Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Heddwch Rhai o wersi'r Rhyfel. YR oedd arnaf ofn yr wythnos ddiweddaf nad oedd gwir yn y newydd a daeuid fod argoelion setlo yn y Penrhyn, yn benaf am y teimlwn yn sicr na syflai y perchenog mwy na phost llidiart. Erbyn hyn, y mae wedi syflyd ychydig—ychyd- ig bach hefyd, ond digon i ddibenu y streic, neu y cload allan, fel y myner ei alw, canys yr oedd yn dipyn o bob un. Ymddangosai y ddwyblaid am y prysuraf i daro gyntaf, a thrwy frys afresymol, y meistr a lwyddodd. Beth bynag am y dynion, ymddygodd Arglwydd Pen- rhyn ya annoeth hyd yn bresenol bron. Ymddygodd trwy yr holl drafodaeth fel pe buasai ef yn perthyn i urdd o fodau uwchddynol. Efe a'i stiwardiaid oedd yn iawn, a'i holl weith- wyr yn cyfeiliorni efe oedd yn deg, hwythau yn annheg; a bu agos i'w anffaeledigaeth "ei ddinystrio. Ond a fu, a fu ac a ddarfu, a ddarfu. Pan egyr Chwarel y Penrhyn yr wythnos nesaf, bydd llawer ar ol o'r nifer a drowyd allan un mis ar ddeg yn ol. Fel y gloch yagol y cyf- .eiriai Glan Geirionydd ati, bydd cloch y chwarel hefyd yn aneffiethiol i'w gwahodd mwyach at ..eu gwaith, cauys ohonynt erbyn hyn :— Mae rhai inewn bedd yn gorwedd, A'r lleill ar hyd y byd. Nid oes un gloch a ddichon Eu galwheddyw 'nghyd. Gellir dybynu ar hyn, mai nid ar chwareu bach y bydd streio na chload. allan yn Chwarel y Pen- rhyn eto. Yr oedd y ddwyblaid wedi dyhys- byddu eu nerth yn lied lwyr a phrawf o hyny ydyw'r ffaith nad oes fawr ddim o wahaniaeth rhwng telerau yr ymheddychiad a'r telerau y buwyd yn dadleu yn eu cylch o ddechreu yr an- il ghydfod. Y gwir yw, yr oedd crib y ddwyblaid wedi tyfu'n rhy hir ac ar ol i'r naill a'r llall gael y boddhad o weled crib ei wrthwynebydd" wedi ei dori, fe gyiner o chwarter i haner canrif cyn yr ail dyfa. Ac erbyn diwedd y cyfnod hwnw, ni fydd gan yr un Arglwydd Penrhyn hawl i lywio rhwng dwy a thair mil o weithwyr. Cyn y byddo'r ganrif nesaf yn ddeg neu ugain oed, bydd dosbarth Argl. Penrhyn wedi dilyn y Tylwyth Teg i wlad hud a lledrith. Mor angenrheidiol ydyw darllen y ddwy ochr. Dywedai'r Daily Chronicle fod y dynion wedi enill a geisient, yr hyn nis gall fod yn wir, fel y gwelir wrth gyferbynu, mewn colofn arall, yr hyn a ofynent a'r hyn a gawsant. Da fod gan- Adynt hwythau, fel Die Nansi, nn llygad mawr i weled yr hyn a ddymunent ac un llygad bach i weled yr hyn a gaent. Ond os cyfeiliornodd y Chronicle ar du y gweithwyr, nid gwell y Times ar yr ochr arall. Dywed ef fod y dynion wedi myn'd at eu gwaith ar y telerau a gynygiwyd 9 iddynt ddeuddeng, mis yn ol, ac a gynygiwyd drachefn yn mis Mai. Nid yw hyn ychwaith yn gywir—buasai'n rhyfedd cael cywirdeb o'r Times pan fo meistr a gweithiwr yn ymryson A'u gilydd. Enillodd y dynion ddigon yn ngeiriad yr adran sydd yn cyfeiro at eu hawl i ffurfio undeb yn y chwarel, fel mai arnynt hwy eu hunain yn unig y bydd bai os na wnant ddefnydd o hyny. Beth bynag, na sonied y naill ochr na'r llall am fuddugoliaeth. Colli ddarfu'r ddwy—coll- edion y cymer rai blynyddau iddynt eu had enill. Ond y mae un peth gwerthfawr na chollodd y dynion-eu henw da. Aethant trwy y brofed- igaeth danllyd am un mis ar ddeg heb lychwino eu gwisg fel gwladwyr, heb golli eu hunanbarch fel dynion, na chyflawni gweithredoedd y buasent yn gofidio o'u herwydd yn mhen blynyddau eto. Y mae Cymru yn falch o'i chwarelwyr bob amser; a bydd yn falchach ohonynt o hyn allan. Gellir amheu doethineb decbreuad y streic ond pe byddai ar Brydain eisiau prifweinidog doeth, ac y mae ganddi yn fynych y dyddiau hyn, hi a ddylai wybod am Mr W. H. Williams, Moses Chwarelwyr y Penrhyn." Esgob Colenso. MA* y dyn a faeddwyd yn fawr gan ei gydoes- wyr fel pe byddai'n dechreu cael y parch a haeddai. Yn y Temple Magazine am y mis hwn, ceir erthygl gan Dr. Farrar ar Esgob Colenso o Natal. Mae'r Esgob wedi marw er's llawer blwyddyn bellach; erlidiwyd llawer arno gan bobl na ddarllenasant erioed ddim o'i waith, ftwyraek na welsent erioed yr un o'i lyfrau. Bu y sectyddion cul ac anwybodusyn chwerwon wrtho oherwydd ei syniadau ar Genesis a rhif- yddiaeth, er fod holl esbonwyr goleuedig y byd erbyn byn o'r un farn ag ef. Yr oedd esgobion Eglwys Loegr ar y pryd yn greulawn wrtho, a buasent yn ei grogi pe gwybuasent sut. Dyma engraipht neu ddwy o'r dull y trinid y dyn meddylgar, tawel, tyner, Ymwelodd a, Dr. Farrar pan oedd efe yn Ysgol Harrow ac yr oedd hi'n ddefod os byddai esgob yn bresenol yn y capel gofyn iddo roi'r fendith arferol ar y diwedd. Gofynwyd iddo yntau, a thra idododd hi ond y mae'r canlvniad bron yn anngbred- adwy-cafodd Dr. Farrar luaws o lythyrau oddiwrth rieni yn gwrthwynebu i'w plant gael eu bendithio gan ddyn a alwent hwy, yn eu dygn anwybodaeth, yn heretic Cyfarfu Esgob arall unwaith yn ngorsaf Ruston, yr hwn a brysurodd ato gan ysgwyd llaw yn galonog &g ef, ac er mawr syndod iddo, a'i cyfarchodd, "Esgob Calcutta, onide?" "Nage," ebe Colenso, "Esgob Natal." Bn agos i'r esgob Seisnig syrtbio i'r ddaear, pan ganfu ei gamsyniad, a'i fod wedi cymeryd Colenso am un o oreuon y ddaear. Rhyw fodau go ffaeledig ydyw esgobion hefyd, ar y cyfan. Y Mil Blynyddoedd. MAE prophwyd newydd wedi codi yn mysg y Saeson, neu yn hytrach y mae hen brophwyd wedi ymddangos o'r newydd. Edward Bellamy ydyw ei enw. "Looking Backwards" oedd teitl y gyfrol a gyhoeddodd rai blynyddau yn ol. Gosodai y prophwyd ei hun yn y fl. 2000, ac oddiyno siaradai &g un o fywolion yr oes bresenol. Yr oedd yn son am bethau rhyfedd iawn a ddarganfyddwyd rhwng hyn a hyny, neu y cymerai ef vn ganiataol oedd neu a fyddai wedi eu cyflawni ffrwyth ei ymresymiad oddiwrth yr byn aeth heibio, wrth gwrs, ac nid gweledigaethau goruwchnaturiol i'r dyfodol ac ar y cyfan, ymddangosent yn ddigon tebyg i gywir. Rbywbeth yn go debyg ydyw'r llyfr hwn. "Equality" ydyw ei enw math o atddodiad i'r llall. Prophwyd daioni ydyw Bellamy, pro- phwyd eydraddoldeb. Cefais bleser mawr wrth ddarllen y llyfr wedi ei ymylu hefo gofid hefyd imi ddyfod i'r byd yma gan' mlynedd yn rhy gynar, reu fod yr oes yn ganmlwydd rby fer, Dyma rai darogan awdwr llyfr Oydraddol- deb Y ffactris yn balasau hyfrydwch mell- dithion ein gwareiddiad, megys rhyfel a phob math o greulondeb, yn bethau wedi myned heibio, a'r unig olion ohonynt i'w cael mewn museums gyda hen offerynau poenydio eraill pob addurn difudd wedi diflanu merched yn d erbyn cyffelyb barch, ac yn gyfartal, a. dynion y corph dynol wedi cyrhaedd sefyllfa nodedig am ei harddweh a'i burdeb, trwy ymarferion iach, a chyfathrach ddilwgr y pellwelyr wedi gwneud i'r llygad yr byn a wnaeth y pellsein- ydd i'r glust, a gellir gweled ar draws y blaned fel y clywir yn bresenol y peiriant hedeg wedi ei berffeithio ac yn cael ei ddefnyddio mor gyffredin a'r ddeurod yn awr; crefydd wedi cerdded allan o gredoau culion sect, a dyfod yn addoliad dilys i Dduw, yr Hwn nid yw'n adna- bod sect y Senedd, fel yr ydym ni yn ei gweled, wedi diflanu ni fwyteir dim cigfwyd y boblogaeth wedi ei gwasgaru ar hyd y wlad pob caledwaith ftarm wedi dyfod yn ysgafn, trwy gymhorth trydan. Mae rbai papyrau yn galw yr hyn a ragfyn- egir yn "Fil Blynyddoedd." Dipyn yn faterol ydyw er hyny yn ochr yr olygfa a gafwyd yn Patmos. Degymu yn Llanberis. YCHYDIG fisoedd yn ol, mi bigais lyfr tra dy- ddorol i fynu ar stondin ben lyfrau. Hynaf- iaethau a Thraddodiadau Plwyf Llanberis a'r amgylchoedd, gan William Williams, Llanber- is," ydyw enw'r gyfrol. Yr olwg gyntaf arni, mi dybiwn mai un o lyfrau y ganrif ddiweddaf ydoedd-rhywbeth yn henafol yn ei gwisg ond y mae'r print yn glir a darllenadwy, ac erbyn edrych yn fanylach, yn 1892 yr argraphwyd hi gan Richard Owen, Eryri Printing Office," a swllt ydyw'r pris. Gobeithio nad oes yr un ty yn Llanberis heb y llyfryn. Y mae gyda'r mwyaf dyddorol o lyfrau Ileol a ddarllenais. Yn un lie dyfynir o 11 gof restr (terrier) y Llan, yr hon a dynwyd allan yn y flwyddyn 1776 lie y dywedir fod ugain o goed onen yn tyfu yn y fynwent, a'u bod wedi eu prisio yn werth pedair punt. Rhoddir rhestr fanwlo "Ddodrefn yr Eglwys," sef bedydd- faen, cloch, tair rhaw, dwy (dau ?) gaib, elor, brethyn du, pwlpud, darllenfwrdd, canwyllbren, gwenwisg, Beibl Cymraeg, Llyfr Gweddi Gyff- redin Cymraeg, Llyfr Homili, clustog y pwl- pud, meinciau neillduol, cwpwrdd er cadw llestri cymundeb, cwpan cymuno, plat gyda'r toriad hwn arno HARD METAL," trensiwr, dwfrlestr pewter, dau lian main i roddi dros y bwrdd, un yn neillduol ar fwrdd ycymundeb Dyma yr hyn a ddywedir am y Degwm :— Yr hwn sydd yn saith o wahanol fathaa Gwartheg, defaid, wyn, gwair, geifr, gwyddau, ac yd. Cydnabyddiaeth yn unig a hawlir am y gwair, yr hyn sydd bedair ceiniog ar bob tydd- yn yn Nghwmwd Is-Gwyrfai. Hawlir hefyd gydnabyddiaeth am wair Glan y Bala." Perthyn i blwyf Llanberis y mae'r Wyddfa, Moel Eilio, Cwm Brwynog, Castell Padarn felly gwelir nad oedd gan yr awdwr brinder defnyddian hanes. Mr. John Burns a Lerpwh YR wythnos ddiweddaf, mewn ymgom 4 goheb- ydd neillduol i bapyr Ileol a ymwelodd ag ef, bu yr aelod tanllyd tros Battersea yn ei rhoid bi'n hallt, ac nii yn ddiachos, i awdurdodau dinas Lerpwl am eu hesgeulusdra gwarthus o'u cwrtydd a'u cwterydd ac yn dweyd fod Lerpwl, yn yr ystyr yma, yn waeth nag un man yn y deyrnas. Dywedai fod y farn lem hon yn seil- iedig ar ymweliadau personol & rhanau neillduol o'r dref, megys Christian Street, Baptist Street, -Ileoedd a gamenwir yn echrydus, ac ydynt yn nythfeydd trueni a thrawsder o bob math. Y mae ef o'r farn, tra pery perchenogion y cwrt- ydd aflan hyn, publicanod a darllawyr sydd yn ymfrashau ar drueni preswylwyr y cyfryw gyt- ian digysnr, nad ellir disgwyl am fawr iawn .Y o ddim gwell. Nis gall undyn wadu fod llawer iawn o waith ymgeleddu ar barthau belaeth o'r ddinas ond y mae rhanau ohoni yn baradwys rhagor oedd- ynt ddeugain mlynedd yn ol. Parod iawn ydyw Saeson Lerpwl i edliw i ni yr adeiladwyr Cymreig ond y fendith fwyaf a gafodd Lerpwl erioed oeJd y dosbarth hwn. Yr oedd y cwrt- iau mewn bodolaeth yn mhell cyn eu dyfodiad hwy yma a cbanddynt hwy yn ddian y cod wyd y tai gweitbwyr goreu a mwyaf cysurus yn y ddinas. r Catguddio'r Datguddiad. MAB hysbysiad yn y Drych fod gan y Parcb. Trogwy Evans, o'r Maesglas gynt, lyfr newydd allan o'r wasg. Datguddiadau y Datguddiad ydyw ei enw ac oddiwrth ei enw, gellir casglu Z, mai esboniad ydyw. Mae'n rhyfedd gynifer o esboniadau a vsgrifehwyd ar y Datguddiad. Clywais Owen Williams o'r Waenfawr yn dweyd un tro fod y pryd hwnw tua thri chant a haner ohonynt, ac enwodd luaws, megys gwaith Dr. Gill, Matthew Henry, Dr. George Lewis, Simon Llwyd o'r Bala, Christmas Evans, &c. "Ac y mae gynon nine un," ebe'r hen batriarcb, gan ymsythu, "ac mae'n Besboniad ni ar Lyfr y Datguddiad yn wahanol i bob one ohonyn nhw." Yna aeth i draethu ei olygiadan ar y bwystfilod, y cyrn, &c., a bu wrthi am tua haner awr, nes oedd dau neu dri ohonom wedi cysgn tan ei weinidoaiaeth. Mi fjasai'n dda genyf weled Datguddiadau" Trogwy, ond yn well gweled yr hen ymgomiwr dyddan ei hun.
|Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. Nos Sadwrn. HELYNT garw fu yn y Rhos yma ddydd Sul diweddaf, a chynhyrfwyd ysprydoedd gwyr buch- eddol gan waith Philistiaid rhyfygus yn tori ar ddystawrwydd ein hardal lonydd, a machru deddf- au Awdwr y Sabboth sanctaidd dan eu traed. Rhyw Sais o'r enw Farrel oedd y pechadur, a'i bechod ydoedd dyfod a rhyw anialwch o dacle- hobby horses a phethau felly-yma ar y Sabboth erbyn y Ffair Flodau oedd i'w chynal yma ddydd Llun. Llusgwyd y troliau anferth gan traction engine, yr hon a wnai swn ofnadwy, a hyny ar adeg pan oedd ein cynulleidfaoedd yn y capelau yn ceisio addoli. Yn naturiol iawn, achosodd y swn a'r terfysg gynhwrf yn y capelau, ac enynodd eiddigedd ein hardalwyr dros y Sabbotb. Aeth un eglwys mor bell nes pasio penderfyniad cryf ar ddiwedd yr oedfa yn condemnio ymddygiad Farrel yn llym, a galw arno i addaw peidio byth gwneud y fath beth eto, ac anfon ymddiheurad ysgrifenedig iddynt am y camwedd hwn, ae yn niffyg hyny yr oeddynt yn benderfynol o roi cyfraith ar y gwalch gwynebgaled ac annuwiol. Wrth gwrs, deallodd y cadno ei sefyllfa ar un- waith-ei fod wedi tynu haid ofnadwy yn ei ben, ac os am fyned o'r Rhos yn groeniach ddydd Mawrth, a gwneud tipyn o fuenes ddydd Llun, mai yr unig ffordd iddo oedd gwneud yr hyn a ofynid iddo. Felly syrthiodd ar ei liniau (mewn ffordd o siarad) gan erfyn eu maddeuant, ac addaw yn bendant na wnai y fath beth byth ond hyny. Lleddfodd hyn eu teimladau cafodd yntau fwy o gwsmeriaid nag erioed ddydd Llun, ac ymadaw- odd oddiyma mor barchus a'r un dyn gerddodd i lawr Allt y Gwter erioed. Llwyddianus iawn fu yr Arddangosfa Flodeu, Ffrwythau, a Llysiau ddydd Llun yn mhob ystyr, a rhoddid canmoliaeth uchel i'r cynyrchion. Dywedant mai gwella y mae Maelor mewn gardd- wriaeth. Da iawn. Bu cystadleuaeth corau meibion yn y Waen mewn cysylltiad ag Arddangosiad Arddol ddydd Sadwrn diweddaf, pryd y rhoddid gwobr o lOp am ddatganu Nyni yw'r meibion cerddgar," ac ail wobr o 6p. Cafodd bechgyn Coedpoeth fuddugoliaeth lwyr ar hogia'r Waen, a chanmol- iaeth uchel Mr Emlyn Evans. Ond dydd Llun, aeth y ddau gor drachefn i groesi cleddyfau mewn rhyw 'Steddfod Sasneg yn Blackpark, ac o dan linyn mesur yr un gwr a rhyfedd iawn, trowyd y byrddau, a daeth yr isaf yn uchaf. Y dernyn yma ydoedd Comrades' Song of Hope." Y peth rhyfeddaf yw fod y mesuronwr yn gweled yr un beiau yn union yn ngh6r Coedpoeth ddydd Llun ag oedd wedi weled yn nghor y Waen ddydd Sadwrn, tra yr oedd rhagoriaethau y naill wedi eu trosglwyddo yn gyfangwbl i'r llall, ac i'r gwrth- wyneb. Ddydd Sadwrn, yr oedd cor Coedpoeth yn berffaith-y lleisiau goreu oedd wedi glywed er's talwm. Ond yn mhen deuddydd-y Waen yn fendigedig a'r llall yn Sut yn y byd mawr oedd y fath wahaniaeth wedi cymeryd lie mewn cyn lleied o amser yn nefn- ydd y ddau gor ? Ai tybed mai edau wlan oedd gan y boneddwr yn mesur, ynte ei wydrau oedd wedi newid eu lliw ? Peidied yr arweinydd a bod mor ddidaro hefyd wrth arwain. Chwaneg o fywyd ac yspryd, fel ag i reoli'r gwahanol leisiau, ac i adgoffa'r tenors pryd i ddod i mewn, yn lie gadael iddynt ddod i mewn pan y gwelont hwy'n dda. Coder mwy o hwyl. Gair cyfrinachol arall i'r arweinydd--ceisied gael gan aelodau'r cor ddod yn aelodau hefyd o Deml Gobaith Coedpoeth. Os deuent, byddent yn fwy tebyg o IwyddÐ yn y dyfodol. Gan fy mod wedi dechreu gyda Choedpoeth, gwell diweddu gyda hwy. Maent wedi cael organ i Gapel y Ffidils i helpu'r llinynau lliprynog, ac maent yn dweyd fod dipyn go lew o eiddigedd rhyngddynt. Tebyg mai'r organ a garia'r dydd, gan fod amryw bregethwyr yn ddiweddar wedi dangos eu hanfoddlonrwydd i'r ffidil, ac i'w bodd- loni rhaid i'r ffidlars gymeryd set gefn. Mae perygl i Ysgol Frytanaidd enwog Gwrec- sam fyn'd i fachau'i arglwyddiaeth o Lanelwy, os na ddeffry YmneiUduwyr y dref at eu dyledswydd. Mae llywodraethwyr yr ysgol wedi datgan eu haw- ydd i drosglwyddo'r ysgol i'r Bwrdd Ysgol, ac wedi anfon llythyr i'r perwyl at y Bwrdd Addysg i Lun- dain, oherwydd fod eisiau amryw welliantau ac ychwanegiadau ati, a'r arian yn brin. Ar hyn (iyma fioer y dref yn cynyg pryuu'r ys- gol a thalu am y gwelliantau, a'i rhoi dan reolaeth rhyw bwyllgor; neu, os na werthant hi, ya ym- gvmeryd a gofalu am le i'r holl blant sy'n myned iddi (ac mae ynddi rai canoedd) i arbed iddi fyned yn faich ar y trethi. Mae Bwrdd Ysgol Gwrecsam ar hyn o bryd yn ystyried y pethau hyn. Bydd genym ragor i'w ddweyd ar hyn eto; yn y cyfamser, bydded Ymneillduwyr y dref ar en gwyliadwriaetb rhag cymysgu addysg eu plant a Phabyddiaeth Rhufain ac Eglwys Loegr, neu cant ddigon o amser i edifarhau. Nos Lun. Dil. yn wael iau-n y mae Dewi Ogwen, a gobaith gwan y ca weled Gwrecsam ond a welodd. Mae'n gorwedd yn Lerpwl, a'i awydd yn fawr am gael ei symud adref, ond yn rhy wan. Mae Mr Robes t Bryan. y bardd melns, ar ol deng mis o bererindod yn y Dwyrain, wedi cyrhaedd adref ond blin genyf hysbysu mai gorwedd yn wael y mae yntau, ac na fu ei arosiad yn yr Aipht o nemawr leshad iddo. SAMWEL JONES.
Lleol.
Lleol. DRWG genym hysbysu marwolaeth Mrs Lamb, an- wyl briod y Parch George Lamb, yr hyn a gymer- odd le yn 11, Littledale Road, Seacombe, Awst 23, ar ol cystudd maith. Cymer y cynhebrwng le yfory (dydd Gwener) am dri o'r gloch yn Wallase y New Cemetery. DA genym ddweyd fod y Parch. Trevor H. Davies, M.A., mab ein cyd-drefwr y Parch. 0. Ll. Davies, wedi ei benodi i Gylchdaith Mornington Road, Southporb-un o'f cylchdeithiau mwyaf dylanwadol a- fedd y Wesley aid yn Lloegr. ^WELIK oddiwrth raghysbysiad fad y Parch a Mrs. John Evans (Eglwysbach) i wasanaethu yn nghapel Shaw Street yn mis Hydref. Bydd yn dda gan ein darllenwyr glywed fod iechyd yr Eglwysbach wedi gwella'n ddirfawr yn ddiweddar. Afiechyd Dewi Ogwen. DRWG iawn genym ddweyd mai dal yn bur wael y mae Dr Roberts, ond yr oedd ychydig yn well ddydd Mercher na dydd Mawrth. Ni chymer dim lluniaesh ond ychydig laeth i'w yfed. Tan orchymyn y ineddyg, nid yw i gael ei symud o'i wely nes y gwello gryn lawer. Y mae y pregeth- wr enwog yn gorwedd yn Perron Street, Lerpwl, yn nhy ei ferch, yr hon, yn nghyda'i mam, sydd yn gweinyddu'n dirion arno yn ei afiechyd dwys a gofidus. -0-- Damwain mewn glofa yn sir Fflint. BORE dydd Iau, yn Nglofa'r Oaks, Bwcle, cwympodd ysbwrial ar ddau ddyn, George Smith, 23 oed, a John Prifchard, 34 oed. Aeth yr holl weithwyr yn ddioed i'w cloddio allan, ond buwyd agos i dair awr cyn dod atynt. Cyn- aliwyd tiengholiad ar eu cyrph dranoeth, a dy- chwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamwein- iol. o Codiad mawr yn Mhris Gwenith. MEWN cyfarfod o Gyrndeithas Pobyddion a BIawd Fasnachwyr, ddydd Llun, penderfynwyd-" Ar ac wedi'r 25ain cyfisol fod pris bara i gael ei godi i 6ch a 7c y dorth bedwar pwys ac mai blawd wyth- bwys am swllt fydd y rhataf a werthir." I ddangos y codiad cynyddol yn mhris gwenith, nodir mai 5s 8c. y cental ydoedd yn niwedd Mehefin, tra yn marchnad Lerpwl ddydd Llun ceid o 8s i 8s 2c y cental.
-0--Marchnadoedd.
-0-- Marchnadoedd. Dinbych, Awst 18. Ymenyn ffres, Is 2c i Is 2e; llestri bach, Is 0-Je; eto, mawr, Ilic; biff, 6c i 9c molltgig, 7c i 9c cig oen, 8c i 10c cig llo, 6c i 8c wyau, 11 i 12 am Is ieir, 3s 6c i 4s 6c y ewpl; hwvaid, 5s y cwpl; blawd ceirch, 26e y pwys. Llangefni, Awst 20. Ceirch, 15s i 16s 6c y chwarter tatws, 8 pwys am 6e; ymenyn, Is 3c gwlan, 8c i 9c y pwya ieir, 3s 8e i 4s y cwpl; hwyaid, 4s i 4s 6c perch- yll, 17s i 20s y pen moch tewion, 3ie y pwys, Wyau, 14 i 15 am Is. Xierpwl, Awst 23. Biff, 4gc i 6lc y pwys molltgig-Yegotig, 61e i A 4 1' 7!a y pwys eto, Gwyddelig, 5ic i 6fc y pwys cig oen, 6!c inc. Liundain, Awst 24. Gwenith gwyn Seisnig, 32s i 36s y chwarter; coch eto, 33a. Indrawn yn dawel, ac yn tueddu at godi. Ceirch a ffa yn gadarn, a thon obeithiol am brisiau gwell. Bangor, Awst 20. Ymenyn ffres, Is 3c y pwys wyau, 14 am swllt; ieir, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; biff, 6c i 9o; molltgig, tOe; cig oen, 10c i lIe cig lloi, 7c i 9c. Caernarfon, Awst 20. Ymenyn ffres, Is 6c i Is 7c wyau ffres, 12 i 15 am swllt; biff, 4c i 8c molltgig, 6c i 9c cig oen, 8c i 10c. Salford, Awst 24. Biff, 4fc i 6ic molltgig, 5e i 8c cig oen, 6le i 8c cig lloi, 5c i 6c y pwys. Birmingham, Awst 24. Biff, 51e i 7c molltgig, 61c i 8Jc cig oen, ne i 81c y pwys moch tewion, 8s 60 i 8s 9c perchyll, 8a ge i 99; hychod, 6s 60 yr ugain pwys. C-- GOROESIAD Y CYMHWYSAF.—Yn Cymru diwedd- af, hysbysa Mr O. M, Edwards ei benderfyniad, oherwydd amryw resymau, i roi i fynu ddau o'i bum cyhoeddiad ar ddiwedd y flwyddyn hon, sef Wales a Heddyw. Nid yw yn sicr eto beth fydd tynged y Llenor. Oad am Gymru a Ghymru'r Plant, deil yn mlaen gyda hwy hyd y bydd hyny'n ddichonadwy iddo.
Advertising
GOFYNWCH A MYNWCH GAEL "BARKEK AND DOBSON'S BUTTERSCOTCH." MEWN PECVNAU Ic., 3c., a 6ch. Gwerthir gan yr holl Ancwywyr, Grosers, ac mewn Ystorfeydd parchua.
:0:--OYDDIAU DYN.
<gwyddonwyr yn rhoi'r goreu i'w gyfrif mewn'blynyddoedd. Anhawdd meddwl ei bod yn bosibl darganfod unrhyw olion leolent y dyn cyntaf. Barna rhai mai yn -ngogledd Ewrob yr oedd y cryd, yn cael ei siglo, yn rhywle rhwng glanau'r Baltic a godreu'r Alpau. Cryd y ddynoliaeth, dealler, ac nid cryd y gangen Aryaidd ohoni. Taedda Syr John Evans i ffurfio'r syniad mai mewn gwlad boeth yr oedd y cryd, mewn gwlad lie nad oedd angen am ddillad o un math. Yn India neu ddwyr- ain Asia yw'r lie tebycaf yn ei farn ef; ac oddiyno yr ymledaenodd yr hiliogaeth I dros wyneb yr holl ddaear. Eto, y mae » nodyn ansicr ac amheus yn ei eiriau, cystal { a dweyd fod lleoJi'r cryd y tuhwnt i fedr i neb dyn, o leiaf, yn ystad bresenol gwybod- j aeth. 1 Hired y daith, onide ? o Simon Lloyd i Syr John Evans Gymaint fwy dyrchaf- edig ddylai fod ein syniadau ni am fawredd y cread a mawredd y Creawdwr, na syniad- au yr hen bererin dyddan o'r Bala Gwyddoniaeth yw mamaeth defosiwn, a xhynydd gwybodaeth a ddyfnha barchedig ,ofn.o: