Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y diweddar Archddiacon Griffiths.…

News
Cite
Share

Y diweddar Archddiacon Griffiths. Castellnedd. FEL y cofnodwyd yn fyr ya ein rhifyn diweddaf, bu'r clerigwr poblogaidd uchod farw ddydd Mercher yn ei anedd, Aelybryn, Castellnedd, a derbyniwyd y newydd prudd gyda gofid dwys gan bob plaid ac enwad yn Nghymru, Fe'i ganwyd yn gynar ya y ganrif yn Llayi Ddewi Aber Arth, lie dywed banes y ganwyd Dewi,sant nawddogol ein cenedl. Hanai o doiilu nodedig am eu teyrngarwch i'r Egiwys, a chan fod ei riaint yn bur gefnog eu hamgylchiadau, penderfynwyd dwyn John i fynu'n glerigwr. Yn ystod ei febyd sefydlwyd Coleg Dewi S mt yn Llanbedr ac yn 1838 ciwa ef yn myned yn efrydydd iddo. Felly yr oedd yn un o ddis- gyblion cyntaf y sefydliad hwn.v sydd wedi bod yn fag« rfa i ganoedd o glerigwyr ar ol hyny. Ni ¡ chroniclir dim neillduol am ei gwrs addysgol yno, ond rhaid ei fod wedi maateiaio yn dda ar ei freint- iftu, oblegyd cawn iddo gael si benodi yn brif- athraw yn Ysgol Rumadegol Abertexfi ar derfyn ei gwrs. Yn 1843, fe'i hordeiniwyd gan Essob Llan- da.f yn gurad Aberystrath. Bu vno am flwyddyn, pan y derbyniodd urdd offeiriad, ac y penodwyd ef i gurarliaetbl Nantyglo. Dachreuodd ei alluoedd ddod yn amlwg yno, ac edryohid arno fel gwr a'i oleuni yn rhy danbaid i'w gaddio dsn lestr. Cyn- ydrlu fn ei liares o'r adeg hODo-eynyddu yn ei ddylanwad fel clerigwr, ac yn ei batch yn serch y genedl. Bu am ddwy fhnedd yn Na.atyglo, ac wed'yn rhoed iddo reithoriaeth Llansannor. Oddi- yno symudodd i ofalu am bra,idd St Mary's Hill yn Mro Morganwg. Bu yno saith mlynedd, ac yn 1855 penodwyd ef yn rheithor Castellnedd, lie y gweinyddodd hyd fis Ionawr diweddaf, pan y rhoes ei ofal i fynu oherwydd henaint. Tra yn Nghas- tellnedd, penodwyd. ef yn ddeon gwledig, yn ganon ac yn archddiacon Llandaf, ac yn arholwr Cymreig a chaplan yr Esgob. Yr oedd yn orlaivn o yni, ac nid oedd dim yn ormod ganddo ei gyflawoi er budd ei EgI wys a'i genedl. Yn ystod y 41 mlynedd y bu yn Nghastellnedd, cymerodd ran amlwg yn mywyd y dref. Meddai synwyr cyffredin cryf a chraffder m&wr gwyddai pa lodd i ddenu cydyin- deimlad a chydweithrediad, a pha bryd bynag y siaradai, gadawai argraph ddofn, ddymunol, ar ei ol. Meddai bersonoliaeth hardd, a dynoliaeth lydan, iach, o'i mewn. Yr oedd ei dafod fel pin yr ysgrifenydd buan," a clita ei fod yr un mor fedrus gvd%r ddwy iaith, caffai dderbyniad y I gwrcsog yn mha Ie by nag y byddai. 1 r Eglwys, bydd ei farwolaeth yn galled fawr. Car- odd, gwaaanaethodd, a bu'n deyrngar i'r Sefydliad drwy ei oes ond medrodd ymgodi uwch y murian sy'n gwahanu plaid ac enwad, a sefyll ar dir cen- edlaethol i edmvgu rhr«goriaethau eraill, Ni adawodd i gulni rhagfarnllyd ddallu ei olygon yr oedd yn gymaint o ddyn y genedl ag ydoedd o ddyn yr Egiwys. Cariii heddwch, ac yr oedd Gwyn fyd y tanguefeddwyr yn adnod fawr yn ei fywyd. Enillodd serch ei gydgened! o bob gradd a chred a phe ceid mwy o rai cyffelyb iddo, ni buasai eymaiat o chwerwder yn ffynu yn Nghymru. Bu'n gyfoerthiad grymus i addysg uwchraddol, a rhoes ei ddylanwad a'i egnion ar y llwyfaa a thrwy y wasg i godi r prifysgolion sydd bellach yn harddu ein gwbd. Fe! gwladgarwr ba'll bur a ffyddlawn. Dyrchafiad y Cymro oedd ei nod, a hyny nid trwy amvybyddu ei nodweddion ond trwy eu hamddiffyn. Daw hyn i'r golwg yn ei amddiffynL d cadarn i'r Gymraeg. Cododd ei lef yn uchel yn erbyn y rhai a gredent mai trwy ddylorni eia hiaith y gellid hyrwyddo ein budd- ianau goreu a thrwy ei ymdrechiea ,f ac eraill y Uwyddwyd i ddylanwadu ar Swyddfa. Addysg i roddi lie i'r Gymraeg yn r.ghyfundrefn ein hys gnlion. Agwedd arall ar ei genedlgarwch oedd ei nawdd i'r Eisteddfod. Nid yr wyl fawr flodeuog welir yn awe fu'r Eisteddfod bob amser. Gweiodd y sefydl- iad amserau drwg, pan oedd ei noddwyr yn brio a'i gelynion yn lluosog. Yn y cyfnod hwnw gweiodd yr Archddiacon werth yruldi, a rhoddes law o gyaortbuvy iV dyrchafu. IVin y cynaliwyd un wyl genecllaethol yn ystod y 50 mlynedd diweddaf nad oedd ef yn bresanol yndch, ac yr oedd ei ym- ddangosiad hybarch yn add urn i w llwyfaa ac i'w gorsedd. Gel wid fynych i draddodi anerchiad ar ei llwyfan, ac yno y elywid ef ar ei oreu. Yr oedd tine y gwir wladgarwr yn ei eiriau, a'i hyawdledd yn llawn o swyn Cymreig. Fe! pregethwr yr oedd yn rymus ac effeithiol; fe! pleidiwr muiiad neiliduoi mewn cynghor esgob- stidd, yr oedd yn ddepgar a dylanwadol mewn cyaadleddau a phwyHgofAU yr oeddyn bwyilog ac yn gyfarwyddwr doefch ac efe a'r Deon Howell, yn ddiau, ellid restru y ddau wr cyboeddus mwyaf I poblogaidd feddai'r Egiwys yn Nghymru. p;blog>:¡,w.d feddal l' Eglwys yn Nghymru. ANGLADD GWLADGARWR. [Gan -J. M.H ] DIAU fod Oymru yn edrych arnom, ac yn wylo gyda ni, ddydd Sadwrn diweddaf. tra y safem wrth fedd agored yr Archddiacon Griffiths. Gosodwyd ei weddillion mewn daeargell yn mynwent eglwys blwyfol Henfyayw, yn ymyl gweddillion ei v/raig gyntaf. Saif yr eglwys hon tua milldir i'r de-orllewin o dref Aberaerou, yn ymyl y brif-ffordd o Aberaeron i Aberteifi, a'r fynweot yw ptif gladdfa trigoiirn Aberaeron. Dewisasai ef y fynwent a'r fan er's blynyddau i orphwys ynd ii hyd fore y codi. Pa- ham ? Yr oedd wedi ei eni yn Parkneuadd, yn mhhvyf cyfagoa Cilian Aeron, yn y flwyddyn 1820, yn mis Mai, fel y tystiai y llythyrenau ar ei arch Yr at b cywir, yn ddiau, yw, am fod ei gartre goreu yn Dolygwartheg, yn mhlwyf flenfynyw,- trigfa ddewisol ar Ian yr Aeron, ttira milldir o Aber- aeron, yn ymyl y brif-ffordd sydd yn arwain o'r dref hono i Lanbedr Pont Stephan. Lie clyd a chynes oedd y cartref hwn, yn lleehu o dan goedwig fechan, dew,o tfynidsvydd. Delid y tyddyn gan ei dad ar brydles, yr hon a barhai tros fywyd y mab ond daeth cyfle i'r mab brynu'r lie tua deunaw mlynedd yn ol, gyda'r caeau porfaog sydd yu ymledu rhwng y ty a'r afon, ac wedi hyny cryfhai ei senh fwy fwy tuag ato hyd y diwedd. Nid oes dim o ddyddordeb hynafi-aethol yn per- thyn i fynwent ac eglwys Henfynyw. Dywedir fod Sanl; Dawi wedi adeiladu yr eglwys gyntaf yn y lie, a'i fod wedi byw gerllaw, ond nid oes cronic na thraddodiad a ehysgod o wirionedd ynddo ya sail i'r dywediad. Y mae un gareg yu dwyn ar graph o ryw haner gair, yr hon allasai fod wedi ei naddu, medd y Proffeswr Rhys, tua'r chweched ganrif. Nid yw yr haner gair hwnw, mor bell ag y gellir ei ddeongli, yn cynwys unrhyw genadwri o bwys. Y mae'r eglwys yn newydd a diaddnrn, gyda phigdwr bychan heb orphen prifio. Y mae'r bedd- au hefyd ar y cyfan ya gydmarol newydd, ac nid oes nac ywen na derwen nac unrhyw goeden arall yn agos i'r fangre. Anhawdd cael gafael ar fyn- went mwy annhebyg i fynwent y plwyf fel y bod- ola yn y meddwl a'r myfyrdod ac eto, Mae'r oil yn gysegredig, V, Do, bu-goddefer y wladgarol nwyf- Bu llawer brawd a chyndad hoff i mi Ar hyd y banau hyn ar lawer nawn Yn canu neu yn wylo, fel y caed I Profiadau bywyd. Fe aeth cyfeillion dros y gamfa hon A'r holl awelon nefol lawer gwaith, A'r lloer, a llawer seren ddwyfol wawr, A'r haul, a'r daran hefyd. Gan adael cymunroddion per Dros lasweIlt sydd yn cuddio'r goreu iu. Bychan yw'r cynulliad ger y bedd. Bach yw iiifer y clerigwyr-tua deunaw fealiai. Y tebyg yw na ddarfu iddynt ei hoffi erioed. Yr oedd y clerigwr yn yr yinadawedig wedi ei golii yn y gwladgarwr. Yr oedd Esgob Bangor yno. Ai tvbed nad yw Cymru yn cymeryd ei dallu yn an- ymwybodol gan Ysgol St. Asaph ? ac yn foddlon derbyn llathen yr ysgol'hono i farnu pawb? Y mae'r Cytnro yn is na'r croen yn Esgob Bangor, ac yn croesi ffiniau'r Eglwys. Dylaswn ddweyd hefyd fod un o'i hen guradiaid --y Parch. Peter Williams o Droedyrhiw.Merthyr, wrth ei enw-wrth ddarllen v gwasanaeth uwch y bedd agored, yn methu peidio dangos fel yr oedd efe yn ei garu. Na, yr oedd y rhai a fedrent roddi claildt-digaeth i Griffiths Castellnedd yn absenol Camsyniais nid felly yn hollol chwaith-yr oedd y Wyddfa, a Chader Idris, a Plunlumon yn syllu rhwng yr holJtau yn y cymyl. Chwythai y gwynt hoenusdros fau Aberteifi y mentyll oddiar eu pen au yn awr ac eilwaith. Yr oeddynt yn ein hymyl, a gwelais hwynt mor eglur ag y gwelais ddim er- ioed yn svllu yn bruddaidd ar yr hwn a garai eu hannibyniaeth, eu hunigrwydd, a'u hanes, yn caei ei roddi o'r golwg. Oadd, yr oedd ein mynyddau yn yr angladd. Wedi'r -wbl, nid lie annghymhwys yw mynwent Henfynyw-agored, i'i gwVoeb ar y mor, a mya- yddoedd Cymru yn ei gwylio, heb bren rhyngddynt a hi, i fod yn orweddfan i wladgarwr. Y aeri He iawn i edrych allan ar ogoniaot dyfodol Cymru, ac am adgyfodiad y meirw. Yr oedd yno un yn cadw cwmni i'r mynyddoedd, Mr. Stephen Evans,-yr unig u» gyda Mr J. F. Roberts o Fanceiaion, sydd wedi ei adael o'r gwroniaid osodas=,nt i lawr sail Coleg Aberystwyth. Yn cynrychioli yr oruwchadeiladaeth bresenol, yr oedd Dr. Snape a'r Proffeswr Edward Edwards ac wrth feddwl yn ein hiraeth am ogoniant y syl- faenwyr, bron na ddywedwn yn fy tfrwst, The weaker offspring of a stronger age. Yr oedd Morien yno fel aderyn yr ystorm, yn profi fod y ddrycin yn un drychinebus, yn un genedl- aethol. Mewn brys y darllenwyd y gwasanaeth ya yr egiwys gan ficer y plwyf mewn brys y canwyd y peaill cyntaf o'r emyn, Ar lan Iorddoaen ddofn," ar y d6n Moab mewn brys y gosodwyd y corph yn y ddaear mewn brys y canwyd y penill, "Morddedwyddyw y rhai trwy ffydd" ar ol gwneud hyny. Yr oedd v bob! o sir Forg .n wg eisiau dal y tren pedwar o'r gloch yn Llanbsdr. Onib'ai fod miloedd yn yr arigladd nad oeddynt yn bresenol, buaswn yn ddigofus. Edrychais ar y mor sydd mor agos i'r fynwent, a gwelwn gysgodau y cymylau duon a chwythid gan y gwynt cyfiym, yn rhuthro tua'r lan. Gwelais fod ysprydion dewrion Cymru yn dod yn Un i wylio ei fedd. --0--

Croesawu Mr. a Mrs. Herbert…

--:0:--Cohebiaethau.

Newyddion Cymreig.

[No title]

-0-Damweiniau Angeuol yn Mon.

Ar Finion y Ddyfrdwy.

[No title]