Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Athrofa Prifysgol Cymru, Aberystwyth.I

Cwreichion.

News
Cite
Share

Cwreichion. IT MAE llawer ffordd i bopio y cwestiwn, a'r diweddaf ydyw hon. Rhoddodd housekeeper Pen- llwyn siwgr yu nwr ymolchi ei mheistr y boreu o'r blaen, a phan ddaeth efe i'w foreufwyd yr oedd rhai ugeiniau o wybed yn disgyn "r ei wyneb. Wedi blino yn'eu shiwio i ffwrdd, dywedai yr hen lane yu ei gynddaredd, Be sy ar y gwybed 'ma, Sara ?" pryd y dywedodd hithau, rhwng swil a phedio, Hwyrach mai eisio'ch cusanu chi sy' arnyn nhw, mistar, achos does gynoch chi 'run wraig 1T Ac ebe'r hen lane, Wel diaist, cawn i rywun i'm cymyd, mi briodwn i yforu nesa yo hytrach na dyodde 'rhain," pryd y rho4dodd Sara air yn ei bryd, Wel mistar, os na fedrwch chi gael neb gwell,mi leieiwn i gael y siawnscynta yn y nghalon." Mae'r ystegion allan. IT Yr un mor dwyllodrus ydyw pobl erioed, onide? "Nos dawch," ebe un wrth ei gymydog nn o'r nosweithiau diweddaf, a chyri y boreu fe'i daliwyd yn dwyn ei bys o'r ardd. Y mae y Prophwyd Jeremiah yn dweyd rhywbeth cyffelyb A'i enau y traetha heddwch i'w gymydog, eithr o'i fewn y gesyd efe gynllwyn iddo." IT Y mae llawer ffordd i ladd cath heblaw ei chrogi," meddai'r hen bobl; a'r ffordd ddiweddaf, yn ol hen ferch yn Rhew!, ydyw ei chloi i fynu mewn ystafell wag nes ei llwgu, am fwyta'r ymenyn. IT "Sut ddaru chi gysgu neithiwr, Mr Joyce?" ebe cymydog wrth un oedd wedi bod yn gwla er's tro, pryd yr atebodd, canys un hengras ydyw ef— Ddim yn dda 'tol—yr oedd yma garden party yn yr ardd tu ol i'r ty, ac mi cadson o i fynu tan un o'r gloch y boreu, a doedd dim posib cysgu." IT Diar i mi, garden party mor hwyr a hyny I" ychwanegai y cymydog, (a dyeithrddyn 0 Lerpwl ydoedd). Ie, welwch chi," ebe Joyce, ond nid w aynt nag y rhutbrodd ci yr Efel i'w canol nhw nag x yr oedd rhai ohonynt yn nhop y pren afalau, a'r ileill over the garden wall am eu bywyd. Ar ol hyny mi gefes gysgu. "Nid plant oedd yno, tybed ?" gofynai y Llerpwlliad. Nage, cathod," ebe'r damhegwr, mor ddifrifol a phe buasai yn dar- lIen llith yn yr Eglwys. IT Elai y Frenhines yn ei cherbyd trwy nodachfa er budd yr Ysgol Wladwriaethol yn East Cowes ddechreu yr wythnos, a phrynodd gryd ar lun cwcb. Y mae yr hen wraig yn credu yn i'w theulu nofio i'r dyfodol, ac yn sicr hefyd y maent yn lied debyg o wneud. IT Yr oedd gan Robert Charles bedwar o blant i'w eadw, ae fe'u eadwai yn hynod o daclus ar ei gyflog labrwr, ond y diwrnod o'r blaen, pan rodd- odd ei briod hawddgar enedigaeth i ddau efell, bu yn mron i Robert druan dori ei galon, a chwynai Robert, a'i freichiau i fynu-" Wel, Marged bach, y mae hi ar ben arnon ni rwan-wn i ddim be ddaw ohonon ni pryd yr atebodd Marged, yn bur gall, Wel, Robet, gwna di dy ran, ac mi wna ine, ac y mae yr Arglwydd wedi addaw gwneud y diffyg i fynu." Y mae Robert mor galonog ag erioed byth wed'yn. IT Y mae yn Hanes Dafydd Evans, Ffynonhenri, sdn am ddau gwynai am ddyfodiad efeilliaid i'r fceulu, ac ebe y Dryw, Pw I pw! beth ydyw dau at bedwar-ar-ddeg yr un pryd ? Nid oes yr un dyn yn dweyd yr he! pa fi ond Duw yn unig." Fe fyddai yn dda i lawer pe myfyrient fwy yn Athrofa Natur. Gallai Proffeswr Dryw ddysgu llawer arnynt, II Chwedl Ffynonhenri-" Pan y byddo'r dryw a'r wraig yn hela bwyd i'r crug plant, yr wyf yn aicr nad oes amser gan y gwr i ddweyd stori hir y pryd hyny wrth ei Pymyclogion na'r fam hithau, fyned o dy i dy i hela clep a chelwydd, a hala dyn- ion benben a'u gilydd." CYFARWYDD --0--

BETH YW CYNILDEB?

Nodion o'r Odinas.

-----Eisteddfod Cenedlaethol…