Hide Articles List

5 articles on this Page

-.-Yn nghwmni Natur a'i Phlant.I

News
Cite
Share

Yn nghwmni Natur a'i Phlant. Y GWYFON A'R GLOEN, GAN nad oes llawer i'w ysgrifenu am adar y dydd- iau hyn, a hyny am eu bod yn bwrw'u plu ar ol nythu a magu cywion, ac telly yn ddystaw ac yn cadw o'r golwg i raddau. Dyma air bach am y dosbarth nesaf atynt, yr hwn, er yn israddol, sydd lawn mor ddyddorol. Tua'r adeg yma'r llynedd, soniais fod genyf am- ryw lindys o dan sylw, wedi eu cadw mewn blwch pwrpasol, a chefais y pleser o weled yr oil ohon- ynt, oddigerth un, yn myned trwy'r gwahanol gyfnewidiadau nes dadblygu yn wyfyn, neu yn loyn byw. Yr eithriad oedd eiddo Gwyfyn y Llwynog (Fox Moth), yr hwn yn ei ffurf o lindys sy'n hoff fwyd y Gog yn ystod ei harosiad yma, ac feallai fod hwn yn benderfynol na wnai newid er i mi wneud pobpeth allwn feddwl am dano i hy. rwyddo hyny, am mai Gwas y Gog oedd yn sylwi arno. Fe wyr y darllenwyr hyny sydd wedi talu sylw i'r creaduriaid dyddorol hyn fod yna bedair agwedd ar fywyd pob gloyn byw a gwyfyn, sef yr Wy, y Lindys (Larva), y Chwileryn (Chrysalis), a'r rtioyn neu Wyfyn perffaith (Imago). Y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cymeryd hlwyddyn o amser i fyned trwy'r cyfnewidia,(Iau hyn, er fod yna rai yn newid ddwywaith mewn blwyddyn. Fa erys rhai dros y gauaf fel chwileryn, ac fe ymcldaiig-osant yn gynar yn y gwanwyn yn y stad berffaith, ond yn hanes y mwyat'rif mawr ohonynt fe ddodwyir yr wyau ar ddiwedd yr haf, ac arosant heb eu deor hyd y gwanwvn, pryd yr ymddengys y lindys, ac yn y cyflwr hwn achosint ddifrod mawr ar wahanol lysiau a choed. Pan ddaw'r haf, cymer y trydydd cyfnewidiad le, ac fe ddiflana y lindys o'r golwg i barotoi ar gyfer y sefyllfa nesaf yn eu hanea, Y mae ganddynt eu gwahanol ddulliau o fyned trwy'r cyfnewidiad hwn rhai a ymwisgant mewn croen caled, ac a yrngladdant yn y ddaear. Felly hefyd mwyafrif y gwyfon eraill a ymwisgant yn nail y coed ar ba rai y trigant. Amryw awiyddant wisg fel gwe y pry copyn, a llawer a weithiant eu hun- ainam wisg gref debyg i papier machè, ac yn y cyflwr hwn ceir hwy'n grogedig dan gysgod dail neu mewn agenau mur neu furddyn, Wedi aros yn y cyflwr hwn am amser penodol, fe ymddengys y creadur perffaith yn e" holl ogoniant a'i hardd- wch i hedfan o flod'yn i flol'yd, y gloyn byw yn ystod y dydd a'r gwyfyn yn oriau'r nos, gan dynu rnêl ohonynt at eu cynaliaeth, ac ychwanegu llawer at hapusrwydd y sawl sy'n hoff o gwmni natur a'i phlant. Wrth fynychu blodau fel hyn y maent yn cludo yr had flawd (pollen) o'r naill i'r Hall, a thrwy hyny gwnaut eu rhan, a hono'n rhan bwys- ig, i ffrwythloni llysiau'r maes, ac felly talant yn ol am y difrod a wnaed ganddynt tr4 yn y cyflwr o lindys. Nid mor hawdd dod o hyd i'r wyau, er eu bod bob amser yn cael eu dodwy ar ddail, neu wrth foa y llysiau a'r coed y bydd y lindys i ddibynu arnyotam eu cynaliaeth, ond gellir yn ddigon hawdd gasglu amrywiaeth helaeth o'r lindys, ac ond sylwi ar natur eu bwyd, a'u cyflenwi a hwnw gellir eu cadw mewn bocs dylai hwnw fod wedi ei awyro yn dda, a'i waelod wedi ei lenwi a. phridd ar gyfer y sawl fydd yn arfer claddu. Os bydd un ochr o'r boes o wydr gellir gwylied y trawsnewid graddol vn ffurf y lindys yn cymeryd lie. Un o'r rhai hawddaf i'w fagu ydyw y cinnabar moth o ddechreu Gorphenaf hyd ganol mis Awst gwelir y lindys hwn ar lys y gingroen (ragwort), llysieuyn cyffredin yn ein gwl¡,d, gyda blodau melyn, yn perthyn i'r un teuiu a llygad y dydd. Tyfant mewn rhyw hen dir neu gomins, a gwelir y lindys, o liw melyn a du, weithiau ddwsin neu ddau ar gangau y llysieuyn, a buan yr arnddifadant ef o'i holl ddail; yna disgynant i'r llawr, ac wedi myned trwy y cyflwr o chwiler (chrysalis) ym- ddangosant fel gwyfon o liw du gyda marciau coch- ion ar eu hadenydd. Un arall y gellir dod o hyd iddo yn bur hawdd ydyw lindys y tortoiseshell. Dyma un o'r gloynod byw mwyaf cyffredin yn ein gwlad. Ceir y lindys yma ar y danadl poeth—lin- dys blewog o liw du dyma un o'r sawl sydd yn newid ddwywaith mewn blwyddyn, fel, os doweh o hyd i lindys yn mis Gorphenaf, gellir disgwyl gwel'd y gloyn perffaith cyn diwedd Awst. Lindys mawr hirflew ydyw eiddo y fox moth, ac er na chefais y pleser o wel'd y cyfnewidiad yn cymeryd He gyda'r un o'r rhai a gedwais, gwelais un peth o gryn ddyddordeb mewn cysylltiad a hwynt, sef ymddangosiad parasites yn un ohonynt. Un boreu gwelais fod un ohonynt wedi marw, ae yn y bocs yr oedd yno tua haner dwsin o chwilerod (chrymlis) yr ichneumon, gwybedyn ag sydd yn dodi ei wyau bob amser mewn creaduriaid eraill, ac yn eu plith y lindys hwn. GWAS Y GOG. o

Modion Amaethyddol,

Dyffryn Clwyd.

Newyddlon Cymreig. 1

Advertising