Hide Articles List

10 articles on this Page

CWRS Y BYD.

-___ Cymro ar y Crogbren yn…

[No title]

Advertising

-__------_--Llythyr Watcyn…

News
Cite
Share

Llythyr Watcyn Wyn. Gwynfryn, Ammanford, Awst 14. NTD oes dim ar glust na thafod neb yn y Sowth yma yr wythnos hon ond son am Eisteddfod Casnewydd. Dyna'r siarad, a'r darllen, a'r ys- grifenu am y presenol beth bynag. Pa hyd y pery'r swn nid oes neb yn gwybod, ond tebyg y bydd ar ben yn union deg, gan fod yr ager yn dianc yn gyflym. Nid wyf yn myned i farnu'r canu na'r barddoni, na barnu'r beirniaid chwaith yr wythnos hon, gan fod hyny yn cael ei wneud gan eraill mwy galluog. Dichon y byddai yn ddyddorol gan rai o ddar- llenwyr Y Cymro gael gair byr am rai o'r cys- tadleiiwyr-y eystadletiwyr Ilwydiianus a ad- waenwn. Y BARDD CADEIRIOL. Ganwyd y birdd cadeiriol yn mhentref Llan- debie ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Mab ydyw i frawd y Parch. Thomas Job, Cynwil. Magwyd ef yn Llandebie nes tua deg neu ddeu- ddeg oed, pryd y sym-idodd ei rieni a'r tenlu i fyw i Ammanford, pentref tua dwy filldir o Laudebie. Cafodd ei addysg yn ysgol Llan- debie, ysgol y Gwynfryn, a Cboleg Trefecca, a chafodd ei ordeinio yn Aberdar er's ychvdig flynyddau yn ol, ac y mae yn cael ei adnab<>d fel y Parch. John Tr.atats Job Aberdar- gweioidog gyda'r Metbodistiaid yn Aberdar. Yn fuan wedi sefydlu yn Aberdar priododd a, merch ieuanc o'r Oeinewydd. Y mae Job yn un o'r bechgyn mwyaf caredig a byw a barddon- ol o neb yn yr holl wlad-nis gellir ei atal i farddoni Nid oes neb mwy parchus nag ef yn ei ardal enedigol, ac yo y lie y mae yn byw heddyw. Canwyd clychau eglwys Llandebie drwy'r nos wedi clywed mai Job enilloid y gadair Ac y mae'n hysbys iddo gael croesaw cyhoeddtis yn nhref Aberdar. Beth ragor all- esid wneud ? Y BARDD CORONOG. Ganwyd y bardd coronog ychydig flynyddau Ganwyd y bardd coronog ychydig flynyddau o flaen y bardd cadeiriol yn hen ardal Cwmllvu- fell, mewn amaethdy bychan myoyddig ar ochr y Mynydd Du ar lan yr afon LlynMl. Yn y ty yn ei ymyl dros y nant y ganwyd Watcyn Wyn a Ben Davies. Yn y Coedcaemawr y ganwyd Mafonwy, ac yn y Ddolgam y ganwyd y cerxders. Cafodd Mafonwy y fraint o fyned o dan y ddaear yn ieuanc iawn, a bn yno hyd nes iddo wneud ei feddwl i fynu i fyned i'r weinidogaeth. Cafodd ei addysg yc ysgol ddyddiol Cwmllyn- fell, Ysgol Ramadegol Ammanford, ysgol breifat Laugharoe, R Choleg Caerfyrddia, a chafodd ei ordeinio yn Blaenafon, lie y mae'n weinidog llwyddianus gyda'r Annibynwyr heddyw. Y mae yntau yn briod, ac yn fachgen rhadlon, yn weitbiwr caled, ac wedi bod yn gystadleuwr cyson y blynyddau diweddaf hyn, fel y gellir dweyd fod y goron yn eistedd yn esmwyth a naturiol ar ei ben-wedi myned yno yn eithaf teg yn ei thro PENAR. Dichon mai buddugoliaeth Penar yw y fudd- ugoliaeth ragoraf ya yr Eisteddfod. Cafodd haner y wobr am y trait ha wd mawr can' gini, a chafodd Ffrancwr ieuanc yr baner arall. Mab i golier o Aberdar yw Penar, a mab i Broffeswr o Brifysgol Caerdydd oedd yn gydfuddugol ag ef. Yr oedd Penar o dan y ddaear yn ieuanc, a bu yno hyd nes iddo gymeryd yn ei ben i ddod fynn. Bu yn derbyn ei addysg ar gyfer y weinidogaeth yn Aberdar, ac ordeiniwyd ef yn Merthyr Vale yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Symudodd i gymeryd gofal Siloam, Pentre Estyll, Abertawe, er's ychydig flynyddau yn ol, ac yno y mae yn gweithio yn galed a llwydd- ianus iawn. Y mae Penar yn engraipht ragorol o un wedi eodi yn raddol ac esgyn i binacl yr Eisteddfod ar lwybr teg a naturiol. Enillodd yn Ibertawe ar Emynau ac Emynwyr," yn Llanelli ar Y Cenuadon Cymreig," ac yn Cas- newydd ar Feirdd a Barddoniaeth y ganrif hon "-y beirdd a'r farddoniaetb Gymreig, wrth gwrs, a bydd ei gyfrol yn wir ddyddorol a gwerthfawr pan ddaw allan—cyfrol fawr befyd. Amser a balla hyd y tro nesa.

.0:----Marwolaeth ofidus .March…

[No title]

Birkenhead.

Sefyllfa Llafur ■ yn ligogtecid…

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.