Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

Marwolaeth Cenhades Cymreig…

News
Cite
Share

Marwolaeth Cenhades Cymreig yn Khasia. FOREU ddydd Mawrtb, devbyniodd y Parch Josiah Thomas, M.A., ysgrifenydd Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid, bellebyr oddiwrth y Parch J. Ceredig Evans, yn hysbysn marwol- aeth y genhades ieuanc obeithiol Miss Annie Williams, o'r cholera, yn Shillong, Bryntau Khasia. Tybir i'r amgylchiad prlldd gymeryd lie thwag pump a chwech o'r gloch (o'n hamser ni) fore Mawrth, Awst Slain. Sicr yw y der- bynir y newydd gyd'4 gofid dwvs,vn neilldool yn y ddinas hon, gan mai yma y m&gwyd Miss W., ac oddiyma cychwynodd ar neges ei bywyd i oleuo'r paganiaid am yr Efengyl. Merch ydoedd i'r diweddar Mr David Williams, 36 Daisy Street, lie y preswylia ei mam yn awr. Bu am rai blyoyddau yu athrawes dan Fwrdd Ysgol Lerpwl a bu am gyfnod yn Ngholeg Edge Hill, lie yr enillodd raddau uchel mewn dysg;. Breudd- t wyd ei mebyd oedd cael myn'd yn genhades a phan gynygiodd ei hun i'r gwaith yr oedd ei duwioldeb diamheuol a'i diwylliant uchel yn ei cbwbl gymhwyso i'r alwedigaetb, ac fe'i derbyniwyd yn llawen. Aeth am dymhor i Glasgow i dderbyn ychydig hyfforddiant meddygol, ac wedi manteisio yn dda ar ei hamser yno, trefnwyd iddi gychwyn i'r India. Nos Woner, Hydref 9fed, yn nghapel Anfield, lie y cafodd ei dwyn i fynu, cynaliwyd cyfarfod i ddymuno Duw'n rhwydd iddi; ac a? y lOfed, sef tranoetb, cychwynodd ar ei moriaith. Cafodd waredigaeth gyfyog ar ei thaith oblegyd i'r Hong fyned ar sand-bank. Ond cyrhaeddodd i'r India yn ddycgel, ac ymsefydlodd dan nawdd y genbadaeth yn athrawes adraii y merched o'r Y sgol Uwchraddol yn Shillong, Khasia. Yn ystod y daeargrynfeydd diweddaf yn y wlad hono cafodd waredigaeth gyfyog eilwaitb, canys bu agos i furiau ei hanedd ddisgynarni. Ysgrif- enodd hanes y waredigaeth, a chyboeddwyd llythvr o'i beiddo yn desgrifio'r trychineb yn y Cymro rai wythnosau'n ol. Mewn llythyr at ei mam bytbefnos yn ol, amlygodd ei bod yn ystyr- ied y ddwy waredigaeth wyrthiol a gafodd fel ATwydd fod yr Arglwydd am iddi gyflrtwni gwaith mawr drosto yn ei chylch newydd. Ond wele hi ar drothwy tair ar httgain oed wedi ei galw adref, a chynlluniau ei bywyd wedi eu chwaln gan angau. Cymeriad hardd ydoedd. Trwy ei haddfwynder a'i lledneisrwydd eniHodd le cynes yn sarchiadau ei chydnabod gweith- iodd yn dda yn ei thymhor byr ac er ei galw'n gvnar at ei gwobr, bydd ei rhinweddau'n per- tirogli'n hir ar ei hoL Cvhoeddir mwy o fan ylion eto wedi y delont i law. Er LLYTHYR OLAF. Berbyniodd y Parch Owen Owens, Anfield, oddi wrth Miss Wiili-ims, y llythyr a ganlyn, yr hwn a ddarllenwyd yn eglwys Anfield Road nos Iau ddi- weddaf, Awst 26ain. Ychydig a feddyliai y rhai oedd yn ei wrandaw gyda'r fath astudrwydd a boddhad y buasai eu cyfeilles wedi ei chymeryd ymaith cyn pen yehydig ddyddiau. Wele'r llythyr Shillong, 30th July, 1897. At Eglwys Anfield Road. Anwyl Gyfeillion,—Anhawdd credu fod mis wedi myn'd heibio er pan ysgrifenais o'r blaon, ond felly y mae. Mor dda fuasai genyf gael dywedyd fod y shocks wedi dystewi, a'r ddaear yn llonydd iinwaith eto, ond fel arall y mae pethau. Heao wrbh ysgrif- enu daeth ysgydwad trwm, yr hon a wnaeth i Mrs Evans a minau edrych ar ein gilydd yn fud gan fethu dweyd gair. Ni Niyr neb beth yw earthquake shocks ond y rhai sydd wedi bod yn eu canol. Yr ydym tel yn cael ein hoelio i'r ddaear, a chymer funyd neu ddau i dawelu cynhyrfiadau y corph. Tystiolaeth pawb yw fod dylanwad pob shock fel math o electric current yn rhedeg trwy y corph. Beth bynag am hynv, buasem oil yn hoffi, ac yr ydym yn gweddio yn daer am, i'r Arglwydd, os yn ol ei ewyllys Ef, adsefydlu y tir a pheri llonydd. wch. Tua saith y boreu a rhwng naw o'r gloch y nos a dau yn y boreu cyntaf y teimlir y shocks trymaf. Yr ydym wedi cael amryw a fuasai yn tynu ty ceryg i lawr ar unwaith, ond y mae y bwthyn bach to gwellt yma yn aros yn sefydlog iawn. Mor gyfforddus ydym ya awr ar ol yr exposure yr wythnosau cyntaf Nid ydyw ein coll- edioa yn ddim wrth ochr y teimlad fod ein bywvd- au wedi bod yn werthfawr yn ngolwg ein Tad Nefol. Wrth edrych yn ol, byddaf yn crynu wrth feddwl am ein hagosrwydd at fyd arall. Pe buasai un o'r ceryg mawr oedd yn un o'r waliau dim ond haner troedfedd yn agosach ataf, ni fuasai dim gobaith ond yr oedd ilaw y Gorucha'f yn gor- uwch-Iywodraethu y cwbl oil. Y mae y byd arall wedi bod yn llawer mwy real i mi er hyny, a dy- munwn fod yn barod bob amser i ateb yr alwad pa adeg bynag y daw. Mor ddiolchgar yr ydym wrth ddarllen yn y papyrau fod cydymdeimlad Cymru mor gryf, a chalonau cynes yn llosgi i wneud rhy wbeth dros Iesu Griat yn yr adegau tywyll hyn. Yr wyf yn dywedyd "tywyll" hefyd heb ystyried. Y maent yn bollol glir iddo Ef. Tybed na yrwyd hyn i arwain y chwech chant o'r newydd i'r eglwys. Ohwech chant. Dyna yw y siarad yma a thraw. Dymuna rhai sydd yo. gwatwar ddywedyd, 0, Ilithrant yn ol yn fuan," ond gweddiwch drostynt. Y mae un pentref annuwiol iawn-Sodom mewn gwirion- edd, wedi dyfod yn hollol at Gristionogaeth. Onid oedd yn werth cael daeargryn i ddeffrsi y rhai hyn? Rhaid fod gwaith y cenhadon a'r efengylwyr wedi gwneud effaith cyn hyn, neu fel arall y buasai y canlyniad. Yr wyf wedi dechreu yr ysgol eto, ond yn awr mewn tent Treiais hi o 10 hyd I o'r gloch yn y boreu, ond yr oedd yr haul mor boeth yn taro ar y tent, a'r gwres mor annyoddefol—weithiau dros 80° yn y cysgod, fel y bu rhaid ei chynal o saith hyd ddeg. Rhyw ddwsin fydd yn dyfod o'r genethod hynaf. Bydd y rhan fwyaf yn myned i'r Govern- ment Quarters i weithio am 4c y dydd. Ac mor falch ydynt ohono Fel y gellir disgwyl, mae llawer o'r meusydd wedi eu dyfetha., a'r crops o rice yn ddiwerth; felly mae prisiau pobpeth wedi ybia, ac ambell i beth wsdi treblu. Y mae d-trn o sebon, oedd c>n y ddaeargryn yn dair ceiniog, yn awr yn ddeg cein- iog, ac y mae y rice, oedd o'r blaen tua dwy geiniog y pwys, yn awr yn chwech cheiniog. Ofn sydd ar Khasiaid y daw pethau yn waeth eto, ond yr y iym oil yn zreio edrych ar yr ochr oleu, a treiglo eta tfordd ar yr Arglwydd, gan gredu y dwg Ef bobpeth i ben. Y plant bach, druain, aydd yn gorfod dyoddef y diwrnodiau hyn. Tybed fod un ty heb rhyw sa!- wch ? Nid wyf yn gwybod am un. Claddwyd ddoe blentyn bach, dim ond tair blwydd oed, o'r enw Gwynne Owen Plentyn bach cryf yr olwg arno, ond bu y dyoddef trwy yr amser yn ormod iddo. Mor neis oedd meddwl fod y peth bach gyda'i wyneb tywyll, ac wedi ei wisgo yn ei ddillad goreu, yn rhydd oddiwrth bob trallod, ac wedi ymuno &'r cor sydd yn molianu yr Oen. Mam arall sydd wedi ei chymeryd ymaith gan adael chwech o rai anwyl i'w galaru. Byddai yn dyfod ataf yn ami i ofyn sut yr oedd ei geneth fach yn dyfod yn mlaen yn yr ysgol. Wythnos i ddydd Sul diweddaf, eis yno i edrych am Ewell, ei mherch fach, yr hon oedd yn dyoddef gan dysentery. Dydd Llun, cymerwyd y fam-dynes gref-yn wael, ac erbyn y Sul cymerwyd hithau ymaith. Bu pedwar o cholera casos yma, ond nid yw yn gwaethygu. Epidemic dysentery sydd yn cario llawer ymaith. Clywais ddoe fod y bocses a'r llechi ar y ffordd yma o Calcutta. Nis galiaf ddywedyd wrthych mor dda genyf nad oeddych wedi eu gyru allan cyn y ddaeargryn. Buasent yn deilchion, oherwydd y mae ysgol y genethod wedi syrthio yn flat a'r desks newydd yn chwilfriw. Ond yn awr bydd angen mawr am danynt. Yr wyf yn ddiolchgar iawn, iawn, i chwi am eich oaredigrwydd ac am gymeryd y fath ddyddordeb yn y gwaith. Rhag ofn esch bod yn pryderu yn ein cylch, gadewch i mi ddywedyd fv mod yn berftaith hapus, mae digon o fwyd i'w gael ond, wrth gwrs, y mae pob dim yn ddwbl y pris. Ac nid y ni ond y Khasiaid sydd yn dyoddef. Y mae ein ty ni, er yn fach iawn, yn cadw allan y gwlaw a'r gwynt, ond y maent hwy yn dyoddef cryn lawer trwy hyn. Mae y Llywodraeth wedi gosod ychydig o sheds i fynu er mwyn y rhai tlotaf. Fel y gallwch feddwl, inae gwaith yr ysgol wedi ei daflu yn ol flwyddyn beth bynag. Y mae dwy eneth, y rhai oeddwn yn disgwyl pethau da oddi- wrthynt, wedi ymadael i fyned i weithio yn y meusydd, ac y mae eraill yn gwrthod dyfod i mewn oherwydd ofn. Yr unig beth allwn ddy- wedyd yw, "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," a fod Pobpeth yn cydweithio er daioni i'r rhai a'i hofnant Ef." Treiaf ateb y llythyrau personol yn fuan, ond os oedaf maddeuwch. Mae yr amser yn brin iawn i wneud y cwbl a ddylid ei wneuthur. Yn fy nesaf, rhoddaf ychydig o hanes y plant bach yn Latau a Laitumphrg. Gyda chofion goreu atoch oil, Ydwyf, yr eiddooh yn ffyddlon, ANNIE WILIIAMS. :0:

Marohnadoedd.,

PWLPUDAU CYMREIG, Medi 5.

.. Yswiriant Deniadol,

Advertising

_."-Damwain ger Dolyddelen.

--0--Marwolaeth yr ArchcStiiacon…

[No title]

Advertising

Family Notices