Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE DRGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL- Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, Cedwir Stock helaeth o bob math o offeryuau Cerdd. Aiff yr hen offerynau- heb allu Bellach i'r cysgodau; Bwa celf sy'n bywiocau (I'lallu tyner gwell thnau.Tudno. PIANOS o 10s. 6ch. y mis ac uchod, AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, ;&c. HARMONIUMS, 4s. y mis, &C- Stock ragorol o'r Caneuon goreu, newydd a hen. School of Music, Voice Training, Violin, Piano, <&c., &c. Prospectus free on application. EISTEDDFOD <6ADEIRI0L 00LWYN BAY, DYDD GWYL DEWI, MAWRTH laf, 1898. PRIF DESTYNAU- PRIF GYSTADLEUAETH GORAWL.—I'r Gor, heb fod o dan 35 mewn nifer, a gano oreu "Pwy yw y rhai hyn?' Gwobr, Z8, a Choron Arian i'r Arweinydd BRASS BA.ND CONTEST Gems of Victorian Melodies (Round). Prize, Seven Guineas. TESTYN Y GADA IR.-Pryddest heb fod dros 300 llinell, Y Cynhauaf." Gwobr, c..dair Dderw Gerfiedig. PRIF DRAETHAWD.—" Dewi Sant a'i Amserau." Gwobr, 41 10s. BEIBNIAID :—Mr Wilfrid Jones, R.A.M.. a'r Parchn J. Cadvan Davies, T. 0, Jones (Try/an), a T. C. Roberts. Anfonir rhestr gyflawn o'r Testynau &c., ar dderbyniad stamp ceiniog. Ysgrifenyddzon-0. JONES ROBERTS, a H. n. MOHRfS. Grove Park. Mr. J. H. ROBERTS, Mus. Bac., Cantab. (Organist' of Chatham Street Presbyterian Church; Associate oj the Royal Academy of Music London: Fellow of the Tonic Solfa College, London Musical Editor of the followinq Publications C.M. Tune Book;' 'Llaw,yfr Moliant'; Novello's Anthem Book; Author of Handbook on the Elements of Music ). Begs to announce that he has taken up hia Residence at 149, GROVE STREET LIVERPOOL. MR. ROBERTS is prepared to accept Engagements as Musical Adjudicator, Conductor of Psalmody Festivals, &c., and for Organ Recitals. Lessons given on the Pianoforte, Organ, and in Singing, Harmony, and Composition. PupUs prepared for all Examinations. A Special course of Lessons may commence at any date. Postal Lessons given. Term begins SEPTEMBER. Sth. Particulars on application. CYFAPB C STADLEDOL GROVE STREET, LERPWL, JTFOS IAU, HYDSEF 14, 1897. Drysau'n agored am 6-SO i ddechreu am 7. TESTYNAU AGORED I'R BYD. Traethawd Y moddion goreu i wrthsefyll ymos- odiad Pabyddiaeth yn Nghymru." Gwobr, Bl Is. Am y 50 Ilinell goreu ar "Farwolaeth Absalom." üwobr. 10s. 6c. Dau Englyn, Tawch Tachwedd." Gwobr, 3s. I Barti o 12 a gano oreii Y Lloer (J. Thomas Llanwrtyd). Gwobr, ,el 10s. Unawd Tenor, "Llwybr yr Wyddfa" (W. Davies). Gwobr, 5s. Unawd Baritone, "Y Milwr Dewr" (Dr Parry- nid J. Henry, It. A.M., fel y nodir yn y rhaglen-yw awdwr y gan hon). Gwobr, 5s. Unawd Soprano, "Y Gloch" (Wm. Davies). Gwobr, 5s, Pedwarawd ar yr olwg gyntaf (dewisedig gan y beirniad). Gwobr, 48. Beirniad-Mr. J. T. JONES. Cystadleuaeth Canu Penillion ar yr Alaw, "PenRhaw" gyda'r Delyn. Gwobr, ios. 6c. Bydd TELYNORES LLEIFIAD yn y cyfarfod gyda'r Delyn yn barod i chwareu i'r holl gystadleuwyr. Beirniail-Mr. W. O. JONES, Blaenau Ffestiniog. Ceir hefyd amryw destynau eraill agored i Anni- bynwyr Lerpwl, Birkenhead, a Seacombe. Rhestr gyflawn o'r testynau i'w chael gan yr Ysg.,— E. G. EDWARDS, 3, Arundel Street, Princes Park. T IVERPOOL TO LLANDUDNO, L BEAUMARIS, BANGOR. & MENAI BRIDGE. DAILY MORNING SAILINGS from Prince's Landing Stage (Sundays excepted, and circumstances permitting). "ST. TUDNO" Leaves Liverpool 10-45 am Leaves Menai Bridge 3-0 pm „ Llandudno. 1 0 pm Bangor Pier 3-10 pm Beaumaris 2 0 pm Beaumaris. 3-30 pm „ Bangor Pier 220pml Llandudno. 4 30 pm Arrives Menai Bridge 2 30 pn-l Arrives Liverpool 6-45 pm AFTERNOON SAILINGS.—"ST. ELVIES* *Last Trip Monday, 13th September, from Wales. MONDAYS, "TUESDAYS, and SATURDAYS (until 11th September), for North Wales, leaving Liverpool at 2 o'clock, connecting with the" St. Tudno "leaving Llandudno at 5.15 p.m., and arriving back in Iiivernool at 7.30 p.m. Cheap Day Excursions and Week-end Tickets issued to 27th September. For fares and all further particulars apply to THE LIVERPOOL & NORTH WALES STEAMSHIP CO., LTD., T. G, BREW, Secretary, 20, WATER STREET, LIVERPOOL. Telephone 6366. NORTH WALES AND BACK I THE SAME DAY. THE CHEAPEST AND BUST SEA TRIPS OUT OF LIVERPOOL. Best and Quickest Route to Holywell, St. Winifred's Well, Pantasaph Prestatyn, and Rhyl. The Fast Paddle Saloon Steamer FLYING FALCON Will Sail from the Prince's Landing Stage and Mostyn (weather and other circumstances permitting), as under ;— LIVERPOOL to MOSTYN and Back the same day. p Average passage 1 hour and 45 minutes, giving passengers two or three hours ashore in one of the prettiest spots in N orth Wales. Long Day Trips, about ten hours ashore, From LIVERPOOL. From MOSTYN. Thursday, Sept. 9.. 9.0 am; Thursday, Sept. 9 ..7.30 pm Friday ,,¡HI.. 9.0 am I Friday 10 ..12 noon Saturday It 9.0 am j Saturday 11 12.45pm Monday 13.. 9.0 am Monday 13 .1.46 pm Tuesday, 14 9.0 am Tuesday, 14 ..2.15 pm Wednesday 15 ..>9.0 am Wednesday 15 .2.45pm September 9th, Long Day Excursion from Liverpool to Mostyn and Back. Single Fare, 1/6; Return Fare, 2/6 Bridge extra. Tickets not transferable, and available for day of issue only SOUTHPORT every SUND AY at 3 p m. Return Fare, 1/6. Refreshments on Boatd at Moderate Charges. Office; 27. WATER STREET, LIVERPOOL. Telephone 2334. CARTREF CYMREIGr I YMWELWYB a LLUNDAIN. Pa Ie i gael llety cysurus yn Llundain ? Ewch o Padding- ton Station, G.W.R., gyda'r Underground i Gower Street Station, am No. 9 neu 30, Euston Square, neu o Euston Station (L. & N.W.Ry.), pa un sydd yn agos iddyn. GLASLYN HOUSE EVAIJS' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. D. EVANS, Perchenog" 2g' Neu CELT (KELT) TEMPERANCE HOTEL, 30, Euston Square, London, N.W. F. DUNN, Perchenog. Y mwyaf canolog i bob rhan o Lundain. CHESHIRE LINES. TRENS NEWYDD RHWNG MANCEINION A GLAN MOR CEREDIGION. Rhedir TRENS CYFLYM i OGLEDD CYMRU a CHYFFINIAU LLINELL Y CAMBRIAN. Lavatory Carriages o'r cyntaf a'r trydydd dosbarth rhwng Gorsaf Ganol MANCEINION ac ABER- YSTWYTH fel y canlyn Amser. Dydd Gwaith. Gorsafoedd. a.m. p.m. Pwllheli gadael 1010 — Porthmadog 10 48 Absrmaw 1135 150 Aberystwyth 12 5 220 Drefnewydd 153 420 Trallwng „ 2 22 5 0 Croesoswallt 250 530 Wrecsam (Ganol) cyrhaedd 3 40 6 15 Caer (Liverpool Road) „ 422 7 2 Hartford a Greenbank 445 7 25 Northwich 450 730 Knutsford 6 0 740 Altrincham a Bowdon „ 5 10 7 49 Stockport (Tiviot Dale) 6 18 8 20 Manceinion (Ganol) 6 30 810 Amser. 1 Dydd Gwaith- j Gorsafoedd a.m. p.m. [ Manceinion (Ganol) gadael 10 10 3 30 Stockport Tiviot Dale) 9 5 320 Altrincham a Bowdon „ 10 26 345 Knutsford „ 10 36 353 Northwich 1046 4 2 Hartford a Greenbank 10 51 4 8 Caer (Liverpool Road) „ 1117 4 29 Wrecsam (Ganol) cyrhaedd 12 0 5 12 Croesoswallt 1240 615 Trallwng 125 6 55 Drenewydd 2 0 745 Aberystwyth 340 935 Abermaw 4 0 Porthmadog 533 Pwllheli 6 0 i latii amserau dychwelyd, cysylltiadau yn y gors- afoedd cydrhyngol, a manylion am drens eraill gweler tablau amser. GOFYNWCH AM DOCYNAU GYDA'R CHESHIRE LINES." DAVID MELDRUM, Goruchwyliwr. Lerpwl, Gorph., 1897. Hysbysir fod y Parchn R. Hughes, B.A., Aber- I ystwyth, ac E. O. Davies, B.Sc., Garston, wedi eu penodi yn gynorthwywyr i Dr Charles Edwards yn Ngholeg Duwinyddol y Bala. Os mynwch gael CIG OEN GWIR GYMRE IG, blasus, danteithiol, y mae i'w gael yn ddyddiol yn SIOP COED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn a March- nad St. John. Treiwch ef. Ni'ch siomir.
NODYN I'R BONEDDIGESAU.
NODYN I'R BONEDDIGESAU. YN Lerpwl yn bresenol. gwerthir y Crysau a'r Blowsus mwyaf defnyddiol yn masnach- dy Husseys, 116 Bold S reet. Y maent wedi eu gorphen yn brydferth, ac yn y ffurfiau mwyaf ffasiynol. Hefyd yr holl hugan-ddefnyddiau, ffrilins, ffunod, gwe- nwyddau, &c., &c., diweddaraf; yn nghyda detholiad gwych o dlysau rhesymol eu pris- iau. Bron-addurnau arian am is. ac uchod; eto rhai aur-orchuddedig am o is. i 5s. yr un a detholia d diddiwedd o anrheg nwyddau heirdd- Cofiwch y cyfeiriad- Husseys, 116 Bold Street, Lerpwl.
Advertising
IT)iOS JONES&Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 21- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 201- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. TJiOS. JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. GELLIR cael Y Oymro yn Llundain gan Mr J. J Kelly, 2, Southampton Buildings; a Mr W. H. Roberts, 10, Cecil Court, Cbaring Cross Road, W.C. .V" At Ein Cohebwyr. Un o'r Berllan.-Dylasai'r hanes ein cyrhsedd wythnos yn nghynt; ac nid ydych wedi rhoddi eich enw priodol.
CWYMP CEWRI.
CWYMP CEWRI. FEL y rhuthrwynt nerthol a ddaeth y dydd- iau diweddaf tros y wlad, gan ddadwreiddio a bwrw l'r llawr dderw ieuainc a hen felly I yr ymddengys fel pe daethai tymhestl ysgubol tros ein cenedl gan fwrw i'r llawr rai o'n henwogion anwylaf a mwyaf def- n yddiol. Yr wythnos ddiweddaf, yr oeddym yn croniclo marwolaeth arweinydd y Blaid Ryddfrydig Gymreig-y boneddwr coeth Syr G.. OSBORNE MORGAN. I-leddyw, mae genym y gorchwy] prudd o hysbysu ymad- awiad un o'i etholwyr mwyaf anrhydeddus ac un o'i bleidwyr mwyaf selog, v Parch Dr. DAVID ROBERTS, Gwrecsam yr hyn a ddigwyddodd yn y ddinas hon fore y Sul diweddaf. Yr oedd y Doethawr hybarch yn pregethu er's tros haner can' mlynedd ac ie ddywedodd fwy o farddoniaeth bryd- ferth trwy ei bregethau wrth gynulleidfa- oedd Cymru nag undyn arall y gwyddom am dano. Hwy a lynant yn nghof y sawl gafodd y fraint o'u gwrando hyd yr anadl- iad olaf; ac yn ffodus y maent wedi eu hargraphu, ac yn gynysgaeth i'r oesau a ddaw, na wyddant ddim am eu hawdwr ond trwy hanes. Mae'n sicr nad oes dim cyfrolau o bregethau yn yr iaith Gymraeg y gwnaed defnydd mor helaeth ohonynt. Yn hyn yr oeddynt yn debyg i gyfrolau Robertson o Brighton, am y rhai y dywedai Dr. Herber Evans un tro pe codasid treth go drom am y defnydd mynych a wneid ohonynt, na fuasai brin eisiau treth yr incwm yn y wlad hon. Gwron arall a gwympwyd, ac y mae genym y gwaith prudd o adrodd ei hanes yn y rhifyn presenol, ydoedd yr Archddeon GRIFFITHS o Landaf, neu fel yr adwaenid ef oreu, Rector Castellnedd." Nid oedd yn Nghymru, nac efallai yn Lloegr, amgen- ach siaradwr ar y llwyfan gyhoeddus nag oedd y Rheithor hybarch ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd ei bresenoldeb hardd, ei draddodiad grymus, y trydan yn ei lais, a'r tan Cymreig oedd yn nawsio allan o'i eiriau, y cyfan yn ffurfio hyawdl- edd anorchfygol. Yr oedd yn gadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol, a I sefydlwyd yn 1862, ac a suddodd tan faich o ddyled yn 1868, rhan fawr o'r hon ddyled y bu raid iddo ef ei thalu rhag gwerthu ei ddodrefn neu fyned i garchar. Fe gostiodd cenedlgarwch y diweddar Archddiacon, fel i eraill o'i flaen ac ar ei ol, gryn lawer o bryder a cholledion. Yn ei farwolaeth ef, credwn fod yr olaf o'r hen Eisteddfodwyr hyny wedi ein gadael.-Clwydfardd, Nefydd, Gwilym Tawe, Creuddynfab, Rhydderch o Fon, &c. Mae eu henwau yn beraroglus. Ddydd Sadwrn, yn yr oedran cynar o 39 mlynedd, collasom gydwladwr arall, cu ac anwyl gan gylch eang o gyf-1 eillion, un yr oedd dysg a'r awenau wedi ei gymhwyso i wneud gwaith mawr a llanw j lie pwysig ond a dorwyd i lawr yn an- nisgwyliadwy, ac y machludodd ei haul a hi eto yn ddydd. Yr ydym yn cyfeirio at yr Athraw WYNNE PARRY, Bala. Ni adaw- odd ei hun yn ddidyst yn llenyddiaeth a hanes ei wlad ond nid oedd ond megys yn dechreu ar ei waith. Yr oedd yn fab teilwng o'i dad talentog Dr Griffith Parry, dyn nad yw ei gydgenedl ond i raddau bychan wedi ei gydnabod wrth ei wir werth. I ehwanegu at y gyfres ddu, wele'r newydd am farw MONWYSON, gweinidog cymeradwy gyda'r Wesleyaid, a'r trydydd o'i weinidogion a gollodd yr enwad parchus hwnw o fewn y ddau fis diweddaf. Safai Monwyson yn uchel yn marn a serch ei frodyr fel dyn gonest a charedig. Yr oedd yn bregethwr sylweddol, yn ysgrifenydd medrus, a thynodd ei gwys i ben yn un- iawn a diabsen. Nid oes genym ond terfynu yn ngeiriau Caledfryn am nifer o'i gydoeswyr yntau a gymerwyd ymaith yn ymyl eu gilydd :— Hunwch, fy mrodyr anwyl,-yn araf Gwna eraill eich gorchwyl; 'E rwygir bedd ryw ewyl- Cewch godi i gyd, cewch gadw gwyl.
-0--01 YNYDO 8YH orioRCAN
-0-- 01 YNYDO 8YH orioRCAN YR ydym ar fin brwydr galed. Mae'r ddwy blaid wedi dewis ei chadben. Buasai yn anhawdd i'r naill ddewis gwell Mr Samuel Moss, neu i'r Hall bigo rhagorach Mr George Kenyon. Y mae'r ddau wedi cael profiad helaeth ac wedi cyrhaedd oed- ran pwyll. Nid oes un ohonynt yn ddy- eithr i'r etholfa ac mewn rhyw ffordd neu gilydd buont o wasanaeth iddi. Hana y ddau o'i chwr—Mr Moss ar yr ochr Gymreig, sef yn Llanarmon-yn-Ial Mr Kenyon o sir Amwythig ar ei thu Seisnig. Difudd celu fod Ilawer i'w ddweyd tros yr ymgeisydd Toriaidd cynrychiolodd fwyaf- rif ei etholwyr yn dda yn Mrwydrau Addysg, pan oedd clerigiaeth rone yn ceiio ei llindagu. O'r ochr arall, er yn hyn o chwarter canrif na'r ymgeisydd Rhydd- frydol, nid yw'r etholaeth o tan fwy o rwymau iddo ef nag i Mr Moss, yr hwn fel aelod o Gynghor y Sir a'i gadeirydd am dymhor, a wnaeth waith gwerthfawr. Wedi'r cwbl, nid y dynion syd-1 i fod yn y fantol, ond eu hegwyddorion. Pwy ydyw pleidwyr Mr. Kenyon ? Syr Watkin, Mri Raikes, Murless, darllawyn a thafarnwyr Iluosog Gwrecsam, &c. Tros bwy y pleid- leisia yn y Senedd, pe byddai rhyw siawns iddo byth fyned yno .eto? Tros bwy, hefyd, ond Arglwydd Salisbury, gelyn cyd- raddoldeb crefyddol, a Mr. Balfour, awdwr y ddeddf sy'n gorfodi rhieni Ymneillduol i dalu am addysg plant Eglwyswyr a Phab- yddion, tros Ddiffyndollwyr, tros Arglwydd Penrhyn, tros Cecil Rhodes a lladron tir yn AffriCa. Dyna'r criw cymysgryw y mae yr Anrhyd. George Kenyon yn cyn- rychioli eu hachos ac yn gofyn i Gymry moesol a moesgar Maelor am eu ffafr! Rhaid fod y byd yn dechreu troi o chwith os llwydda. O'r ochr arall. cynrychiola Mr Moss blaid nad oes yr un mesur buddiol i'r bobl wedi ei roddi yn ystod y ganrif bresenol ar Ddeddf-lyfrau Prydain ond trwyddi hi neu drwy ei chymhorth. Y mae genym bob hyder na ddewisir neb gan Etholwyr Dwyreinbarth Dinbych yn olynydd i Syr Osborne Morgan, ond y sawl aiff a'r gwaith bendithiol oedd ganddo ef mewn Haw yn ei flaen. Nid oes ond un o'r ddau ymgeisydd fedr wneud, a hwnw yw Mr SAMUEL Moss.
Llofruddiaeth erchyll yn Llwydlo.
Llofruddiaeth erchyll yn Llwydlo. DDYDD Gwener diweddaf, mewn ystad o orphwyll- edd, darfu i John Roberts, llifiwr, lofruddio ei WIJIG LLWYDLO» SIR Amwythig, ac yna ymdrech- odd gyflawni hunanladdiad. Aed ag ef i'r yspytty, ac y mae'n gwella'n dda. Cymraes o'r Wyddgrug oedd y wraig lofruddiwyd, a chyrhaeddodd ei mam i Lwydlo nos Wener ar ol deall am y weithred erchyll. Dywedir fod Roberts mewn iselder ysbryd ac yn ymddwyn yn rhyfedd er's dyddiau. Nid yw yn ymwybodol eto ei fod yn euog o gyflafan mor erchyll. -0-
Ymladdfa ffyrnig ger Bodfari.
Ymladdfa ffyrnig ger Bodfari. Nos Sadwrn, bu ymladdfa mbwn cae gerllaw Bodf sri rhwng Robert Roberts, Blue Bell, a Thomas Morris, cigydd, ffarm Lleweni. Ym- ddengys i gweryl godi yn nghylch pwysau cig a werthodd Morris i Roberts a thra yr oedd Morris ar ei ffordd i ffarm Aberwheeler nos Sadwrn daeth Roberts ato. Wedi cweryla am beth atnaer, tynodd Morris glyfar o'i fasged a tharawodd Roberts ar ei ben gyda hi gan roddi iddo archoll ddofn. Rhuthrodd Roberts ato, medrodd gael y clyfar oddiarno, a tharaw- odd ef naw o weithiau yn ei ben gyda hi. Ar- chollwyd y ddau'n echrydus. Cymerwyd Morris i Yspytty Dinbych, lie y cymerwyd ei dystiolaeth olaf gan yr Henadur T. J. Williams, Y.H., Dinbych, ac aed a Robert Roberts gartref. Mae'r ddau hyd yn hyn yn anymwybodol ac ofnir nas adferir hwynt.
Advertising
GOFYNWCH A MYNWCH GAEL "BARKE R, AND DOBSON'S BUTTERSCOTCH." MEWN PECYNAU to., 3c., a 6eh. Gwerthir gan yr holl Ancwywyr, Grosers, ac mewn storfeydd parchus.