Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y DIWEDDAR Syr GEORGE O. OGAN,…

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR Syr GEORGE O. OGAN, A.S. AETH gofid dwys i galon Cymru fore ddydd Iau diweddaf, pan ddeallodd am farwolaeth y Ssneddwr enwog, Syr George Osborne Morgan, yr hya a gymerodd le am un ar ddeg o'r gloch nos Fercber yn Moreton Hall, ger y Waun, lie yr oedd ef a'i briod yn byw er'a rhai blyn- yddau. Prin y disgwyliai neb am yr amgylch- iad prudd, oblegyd er nad oedd yr aelod an- rhydeddus yn holliach er's rhai blynyddau, ym- ddan,gosai yn llawer gwell yn ystod y misoedd diweddaf. Yn ddiddadl, cyll Cymry un o'i chymwynas- wyr penaf trwy ei farwolaeth. Edrychid ar Syr George fel cadfridog y Blaid Ryddfrydol Gym- reig er's blynyddau, ac y mae ei wasanaeth i'r genedl wedi bod yn ddirfawr trwy holl gwrs ei fywyd. Mab ydoedd i'r diweddar Barch Mor- gan Morgan, ficer Conwy. Ganwyd ef yn 1826 —chwe' blynedd cyn i'r Reform Act weddnewid sefyllfa wleidyddol y deyrnas. Cafodd addysg eithriadol dda. Bu am dycahor yn Ysgol y Friars, Bangor oddiyno aeth i Ysgol Ramad- egol Amwythig, ac yn yr ysgol enwog hono y I I, 11 cymhwysodd ei bun i fvned i Brifysgol Rbyd- ychain. Yn Ngholeg Bslliol yr efrydodd, ac yn nghofnodion y coleg uchelryw hwnw Did oes odid un myfyriwr wedi ewiil cymaint a lawryfon dysg ag ef. Gyrfa ddisglaer oedd ei yrfa yn y I coleg hwn, ac enillodd bob anrhydedd oedd yn weith e: enill tra yno. Prawf o hyn yw iddo I enill Ysgoloriaeth Craven, Gwobrau Newdigate a'r Cangheliydd, Ysgoloriaeth Eldon ac Ysgolor- iaeth Stowell yn y gyfraith, ac yr oedd y cyfryw yn brawf ei fod wedi cyrhaedd gradd uchel yn y clasuron. Yr adeg hon, myned yn gyfreithiwr oedd nod ei uchelgais ac yn 1853 fe'i galwyd at y bar. Ar ol 16 mlynedd o boblogcwydd cynyddol yn ei broffeswriaeth, fe'i dyrchafwyd i fod yn Queen's Counsel, Gweinyddai gylch eang, ac yr oedd yn un o'r cyfreithwyr mwyaf llwyddianus. Oad yn 1854 teimlodd fod hudoliaeth mewn pyncia x gwleidyddol. Galiesid yn rhesymol ddisgwyl oddiwrth y ffaith ei fod yn fab i berson, ac wedi derbyn ei addysg yn y colegau mwyaf ceidwadol, mi ar du'r Toriaid y buasai'n bwrw ei goeibreu eithr amlygoddyn fuan fod ei gydymdeimlad gyda'r Rhyddfrydwyr. Kr budd y blaid hon, ymgeisiodd am gynrychiol- aeth sir Ddinbych. Edrychai llawer ar yr ymdrech yn anobeithiol, oblegyd dyma'r ethol- aeth ag yr oedd dylanwad tenia y Wynniaid. Wynnstay, yn treiddio trwy bob rhan ohoni ac aelod o'r teulu wedi bod yn A.S. drosti am 177 mlynedd. Fodd bynag, 1868 oedd y flwyddyi y bu cydwybod y werin yn drenh na dylanwad yr uchelwyr, a phan y dychwelodd Cymru am v tro cyataf erioed fwyafrif Rhydd- frydol i'r Senedd. Y"mladdodd Mr Osborne Morgan yn lew a phenderfynol, a thranoeth yr etholiad cafwyd fod y pleidleisiau fel y canlyn Syr W. Williams Wynn (C) 3355 Mr George Osborne Morgan (R). 2720 Mil Biddulph (R) 2412 Felly etholwyd Syr George ar y cynyg cyntaf, a gorchfygwyd yr hen aelod Rhyddfrydol claear, Mil. Biddulph, Cdstell y Waun. Parhaodd cysylitiad, Syr George a, sir Ddinbych yn ddidor hyd 1885. Dyma'r flwyddyn yr ad-drefnwyd yr etholaethau. Gwnaed Dwyreinbuth sir Ddin- bych yn etholaath newydd, 'r ddau ymgeisydd am y sedd oeddynt Syr Watcyn a Syr George. Dyma un o'r brwydrau caletaf ynxladdwyd yn yr holl wlad yn yr etholiad cyfiroas hwnw "ac er llawenydd mawr i'r Rhyddfrydwyr, Ilwydd- odd Syr George i dreshn ei wrthwynebydd ar ei • ir ei hun trwy fwyafrif o 393, ac o hyny hyd ei farwolaeth efa gynrychiol >dd y rh&obarth hwn. Yn 1886, pan oedd y llanw Toriaidd wedi codi'n uchel, ni chafodd ond 26 o fwyafrif nr ei wrth- wynebydd ond yn yr Etholiad CyfFredinol yn 1892 cod Idd ei fwyafrif i 765. Ar y foddng- oliaeth hon, ni feiddiodd Syr Watcyn ymgeisio ac yn yr etholiad diweddiif yn 1895, daetb Mr H. Cecil St John Raikes, rnpb y diweddar Bost- feistr CyfFredinol. i'r maes. Dengys y' ffigyrau a gaulyn pa mor llwyr y gorchfygwyd ef, a pha mor uchel oedd Syr George yn marn yr etholwyr ) Morgan 4899 Raikes 3115 Mwyafrif 1784 Felly am genedlaeth gyfan bu Syr George Osborne Morgan yn hyrwyddo bndd ei wlad yn y Senedd. Gellir vn briodol edrych arno fel un o ap,;stolion y Deffroad Cymreig. Er yn fab i berson, meddai'r cydymdeimlad dyfnaf gydag Ymneillduwyr, ac yn gyson ac egniol ymdrech- odd estyn iddynt yr hawliau gwladol a chrefydd- 01 a dde'syfent. Bu'n gyd-weithiwr dyfal a, Mr Henry Richard mewn gwlpidyddiaeth, a chyda Syr Hugh Owen i hyrwyddo addysg. Fel Rbyddfrydwr yr oedd y gadarn, ond meddai'r gallu i gyfaddasu ei hun i gynydd yr oes. Trwy hyn, gwelid ef ar y blaen gyda phob mud- iad gwlndol. Mewn cydweithrediad a, Mr Henry Richard, trefnodd i uno yr aelodau Cym- reig lc yn ddiweddarach, gyda Mr Stuart Randel, fFarfiodd Blaid Gymreig yn y Senedd, ac efe oedd Jlywydd y blaid bono. Meddai gyd- ymdeimlad trwyadl a, dyheadau y nyrnry Fydd, a bu ei bwyll o fawr fendith i arafu a chyfar- wyddo yr ysbryd cyflym a feddianai'r cyfryw. Ni chafodd Dadgysylltiad a Dadwaddoliad erioed gefnogwr gweli a thra yn credu'n gryf mewn Ymreolaeth i Gymrn, ofnai y byddai' i hyrwyddiad y cyfryw ar y pryd oedi neu beryglu Dadgysylltiad. Gydag addysg bu o fawr gym- hortT i sefydlu'r Brifysgol Gymre:g, ac yr oedd yn amlwg yn y mndiad fu'n foddion i sefydlu Cole?au Aberystwyth a Bangor. Cymerai I ddyddordeo dwfn yn y sefydliadau hyn ac fe garai lwydd gwyr ei wlad" yn mhob cylch. y la doethineb a medr profiadol, cymerodd ran ya y gwaith o lywio Deddf Addysg Ganolradd Cymru drwy Dy'r Cyffredin, a hyfrydwch iddo oedd canfod yr ys-olion dan y Ddeddf hon yn harddu y wlad ac yn coethi talentau ei phlant. Nid hir y bu'n y Senedd beb enill enw iddo'i hun fel siarad vr. Yr oedd ei safle flaenorol fel cyfreithiwr yn hawlio iddo wrandawiad ac yn ei holi areithiau dangosai fedr neillduol i Iwyr ddeall a t hreiddio i ystyr yr hyn fyddai dan sylw. Traddododd ei araitb gyntaf yn y Senedd i gefnogi ail ddarlleniad yr "University Test Abolition Bill," a'i ail i gefnogi Mesur Eiddo Gwragedd Priod. Gorchfygwyd y mesur hwn y pryd bwnw, ond yn mhen tair blynedd ar ddeg wed'yn, ceir Syr George yn ei lywio'n j'lwydd- ianus drwy Dy'r Cyffredin gan roddi sel deddf arno. Ond y ddeddf ac y mae ei enw yn benaf yn nglyn a hi yw Deddf Newydd Claddu," fel ei hadwaenir. Am ddeg tymhor yn olynol cyflwynodd y mesur hwn i sylw'r Senedd, ond gwrthodid yn barhaus gydnabod yr egwyddor •" gyfiawn gorphorid ynddo. Ail ddarllenwyd y mesur "fwy nag unwaith. Fodd bynag, yn 1872, llwyddodd i gael Mesur Lleoedd Addoli yn ddeddf. Yn 1880, pan ddychwelwyd Mr Gladstone i awdurdod, rhoed lie i Mr Osborne Morgan yn y Weiayddiaeth trwy ei benodiad yn Judge Advoca,te General. Llawenychai Cymru am yr anrhydedd hwn roed iddo, a chaf- odd yntau y boddhad yn yr un tymbor i weled y Mesur Claddu y bu mor ymdrechgar i'w hyr- wyddo yn cael ei fabwysiadu. Yn ei swydd fe: Barnwr CyfFredinol dygodd fesur yn mlaen i ddiddymu fflangellu yn y fyddin, a deddfwyi arno. Oherwydd y galwadau mynych arno a lluosogrwydd ei ddyledswyddau, ymneillduodd o lysoedd y gyfraith, gan ymgyflwyno i'w waith fel Seneddwr. Prif orchest ei fywyd, yn ddiau, oedd diorseddu Syr Watkyn, ac yr eadd hyn yn wrhydri mawr pa.n gofir fod aelod ) deulu Wynnstay wedi cynrychioli sir Ddinbych er's 182 o flynvddau. Cydnabyddwyd ei wasanaeth gan Mr Gladstone trwy ei benodi yn Is-Ysgrif- enydd y Trefedigaeth.au, ac arno ef y disgynai degwm y gwaith yn Nhy'r Cyffredin, yn gymaint a bod y Prif Ysgrifenydd, Arglwydd Granville, yn aelod o'r Ty Uchaf Er na pnarhaodd y Llywodraeth mewn awdurdod ond am chwe' mis, llwyddodd Syr George i sefydlu Swyddfa Ymfud- wyr, lie y gallant gael pob bysbysrwydd am y Trefedigaethau. Ni roed swydd iddo yn Ngwein- yddiaeth ddiweddaf Mr Gladstone, a pharodd hyn gryn syndod a siom yn Nghymru. Fodd bynag, cafodd urdd barwn yn gydnabyddiaeth am ei hir a'i werthfawr wasanaeth. Bn ei ysgrifell fedrus yn dra phrysur hefyd. Ysgrifenodd lawer ar ddyrys bynciau'r gyfraith, ac ystyrir rhai o'i weithian yn safonol. Cyfoeth- ogodd gylchgronau Cymreig â'i gynyrchion hetyd, yn benaf ar faterion gwleidyddol— ac un o'i gynyrcbion diweddaraf ydoedd adolyg- iad ar fudiadau gwleidyddol Oymru yn yatod teyrnasiad y Frenhines, yn y Young Wales diweddaf. Rai misoedd yn ol, cvhoeddodd gyfrol o gyfieithiadau o rai o glasuron Virgil, yn dangos ei fod yn berchen dysg a dawn annghy- ffredin. Meddai lawer o ffraethineb, ac wrth anerch torf yr oedd ei draddodiad dymunol, ei arabedd pert, a'r cyfuniad o feddylgarwch yn ¡ peri ei fod bob amaer yn adloni ac yn goleuo ei wrandawyr. Heddyw mae calon gynes-glwyfos y Cymro yn wylo uwch ei fedd, ac nid calon i annghofio ei chymwynaswyr yw hon. Un o'r cyfryw oedd Syr George Osborne Morgan. Erys ei goffa yn hir ac yn anwyl. Gyda'i dalentau disglaer, a goetbwyd gan ddysg uwchraddol, a'i fedri drafod y gyfraith, diau y gallasai ddringo i fai .c y barnwr pe we ii gosod ei nod ar hyny. Dewis- odd yn hytrach gyflwyno'r rhan oreu o'i fywyd i hyrwyddo iawnder a rhoddi lleferydd i gydwy- bod ei gydwladwyr yn y Senedd. Trwy hyn, enillodd goron y gwladgarwr. Anhawdd iawn yw i'r genedl ei hebgor i'r bsdd—mawr yw'r angen am ei gyffelyb mewn dys, pwyll, a phrof- iad i'w chyfarwyddo oiicl er ei glad ill, erys ei fywyd yn esiampl deilwng, ei laftr yn gvnysg- aeth werthfawr, a'i ymroad diflin a dyfal yn ysbrydiaeth i'w olynwyr i ddyrchafu Cymru, YR ANGLATID. Cymerodd yr angladd le prydnawn ddydd Llun yn mynwent Llantysilio, ger Llangollen. Dygwyd y corph yno ar hyd y ffordd-naw milMir o bellder -y perthynasau agosaf yn dilyn hyd i Langollen, pan yr ymunodd torf aruthrol, y rhai oeddynt yno yn disgwyl er's awr gan ei fod braidd yn hwyr. Cerddodd yr orymdaith brudd yn araf o Lan ggllen i L^ntysilio—pellder 0 ddwy filldir-seindorf soniuus Rhosllanerchrugog yn eu bls-enori ac yn canny Dead March, "Sandon." "Aberystwyth," a Tanymarian." Tra yr oedd y trefniadau arferol yn cael eu gwneuo i ddwyn y corph o'r ffordd i'r fyn went, "chwareuai'r seindorf gerllaw porth yr eglwys. Cedwid v fynwent rhag cael ei gorlanw gan nifer o heddgeidwaid, dan arolygiaeth y Dirprwy Brif gwnstabl Edward Jones, a buont o wasanaeth mawr. Y prif alarwyr oedd v Parch H. A. Morgan, D.D., prifathraw Coleg lesu, Caergrawat, yn nghyda nifer o'i neioedd a'i nithoedd, Mri a Misses Reiss, Mr C Osborne Morgan, a'r Parch J Felix, ficer Cilcen, ger y Wyddgrug (cefnder). Nid oedd Lady Morgan yn bresenol. Yn mhlith eraill yr oedd yn bresenol y personau canlynol :—Mri Bryn Roberts, A.S. Herbert Roberts, A.S. Alfred Thomas, A.S. A Billson, A.S. Syr Theodore Martin, Syr W Williams Wynn, Anrhyd G T Kenyon, Mri E 0 V Lloyd (Uchel Sirydd Meirion- ydd); Thomas Williams (Uchel Sirydd Dinbych); Phylip Yoike (Maer Gwrecsam) Hwfa Mon, yr Archdderwydd Parchn T. Gee D. R. Jones, Lodge Rees Jones, Carrog H. C. Williams, Cor- wen Mil. a Mrs Barnes, Quirtta Mr Henry St. John Raikes; Henadur T. J. Williams, Y.H., Dinbych Mri J. W. Lumley, Y H., Rhuthin John Matthews, Y.H., Amlwch; P. Lloyd Jones, Rootle Mr E Hoosori., Y. H., Parch T. Pritchard, Seer Rhos Parch W. Williams. Glyndvfrdwy, &c. 11 Anfonwyd blodeuglym gan Dr. a 'Mra Morgan, Joleg lesu, Caergrawnt; Lady Williams Wynn, Llangedwin Mr a Mrs Wm. Rathbone, Syr John i Lady Puleston, Mrs Richard Davies, Treborth VIr E 0 V. Lloyd, Rhagatt; Mil. a Mrs Barnes, 3ymdeithasau Rbyddfrydol Coedpoeth, Minera, j G oreesam, Combination (Rhos) Cefn, Llangollen &c. Derbyniwyd gan Lady Morgan bellebron a Ilyth. yrau o gydymdeimlad oddiwrth Mr Gladstone, Arglwydd R sebery, Syr William Harcourt, Argl- wydd Carrington, Syr George Trevelyan, Mr Shaw Lefevre, Esgob Llanelwy, Daon Westminster, Deon Tyddewi, Mr Tudor Howell, A.S., y Barnwyr Ridley a Chitty, y Prifathraw T. C. Edwards, D. D., a'r Aelodau Seneddol cardynol :—Mri T. E. Ellis, Humphreys Owen, Lloyd Morgan, Channing, a Samuel Smith Cynghor sir Ddinbych, Cynghor Mwnwyr siroedd Dinbych a Fflint, &c. Gweinyddwyd yn yr eglwys ac wrth y bedd gan y Parehn Dr H. A. Morgan (brawd yr ymadaw- edig), D. R. Jones, Weston Rhyn; a J. S. Jones, ficer Llantysilio. Yr oedd yr eglwys fechan yn 1 orlawn. D*rllenwyd yr emynau a ganwyd yn yr I eglwys, sef Abide with me," a Now the labour- i er's task is o'er," gan ficer y plwyf. Offrymwyd y Colect gan y Parch D R. Jones, Weston Rhyn a darllenwyd y bennod gladdu mewn dull tra effeith- j iol gan Dr Morgan. Yna cymerwyd yr arch, ar yr ] hon yr oedd yu gerfied.ig, George Osborne Mor- r gan. Ganwyd Mai <ed, 1826. Bu farw Awst 25ain, 1897," ar ysgwyddau cymydogion y diweddar farwn at y bedd, ochrau yr hwn oedd wedi ei orchuddio a, mwsogl a blodau. Ar ddiwedd y gwasanaeth wrth y bedd, rhoddodd y Ficer yr hen bsnill Cymraeg, 0 fryniau Caersalem allan, a chanwyd ef gydag effaith neillduol gan y miloedd oedd yn bresenol ar y don "Crugybar," ac yna ehwareuodd Seindorf y Rhos Aberystwyth," ac ymwahanodd y dorf fawr gan adael y Seneddwr hyglod, yn ngeiriau swynol pecill olaf yr emyn Seisnig diweddaf a ganwyd yn yr Eglwys :— "Earth to earth, and dust to dust," Calmly now the words we say, Leaving him to sleep in trust Till the Resurrection Day. Father, in Thy gracious keeping Leave we now Thy servant sleeping.

_n- - Cwibnodion o Ddyffryn…

Dyffryn Clwyd.

Pris Uchel Cwenith a Bara.

o Nodion o'r Ddinas.