Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. "Preesgweene." Hw ydyw hwn ar orsaf fechan ar y Great Western rhwng y Waen a Gobowen ac y mae Thyw son am newid yr enw gan nad oes yr un dewin iaith ar wyneb daear all ddweyd fod ystyr yn y byd i'r gair fel y mae. Yn ol y gwyr o 4dysg fu'n chwilio i'w wreiddiau, mae wedi myned trwy gyfnewidiad bynod canys dywed- ant mai llygriad ydyw Prees o prysg, y gair Oymraeg am brushwood-ngu prysgwydd yn y <3ymraeg bresenol ac mai llygriad ydyw A, gweene," o Gwên, sef oedd Gwên, un ofeibion Llywarch Hen, ac a laddwyd mewn brwydr fel y dywedir yn y Myv. Archaiology (arg. Dinbych tudal 92) ar lan y Morlas, neu Morlais, afon yn codi yn mynydd Selattyn, ac yn rhedeg heibio y lie y saif gorsaf Preesgweene i lawr i'r afon Geiriog. Owen vorddwyd tyllvras a wylias neithwyr Yn nghoror ryd Vorlas A chan lin mab ym ni threchas. Oedd gwr vy mab oedd dysgywen hawl Ac oedd nai i Urien Ar ryd Vorlas y llás Gwen. Nis gwn a oes rbyd ar y Forlas yn bresenol, 318U angen am ryd ond ar lifeiriant ond oddi- wrth y dyfyniad uchod, yr oedd yno un yn y cbweched ganrif ac yn y rhyd hwnw y lladd- wyd Gwen, mab hynaf ac anwylaf y bardd- dywysog Llywarch Hen, yr hwn oedd yn gefnder i Urien Rheged. Da iawn pe rhoddai y G. W. R. rhyw enw ar yr oreaf a gludai enw Gw&n a'i dad clodfawr yn mlaen i'r dyfodol, a, thaflu y gair hyll a diystyr Preesgweene i'r wadd a'r ystlumod. Nid wyf yn sicr ai nid yn mhlwyf St. Martin y mae Rhyd Morlas modd bynag, nid yw yn mhell oddiyno. Hen enw St. Martin oedd Llanfarthin. Pwy fuasai yn meddwl am gyf- iwyno Llan i sant o'r enw farthing Ran hyny, ,ond yw Llan silin yn yr un ardal '? Svr G, Osborne Morgan. MAE'R bobl yn dal i ofyn yn mh'le yr oedd Ael- odau Rhyddfrydig Cymru ddiwrnod y cynheb- rwng ? Dywedir fod dau neu dri ohonynt mewn cyfle y gallasent roddi eu presenoldeb yno yn rhwydd ac na fuasai y fare ond ychydig syllt- au. Trodd ei gyn-etholwyr allan wrth y mil- oedd rhaid fod Rhosllanerchrugog yn wag y prydnawn hwnw. Arwydd dda ydoedd hon ar lawer ystyr. Profai tuhwnt i amheuaeth fod Rhyddfrydiaeth yn boblogaidd yn y rhanbarth ac argoela yn dda i'w olynydd. Wyddoch chwi beth gostiodd ei etholiadau a threuliau eraill i Syr George er pan eisteddodd gyntaf dros sir Ddinbych ? Tros ddwy fil ar hugain o bunau Derbyn hyny a ddylasai, ac nid eu talu. A gwariodd flioedd ar ddybenion eraill heblaw politics canys dyn hael ydoedd, ac ni fyddai unrhyw achos teilwng yn ei ethol- aeth beb ei gymhorth, hyd y gallai. Y Cynhauaf- PE na ddaethaTr ddryghin dair wythnos yn ol buasai cynbauaf Cymru wedi ei gael yn lied lwyr erbyn hyn. Fel y mae, gellir casglu fod mwy na'i haner yn yr ydlan, a llawer wedi ei ddyrnu, canys y mae ffermwyr yr oes hon yn ddoethach na'u hynafiaid. Goreu bo'r cyntaf i ddwyn gwenith a haidd i'r farchnad ydyw eu harwyddair. Gyda glanau'r moroedd, ac yn y dyffrynoedd nid oes ond ychydig iawn heb ei gael. Ambell gae yma ac acw, ac yn mhell oddi- wrth eu gilydd, oedd allan yn Nyffryn Clwyd ddydd Llun; ond yr oedd amryw feuayddarForfa Caer ac ar ystad Mr Gladstone tan y ddryghin, a'r un modd ar hyd Ddyffryn Alun i fynu i Nan- erch tra na welais ddim yd allan ddydd Llun o Gaer i Fangor. Mae peth wmbredd o gnau eleni, a rhaid fod y gwiwerod yn gweithio o leiaf amser a haner y dyddiau byn, canys y mae ffon eu cynaliaeth hwy mor wis^i nes ydynt yn syrthio o'u I naasgl. Dyma y prif adeg ar y flwyddyn y byddai'r hen Gymry yn priodi pan wisgiai'r cnau ond nid yw'r oes hon yn hyn o beth !nor byrticlar, chwedl Pitar Maseth. Bwyd Llyffaint- AE cyflawnder mawr o fushrwms fel y gallesid disgwyl ar ol yr baf poeth. Pa bryd y cawn ni gan un neu ragor o ohebwyr Natur a'i £ hlant" ar natur a tharddiad y danteithfwyd "yn. Mewn manau mae'r ddaear yn wen ohon- Ynt, a llawer truan yn gwneud tipyn o bres yrrth eu hel. Tybed fod ein cyndadau yn eu wyta ? Enwau digon anmharchus a roddent ddynt; megys, yn ol Silvan Evans Bwyd y areud, Bwyd y boda, Bwyd ellyllon, Bwyd ^yffaint, Caws llyffaint, ac eraill o'r un natur. -fuasai pobl, tybed, ddim yn bwyta bwyd y L^0ent enwau mor ddirmygus arno. Byddai yn da gan luaws o'n darllenwyr, mae'n ddiau, gael 0<Wiwrth naturiaethwyr a hynafiaethwyr ar Cymru ac Eiusenau Cyhoeddus. MAE'R Cymro laweroedd o weithiau wedi en s.y^w amddifadrwydd Cymru, ac yn ein *g Ymneiliduaetl1 Cymru, o sefydliadau jjr^en°l. Bu v mater tan vstyriaeth yn Vi°^ymdeitbasfa ddiweddar Pwllheli; ond nid Sa!l S?8 i fawr uniongyrchol ddeill- B^° yny* Galwodd y Parch W. O. Jones, j0" Chatham Street, sylw at Ysbyttai'r Cleif- ■pwl, a dywedai fod Cymru yn cael budd tuag aty dtiwrthynfc heb S"franu ond yohydig he^Jllae yn hollol wir, ac yn wir digon hyll Ogledd Cymru. Nid ewch chwi i'r ftwvdd yn Lerpwl, unrhyw ddydd o'r yndd na ch0wch chwi Gymry o Gymru eto v°* cysta^ aS o Lerpwl a'i hamgylchoedd; f dr1i»faae °y^raniadau holl addoldai Cymreig 8 yn druenus o fychain tuag at yi elusenau bendithfawr hyn pan ystyriom ein cyf- oeth a'n cyfraniadau at amcanion eraill ac nid ydynt yn cael yr un ddimai goch y delyn o addoldai Cymru. Mae hyn yn anfri arnom fel cenedl, ac yn peri i'r meddygon dyngarol hyoy sydd yn rhoi cymaint o'u hamser a'u llafur i'r ysbyttai ein cablu, ac edliw mai pobl galed ydym, yn medi lie ni hauwn, ac yn casglu grawnwin yn ngwin- llanoedd pobl eraill. Pa bryd y diwygiwn, trwy naill ai godi sefydliadau dyngarol ein hun- ain, neu gyfranu at y rhai sydd eisoes, ac y der- byniwn gymaint budd oddiwrthynt ? Chwareu Mwgwd yr leir. YR oedd hen chwareu er's talwm fyddem yn ei alw "Mwgwd yr Ieir," ac am a wn i nad yw mewn bri eto lie mae gan blant amser i chwar- eu. Tybed fod plant yn chwareu cymaint y blynyddau hyn ag oedd plant ddeugain mlynedd yn ol ? Modd bynag, pan gyrchai nifer o blant i chwareu Mwgwd yr leir," rhoid cadach am benglog un ohonynt i'w ddallu, Gofynid iddo, Sawl bys sy i fynu ?" Ac os dywedai y nifer iawn, byddai raid rhoi hug arall i'w ddallu'n fwy effeithiol. Yna troid ef dair gwaith ar ganol y llawr; a gofynid iddo ddal un o'i gyd- chwarenwyr, a phan lwyddai rhoid y mwgwd ar hwnw neu hono, canys rhan fawr o abort y chwareu fyddai fod y ddau ryw yn cymeryd rhan ynddo. Byddai ambell un yn gallu tremio tros, tan, neu trwy y mwgwd a gweled ei gym- deithion mewn amrywiol ystumiau digrifol yn ceisio cadw eu hunain o'i afaelion. Gomedd presenoldeb y Wasg. RHYWBETH digon tebyg i Ohwareu Mwgwd yr leir ydoedd gwaith Pwyllgor y Chwarelwyr yn gomedd i'r wasg fod yn bresenol pan ddadleu- ent deilyngdod eu. dau ysgrifenydd bythef- nos yn ol, a'r un modd Gyngbor Rhyddfrydol Dwyreinbarth Dinbych ddydd Gwener diweddaf, pan ddadleuent deilyngdod y gwahanol ymgeis- wyr am y fraint o ymladd eu brwydr yn yr eth- oliad agoshaol. Chwi ellwch benderfynu fod rhyw ddrwg yn y caws, neu rhyw bobl annoeth yn llywodraethu. neu y ddau yn nghyd, pan omeddir presenoldeb y wasg ac fe ddychmygir fod y drwg yn fwy, a'r annoethineb yn wrthun- ach, trwy fygydu'r cyhoedd neu efallai y bydd y mwgwd yn aneffeithiol, ac fel y cnaf yn y chwareu, yn gweled pobpeth, ac yn cael mawr ddifyrwch wrth syllu ar ystranciau y sawl geis- iodd ei ddallu. Duwinyddion Llandrindod. MAE y gyrchfa boblogaidd hon, fel y gellir casglu oddiwrth ei henw, yn cael ei thrwblo yn awr ac eilwaith gan dduwinyddion. Ac y mae yn digwydd weithiau fod Ffyrdd y rhain cyn groesed Ag un ar i fynu a'r Hall ar i waered, Ac yn ddigun a moedro menydd dyn gwan Heb wyb)d pa fan i fyned. Un Sul yn ddiweddar, yr oedd Cardinal Vaughan yno yn llefaru yn ei deml fach ei huu. Yn fuan wed'yn pregetbai y Parch Eynon Davies yn Nghapel yr Aunibynwyr, gan gyfeirio yn llym at ymosodiadau Pabyddiaeth ar Gymru, megys penodiad y Ficer-Apostolaidd. a'r sylw neillduol a delir iddi gan awdurdodau Rhufain. Soniodd hefyd am bregeth y Cardinal, ac mai nid yn y dull mwyn a siriol hwnw y byddai ei barchedigaeth yn llefaru yn gyffredin. Enynodd geiriau Eynon seldaubaidy Western Mail, yr hon sydd bob amser yn llosgi tros iechyd y ffydd. Rhydd wers dda i'r Pregethwr Ymneillduol am ei eoodra yn beio Pabyddiaeth am geisio adenill Cymru a gofyna onid oes gan Babyddiaeth gystd hawl i broselytio yn Nghym- ru ag sydd gan Ymneillduaeth ? Golygfa adeil- adol ond ysmala rywsut, ydyw gweled y Car- dinal, druan, yn dyheu am ddychweliad ei genedl yn ol y cnawd at grefydd mae rhywbeth yn ddigrifol hefyd yn yr olwg ar Gymro talent- og, wedi ei eni yn Nghymru, ei godi i bregethu yn Nghymru, wedi ei ddysgu yn Nghymru, ond wedi gadael Cymru i fyned i weinidogaethu ar eglwysi mawrion a chyfoethog allan o Gymru, yn gweled bai ar un arall am hau efrau yn y wlad adawyd ganddo ef i gymeryd ei siawns ond y digrifaf beth o'r cwbl ydyw'r We3tern Mail yn dadleu tros ryddid i Babyddiaeth fel pe byddai'r oenig ddiniwed hono yn cael ei dyfetha gan ei diniweidrwydd.

Marohnadoedd.

CDewi Ogwell).