Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Cardd y Cerddor.I

News
Cite
Share

Cardd y Cerddor. I MAE'R ffaith fod cAr Merthyr wedi cael y fath dder- byniad brwd cyn ac ar ol canu yn Eisteddfod Cas- newydd, wedi peri cryn gynhwrf yn ngwersyll y cantorion. Wrth gwrs, tybia'r cor mai efe ddylasai gael y wobr, a thebyg y cryfheir y dybiaeth hon gan swm y curo dwylaw ond am resymau digonol iddynt eu hunain, tybiodd y beirniaid yn wahanol; ac wele gnewyllyn y cyfiro. Onid cor Merthyr hefyd oedd ar fin ffromi cyn yr Eisteddfod oherwydd rhyw. annealltwriaeth yn nghylch un o'r darnau ? Er hyny, hwyrach mai hwy sydd yn eu lie. Ar yr un pryd, mwy boneddigaidd ar eu rhan luasai ymostwng yn dawel i'r feirniadaeth, er iddi fyned i'w herbyn. Gwyddent yn eithaf da cyn ymgeisio pwy oedd y beirniaid. Mewn cysylltiad & hyn, mae yr Archdderwydd yn ddiweddar wedi bod yn traethu ei syniadau, ac o'r braidd na thybiaf mai syni&dau bardlonol ydynt am nad oes llawer o'r ymarferol ynddynt. Yn nglyn a meithder y cystadleuon corawl-hen gwestiwn ,dyrys-gofyna, Paham na ellir profi y cantorion yn mlaen Ilaw ? dyweder y dydd blaenorol, neu ynte'n gynarach foreu'r gystadleuaeth a dewis rhyw dri i ganu'n gyboeddus? Hona'n mheilach mai beirn- iaid Uymreig yn unig a ddylid ddewis i feirniadu y brif gystadleuaeth gorawl, gan y creda "fod y Cymry wedi ffurfio iddynt eu hunain ysgol gerddor- ol sydd yn gwahaniaethu eu canu oddiwrth bob ,cenedl arall, ac mai yn y goleu yma y dylid eu beirniadu. Diamheu v bydd i'r rhan fwyaf o'r beirniaid Cymreig ei gefnogi gyda hyn, oherwydd y maent er's peth amser wedi dangos cryn lawer o eiddigedd at eu cydfeirniaid Seisnig. Nis gallwn gredu mai buddiol yn mhob ystyr fyddai hyn. Mae perygl i'n beirniaid Cymreig fyned yn unochrog eu chwaeth. Sylwer, nid unochrog eu barn ddywedaf-mae genyf bob ymddiried yn ngonestrwydd eu barn ond gallant hwy, a gallwn ninau fel cenedl, fyned i un cyfeiriad a myned yn ddifater neu golli ein chwaeth mewn cyfeiriad arall. At berffeithrwydd celfyddyd yr amcenir, ac onid yr un yw cerddoriaeth berffaith yn mhob man a ohan bawb ? ond diau yr edrychir am ac ar berffeithrwydd mewn gwahanol agweddau. Perthyna i ni, y Cymry, frwdfrydedd ac yni oyB- henid a dichon y gallwn fyned i feddwl mai yn a thrwy hwn yn uoig y ceir perffeithrwydd. Yna hanfodol in llwyddiant ydyw cael rhai i ddangos pwyntiau eraill llawn mor angenrheidiol, megys tynerwch, &c. Ofnwn yn fawr pe mabwysiedid cynllun y profi blaenorol mai yehydig iawn o gorau a geid i gys- fcadlu. Eyddai'r gost o fod ddau ddiwrnod yn y lie y cynelid yr Eisteddfod (oherwydd byddai dau ddiwrnod yn angenrheidiol i rai corau pa gynllun bynag a gymerid) yn sicr o filwrio yn erbyn llawer; a byddai hefyd y ffaith na chai yr hon gorau ym- ddangos ar y llwyfan cyhoeddus, yn ddigon ynddo ei hun i gadw nifer fawr gartref. Ni chymerid ychwaith yr un dyddordeb gan y Iluaws ac o gan- lyniad, byddai y dorf yn llawer llai a'r coffrau yn wacach. Na, ni a gredwn mai nid trwy ymyryd a'r gerdd- oriaeth fel y cyfryw y mae gwella pethau. Wrth gwrs, ge-llid rhanu y cystadleuon corawl. a chymer. yd rhywbeth arall rhyngddynt, magys cael tei ohor i gystadlu ar ddechreu'r cyfarfod, a'r gweddill tua'r terfyn. I wella pethau, cwtoger y beirniadaethau hirion a'r anerchiadau sychion. Cyhoedder y cyfryw, ac na chyfynger ar gerddoriaeth, sydd yn brif atdyn- iad ac yn ychwanegu fwyaf at gyllid yr wyl genedl- aetbol. Oyflwynwn hyn i ystyriaeth pwj llgor Eis- teddfod Ffestiniog. Da genyf weled fod parotoadau helaeth yn cael eu gwneud gogyfer a'r tymhor dyfodol. Hyfryd yw gweled Gwyr Ieuaioc Birkenhead yn myned yn mlaen. Mae ganddynt restr dda o destynau gogyfer ag Eisteddfod Llun y Pasg, 1898. 915 15s. a chwpan arian i'r arweinydd am ganu Dewrion Sparta," i gor o feibion rhwng 30 a 50 mewn nifer 4p 4s. i gor o blant dan 16 oed am ganu "Gadewch i blant bychaia ddyfod ataf fi (T. Price); 2p 2s i bedwarawd, a Ip a bathodyn i'r unawdwyr-dyna rai o'r testynau a'r gwobrwyon. Nid oes amheu. aeth genym na fydd y cystadleuwyr yn lluosog, yn enwedig yn mhlith y meibion. Gobeithio hefyd y ceir amryw gorau plant i ddod yn mlaen rhy ychydig o lawer o lafurio gyda'r plant sydd y blyn- yddoedd hyn-gormod o drafferth hwyrach. Gresyn fod y pwyllgor wedi rhoddi'r hen amod gas, Os un cor fydd yn cystadlu, haner y wobr." Yr oeddwn wedi rhyw obeithio fod yr amod hen ffasiwn, ac ar un ochr annghyfiawn, wedi ei gladdu bellach. Mae yn hollol ddiangenrhaid os gwna'r beirniaid eu dyl- edswydd. Y Sul o'r blaen, hysbysodd Deon Llanelwy fod yr awdurdodau wedi penderfynu ail adeiladu yr organ vn yr Eglwgs Gadeiriol, yr hon a adeiladwyd yn |830. Mae y gwaith i gael ei ymddiried i'r Mri Hill a'i Feibion, a'r drau! i fod yn l,200p. Deallir fod yn barod 600p. wedi eu casglu, y Deon yn cych- wyn gyda rhodd o 250p. Mae y gwaith i gael ei orphen erbyn y Nadolig. Derbyniwyd amryw ddarnau i'w hadolygu. Cant aylw mor fuan ag y cawn hamdden. STRADELLA. (O)

Ar Finion y Ddyfrdwy.

[No title]

Nodion 0 Fon ac Arfon.I

Y Cymry yn Neheudir Affrica.

Y DON ASSOCIATION "

Yswain y Rhagat a Sion y Teiliwr.

Y TAIR GARDD.

Y SAETH.

YR AELOD A'R OFFEIRIAD.

Advertising