeithasu llawer a Dr Roberts er's 40 mlynedd, wedi cyd-bregethu llawer ag ef, ac wedi gwrando arno gyda mwynhad mawr. Cafodd rai o'r oedfaon mwyaf gafodd unrhyw bregethwr yn ei oes. Ni fu rhithyn o annghydwetediad rhyngddynt yn ystod yr holl amser. Hanai Dr Roberts o gyff tywysogion y pwlpud Cymreig. Yr oedd yn fon- eddwr, wedi ei wneud felly gan natur a gras, mewn ysbryd ac ymddygiad. Yr oedd pob gwaith a wnai yn weddus ac urddasol. Gellid dweyd am dano yntau, Y brawd anwyl, a'r gweinidog ffydd- lawn." Cleddid ef yn nghanol parch ac edmygedd. Yr oedd yn ddawn hollol ar ei ben ei hun— gwreiddiol iawn. Ond gall Duw wneud y golled i fynu. D wedodd rhywun wrth John Jones, Caer- gwrle, "Byddwch gyda ni ychydig eta yn y gornel," pryd yr atebodd yntau, "Camel, wir beth wna i mewn cornel? Pwlpud neu fedd i mi.' Ni boffasti efe weled Dr Roberts fel hyn wedi tori ei edyn yn y gongl. Teimlai ei fod yntau yn cael ei wthio at yr erchwyn. Hogwn ein c-ymanau ar geryg beddau y gwyr da hyn. Ysgrifenodd Dr Watts at Dr Doddridge, Yr wyf yn Ilesg, ond yn ttiyued i'm gwely bob nos heb ofalu yn mha fyd y deffroaf." Mr C. R. Jones, cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Cymru. a ddywedodd (vn Seisnig) fod ganddo benderfyniad oddiwrth bwyllgor perthynol i'r Undeb, a gyfarfyddodd yn LHndrindod y dydd blaenorol, yn datgan eu gwerthfawrygiad o wasan- aeth mawr y diweddar Dr Roberts i'w enwad a'i genedl, eu hiraeth am dano, yn nghyda chydym- deimlad dwfn S'r galarwyr. Y Parch M. 0. Evans, Gwrecsam, yn Seisnig, a ddywedodd nas gallai dim ddatgan yn fwy effeithol deimlad y dref yn ngwyneb marwolaeth Dr Roberts n, phresenoldeb y Maer, a'r parch a ddangosodd efe i'r ymadawedig. Cafodd Dr Roberts yn gyfaill caredig a ffyddlon, yn frawd i'w frodyr. Cafodd farw yn ei waith. Pregethodd fwy o weitbiau nag y gwnaeth Dr Macliren, er tnai vr olaf draddododd fWyaf o bregethau newyddion. Yr oedd ei bregeth- au yn cynwys llawer o'r gobeithiol. Pa mor ddrwg bynag y gallasai neb bod, yr oedd ganddo ef genad- wri obeithiol eco. Clywsai Dr Roberts yn pregethu boreu y Sul diweddaf iddo fod yn ei bwlpud ar y testyn "Ni lefaraf mwyach ynyrenw hwn," Sec. Byddai bob amser yn pregethu yn efengylaidd. Dywedasai un o'r diacomaid a gydoesodd a gwein- idogaeth Dr Roberts yn Ngwrecsam na fu galw arno erioed i alw yn ol ddim a ddywedodd. Bu son unwaith am gael II wyfan yn lie pwlpud. Na," ebai'r Dr, ddim o'ch rostrum chwi i mi, mae arnaf eisiau bod yn witness in the box Bu felly yn dyst ffyddlon i'r Meistr. Fel y rhedegwyr gynt yn Groeg, y rhai a gludent eu ffl imdyrch yn oleu i ben y rhedegfa, felly hefyd y gwnaeth Dr Roberts. Mi a orphenafs fy ngyrfa," &c. Mae efe erbyn hyn wedi myned allan o fyd y cyfnewid- iadau. Meddyliwch am eich blaenoriaid." Parch J. Poynter (Croesoswallt) Wedi dod yno nid i siarad eithr i ddangos ei gydyrndeimlad dys- taw a'r galarwyr yn ngwyneb colli un oedd mor anwyl. Gallai eu sicrhau fod y cyfundeb Seisaig yn y cylch yn hiraethus iawn am yr ymadawedig, ac wedi edmygu ei athrylith a'i gymeriad. Nid oedd yma achos galar chwaith. CLkfodd farw fel y dymunodd. Beth bynag am ein talentau ni, bydd- wn ffyddlon yn ngwasanaeth Duw, a chawn ddi- wedd da. Terfynwyd trwy weddi gan y' Parch D. Oliver, Treffynon. Fel y cludid yr arch allan gan ddia- coniaid eglwys Queen Street, chwareuwyd y Dead March." Cafwyd anerchiad tyner wrth y bedd gan y Parch Henry Rees, Bryngwran, yr hwn a ddat. ganai ei edmygedd mawr o'r gwr a gleddid, a'i hiraeth dwvs am dano. Er hyny, nid oedd yn dy. wylI i gyd arnom. Amheuai ef y priodoldeb o son am yr ymadawedig fel ein diweddar frawd." Yr oedd yn gymaint brawd heddyw ag y bu erioed. Y weddw wedi colli priod, yr amddifad wedi colli tad, a'r eglwys wedi colli gweinideg, a gellid dweyd diweddar am y cysylltiadau yna ond arosai y brawd o hyd. Ac er wedi marw, mae'n llefaru eto, Byddai fyw yn ei waith, yn ei ymddyddanion, ac yn nghalonau llawer. Oweddiwyd gan y Parch R. Roberts, Rhos; canwyd yr emyn, 0 fryniau Caefsalem ar y don Crugybar ac ymwahanodd y dorf fawr gan adael "Aur enau" y pwlpud Annibynol yn y dys- taw fedd Heddwch i'w lwch Traddodwyd pregeth angladdol iddo yn nghapel Queen's Street nos Sul ddiweddaf gan ei hen gyfaill Hwfa Mon. Daeth cynulliad lluosog yn nghyd. GAIR ODDIWRTH Y TEULU. Syp.Dymuna teulu galarus y diweddar Dr Roberts gael cydnabod trwy gyfrwng y Oymro y lluaws mawr o lythyrau, gydag arwyddion eraill o gydyrndeimlad, a dderbyniasant oddiwrth gyfeill- ion yn ngwyneb eu trallod mawr. Erfyniant am i'w cyfeillion eu hesgusodi am beidio ysgrifenu at bob un yn bersonol. RHAI O'I DLYSAU. BYDD dywediadau pert ac awenyddol Dr. Roberts ar gof gwlad am flynyddau lawer. Cyhoeddwyd dwy gyfrol dri a chwech o'i waith y gyntaf yn swyddfa Humphreys, Caernarfon, yn y flwyddyn 1858, a. chafodd dderbyniad cynes a darlleniad helaeth daeth ail gyfrol allan flynyddau yn ddi- weddarach, ond y mae llawer o'i ddywediadau mwyaf tarawiadol yn absenol o'r llyfrau hyn. Er mwyn ein darllenwyr ieuainc yr ydym yn rhoddi yr ychydig engreiphtiau canlynol o'i ddawn swynol —wedi eu cynull rhai o'i lyfrau ac eraill oddiar gof y sawl a'u clywsant. Yr Enfys.-Angel cyfamod y gwlaw wedi taflu ei scarf tros whr y cwmwl. Y Cynhauat.-Amlen am y rhodd fawr o iech- ydwriaeth i'r byd ydyw'r cynhauaf, ac mi welwch rai yn diolch am y cynhauaf na ddarfu iddynt er. ioed ddiolch am iechydwriaeth. Y maent yn gyff- elyb i ddyn wedi derbyn anrheg werthfawr yn fframio'r papyr llwyd oedd am dani, ac yn ei thaflu ei hun o'r neilldu. Y Creulatvn,-CaBiatawyd i'r diafol ddyfod ar yr esgynlawr unwaith, er mwyn i'r byd gael man- tuis i wybod pa fath un ydoedd, i ddangos pa fodd y triniai ei ddeiliaid a bu'n gysur i ni feddwl na chafodd ddyfod ond yr amser yr oedd ei Feistr ar y stage i gydio yn ei whr os byddai yn myned yn rhy bell. Cadw dagrau.-Bydd yn dda genym feddwl am yr adnod sy'n dweyd fod Duw yn cadw dagrau ei bobl; ond nid Duw yn unig sy'n cadw dagrau-y mae miloedd o ddagrau a gollwyd yn addoldai ein gwlad wedi eu crystaleiddio yn y ffiUm, ac yn cael eu gwisgo gan y Diafol fel perlau yn ei goron. Y ddaear a'r dyn.- Yr oedd hi wedi digio wrtho am y sarhad a dynodd arni trwy bechu bu ei fell- dith ef yn felldith iddi hithau nes yr oedd yn gywilydd arni ei gweled yn ngwydd bydoedd Duw. Dyma fi o dy achos di. Paid dwad ataf fi i chwilio am fwyd A throes ei chalon fel car- eg tuag ato. Yn lie dod a bara i'w gynal, dacw hi yn dyfod a llon'd ei dwylaw o ddrain i'w bigo a mleri i'w waedu. Ceuodd ei chypyrddau yn ei erbyn, a chuddiodd ei thrysorau oddiwrtho. Rhaid i ti chwysu tipyn," meddai, cyn y doi o hyd i'r rhai'o yna." Gyhuddrur y brodyr."—" Tid y celwydd yd- yw, ond cymer fenthyg gwirionedd i osod ei gel- wydd wrth ei gilydd. Celwydd ydyw y meini, ond nis gall adeiladu ei deml heb wirionedd yn forter. Jona. Un tro pan oedd gwas wedi dianc cyn gorphen ei waith, rhoes yr Arglwydd waraiot yn llaw y gwynt i'w ddal. Ffwrdd ag; ef ar ol y llong lie yr oedd yr euog yn ymguddio dychrynodd y morwyr dewr nes yr oeddynt bob un yn gweddio yn ceisio eu goreu ei anfon yn ol ac yn taflu taclau y llong iddo dim dyben, dim dyben. Oni chaf afael ynddo," ebe'r gwynt, mi wnaf eich hen long chwi yn gandryll." Dyn a'r angel,Pa faint hyn ydyw angel na dyn nis gwyddom, ond gwyddom fod angel yn ddigon hen i ganu pan grewyd dyn. Dyn yn gydrtad a'r angel.—Er nad ydynt yn yr un gweithdy, y maent yn yr un gwasanaeth. Y mae coat of arms y frenhines ar fotwm guard y mail sydd yn y tywydd, cystal ag ar fotwm y pen trulliad sydd yn y llys. Oddicartref Y n yr ysgol oddicartref y mae dyn yma; yr holl ymwneud sydd rhyngddo a'i Dad sydd trwy lythyrau, a llawer diwrnod trwm eiff tros ei ben os heb lythyr. y,r Un oedd a,- ol. -Pan ddaeth y Brenin Ms wr i alw y roll call, yr oedd pobpeth yn ateb pan rifodd ef y ser, gan eu galw wrth eu henwau, i gymeryd eu numbers, yr oedd pob un yn ei rank. Haul, Yma. Lleuad, Yma. Yr holl ser yn ateb Yma. Y mQr, Yma. Y mynyddoedd a'r bryniau yn ateb, Yma. Enaid, dyna ddystawrwydd. Dra- chefn Enaid, neb yn ateb. Enaid (unwaith eto), Ab,ent-y mae wedi encilio, Hwy a'm gadaw- saDt Angladd Nain.—O gyfarfyddiad rhyfedd. 0 un tu yr oedd Angau yn myned a'i ysglyfaeth tua'i ffau o'r tu arall, dacw Dywysog y Bywyd yn dy- fod, ac nid oes yn ein byd ni ddigon o le iddynt basio eu gilydd-y mae yn rhy gul rhaid i un droi yn ol neu ymostwng i'r llall fyned trosto: a gwyddoch pwy fu raid blygu y tro hwn. Yfrwydr rhwng Bywyd aM arwo7aeth. -Gwnaeth Angau ei oreu a'i waethaf hefyd i gael Ef i lawr buasai yn well ganddo golli meddiant o'i holl eiddo na'i golli Ef. Cymerodd ei ddwy law ati; nid oedd garddo ond un llaw yn taro pawb arall, gan gadw'r Ilall ar glicied y bedd. Di- angodd rhai o'i ddeiliaid oddiarno pan gawsant y drws yn rhydd gan ymddangos i drigolion Jeru- salem. Y Byd Brenhinol. —Nid hir y bydd yr un gwest- ty, wedi i un o'r teulu brenhinol aros ynddo am noswaith, na cheir gweled Royal Hotel, mewn ilythyrenau breision, uwchben y drws nid oes yn mhlith holl fydoedd Jehofa yr un Royal ond ein byd ni. Geiriau'n troi'n wyrthiau.—Ni lefarodd dyn er- ioed fel yr oedd Efe yn llefaru yr oedd ei frawdd- egau yn cael eu gwneud i fynu o wyrthiau a'r rhai hyny, gan ei fod yn proffesu ei fod yn Dduw, yn dangos mai Duw ydoedd.

o Marwolaethau.

--0-Eisteddfod yn Bagillt.

Advertising