Hide Articles List

5 articles on this Page

-.-Yn nghwmni Natur a'i Phlant.I

Modion Amaethyddol,

News
Cite
Share

Modion Amaethyddol, rGan FAB Y TYDDYN]. ADRODDIAD y DDIRPRWYAETH FRENHINOL AR A MAETH YDDIA ETH. MAE adroddiad y Ddirprwyaeth hon wedi ei gyboeddi mewn Llyfr Glas o 370 tudpler. Pen- odwyd y Ddirprwyaeth yn Medi, 1893 bn'n eistedd 177 o ddyddiau—117 i wrando 191 o dystion, a'r gweddill i ystyried yr adroddiad. Dyddorol i fferrnwyr Cymru, yn ddiau, fydd y lloffion canlynol o'r Adroddiad Cyfanwerth blynyddol y tir yn Lloegr a Chymru yn 1879—80 ydoedd 51,798,950p. Erbvn 1893--94, gostyngodd i 40,065,831p—llai o ll,733,119p. Y dosbarth sydd wedi dal y dirwasgi-id ore') yw magwyr anifeiliaid, er iddynt hwythau gael cryn golledion. Yn Ne-Orllewin Ysgotland ac yn Nghymru y mae'r cydytngais mwyaf am ffermydd, a phar hyn fod llawer wedi tala crogbris am ffermydd, ac wedi canfod eu ff dineb yn rhy ddiweddar. Cadwodd y rhai sy'n tyfu ffrwvthau eu pen yn dda yn yr argyfwng a da fyddai i fwy o flermwyr roddi s?lw i'r gangben hon o amaeth- yddiaeth, gan fod y galwad arn ffrwythau yn y prif farchnadoedd yn cynyddu. Rhwno; 1871 a 1891, lleihaodd nifer llafurwyr amaethyddol 187,356 yn Mhrydain. Gostyng- odd y cyflogau yn Nghanolbarth Lloegr yn benaf, ond yn Nghymru a'r Ysgotland mae'r [ llafnrwr yn cael cystal cyflog yn awr ag yn 1871. Priodoli'r Ddirprwyaeth y dirwasgiad yn benaf i ostyngiad pr;s"au cynyrch amaethyddol, a dyma amcangyfrif o'r gostyngion hyn — 1-Grawn wedi gostwng o 40 i 50 y cant yn ei bris. 2-Biff, o 20 i 40 y cant yn ol ei ansawdd. 3—Molltgig wedi gostwng yn raddol o 20 i 30 y cant er 1882—84. 4—Gwlan wedi gostwng dros 50 y cant yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. 5-Cynyreh y llaetbdy-ymenyn, caws, a llaeth, wedi gostwng 30 y cant. 6-Pytatws wedi gos- twng o 20 i 30 y cant. Priodolir llawer o'r gostyngion a nodwyd i'r cyflenwad o nwyddau tramor a ddygir yma. Dyma grynhodeb o gymeradwyon y Ddir- prwyaeth Gwella'r ffyrdd sychu'r corddiroedd gwneud gerddi heb fod yn fwy nac acr gwneud per- llanau heb fod yn fwy nac acr. Fod Deddf Amaethyddiaeth 1883 i gael ei gwella fel y can- lyn :—Rhoddi gallu i gyflafareddwyr i ddyfarnu iawn am wella'r tir gyda gwrteithiau. Fod egwyddorion Deddf Cyflafareddiad 1889 i gael eu mabwysiadu. Fod y cyflafareddwr i'w ddethol o restr a gymeradwyir gan Fwrdd Amaethyddiaeth, ac i'w alw yn brisiwr. Ceir amryw ddarpariadau eraill hefyd yn cyffwrdd a cbytundeb y tenant a'i feistr tir. Fod gallu yn cael ei roddi i'r sawl bia'r degwm a'r sawl sydd yn ei dalu i ddod i gytun- deb i'w ostwng os bydd yr amgylchiadau'n galw am hyny. Fod cytundeb i fod rhwng y tenant a'r meistr tir parth yr iawn a delir am ddifrod a wneir gan helwriaeth. Fod cig tramor i gael ei gofrestru, a rhaid i bawb a'i gwertha nodi mai cig tramor ydyw. Fod arolygwr i ymweled a tnaelfeydd cigyddion i wylio fod hyn yn cael ei wneud. Fod safon addysg ganolradd yn cael ei godi yn y parthau gwledig. Fod Bwrdd Amaethydd- iaeth yn cael mwy o alio i reoli addysg gelfydd- ydol ac amaethyddol. Fod y rhodd oddiwrth Drethiant Lleol yn ol Deddf 1890 i gael ei chyf- lwyno'n hollol at addysg, a chyfran gyfartal ohoni i fyned at addysg amaethyddol. Fod swm neillduol o arian cyhoeddus, ar sicrwydd da ac yn ol gradd deg o log, yn cael eu benthyca i dirfeddianwyr er gwella ffermydd- yr arian i gael eu talu yn ol yn ystod cyfnod hirach na'r 25 mlynedd a nodir yn Neddf Gwelliant Tir. Cawn sylwi yn mhellach ar yr adroddiad yn ein rhifyn nesaf.

Dyffryn Clwyd.

Newyddlon Cymreig. 1

Advertising