Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CWRS Y BYD.

-___ Cymro ar y Crogbren yn…

[No title]

Advertising

-__------_--Llythyr Watcyn…

.0:----Marwolaeth ofidus .March…

News
Cite
Share

0: Marwolaeth ofidus March o Ddyffryn Clwyd. DDYDD Sadwrn, gerbron Mr F. Llewelyn Jones, dirprwy-drengholydd sir Ffliht. a rheithwyr, cyn- aliwyd ymchwiliad .yn Rhyl i farwolaeth Mary Jane Kendrick, Cerygllwydion, Llanynys, Dyffryn Clwyd.—Catherine Davids, mgdryb y drancedig, a dystiodfl fod ei uith yn 29 oed. Aeth gyda hi at v deintydd yn Rhyl ddydd Gwener. Yr oedd vn ddealledig fod ei nith i fyned dan chloroform. Yr oedd yn yr ystafell pan ddechreuodd y deintydd ar ei waith, ond nis galJodd ddal vr olygfa'n hir a symudwyd hi i ystafell firall. -Frederick Jenks, cynorthwywr Mr Keatinge, deintydd, Rhyl, a dystiodd i'r ferch fyned ato trwy drefniant blaen- orol ddvdd Gwener. Anfonwyd am Dr Goodwin i roddi chloroform iddi, a daeth yntau, ae wedi ei harchwilio, cafodd ei bod yn ddigon cryf i gymeryd y nwydd hwnw. Fe'i rhoed iddi, ac yn mhen chwarter awr wed'yn dechreuodd dynu ei dar edd. Wedi tynu tri, gwelodd fod rhywbeth allan o le. Ceisiodd ei hadfer, ond yn ofer.—Dr Goodwin a gadarnhaodd y dystiolaeth uchod. Yr oedd y ferch yn hollol foddlon i gymeryd chloroform, ac ni bu anhawsder o gwbl i'w roi iddi. Pan yn hollol dan ei ddvlanwad, dechreuodd y deintydd ar ei waith. Wedi tynu tri dant, gwelwyd fod gwyneb y drancedig yn glasu, ac nad oedd yn anadlu, Arferwyd pob dyfais i'w hadfer, ond bu farw yn mhen tri neu bedwar munyd. Priodolai'r farwol- aeth i glefyd y galon.-Ar ol i'r trengholydd gryn- hoi'r ffeithiau, dychwelwyd rheithfarn o Farwol- aeth trwy gam antur," gan amlygu'r farn nad oedd bai o gwbl ar y meddyg a roes y chloroform iddi. Amlygwyd cydymdeimlad dwfn hefyd a'r teulu yn eu galar.

[No title]

Birkenhead.

Sefyllfa Llafur ■ yn ligogtecid…

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.