Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cwlbnodion o Ddyffryn Maelor.

News
Cite
Share

Cwlbnodion o Ddyffryn Maelor. Nm yw ein gruddiau wedi sychu eto ar or marwolaeth ein ifyddlawn aelod Seneddol, na seiniau y tonau lleddf a ganwyd yn ei angladd wedi tewi yn ein clustiau. Ond er cymaint ein galar, bu rhai o bobl y Rhos yma mor wyneb- galed a threfnu i gynal cyfarfod cyn ei gladdu, i ddewis olynydd iddo, a chyhoeddwyd yn amryw o'r capeiau nos Sabboth, fod cyfarfod gwleidydd- ol i'w gynal ar y Ponciau nos Fawrtb, gyda'r amcan o ddewis ymgeisydd Rhyddfrydol. Cywilydd,, meddaf, i bwy bynag fu mor eofn ac ymyrol i ddangos y fath frys gyda hyn a'r gwynebgaledwch oedd yn eu llywodraethu i gymeryd arnynt eu bunain i ddewis ymgeisydd, heb fod ganddynt yr hawl lleiaf i byny, nac yn cynrychioli neb ond hwy eu hunain. Beth bynag, cynaliwyd y cyfarfod a daeth canoedd yn nghyd. Codasant eu lief a'u dwy- law o blaid Sais. Dyma'r bobl sydd ucbaf eu cloch i ddangos eu gwladgarwch a'a cenedlgarwch hwy sy'n lief- ain byth a hefyd am Gymru, Cymro, a Chym- raeg a phan ddaeth y cyfle iddynt weithio yn lie clochdar, dyna hwy'n taflu eu proffes gyda'r pedwar gwynt. Na soniwch mwy am eich gwladgarwch, ac na ynganwch air am eich Cymru Fydd nid yw'r cyfan ond rhagrith a shibboleth ffyliaid-11 wrth eu ffrwythau yr adnabyddir hwynt," chwi rag- rithwyr, cynffonwyr, Sais-addolwyr, a Die Shon Dafyddion Diolch nad y rhai hyn wedi'r cyfan sydd i benderfynu pwy fydd yr ymgeisydd, a llawen genym ddeall fod eu dewisddyn hwy wedi anfon gair na ddaw allan i faes y rhyfel. Diolch iddo ef, ac nid i'w bleidwyr cynamserol yn y Rhos. Dywedir fod rhyw gnefyn celwyddog wedi eu hysbysu y buasai Mr Lever yn codi gwaith sebon newydd yn ngwaelod Gallt y Gwter, a chyda'r cyflawnder o ddwfr ydym ya gael y dyddiau hyn o'r cymylau mi fasa yma le glan arw. Cyn yr ymddengys y gwibnodion hyn bydd yr ymgeisydd wedi ei ddewis yn rheolaidd, felly ofer i mi fanylu ar gymhwysderau y rhai sydd gerbron y pwyllgor ond gallaf ddweyd fod o leiaf ddau—y ddau Gymro-yn llawn deilyngu cael cerdded yn ol troed eu diweddar flaenor. Pa un bynag o'r ddau—Sam Moss a Frank Ed- wards-gaiff ei ddewis, hyderaf y ffyna undeb yn ein plith ac y cawn wared o bob nihn ym- rafaeliori sy'n parlysu ein nerth yn Nghymru. Cynaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Maelor ddydd Liun yn y Rbos, tan arweiniad y cerddor ieuanc J. O. Jones, Gwrecsam (Penycae gynt). Daeth tyrfa fawr yn nghyd,fel y bu raid benthyg y Capel Mawr yn yr bwyr, a chaed cymanfa lwyddianus iawn. Bu yr Hen Gorph yn cynal eu Cymanfa hwythau yn Brymbo, dan arweiniad Mr J. T. Rees, a chafwyd gwledd ragorol yno befyd, a diau y bu yno ganu mawi mewn gwirionedd. Hefyd yn yr Adwy bu yr un enwad parchus yn cynal eu Cyfarfod Misol, a chafwyd pregeth- au'prwltthog a ciiryn lawer o eneiniad arnynt. Yr oeddych chwi yn son yn y Cymro diweddaf am y "Boirniad Dewr"; yr wyf finau yr wyth- nos hon wedi darganfod "Adolygydd Dewrach," yn mherson D. Emlyn Evans. Y mae y gwr boneddig hwn wedi ymgymeryd ag ysgrifenu adolygiad ar Lyfr Newydd y Methodistiaid," yn y Cerddor, ac y mae yn bur ddeheuig gyda'r gorchwyl. Dengys i ni ei ddifFygion a'i ragor- iaethau yn egiur ddtgon, ond er bod yn llaw- drwrn ar rai o'r awdwyr, gesyd ei donau a'i anthemau ei hun yn ddieithriad gyda gwaith y prif feistri," fel y geilw hwynt. Ydych chwi ddim yn meddwl, mewn difrif, fod eisiau cryn lawer o ddewrder i ysgrifenu adolygiadau ar eich gwaith eich hun a'ch cyfeill ion, a chael digon o rym meddyliol i restru eich hun yn mhlith y "prif feiatri ?" Ond chwareu teg iddo hefyd ^hwyrach os na wnai ef, &c., &c. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.

[No title]

[No title]

Nodion o'r Odinas.II

Y 'DERYN DU SY'N RHODIO'R…

[No title]

[No title]

Colofn Dirwest.

Amaethyddiaeth Prydain Fawr.

Advertising