Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
S » OWEN ROBERTS. ESTATE AGENT 33, Netherfield Road Souths Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H- EDWARDS & Co- 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Jave Cottages to LET in various parts of the i, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGKENT irjAJS large andamallHouses To Leu 1» various parts ol the Ji city and uburbs. Houses bought and soli. Mortgages arranged, &:c (po. JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. »■>e°-"ed-'r HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited -n-R-Ra &c-To be Sold, Freehold and 999 advances j tomitties.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET 0- & D- WILLIAMS, Itoo Be Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MEROHANTS Works-TAYLOR STREET, O&oe and sRg-402 & 404, Scotland Rd. Saow Booms -TT7 LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cas^ a°n^yBBn^neOT8l;l:Williams' Water, Green houses and Sanitary & Patent Winding and er3. 0vens, Chaffers, Boxes, Bfticer« Oven btocks, Con Runners, &c. »l*e Bars, &c.; all sises of Kunners,<* TT differs from all other Preparations. I^«m- I tains those Medical Agents which ST R& JN G 1 a. JiuHi help the STOMACH to prod™. ™ficient gastric juice to properly asshmilate food BENSON EVANS' GASTROOYNE FOB INDIGESTION. Se. in Botúles, 1/1 (13 doses); 2/6 (40 doees) TRY ONE BOTTLE. It leads the way in T vk R faction for the cure of BILIOUS and LIVER COMPLAINTS, Pains after Meals, Heartburns, maouIemTy, Belching, and all those ailments which are caused from the one Complaint- INDIGESTION. GASTROCYNE strikes at the Root of the evil, giving not a temporary but a thorough cure. TRY ONE BOTTLE BENSON EVANS' PINK LIVER PILULES Act like Magic on the Liver & Kidneys, Small in size are easy and (90 Pilule's) each bottles, 74d- (40), and la Hd. (90 Pilules) eacn. PROPRIETOR- „ BENSON EVAHS, Chemist, Denbigh, F j R. WHITTSNGTON, Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience 45, BYROM STREET, LIVERPOOL. All Garments Out and Made on the Premises, iu well-ventilated Workrooms. Gymry! dewch at Gymro. OWMNI YSWieiSI Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA PROS £ 20,000 000 AGENTS addas ychwanegol yn eisiau—Ymofyner A J. W. JONES, Prudential Office Caernarfon Messrs GRIFFITHS &0AVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers m the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz.:— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. M antles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinery. In all these Departments will be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS DAVIES, 398, Scotland Road. F PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANY. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EG!; PT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports taking theifollowing two routes alternately:— (i) MALTA, BYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at sevtral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRUS BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No gver-crowding. Superior accommodation. Lofty well ventilated Saloons and State-roome. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'sHy at Ports. Tourists and pleasure-sekerss taking a trip by this Lino *ill find it most enjoyable and interesting For further partfct us, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpeo 2#ki LLINELL Y WHITE STAk. ROYAL MAIL STEAMERS, LERPWL I NEW YORK Via QUEENSTOWN, BOB DYDD MERCHER:— iVi chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr 'MAJESTIC Medi 15 GERMANIC .Medi 22 A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith p, is v cludlad ydyw P,7 5s i -010 yn ol yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun Trefniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithlau. N1 choir gwell eyflonsdre, i fordoithwyr. Am fanylion, ymofyner R. Owen, Ship & In surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a R. Roberts, Befchesda; Owen B. Parry, masnachydd llechi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn R. G oberts ,Rock Cottage, Craigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. J. Williams Shoe Warehouse, Llamrw Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R (J Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu kg ISMAY IMBIF & Co., 34, Leade nha Street, Llandain, E. a Water Street, Lerpwl. JOHN HUGHES, FOR SPRING AND SUMMER SUITINGS, SQU'otlE SHOULDERS A SPECIALITY. 24, OXTON ROAD, BIRKENHEAD, CUT, STYLE, AND QUALITY ALL GUARANTEED MODERATE PRICES. 1/1 a 29 ga.n bob Druggist yn Liverpool 0 -to 02 WX II:r E 0 ,I I i Y I,- -A? ;7 I yn unig gan Pavies Chemist, Hfacl|- ynlletli, TYSTIOIiAETHAXJ. Dywed Mr H- A. Evans, Post Office, Trelech.—"Many in his part say that they have never uned anything equal to Davies's Cough Mixture for Cough and Bronchitis, Dywed Mr E. Davies, Glynarthen. Gallaf roddi i'ch Cough Mixture y ganmoliaeth uchaf fel meddyginiaeth ar gyfer anhwylderau amrywiol y gwddf a'r ysgyfaint." AN WYD.-Mr Robert Morgan, 45, Cwmavon Road, Aberavon. Yr wyf yn eich bendithio chwi am dano, ac y mae wedi gwneud lies annhraethol yn fy nheulu at anwyd a phesweh." PESWCH AR O-AUTORIOIT.—Dywed Mr David Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth. Having suffered from an irritable Cough last Christmas, I took a bottle of Davies's Cough Mixture, and by the following day I was quite free, and able to foliow my public engagements." PES W OH AR 3LAMT.—Dywe Mr W. Hughes Gol. y Dydd,—" Y mae wedi bod o werth anmhrisiadwy y fy nheulu a bob amser wedi bod yn llwyddianus i wella y Anwyd." Eto dywed Cadvan.—"Yr wythnos ftdiweddaf cymerodd fy ngeneth fach oedd dan anwyd cyndyn un o'ch poteli a gwnaeth iddi wir les." INFLUENZA.—Ysgrifena y Parch E. W. Davies, Ton Pentre, yn ddiweddar,—" Gallaf ddwyn tystiolaeth glir i boblogrwydd mawr Hugh Davies's Cowjh Mixture, ac i dder byniad lies neillduol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd i'w werth yr adeg hon gyda'r haint- influenza.' Dywed y Parch U. B. Roberts Caernarfon,- Dan ochain anwyd yn nychu-a'r lungs Yn rhyw lesg weithredu Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes o iechyd ddi-besychu." PEIDIWCH Cymeryd eich twyllo gan unrhyw efelychiad o DAVIES'S COUGH MIXTURE Y mae llu yn y farchnad. GOFALWCH Fod y Trade MarTe Ucbod yn y golwg. MYNWCH Y Real Thinq-DAVIFS'S COUGH MIXTURE, parotoedig gan HUGH DAVIES, Fferyllydd, Machynlleth. BRYSIWOH geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atoch, cyn Anwyd fyned yn waeth.
HELBULON ANEURIN HI WEL.
HELBULON ANEURIN HI WEL. [Gan AP CYFFIN.] PEN. X.—ANEURIN A JOHN SMITH ETO. WJKTVI cael y pwyllgor at eu gilydd, aeth John Smith trwy'r holl banes yn fanwl yn nghylch yr arian. Dangosodd fod y rhan a Lymer.sai efe yn yr achos yn gwbl yn ffafr Aneurm, Ddtganodd ofid dirfawr y teulu am y boen a roisant iddo a chofied yntau," meddai, "y geiriau prydferth hyny, 'Tis human to err, but divine to forgive.' Dywedai'r llywydd fod yn dda iawn ganddo fod Mr Smith wedi rhoddi adroddiad mor glir a manwl o'r hanes. Canmolai ef yn fawr am ei ysbryd rhagorol a boweddigaidd. Gallasai," meddai, gymeryd mantais o'r cyfle i ddial am gamwri Aneurin tuag ato, ond bu drugarog. Temtir finau i ddyfynu geiriau cymhwys o eiddo Shakespeare i'r ddaa — The quality of mercy is not strained, L4 It droppeth as the gentle rain from heaven upon the earth beneath; It is twice blessed ;-it blesseth him that gives and him that takes." Sylwodd yn mhellaeh, os oeddynt i gredu'r stori fel ei caed gan Mr Smith, nad oedd gaa Aneurin le i ddigofaint o gwbl, Nid yw wedi pechu yn ei erbyn," meddai. ond yn hytrach pechodd yn er- byn pawb yn y ty wrth geisio ei amddiffyn yn ei gefn." Yna gofynodd i Aneurin os oedd ganddo ryw- beth i'w ddweyd. Cododd yntau ar ei draed, a gwnaeth yr ymddiheurad mwyaf llwyr i'r llywydd a'r pwyllgor am ei gtimymddygiad yn y cyfarfod, a'i fod hefyd yn derbyn eglurhad John Smith, ac erbyn hyn yn gweled mai efe ei hun oedd Weli cyfeiliorni—fod yr esgid am y troed arall, ac mai efe oedd i ofyn pardwn John Smith, a'i fod erbyn hyn yn synu fod adroddiad yr olaf o'r hanes a'i araith gerbron y eyfarfod a'r pwyllgor mor lAn oddiwrth ddialedd. Nid wyf yn meddwl," ebai, 14 y gallaf byth faddeu i mi fy hun am fy ymddyg. iad; er hvny mae genyf tfydd y bydd i Mr Smith weled ei ffordd yn glir i faddeu i mi. Cofied y gofid a gefais wrth geisio fy esgusodi." Cododd John Smith ar ei draed gan ddweyd ei. fod yn maddeu pobpeth iddo. Y diwedd fu i'r ddau ysgwyd dwylaw yn galon- og, a bod yn gyfeillion byth mwy. PEN. XL-ANEURIN YN CYRHAEDD EI NOD. TRANOXTH wedi'r ystorm a ddaeth, a throes yr helynt enbyd a fu rhwng Aneurin a Smith yn yr ymgomfa yn fendith i'r ddau. Ail fagodd yr hen gyfeillgarwch rhyngddynt, a bu'r naill a'r Hall yn awyddus iawn i wneud iawn i'w gilydd am yr hyn oedd wedi digwydd. Un o'rpethau cvntaf wnaeth John Smith oedd gofyn i Aneurin ddod yn was priodas iddo. Derbyniodd yntau'r gwahoddiad yn garedig, a thrwy hyn daeth i mewn i gylch y teulu fel o'r blaen. Yn ystod y ciniaw priodasol cododd Aneurin ar ei draed i ddymuno lwc dda i't par ieuanc, a gwnaeth hyny'n drefnus a phert. Atebodd Smith ar ei ran ei hun a'i briod, a dywedai ei fod yn tyb. ied mai Aneurin fyddai'r nesaf i'w dilyn i'r ystad briodasol. Derbyniwyd y sylw gyda chymeradwy- aeth pawb yn y lie. Pa un bynag a fu priodas Smith, neu ei gyfeir- iad ato ef, yn symbyliad i Aneurin feddwl am briodi ai peidio, buan y cawn ef yn troi ei olygon eilwaith at ferch ei hen feistr, Emily Rains. Fel y. sylwyd o'r blaen, yr oedd ei ymadawiad sydyn ac anfoddhaol o wasanaeth ei thad wedi bod vn brofedigaeth iddo. Teimlai y buasai yn rhoddi llaw=:r am wybod ai trwy fwriad neu trwy ddam- wain yr aeth ei lythyr i law ei thad. Os o fwriad, yr oedd ei obeithion ar ben, ond os trwy ddam- ,wain, teimlai fod y ewestiwn heb ei setlo. Ac er fod y peth yn annhebygol, teimlai mai nid an- mhosibl, wedi'r cyfan, fuasai enill Miss Emily yn eiddo iddo'i hun. Gwreiddia cariad bob amser yn ddyfnach yn ol yr anhawsder a'i cyferfydd. Hyn roes y fath fin ar awydd Aneurin. a'r fath ymroad yn ei egni i gyrhaedd ei n6d. Tybiai, os nad oedd ganddo ef siawns i'w henill, y rhoddai siawns arall iddi hi ddangos hyny trwy ei wrthod. Gwyddai vn dda am ei hedmygedd o dalent ac athrylith- pethau a gyfrifai fuasai'n gwneud bywyd dau yn werth ei fyw. Teimlai Aneurin bellach ei fod ar dir llawer gwell i ddwyn ei hunjin i sylw. Nid oedd yn awr yn was iddi hi na'i thad. Yr oedd ganddo ddigon o Saesneg da hefyd erbyn hyn enillai gyflog da, ac yr oedd iddo ragolygon disglaer yn y masnach- dy. Tybiodd unwa;th y buasai'n anfon llythyr serch ati, ond ofnai wed'yn y eallai hwnw fyned i law ei thad, ac y buasai hyny'n dwyn profedigaeth arall i'w ran. O'r diwedd, daeth meddylddrych newydd spon i'w feddwl. Cofiodd fod Miss Emily un tro wedi bod yn holi yn fanwl yn nghylch yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd ganddi awydd cystadlu ar baentio darlun o olygfa Gymreig, ond rywfodd ni ddaeth hyny oddiaragylch. Beth bvnag, yr oedd Eisteddfod Gadeiriol fawreddog i'w chynal y flwvddyn hono yn Manceinion, a thybiai Aneurin mai campus o beth i Miss Emilv fuasai cael bod yno. Pan ddaeth yr adeg anfonodd docyn pumswllt iddi, a rhaglen y eyfarfodydd. Bu hithau'n dy- falii cryn lawer pwy oerld wedi bod mor garedig a'i hanrbegu ond gwelaj ar restr y noddwyr am. ryw foneddigion adnabvddns i'r teulu-yn eu mysg yr Arglwydd FAer-a thybiai mai un o'r rhai hyny oedd wedi ei anfon. Y dydd a dd'.eth, a pherswadiodd Miss Emily ei thad i ddod gyda hi i'r Eisteddfod, yr hon a gyn- elid yn un o ueuaddau harddaf c eangaf y ddinas. Erbyn id iynt gyrhaedd yr oedd y He yn orlawn. Prif atdynUd cyfarforl y boreu oedd y gystadleu- aeth gorawl-ohwech 0 gorau 150 mewn nifer yn ymgeisio ac ni chlywodd Miss Emily na'i thad y fath ganu edoed o'r blaen. Cavrsarst y fath flas ar yr Eisteddfod fel nad oo..ld dim a'u cadwai allan o'r ail gvfarfod. Prif atdyniad hwn oedd cadeirio'r bardd. Buont yn edrych yn mlaen gyda dyddor- deb neillduol at gael gweled y ddefod hon yn cael ei gweinyddu. Wedi cyrhaedd y pwynt hwn o'r cvfarfod, a gwneud y p^rotoadaa angenrheidiol, dygwyrl y gadair clderw gerSedig yn mlaen i ffrynt y llwyfan, a daeth y beirniad yn mlaen i ddarllen y feirniadaeth. Vr oedd 23 o ymgeiswyr ar y bry- ddest ar Foddlonrwydd ac wedi hir bwyso a mesur caed mai eiddo Lluddedig oedd oreu, ac fod yr awdwr yn teilyngu cael eistedfl. yn fuddug- oliaethus yn ei gadair yn ol braint a defawd beirdd Ynvs Prydain. Erbyn hyn yr oedd pawb yn or. wyjlt, ac megys am y cyntaf i vybool pwy oedd y buddugwr. Galwodd yr Archdderwydd ar b%wb i eistedd i lawr, ac am i'r bardd buddugol godi ar ei draed-a phwy ydoedd y gorchfygwr ond Aneurin. Anfonwyd dau fardd i'w gyrchu, a chludwyd ef ar y llwyfan yn Dghanol brwdfrydedd byddarol. Ar 01 i'r.tidganydd chwareu See the conquering hero comes," cadeiriwyd Aneurin gyda rhwysg an- nghyffredin. Pwy all fesur syndod Miss Emily pin welodd hyn ? Pwy all ddarllen yr hyn a redai trwy fedd- wl ei thad ar y pryd ? Bychan wyddent mai efe oedd wedi anfon y tocyn. Pell oedd yntan o ddis- gwyl i'w gynllun droi allan mor llwyddianua. Ni ellir dweyd pa un ai Aneurin ai y tad a'r ferch a deimlent leiaf o hunanfeddiant- A feiddiai Mif-s Emily son am hyn wrth ei thad ? neu a allai'r tad g..dw Aneurin allan o'r ymddyddan wedi myn'd adref? Boed a fyno, bu llwyddiant Aneurin yn brawf i'r ferch ei fod i fynu a'i disgwyliadau fel bardd a lienor, a gwyddai yntau y byddai enill y gadair yn sicr o fod yn fantais iddo ei henill hi- thau. Tybiai fod ganddo eisoes eisteddfan yn mynwes Miss Emily, pe gallai ei meddianu. Dyna'r gamp. Nid hawdd fuasai i ddim mwy ffodus ddigwydd yn ei hanes nag iddo gael d gadeirio gyda'r fath rwysg gerbron ei llygaid hi a'i thad. Eto i gyd, safai pethau yn eu hunfan-y broblem heb ei dadrys, a chalon y ferch heb ei henill, os nad allai gadw'r ol- wyn i droi a gwneud hyn yn gamfa i lwyddiant arall. Buddiol oedd iddo symud yn yr iawn gyf- eiriad cyn i'r argraph a adawodd ei Iwyddiant arni gael ei golli. Byddai Aneurin yn cael deng niwrnod o wyliau bob haf o'r masnachdy. Treuliai hwynt i fyned adref fel rheol i anadlu ei awyr enedigol, a mawr fyddai y croesaw a gai. Yr oedd ei adeg i fyned y flwyddyn hono yn fuan wedi'r Eisteddfod. 'Roedd ganddo fodryb chwaer ei fam yn byw yn Llan- dudno, ac yn dda iawn allan. Ni bu rhyw lawer o gydnabyddiaeth rhwng teulu Aneurin a hi, am ei bod yn tybied ei hunan yn ogymaint yn uwch ei hystad na hwy. Dealiodd ei fodryb am Iwyddiant Aneurin yn Manceinion, a chlywodd ei fod wedi enill y gadair, ac anfonodd i'w gartref (aim na wyddai ei gyfeiriad yn y ddinas) ar i'w dad a'i fam anfon ato yn ddioed ati hi i Landudno i dreulio ei wyliau pan ddelai yr adeg. Felly fu. Rhanodd Aneurin yr amser aeth adref i fwrw'r Sul cyntaf, ac yna at ei fodryb, yr hon oedd yn weddw a diblant, ac yn byw yn ei thy ei hunan-un o'r tai mwyaf ar y Parade-i dr -.ulior gweddill. Cafodd dderbyniad croesawgar ganddi, a dech- reuodd yntau fwynhau ei hunan yn rhagorol yn awyr y mor. Tranoeth meddyliodd y buasai yn anfon papyr newydd lleol o'r enw Llandudno Visitor-un i John Smith ac un i Gwilym i awgrymu ei gofion atynt. Cyn eu hanfon, cymer- odd gipolwg dros restr yr ymwelwyr. Gwelai fod yno amryw o Fanceinion, ac yn mblith eraill gwelai ei enw ei hun ond yr hyn a b&rodd y syndod mwyaf iddo oedd canfod pwy oedd yn aros yn y ty agosaf ato. Beth welai ond hyn :— Snowdon House, The Parade. Visitors:- James Rains, Esq., Manchester. Miss Emily, second daughter. Wedi cantod hyn, bu am beth amser mewn trafferth i feddianu ei hunan. Wrth anfon y newyddiadur i John Smith a Gwilym rhydd seren mewn inc coch wrth ei enw ei hunan ac enw Miss Rains, er mwyn i'w dd*u gyfaill fwynhau y syndod pan welent ei fod ef a hithau yn aros am y pared a'u gilydd. John Smith a Gwilym oedd yr unig ddau a wyddent ddim o hanes blaenorol Aneurin gyda merch ei feistr. Fel y gellir tybio, cymer- asant ddyddordeb neillduol yn y newydd hwn. Dyfalent yn fawr sut y troisai pethau allan. Gwyddent na fcasai Aneurin yn gadael i'r cyfle lleiaf basio heb iddo roddi ail gynyg am law Miss Emily. Gwelai Aneurin fod ei gyfle wedi dod, os y gallai chwareu ei ran yn briodol. Ni fynai golli cyf- leustra mor ddisglaer. Ofnai gyfarfod y ddau yn ddamweiniol—buasai hyny yn ddinystr i'w holl gynllumiau Yr hyn a garai fuasai taro rywfodd ar y ferch ar ei phen ei hunaa. Bellach, treuliodd lawer o'i amser yn ei ystafell wely i edrych drwy y ffenestr wynebai glan y mor, i'r aincan o gael cipolwg ar Miss Emily, nes oedd ei fodryb wedi myn'd i gryn bryder yn ei gylch. Ofnai nad ydoedd yn iach, neu fod rhyw wall rhyfedd yn perthyn iddo, neu na buasai byth yn treulio cymaint o'i amser ar ei ben ei hun yn y llofft. O'r diwedd canfu Aneurin wrthrych ei serch yn rhodio yn mraich ei thad ar hyd y Parade. Gwelodd tuhwnt i ddadl mai hwy oeddynt, ac nid neb arall. (I orphen yn ein nesaf). Vr wythnos ganlynol ymddengys y bennod gyntaf o un o brif nofelaii y byd yn Nghymraeg. --0--
Ein Genedl yn Manceinion.
Ein Genedl yn Manceinion. NID oes genym yn ein dinas odid foneddwr mwy adnabyddus fel Cymro gwladgarol a chrefyddol na'r Cvnghorwr Robert Lloyd, diacon gyda'r Methodistiaid yn nghapel Heywood Street. Gwr yw Mr Lloyd na chafodd ond ychydig iawn o fanteision cyfoeth na dysg pan yn ieuanc. Un o ardal Brymbo, ger Gwrecam, ydyw ac fel y mwy- afrif o Gymry, wedi gorfod dringo llethrau anhawsderau ar hyd ei oes, ac wrth eu gorchfygu cryfhaodd ei ddvlanwad. Un mlynedd ar ddeg yn 01 fe'i etholwyd i'r Cynghor Dinesig gyda mwyafrif mawr dros y rhanbrth fwyaf pwysig a berthyn i'r ddinas. Mae'r Cynghorwr Lloyd wedi dangos ei hun yn ddiacon da, ac eto heb fod yn rhy gul i fod yn wasanaethgar mewn byd ac eglwys. Hir oes iddo. Brydnawn Sadwrn cyn y diweddaf, rhoddodd Mr Lloyd wledd i Gymdeithas Lenyddol a chor capd Heywood Street. Dygodd hwy i gael golwg ar yr ystad a brynodd y Cyngbor Trefol 11 mlyn- eid yn ol am y swm o 38.000p i gaal He i wneud defuydd o ysgubion yr hpolydd, &c. Hen fawnog o filoedd o aceri o'r enw Carrington Moss oedd y lie, a hollol ddiffrwyth. Ond erbyn hyn tyfir yno lysiau gerddi, a gwerthir tunelli o'r cyfryw yn flynyddol. am y prisiau goreu, ac ymddengys yr hen fawnog yn awr fel paradwys. Y mae yr ystad yn taro ar y Gamlas, a ffordd haiarn yn rhedeg drwy ei chanol ac i bob rhan ohoni. Yma hefyd y tyfir y coed a gerir i'w planu ar hyd a lied y ddinas gan y G< rphoraeth, y rhai, pe buasai raid eu prynu, fuasent yn costio canoedd o bunau. Mwynhaodd pawb eu hunain yn rhagorol. Rhoed te ardderchog i'r cwmni, dros haner cant mewn nifer. Wedi i'r Parch E. J. Jones, M A., gynyg a phasio diolch- garweh i Mr a Mrs Lloyd, atebodd yntau, a chaf- wyd araith ddyddorol ganddo, ac eglurhad ar lawer o bethau a welwyd. EINION EFELL.