Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Athrofa Prifysgol Cymru, Aberystwyth.I

Cwreichion.

BETH YW CYNILDEB?

Nodion o'r Odinas.

News
Cite
Share

Nodion o'r Odinas. [Gan CWILSYNI. CYMRO o Bwcle, rneddir, yw Thomas Lloyd, yr hwn sydd dan gollfarn yn ngharchar Walton, ac yn aros y dienvddwr am lofruddio ei wraig, Mae ei fam yn wraig barchus yn hyw yn Nghaer. Yn newydditoduroTl Lerpwl ddydd Llun ymddangosodd llythyr vn gofyn i Gymry Lerpwi ddeisebu'r Ys- grifenydd Cartrefol i'w arbed rhilog y crogbren a gwelais awgrym mewn mwy nug un p-lpyr y dylas. ai gweinidogion Gymreig y ddinas fod wedi ym- weled ay ef. Dyues feddw isel ei moss, oedd y wraig lofruddiwyd a gofid dwys yw gweled Cym- ro dan gollfarn am drosedd mor erchyll. Ddydd Sadwm, aeth aelodau Oymdeithas Ym- drech. Grefyddol David Street i Sefton. Er nad oedd y cwmni yn lluosog, caed hwyl rhagorol. gweinidogion Cymreig Lerpwl yn lienydd-a yn brysur. Ysgrifena'r Parch. G. Ellis, M A., gofiant i'r diweddar Barch Edward Morgan, Dyff- ryn; dstrperir cyfrol o breguthau y diweddar Barch John Hughes, D.D., gan y Parch John Wil- liams, Princes Road golygir cyfrol o nodiadau y diweddar Barch. Dr. Herber E-anc;, gan y Parch. O. L. Roberts ac ysgrifenir cyfrol ar Dduwin- yddiaeth Paul" gan y Parch. D. Adams, B A., tra y mae'r Parch. Wm. Jones wedi ysgrifenu cofiant rhagorol i'w ddiweddar dad.yn-nghyfraith, Parch. David Davies, Bermo. Degwm coch iawn gafodd un o bregethwyr Ler- pwl y Sul diweddaf ar ol gweinyddu mewn eglwys heb fod gan' milldir o'r ddinas. Derbyniodd ugeiniau o geiniogau ac edrychai ei boced fel poced porcher wrth ddychwelyd adref. Bu cor o Gymry yn canu yn nghwrdd Nawn Sul Difyr Byrom Hall ddydd Sul diweddaf. Canasant Y Pererinion" yn Gymraeg, a mawr fwynhawyd yr arlwy. Mae cryn gyffro mewn un eglwys Gymraeg yma oherwydd fod dau weinidog wedi traddodi yr un sylwadau ar eu pregethau, a mawr yw'r dyfalu pa fodd y bu hyn. Myn rhai iddynt fod yn pori yn yr un mses ond tybia rhai fod un ohonynt yn euog o bigo ymenydd y llall. Y foeswers yw. yn ngeiriau Wil Bryan, Smocied pawb ei faco'i hun. Gwelaf fod Cymry'r ddinas vn cyfranu'n hael at y gronfa i ddigolledu'r Genhadaeth yn Khasia ar 01 yr anrliaith a wnaed gan y ddaeargryn. Ceir y rhoddion car lytiol yn y rhestr Mr David Hughes, Y. H., Winterdyne, 500p Mr Thomas Edwards, Y.H., lOOp; Mrs a Misses Williams, Grove Street, lOOp; Mr David Davies, Higher Lodge, 50p Mr Wm. Evans, Elm Bank, 20p a Mr J. Harrison Jones, Princes Avenue, 20p. Lie mae eraill gyf- oethogion y ddinas. tybed ? -0- Agorwyd arddangosfa ddiwyd"'arol yn Oonnah's Qaay ddvdd Mercher gan Argl. Kenyon Dangos- wyd 700 o nwyddau. Ddydd Sadwrn, gerbron ynaden y Wyddgrug) cyhuddwyd John Edward Jones, dyn ieuanc parch" us ei ymddangosiad, a brodor o Fangor, o ladrata 16s 6c o'r New Inn, Connah's Quay. Dirwywyd ef i 10s a'r costa u. Y DON ASSOCIATION SIWTIAU OLWYNO AM BRISIAU POBLOGAIDD.—Mae Y Don Association Lord Street a Paradise Street yn awr ya dangos y Patrymau' newyddion o Siwtiau Olwyno am y tymhor presenol, ac yn eu plith cf>i^ rhai o'r patrymau mwyaf hardd a chwaethus. Y maent wedi eti. gwnend a'u gorphen vn y dull goreu'n bosibl, ac wedi eu leinio a gwlan iechydol. Gellir eu cael yn ffurfiau Lounge neu Norfolk, pob maint, am 16s. 10c. y siwt, llawn werth 36s. Anfonir patrymau trwy y post yn rhad ond gwneud cais am hyny.

-----Eisteddfod Cenedlaethol…